Cynllun Adnoddau Gethin, Ynysowen a Choedwig Ystad Allen - Cymeradwywyd 23 Mai 2016
Lleoliad ac ardal
Coetiroedd yn Ynysowen a rhwng Merthyr Tudful ac Aberdâr. Cyf Grid: SO06020299 )
Lleolir y coedwigoedd hyn yng nghynghorau sir Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae’r ardal yn 1364 hectar o faint. Tir fferm gyda rhywfaint o goetiroedd preifat sy’n ffinio â’r ardal hon yn bennaf.
Mae coedwig Gethin yn goedwig gynhyrchiol sydd â phridd da ar y llethrau isaf. Bydd hyn yn caniatáu inni blannu gwahanol fathau o goed yn y dyfodol. Ar y llwyfandir uchaf ceir priddoedd tlotach a gwlypach, a mwy o wynt, a bydd hyn yn cyfyngu ar y dewis o goed, ond bydd modd tyfu cnydau conwydd cynhyrchiol ar y tir. Mae llwybrau beicio Parc Beiciau Cymru yn bwysig iawn i hamdden a thwristiaeth leol ac maent wedi bod yn rhan o’r cynllun hwn. Mae rhan helaeth o’r coed llarwydd wedi’u symud ymaith, neu bwriedir eu symud ymaith yn y ddwy flynedd nesaf, a hynny oherwydd clefyd (Phytophthora ramorum). Mae hwn wedi bod yn gyfle i ailblannu ardaloedd gyda rhywogaethau mwy amrywiol er mwyn taclo newid hinsawdd a chlefydau yn y dyfodol. Gwyddys fod gan y coedwigoedd broblem gyda beiciau modur oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon ac mae’r staff yn cydgysylltu gyda’r heddlu.
Mae ystad Allen yn goedwig sydd wedi hen ennill ei phlwyf, ac mae’n goetir cynhyrchiol. Mae’r priddoedd da a’r tir is yn caniatáu darparu ar gyfer rhywogaethau coed mwy amrywiol yn y dyfodol. Bydd y llethrau is yn cael eu hailblannu neu bydd coed llydanddail yn aildyfu’n naturiol ar y llecynnau o goetir brodorol.
Yng nghoetiroedd Ynysowen mynediad cyfyngedig yn unig a geir ar gyfer cludo pren. Ceir canran uchel o goed llarwydd ar y coetiroedd hyn y bydd angen eu symud ymaith i reoli clefyd. Oherwydd y priddoedd ac uchder y tir, bydd modd cael amrywiaeth o rywogaethau yn y dyfodol. Ar y llethr is ceir coetiroedd brodorol, a bydd yn cael ei throi’n ôl yn goetiroedd llydanddail. O fewn y llecyn llai o goetir ceir gardd er cof am drychineb Aberfan, a bydd hyn yn cael ei nodi ar y cyfyngiadau sy’n berthnasol i’r goedwig.
Crynodeb o’r amcanion
- Parhau i gynhyrchu pren – Bydd hyn yn parhau i fod yn ysgogiad hollbwysig ar gyfer y coedwigoedd hyn. Bydd y cyfleoedd i amrywio rhywogaethau yn cael eu rhoi ar waith lle y bo hynny’n briodol, a bydd hyn yn gwella cynaliadwyedd y coedwigoedd. Fe fydd coetiroedd brodorol yn cael eu hadfer a’u hymestyn er mwyn creu gwell cysylltiad rhwng cynefinoedd a chynyddu gwerth y dirwedd.
- Hamdden – Ar y cyfan, mae’r coedwigoedd ar agor ar gyfer gweithgareddau hamdden tawel, fel cerdded, beicio. Bydd hyn yn parhau ac yn cael ei ystyried yn ystod yr holl weithrediadau coedwigaeth. Mae gan Barc Beiciau Cymru gytundeb rheoli gyda CNC ar gyfer cynnal a rheoli’r llwybrau beicio sy’n mynd i lawr yr allt. Mae hyn o fudd i hamdden a thwristiaeth yn, ac o amgylch, coedwig Gethin. Caiff y coedwigoedd yn y cynllun hwn eu defnyddio gan drigolion yr ardal ar gyfer cerdded a beicio.
- Cynefinoedd hollbwysig – Ceir ardaloedd dynodedig o ‘warchodofeydd naturiol’ o fewn Cynllun Adnoddau’r Goedwig (dynodiad UKWAS) ac maent yn bodloni’r meini prawf. Ymhellach, yng nghoedwig Gethin gwyddys fod poblogaeth o fadfallod i’w chael ym mhyllau’r chwarel. Caiff y cynefinoedd hyn eu hystyried yn y cynlluniau a chofnodir y cysylltiad rhwng cynefinoedd gan dimau cynllunio coedwigoedd lleol.
- Systemau rheoli – y cylchdro cyntaf o gnydau conwydd yw cyfran helaeth o’r coedwigoedd. Lle y ceir trefn deneuo dda, y dull rheoli a ffefrir yw System Goedamaeth Fach ei Heffaith. Bydd hon yn manteisio ar aildyfiant naturiol cnydau newydd neu danblannu o bosibl. Bydd system llwyrgwympo’n cael ei defnyddio fel y bo’n briodol a bydd angen ei defnyddio oherwydd statws y cnydau (heb eu teneuo, pa mor agored ydynt, priddoedd ac ati) ger y llwybrau beicio.
- Mynediad at goetiroedd llai – Caiff mynediad cyfyngedig ar gyfer rheoli’r coetiroedd eu nodi yn y cynllun hwn. Mae hyn gyda rhaglen ffyrdd y goedwig ar gyfer yr ardal. Heb y mynediad hwn, cyfyngedig fyddai’r arfer o gwympo coed neu adfer coetiroedd brodorol.
Map Lleoliad
Mapiau drafft
Map amcanion elfennol hirdymor
Map o fathau dangosol o goedwig a chynefinoedd
Map amcanion rheoli 10 mlynedd
Map gweithgareddau cynaeafu 10 mlynedd
Os oes gennych sylwadau neu adborth yn ymwneud â Chynllunio Adnoddau Coedwigoedd, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwigoedd ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu frp@naturalresourceswales.gov.uk