Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Garw a Chwm Ogwr - Cymeradwywyd 3 Awst 2022
Lleoliad ac ardal
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Garw a Chwm Ogwr yn cynnwys wyth coetir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n cwmpasu tua 1,777 hectar. Mae’r rhan fwyaf o'r coetiroedd yng ngogledd y cynllun ar ucheldir agored gyda llethrau serth i lawr i’r dyffryn. Mae'r coetiroedd yn ffinio â glaswelltir agored ar yr ucheldir gyda rhai caeau, gwrychoedd a choetiroedd brodorol i'r de. Mae'r coetiroedd yn y de yn llai o ran maint ac wedi'u lleoli ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr.
Crynodeb o'r amcanion
Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:
- Cynnal cynhyrchiant pren lle bo'n briodol. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau a strwythurau yn y coetiroedd, a fydd yn gwneud y coedwigoedd yn fwy cynaliadwy a chydnerth, a hefyd yn cynnig buddion economaidd.
- Cynyddu’r amrywiaeth o ran cyfansoddiad y rhywogaethau coedwig er mwyn eu gwneud yn fwy cydnerth yn erbyn plâu a chlefydau ac effeithiau newid hinsawdd, ac a fydd hefyd yn creu coedwig gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
- Tynnu’r clystyrau sy’n weddill o goed llarwydd a rheoli coed ynn mewn ffordd
briodol o ran clefyd lladdwr yr ynn. - Cynyddu’r amrywiaeth strwythurol drwy gyfrwng gwaith rheoli Coedamaeth Bach ei Effaith, a gwaith adfer naturiol, lle bo’n briodol.
- Buddsoddi yn y seilwaith coedwig i gynnig gwell mynediad i ganiatáu ar gyfer amodau rheoli mwy amrywiol o fewn y coetiroedd, cynnal gwaith teneuo rheolaidd lle bo modd, tynnu’r clystyrau o goed llarwydd sy’n weddill, cyflawni amcanion cadwraeth, a darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden.
- Gweithio gyda phartneriaid a thimau eraill CNC i nodi a gwireddu cyfleoedd i gysylltu a gwella cynefinoedd blaenoriaeth ac ardaloedd gwarchodedig o fewn coetiroedd CAC a drws nesaf iddynt, er mwyn eu gwneud yn fwy cydnerth a chydgysylltiedig ac atal effeithiau negyddol yn sgil gweithgareddau rheoli. Er enghraifft, cysylltu ac adfer coetir hynafol a brodorol, cysylltu cynefinoedd agored a rhodfeydd, creu cynefinoedd ymyl amrywiol ble maen nhw’n ffinio â glaswelltir rhostir yr ucheldir, ac adfer ardaloedd o fawn dwfn wedi’u coedwigo, a chynllunio ar gyfer rheoli cynefinoedd priodol ar gyfer y troellwr mawr ar draws ardal y CAC.
- Gweithio gyda phartneriaid i annog a chynyddu defnydd a gweithgareddau hamdden cyfrifol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau manteision o ran lles i gymunedau lleol, grwpiau defnyddwyr ac ymwelwyr, ac er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys cerbydau oddi ar y ffordd, llwybrau anawdurdodedig i feiciau mynydd, a thipio anghyfreithlon.
- Ni ddylai gwaith rheoli ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru gyfrannu at y lefel bresennol o risg llifogydd naill ai o fewn y coetiroedd neu unrhyw le oddi ar y safle, a lle bynnag y bo modd dylid rhoi mesurau ar waith i leihau unrhyw risg posib o lifogydd; dylid cyflawni’r ddau drwy gyfrwng arferion coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU a chanllawiau perthnasol ar gyfer coedwigaeth; a thrwy gyfrwng ymgynghori ac ymgysylltu â’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol perthnasol yn ystod gwaith cynllunio ar gyfer gweithrediadau cwympo coed. Dylid ystyried mesurau i gadw dŵr ar y safle mor hir â phosib, a chyfleoedd ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol lle bo modd.
- Ni ddylai’r gwaith o reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru achosi unrhyw ostyngiad yn ansawdd y dŵr, a hynny o fewn nodweddion dŵr ar y safle a chyrsiau dŵr sy'n draenio oddi ar y safle, drwy gyfrwng arferion coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU a chanllawiau coedwigaeth perthnasol.
- Lleihau'r risg o danau gwyllt drwy gynllunio a sicrhau mesurau priodol ar gyfer rheoli tân yn ystod gweithrediadau ac ar eu hôl, megis creu a rheoli bylchau tân o amgylch ardaloedd ailstocio ac ardaloedd agored a gweithio gyda Gwasanaeth Tân De Cymru i gynllunio a gweithredu mesurau ar yr Ystad.
- Gweithio gyda'n partneriaid a'n cymunedau i nodi sut a ble y gall yr Ystad sicrhau datrysiadau seiliedig ar natur i wella iechyd a lles, a chynnig cyfleoedd i gysylltu pobl â natur, a ble gallwn gynnwys cymunedau yn y gwaith o’i rheoli.
- Bod yn gymdogion da - Ymgynghori ac ymgysylltu â chymdogion, cymunedau a rhanddeiliaid eraill ynghylch y gwaith o reoli’r Ystad a gweithrediadau sydd ar y gweill i wella cydberthnasoedd a gwybodaeth am sut a pham y caiff yr Ystad ei rheoli, lleihau gwrthdaro, ac annog perthnasoedd gwaith agosach.
- Sicrhau ffin yr Ystad drwy gynnal ac atgyweirio ffensys allanol i atal da byw rhag
tresmasu ac effeithio ar y cnydau wrth iddynt sefydlu. - Cynnal yr amodau amgylcheddol gorau posibl o amgylch SoDdGA Daren y Dimbath er budd y mathau prin o lystyfiant a chynefinoedd ar y safle hwn.
- Rheoli planhigion anfrodorol ymledol ar yr Ystad. Ymgysylltu / gweithio gyda thirfeddianwyr cyfagos i leihau faint mae anifeiliaid yn tresbasu ar yr ystad.
Mapiau
Map lleoliad
Prif amcanion hirdymor
Systemau rheoli coedwigoedd
Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol
Sylwadau neu adborth
Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk