Cynllun Adnoddau Coedwig Cwmcarn - Cymeradwywyd 15 Ionawr 2026
Lleoliad
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Carn 9 coetir yn Sir Caerffili a Sir Torfaen, sy'n cynnwys tua 1,911 hectar.
Dyffrynnoedd serth yw lleoliad y coetiroedd, ynghyd â llwyfandiroedd ucheldirol mwy gwastad, ac mae cyfran fawr yn Blanhigfeydd ar Goetir Hynafol. Mae’r rhan fwyaf o Gynllun Adnoddau Coedwig Cwm Carn yn ymestyn ar hyd dyffrynnoedd serth Sirhywi Isaf ac Ebwy yn agos at gymunedau Rhisga, Crosskeys, Cwm-carn, Aber-carn, Wattsville, Cwmfelin-fach ac Ynys-ddu. Mae dau floc ar wahân ym Machen a Llanbradach, sydd yng Nghwm Rhymni Isaf.
Amcanion cryno
Bydd y rhain yn gosod yr amcanion rheoli ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig a gweithgareddau ehangach ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau, a’r manteision y maent yn eu darparu. Dangosir y rhain yn nhrefn blaenoriaeth.
Amcan 1: Coetir hynafol
Mae adfer y coetir hynafol ym mhob un o flociau coetir y Cynllun Adnoddau Coedwig yn amcan blaenllaw, yn unol â Datganiad Ardal y De-ddwyrain a Strategaeth Coetiroedd Llywodraeth Cymru, gan fod dros 50% o’r Cynllun Adnoddau Coedwig hwn yn cynnwys coetir hynafol. Yn yr ardaloedd hyn, bydd conwydd presennol yn cael eu tynnu’n raddol dros amser trwy systemau coedamaeth bach eu heffaith lle bo’n briodol, gyda blaenoriaeth i systemau gorchudd parhaus. Bydd aildyfiant naturiol coed llydanddail, a thanblannu cyfoethogi o bosibl, yn ddulliau a ffefrir i amrywio clystyrau. Bydd angen clirio ac ailstocio rhywfaint o blanhigion o hyd lle mae Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol wedi’u cyhoeddi.
Amcan 2: Bioamrywiaeth a chysylltedd
Gweithio gyda phartneriaid a thimau eraill Cyfoeth Naturiol Cymru i nodi a darparu cyfleoedd ar gyfer Rhwydweithiau Ecolegol Cadarn a chysylltu a gwella cynefinoedd â blaenoriaeth, ardaloedd gwarchodedig o fewn ac wrth ymyl coetiroedd Cynllun Adnoddau Coedwig, a rhywogaethau â blaenoriaeth a rhywogaethau a warchodir, er mwyn gwella gwydnwch a chysylltedd ac atal effeithiau negyddol yn sgil gweithgareddau rheoli. Bydd hynny’n cynnwys cysylltu ac adfer coetiroedd hynafol a brodorol, cysylltu cynefinoedd agored a rhodfeydd, a chreu cynefinoedd ymyl amrywiol lle maent yn ffinio â chynefinoedd nad ydynt yn goetiroedd, ar draws ardal gyfan y Cynllun Adnoddau Coedwig.
Amcan 3: Hamdden a llesiant
Gweithio gyda’n partneriaid a’n cymunedau i nodi sut a ble y gall Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru ddarparu atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer iechyd a lles, darparu cyfleoedd i gysylltu pobl â natur, cynyddu defnydd cyfrifol a hamdden effaith isel mewn ardaloedd priodol, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol (h.y. tipio anghyfreithlon a gyrru oddi ar y ffordd) a lle y bo’n bosibl, byddwn yn cynnwys cymunedau yn y gwaith o’i reoli.
Mae prif floc Cwmcarn a’r ffordd goedwig eisoes yn ffocws ar gyfer gweithgareddau hamdden coedwig yn yr ardal a dyma fydd y weledigaeth hirdymor ar y safle hwn. Bydd yn parhau i fod yn ffocws ar gyfer hamdden yn y Cynllun Adnoddau Coedwig er mwyn galluogi ardaloedd eraill i gynhyrchu coed ac adfer cynefinoedd.
Amcan 4: Bod yn gymdogion da
Ymgynghori ac ymgysylltu â chymdogion, cymunedau a rhanddeiliaid eraill ynghylch rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru a gweithrediadau sydd ar ddod er mwyn gwella perthnasoedd a gwybodaeth am sut a pham mae’r ystâd yn cael ei rheoli, lleihau gwrthdaro (er enghraifft gyda thresmasu defaid), ac annog perthnasoedd gwaith agosach, a hynny ar draws holl goetiroedd y Cynllun Adnoddau Coedwig.
Amcan 5: Gwydnwch coedwigoedd
Parhau i amrywio rhywogaethau, oedran a chyfansoddiad strwythurol y goedwig i gynyddu gwydnwch yn erbyn plâu a chlefydau, ac effeithiau newid hinsawdd, wrth adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Tynnu gweddill y clystyrau llarwydd, rheoli’r ynn, a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yn briodol ar draws ardal y Cynllun Adnoddau Coedwig. Mae amrywiaeth y rhywogaethau yn gyffredinol dda ar draws y cynllun ond gellid gwella gwydnwch ymhellach drwy gynyddu’r ystod o rywogaethau a blannir, lle bo’n addas, a pharhau i reoli ardaloedd o dan systemau coedamaeth bach eu heffaith lle bo’n bosibl er mwyn cynyddu amrywiaeth o ran oedran a strwythur.
Amcan 6: Tanau gwyllt
Gweithio gyda phartneriaid a’r gymuned er mwyn codi ymwybyddiaeth a lleihau’r risg o danau gwyllt drwy addysg a dylunio coedwigoedd. Mae risg uchel o danau gwyllt yn llawer o’r ardaloedd ym mhrif floc Cwmcarn. Mae angen rhywfaint o fuddsoddiad mewn cynllunio a rheolaethau tân a fydd yn cael sylw drwy gynlluniau gweithredol.
Amcan 7: Cynhyrchu pren cynaliadwy
Cynnal y gwaith o gynhyrchu coed lle bo’n briodol. Os yw amodau’r safle a nodweddion cnydau yn caniatáu, y nod yw defnyddio systemau gorchudd parhaus er mwyn darparu cyfleoedd i amrywio rhywogaethau a strwythur y coetiroedd, a fydd yn gwella cynaliadwyedd a gwydnwch y coedwigoedd, yn ogystal â darparu manteision economaidd. Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn ei gwneud yn ofynnol i fuddsoddi mewn cyfleusterau coedwigaeth er mwyn darparu gwell mynediad ar gyfer echdynnu coed a chaniatáu presgripsiynau rheoli mwy amrywiol o fewn y coetiroedd. Bydd hyn yn galluogi gwaith teneuo rheolaidd a chael gwared ar y clystyrau llarwydd sy’n weddill.
Amcan 8: Rheoli dŵr
Ni ddylai rheoli coedwigaeth achosi unrhyw ostyngiad yn ansawdd y dŵr nac ychwaith gyfrannu at y lefel bresennol o risg o lifogydd o fewn y coetiroedd ac oddi ar y safle. Cyflawnir hyn drwy arferion coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU, gan ddilyn canllawiau coedwigaeth perthnasol ac arferion coedwriaeth sy’n helpu i liniaru dŵr ffo wyneb. Dylai’r gwaith o ystyried mesurau i leihau cyfaint y llif sy’n gadael blociau coedwig gynnwys rheoli llifogydd yn naturiol lle bo modd. Mae asesiad llifogydd wedi canfod bod rhai ardaloedd â risg uwch o lifogydd sydd eisoes wedi’u llwyrgwympo. Mae’r mwyafrif o’r ardaloedd wedi’u hailstocio a bydd yr ardal olaf yn cael ei hailstocio y gaeaf hwn i ailsefydlu brigdwf a lleihau’r risg.
Mapiau gweledigaeth hirdymor
Westend Cwmfelinfach Hafod Tudur
Mapiau'r strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo coed
Mathau rheoli Henllys a Twmbarlwm
Mathau rheoli Westend Cwmfelinfach Hafod Tudur
Mathau rheoli Sirhowy a Machen
Mathau rheoli Llanbradach a The Wylie
Mapiau mathau o goedwigoedd ac ailblannu
Mathau o goedwigoedd ac ailblannu Henllys a Twmbarlwm
Mathau o goedwigoedd ac ailblannu Westend Cwmfelinfach Hafod Tudur