Llun gan Luke Maggs

Pam y thema hon? 


Mae'r gwaith cychwynnol a wnaed dan y thema strategol Ffyrdd o Weithio wedi bod er mwyn hwyluso proses y Datganiad Ardal ei hun. Dyluniwyd proses y Datganiad Ardal gyda Ffyrdd o Weithio, gan gynnwys egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, wrth ei gwraidd. Rydym wedi blaenoriaethu cydweithio, integreiddio a chynnwys drwy gydol y broses hon. Drwy gydol pob cam o'r broses, rydym wedi ceisio deall mwy am y ffyrdd rydym yn gweithio gyda'n gilydd, dysgu o'r hyn rydym wedi'i wneud, a defnyddio'r dysgu hwn i lywio'r cam nesaf. Mae'r ymagwedd hon wedi cael ei derbyn yn dda gan randdeiliaid, sy'n gwerthfawrogi ac yn rhannu ymrwymiad i wneud pethau gyda'n gilydd yn wahanol. Yn ystod pob cam o broses y Datganiad Ardal, gwnaethom ganolbwyntio ar agwedd wahanol ar arfer a datblygu ffyrdd o weithio a oedd yn ein caniatáu i archwilio gwneud pethau'n wahanol.

Mae'r risgiau i wydnwch ecosystemau a chymunedau wedi cael eu nodi dan bob thema strategol Datganiad Ardal y De-ddwyrain. Mae'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r ffyrdd rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn wahanol yn sail i bob un o'r tair thema strategol arall, oherwydd bydd methu â gweithio mewn ffordd fwy cydlynol yn niweidiol i'n gallu i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau yn y lle.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant? 

Llun gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent


O dan y thema strategol Ffyrdd o Weithio, rydym yn meddwl am sut y gallwn sbarduno newid mewn diwylliant ar draws lleoedd a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd yn wahanol. Er bod camau gweithredu'r tair thema strategol arall yn seiliedig ar y ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd yn wahanol, mae'r thema strategol hon yn canolbwyntio’n llwyr ar gefnogi partneriaid ar draws Gwent i ddatblygu a gweithredu ffyrdd arloesol a chydweithredol o weithio ac i gasglu dysgu i lywio cynnydd parhaus.

Mae’r thema Ffyrdd o Weithio wedi’i hymwreiddio drwyddi draw yn y weledigaeth integredig lawn ar gyfer y De-ddwyrain a gellir gweld y manylion llawn yma:

Nid yw adnoddau naturiol yn lleihau'n barhaus ac nid ydynt yn cael eu defnyddio'n gynt nag y gallant gael eu hailgyflenwi

Mae ein dŵr yn lân, ein priddoedd yn iach, ein haer yn ffres, a’n tirweddau yn fyw. Caiff natur ei gwerthfawrogi a chaiff gwelliannau bioamrywiaeth eu hymwreiddio yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae ein cynefinoedd a'n rhywogaethau'n ffynnu, mae bioamrywiaeth yn cael ei mwyafu, ac mae bywyd gwyllt yn helaeth.

Mae cyfleoedd i ddatblygu economi fwy cylchol yn cael eu gwireddu ac mae adnoddau'n cael eu defnyddio am gyhyd â phosib, gan dynnu'r gwerth mwyaf ohonynt, yna mae'r cynnyrch a'r deunyddiau'n cael eu hadfer a'u hail-greu ar ddiwedd bywyd gwasanaeth pob un. Mae datblygiad addysg a sgiliau'n rhoi'r cyfle i swyddi newydd ac arloesedd, arbed costau i fusnesau, a'r gallu i gryfhau ein cadwyni cyflenwi, gan wella'n gwydnwch economaidd lleol.

Nid yw iechyd a gwydnwch ein hecosystemau ar draws pedwar priodoledd gwydnwch ecosystemau yn cael ei beryglu ac mae’n cael ei wella lle y bo angen

Mae ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newid a bygythiad. Mae partneriaid yn cydweithio i fynd i'r afael â phum sbardun colli bioamrywiaeth ar y raddfa ranbarthol (colli a diraddio cynefinoedd, y newid yn yr hinsawdd, maethynnau gormodol a mathau eraill o lygredd, rhywogaethau estron goresgynnol, a gorddefnydd a defnydd anghynaliadwy) drwy nodi achosion sylfaenol problemau a defnyddio dulliau cydweithredol ac ataliol o leihau eu heffaith ar rywogaethau, cynefinoedd a phobl. Bydd atebion sy'n seiliedig ar natur yn lleihau'r pwysau ar ein hasedau a'n gwasanaethau mewn modd effeithiol ac effeithlon (e.e. seilwaith llwyd fel y rhwydwaith carthffosiaeth, asedau perygl llifogydd a gwasanaethau brys).

Caiff bioamrywiaeth ei diogelu a’i gwella a bydd yn gallu gwrthsefyll hinsawdd sy'n newid, mae ansawdd dwr a’r aer yn dda, mae priddoedd yn iach, ac mae cysylltedd ecolegol yn cael ei fwyafu. Mae cyfleoedd i ddal a storio carbon a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ymgorffori bioamrywiaeth fel egwyddor sylfaenol. Caiff gwrthdrawiadau rhwng 'gweithredu er yr hinsawdd' a 'gweithredu dros fioamrywiaeth' eu rhagweld a'u hosgoi – er enghraifft, caiff brigdwf coed ei gynyddu lle y bo'n briodol i wneud hynny ac nid mewn lleoliadau a fyddai'n cael effaith niweidiol ar safleoedd Ewropeaidd.

Mae partneriaid yng Ngwent yn gweithio ar y cyd i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant drwy gysylltu pobl, cymunedau a’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau â natur er lles pobl a'r amgylchedd. Gyda'n gilydd, rydym yn datblygu gwybodaeth am natur, dealltwriaeth ohoni a rhyngweithio â hi sy’n barhaus ac yn gwireddu'r manteision lluosog y gall natur eu darparu. Caiff gwerth natur i'r gymdeithas a'r economi ei adlewyrchu yn y broses o wneud penderfyniadau a gwariant cyhoeddus.

Mae adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac mae’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau ecosystemau gwahanol yn cael ei ganolbwyntio ar lesiant

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae cefnogaeth i gymunedau leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr wedi'i dosbarthu mewn ffordd sy'n gyfiawn yn gymdeithasol. Mae trafnidiaeth yn garbon niwtral. Mae gweithgarwch dal a storio carbon a datgarboneiddio yn rhan hanfodol ac integredig o'n heconomi werdd leol, gan ddarparu manteision lluosog yn ein cymunedau ac ar eu cyfer a chefnogi'r economi werdd leol.

Pan fo pobl ifanc wedi'u cysylltu â natur, mae'n cael effeithiau cadarnhaol ar eu haddysg, eu hiechyd corfforol, eu llesiant emosiynol, a'u sgiliau personol a chymdeithasol. Mae dysgu am natur yn helpu i ddatblygu dinasyddion gweithredol, cyfrifol a moesegol.

Cymru lewyrchus

Mae mannau gwyrdd digonol sy'n gweithio'n dda ac o ansawdd da yn gyrru buddsoddiad mewnol ac yn cynyddu gwydnwch economaidd lleol. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch ac mae teithio llesol yn bosib. Mae gan bobl wybodaeth dda am eu hamgylchedd lleol, mae cysylltiadau cymdeithasol yn uchel, ac mae asedau gwyrdd cyhoeddus/cymunedol yn cael eu rhannu. Mae mannau naturiol bywiog yn cynyddu'r galw am sgiliau gwyrdd, yn rhoi cyfleoedd am ddysgu gydol oes a gwirfoddoli, ac yn datblygu mwy o fentrau economaidd cynaliadwy, gan roi hwb i'r economi werdd leol a'i chefnogi.

Mae'r amgylchedd naturiol yn darparu cyflogaeth, sy’n cynnal cymunedau ar draws Gwent. Mae cyflogaeth yn y diwydiannau ffermio, coedwigaeth, pysgodfeydd, twristiaeth a hamdden yn ffynnu ac yn gynaliadwy.

Cymru iachach

Mae ein mannau gwyrdd lleol a'n dulliau o’u rheoli ac ymyriadau iechyd yn cyfuno i sicrhau bod Gwent yn iachach. Mae byd natur a'r awyr agored yn rhan o brif ffrwd bywydau pobl a'r 'system' (gofal iechyd, cynllunio, addysg ac ati). Daw atebion sy'n seiliedig ar natur yn ddull gweithredu arferol. Mae sefydliadau'n gweithio ar y cyd i sicrhau bod hyn yn digwydd (e.e. System Iechyd Naturiol). Mae gan bobl fynediad i fannau naturiol diogel i ymarfer corff, chwarae, tyfu bwyd, dadflino ac ymlacio.  Mae llwybrau gwyrdd ar gyfer teithio llesol ar gael i bawb o oedran cynnar ac mae ymddygiadau iach yn arferol. Mae llai o geir ac aer glanach. Mae plant yn teimlo eu bod wedi'u hysbrydoli a’u hannog i chwarae yn yr awyr agored ac yn teimlo’n ddiogel wrth wneud hyn. Mae cymunedau'n elwa ar fwy o weithgarwch corfforol, iechyd meddwl gwell, ac atal cyflyrau iechyd cronig (e.e. gordewdra, diabetes Math 2). Mae hyn yn golygu bod llai o afiechyd a llai gwahaniaeth mewn disgwyliad oes iach ar draws Gwent.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Mae mannau gwyrdd lleol bywiog yn llawn mynegiant a hwyl ac yn greadigol. Maent wedi'u dylunio i breswylwyr a chanddynt ac yn adlewyrchu diwylliant a hunaniaeth Cymru, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer creadigrwydd, y celfyddydau, chwaraeon a hamdden, a rhoi hwb i gyfleoedd twristiaeth. Mae ein tirweddau wedi'u cysylltu ac yn iach ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at ein treftadaeth naturiol.

Cymru o gymunedau cydlynol

Mae pobl yn teimlo'n fwy cysylltiedig â'r amgylchedd ac â’i gilydd, yn cael mynediad i fannau gwyrdd lleol o safon, ac yn gwybod ble gallant fynd a'r hyn y gallant ei wneud yno. Mae damweiniau traffig wedi cael eu lleihau.  Mae cymunedau yn rhan o’r gwaith o gynllunio gwyrdd  gan greu mannau delfrydol i gymdeithasu â'i gilydd a meithrin balchder lleol, diogelwch a hunaniaeth gymunedol.

Mae'r buddiannau sy'n deillio o adnoddau naturiol yn cael eu dosbarthu mewn modd teg a chyfartal ac mae'r cyfraniad y maent yn ei wneud tuag at lesiant yn diwallu ein hanghenion sylfaenol ac nid yw'n lleihau nawr nac yn y tymor hir

Cymru gydnerth

Mae bywyd gwyllt, cynefinoedd, tirweddau a morluniau Gwent yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth a mwynhad i bobl sy'n byw ac yn gweithio yma. Maent yn iach ac yn ffynnu, gan ddarparu manteision naturiol hanfodol i breswylwyr ac ymwelwyr â'r ardal.

Cymru sy'n fwy cyfartal

Mae pobl ddiamddiffyn yn cael eu diogelu'n ddigonol rhag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Mae atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i'r newid yn yr hinsawdd yn cyfrannu at y cynnydd mewn gwydnwch lleol i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Mae cymunedau'n cael eu haddysgu am risgiau’r newid yn yr hinsawdd ac yn weithredol wrth ddylunio a gweithredu'r ymateb. Mae cymunedau'n fwy gwydn i gostau ynni a thrafnidiaeth sy'n codi drwy effeithiolrwydd gwell, ymdrin â thlodi tanwydd, teithio llesol, a chynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn lleol.

Mae mannau gwyrdd lleol yn fforddiadwy ac yn hygyrch yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, sydd hefyd mewn mwy o berygl o brofi effeithiau peryglon amgylcheddol ac allgáu cymdeithasol. Mae mannau gwyrdd lleol yn ddiogel, yn cysylltu pobl, yn ymdrin ag allgáu cymdeithasol, ac yn rhoi hwb i sgiliau a hyder.

Beth yw'r camau nesaf?


CANLYNIAD: Dylai'r canlyniadau ar draws yr holl themâu strategol fod yn seiliedig ar ffyrdd o weithio'n wahanol gyda'i gilydd ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Cefnogi'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau a rheolwyr i hyrwyddo ymagwedd arloesol a chydweithredol at weithio gyda'n gilydd sydd wedi'i gyrru'n llai gan brosesau ac sy'n canolbwyntio'n fwy ar ganlyniadau

  • Archwilio dulliau o alluogi cymunedau i berchen ar dir sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus ar hyn o bryd a'i reoli

  • Ymgorffori cyfleoedd i wella gwydnwch ecosystemau fel a nodwyd yn y proffiliau tirwedd yng Nghynllun Lleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru, Cynlluniau Llesiant Lleol a Chynlluniau Adran 6

  • Datblygu a rhoi adnoddau i'r ymagwedd proffiliau tirwedd drwy gynnwys dysgu i wella'r mecanwaith hwn fel offeryn ar gyfer cydweithio yn y dyfodol

  • Archwilio cyfleoedd i awdurdodau lleol liniaru effeithiau datblygiadau, i'w hystyried yn fwy strategol ar draws y rhanbarth

  • Llunio naratif dysgu a myfyrio i ddeall yr hyn sydd wedi gweithio drwy gydol proses y Datganiad Ardal, yr hyn fydd yn llunio gwaith cyflawni ac arferion gwaith yn y dyfodol, a'r materion sefydliadol a sector mwy cymhleth y mae angen lefel uchel o adnoddau ac ymrwymiad i ymdrin â hwy

  • Galluogi gwasanaethau cenedlaethol a galluogi i gynllunio, cydlynu a chyflawni dadansoddiad manwl o'r dystiolaeth mae ei hangen i ddylanwadu ar bob un o'r mecanweithiau Datganiad Ardal perthnasol: cynlluniau rheoli cwmnïau dŵr, taliadau Polisi Amaethyddol Cyffredin / Glastir yn y dyfodol, Cynlluniau Datblygu Lleol, Cynlluniau Llesiant Lleol, cynlluniau rheoli Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, cynlluniau Adran 6, a'r saith maes allweddol ar gyfer newid fel a nodwyd yn arweiniad statudol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

CANLYNIAD: Mwy o ddealltwriaeth o ffyrdd o weithio'n wahanol gyda'n gilydd a gwella cydweithio ac integreiddio rhwng partneriaid ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Datblygu rhwydwaith thematig o ymarferwyr, ymchwilwyr, rhanddeiliaid allweddol ac asiantaethau perthnasol (a chymunedau lle y bo'n berthnasol) i ddatblygu dealltwriaeth a rennir o ffyrdd o weithio

  • Sicrhau bod dysgu am fecanweithiau cynnwys yn sail i'r methodolegau a ddefnyddir ar draws yr holl rwydweithiau thematig a bod dull o wella’n barhaus yn cael ei ddefnyddio yn unol â hynny

  • Sicrhau bod dysgu am fecanweithiau integreididdio yn sail i'r methodolegau a ddefnyddir ar draws yr holl rwydweithiau thematig a bod dull o wella’n barhaus yn cael ei ddefnyddio yn unol â hynny

  • Sicrhau bod dysgu ynghylch mecanweithiau sy'n cefnogi ymagweddau tymor hir at gynllunio a chyflawni'n sail i'r methodolegau a ddefnyddir ar draws yr holl rwydweithiau thematig a bod dull o wella’n barhaus yn cael ei ddefnyddio yn unol â hynny

  • Sicrhau bod cyfleoedd i alinio arferion gwaith yn cael eu hymgorffori yng Nghynllun Lleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru a chynlluniau corfforaethol y sector cyhoeddus

  • Monitro newidiadau sy'n cael eu gwneud i bolisïau, cynlluniau ac arferion yn ogystal â nodi targedau ar gyfer gwella perfformiad

  • Cydgrynhoi a defnyddio cofrestri asedau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n dangos perchnogaeth/rheolaeth tir cyhoeddus

  • Darparu'r lefel angenrheidiol o ymrwymiad, uchelgais ac arweinyddiaeth mae ei hangen i yrru camau gweithredu, gan weithredu newidiadau i arferion gwaith, gan gynnwys cynlluniau, strategaethau a pholisïau

CANLYNIAD: Cynyddu gallu sefydliadau ac unigolion, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr offer a'r wybodaeth angenrheidiol i weithio mewn ffyrdd gwahanol gyda'n gilydd ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Archwilio cyfleoedd i ddatblygu cyllidebau ataliol a defnyddio offerynnau cynllunio'r gweithlu'n ddigonol i roi adnoddau i ffyrdd gwahanol o weithio

  • Gweithio ar y cyd i ddatblygu strategaeth seilwaith gwyrdd a rennir yng Ngwent sy'n:

      • Darparu glasbrint ar gyfer cydweithio yn y dyfodol ar draws y rhanbarth

      • Amlinellu gweledigaeth gref, blaenoriaethau a rennir ac ymrwymiad i newid, addasu a chytgordio arferion gwaith penodol ar draws y sector cyhoeddus drwy ymgorffori dysgu o’r themâu strategol

      • Darparu sail gadarn i lywio canllawiau cynllunio atodol ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ar gyfer y rhanbarth

  • Cydlynu cynllun rheoli tir trydydd sector lle mae gan sefydliadau'r adnoddau i gynghori ar benderfyniadau rheoli tir mewn cymunedau, gan gynnwys nodi cyfleoedd i ddatblygu rhwydweithiau ac atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i'r newid yn yr hinsawdd a dal a storio carbon, gan ganolbwyntio i ddechrau ar dir a reolir yn gyhoeddus ar raddfa leol gyda chynghorau cymuned a thref

Llun gan Luke Maggs

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Gwahoddwyd yr holl randdeiliaid i lunio eu cynnwys eu hunain yn Natganiad Ardal y De-ddwyrain. Roedd mapio rhanddeiliaid yn barhaus drwy gydol y broses ac ni wnaethom geisio bod yn hollgynhwysol ond yn ystyrlon.

I ddechrau, gwnaethom ystyried Gwent fel casgliad o dirweddau daearyddol gwahanol a rhyng-gysylltiedig i gynhyrchu sail dystiolaeth gyffredin ar ffurf proffiliau tirwedd. Datblygwyd yr ymagwedd hon ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol sydd â phrofiad sylweddol o edrych ar y rhanbarth yn y ffordd hon. 

Datblygwyd ymagwedd rhwydwaith thematig ar y cyd hefyd gyda rhanddeiliaid allweddol yng Ngwent i fod mor ddefnyddiol a hygyrch o ran cynnwys ac integreiddio â phosib ac mae'n adlewyrchu trefniadau gweithio’r lle.

Tuag at ddiwedd 2019, daethom â phaneli rhwydweithiau thematig a phroffil tirwedd (yn aml ond nid bob amser yr un unigolion) at ei gilydd am sgyrsiau wedi’u hwyluso â ffocws gyda grŵp ehangach o randdeiliaid i gyrraedd "consensws ar gyfer gweithredu" dan bob un o'r themâu strategol.

Adborth o un o'n gweithdai thematig:

“Diolch am y cyfle i fod yn rhan o'r broses hon, sydd wedi ateb fy mhryderon … yr ydw i wedi ymgyrchu drostynt am sawl blwyddyn" – Ymgyrchydd lleol Cyfeillion y Ddaear

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Bydd y canlyniadau dan bob un o'r pedair thema strategol yn cyflawni gweledigaeth y Datganiad Ardal ar gyfer y De-ddwyrain.  Er bod gan bob thema ei gweledigaeth ei hun ar gyfer y De-ddwyrain, mae pob un yn rhan o'r un dull trosfwaol ar gyfer cyflawni Rheoli Adnoddau Naturiol yn  Gynaliadwy yn y lle.

Mae Datganiad Ardal y De-ddwyrain yn cynrychioli ffyrdd mwy cydweithredol, integredig a chynhwysol o weithio; mae'n cynrychioli'r gwaith rydym wedi'i wneud yng Ngwent dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gryfhau'r ffyrdd rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn wahanol, yn ein sefydliadau ein hunain ac fel partneriaid.

Yn y De-ddwyrain, aethom ati i lunio Datganiad Ardal sy'n llywio cynllunio mewnol ac allanol ar y raddfa briodol ac sy'n helpu rhanddeiliaid i ystyried ffyrdd o weithio gyda'i gilydd wrth wneud hynny. Mae proses y Datganiad Ardal yn ymaddasol a bydd yn helpu i archwilio a llunio ffyrdd uchelgeisiol o weithio.

Bydd rhwydweithiau thematig yn parhau i ganolbwyntio ar weithio gyda'n gilydd yn wahanol i feithrin gwydnwch ecosystemau.  Bydd pob rhwydwaith yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin, yn ogystal â hwyluso ymyriadau atalioldros y tymor hwy.

Sut all pobl gymryd rhan?


Os hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith o gyflawni'r camau gweithredu a restrir yma, cyfrannu at y rhwydwaith thematig sy'n datblygu, neu rannu eich lluniau a'ch straeon eich hun ynglŷn â sut y mae natur wedi dylanwadu ar eich iechyd a'ch lles, cysylltwch â ni.

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf