Cynllun Adnoddau Coedwig Ffestiniog - Cymeradwywyd 21 Rhagfyr 2021
Lleoliad
Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth (FRP) Ffestiniog yn cynnwys prif flociau coedwig Hafod Fawr, Coed Pengwern a Rhyd-Y-Sarn. Gyda’i gilydd mae gan y coetiroedd hyn gyfanswm arwynebedd o 495 hectar a chymysgedd o rywogaethau coed conwydd a llydanddail.
Mae’r blociau coedwig hyn wedi’u lleoli o fewn ffin Cyngor Sir Gwynedd ac yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, ger pentref Ffestiniog. Mae Hafod Fawr wedi ei lleoli i’r de-ddwyrain o Ffestiniog gyda blociau Coed Pengwern a Rhyd-Y-Sarn wedi’u lleoli i’r gogledd-orllewin o Ffestiniog o boptu’r A496.
Cyfleoedd a blaenoriaethau
- Tynnu llarwydd ac chyfoethogi cyfansoddiad rhywogaethau y goedlan i gynyddu gwytnwch plâu a chlefydau wrth adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
- Cynyddu amrywiaeth strwythurol trwy gyflwyno cadwraeth hir- dymor a Choedwigaeth Gorchudd Parhaus.
- Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynnyrch coed trwy ddewis rhywogaethau i’w cwympo a ailblannu.
- Cynyddu ardaloedd coetir olynol ac ar hyd lannau neintydd a afonydd (Torlannol) ar gyfer gwella gwytnwch cynefinoedd a chysylltiadau cynefinoedd ar raddfa tirwedd.
- Nodi, gwarchod a gwella nodweddion amgylcheddol a threftadaeth pwysig.
- Gwella profiad yr ymwelydd trwy gynnal mynediad cyhoeddus presennol a chymryd cyfleoedd i chwalu ymylon conwydd y coedwigoedd dros amser.
Crynodeb o’r prif newidiadau fydd yn digwydd yn y goedwig
- Tynnu'r holl goed llarwydd o'r coetiroedd (10ha) ar gyfer rheoli'r bygythiad o glefyd Phytophthora ramorum.
- Gwella ardaloedd o bwys cadwraethol uwch trwy reoli ac ehangu'r parthau torlannol, coetir llydanddail brodorol ac olynol (204ha).
- Cynnydd yn yr ardaloedd a ddynodir i’w cadw yn hir dymor o dan reolaeth ymyrraeth isel (67ha).
- Adfer safleoedd coetir hynafol (170ha) trwy gael gwared ar gonwydd a chreu cynefin llydanddail brodorol.
- Bydd can hectar o gynefin agored yn cael ei greu, a fydd hefyd yn creu ‘coridorau’ o gynefinoedd yn cysylltu â’r tirwedd gerllaw.
- Byddwn yn lleihau effaith weledol conwydd ar y tirwedd.
- Bydd llai o sbriws Sitka a mwy o rywogaethau eraill o goed conwydd a llydanddail er mwyn cynyddu gwytnwch y coetiroedd o ran gwrthsefyll plâu a chlefydau.
- Ein nod yw rheoli 41 ha o gonwydd gan ddefnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith.
Mapiau
Hafod Fawr - Prif Amcanion Hirdymor
Hafod Fawr - Systemau Rheoli Coedwigoedd
Hafod Fawr - Cynefinoedd a Mathau o coedwigoedd Dangosol
Coed Pengwern and Rhyd-y-Sarn - Prif Amcanion Hirdymor
Coed Pengwern and Rhyd-y-Sarn - Systemau Rheoli Coedwigoedd
Coed Pengwern and Rhyd-y-Sarn - Cynefinoedd a Mathau o coedwigoedd Dangosol