Cynllun Adnoddau Coedwig Niwbwrch – Cymeradwywyd 17 Ionawr 2025
Lleoliad a safle
Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig (CAC) yn cwmpasu 952 hectar o dir rhwng Tywyn Niwbwrch, aber Afon Malltraeth a phentref Niwbwrch ar Ynys Môn. Yn ogystal â’r goedwig, mae cyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol gyfagos Tywyn Niwbwrch, traeth Llanddwyn, aberoedd afon Braint ac afon Cefni, y buddiannau morol a physgota, y Cob ac Ynys Llanddwyn. Mae’r goedwig a’r Warchodfa yn rhan o ddwy Ardal Cadwraeth Ehangach, sef Y Twyni o Abermenai i Aberffraw, a Glannau Môn: Cors heli.
Mae coedwig Niwbwrch a’r ardal gyfagos yn dirwedd ddynamig a chymhleth â nifer o ecosystemau sy’n cydgysylltu. Mae’r ardal yn safle cadwraeth o bwys rhyngwladol ar gyfer cynefinoedd twyni tywod, ac yn ogystal mae’r goedwig yn Niwbwrch yn cynnig cynefinoedd amrywiol i fywyd gwyllt fel y Gigfran a’r Wiwer Goch. Mae’r lleoliad unigryw hefyd yn cynnig mynediad at amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol a hamdden sydd o fudd i’r boblogaeth leol a’r miloedd o bobl sy’n ymweld â’r safle. Wrth gynllunio unrhyw waith yn Niwbwrch yn y dyfodol, ein nod yw cydbwyso barn ac uchelgais pobl a bod yn gymydog da, ar yr un pryd â rhoi ystyriaeth i fuddiannau a nodweddion niferus y safle mewn amgylchedd sy’n newid o hyd.
Nid yw peidio â chynllunio ar gyfer y dyfodol yn Niwbwrch yn opsiwn, ac mae’n rhaid i ni fod â chynllun i helpu i reoli’r safle. Mae prosesau naturiol yn araf newid y goedwig yn un sy’n cynnwys mwy o goed llydanddail yn y dwyrain, ac yn y gorllewin maent yn erydu’r clystyrau o goed conwydd sy’n agored i’r arfordir. Yn ogystal â’r newid naturiol hwn, bydd newid hinsawdd a’r codiad yn lefel y môr hefyd yn cael effaith ar gyfansoddiad a dosbarthiad y goedwig yn y tymor hir. Bydd y cynllun newydd yn caniatáu i’r prosesau naturiol ddod i ddominyddu fwy ar draws y safle cyfan, ac yn gwneud y goedwig yn fwy cydnerth i’r newidiadau hyn. Mae coedwig gydnerth yn dda nid yn unig i natur ond i bobl hefyd, a bydd yn helpu i gynnal adnodd hamdden pwysig a lle arbennig i bobl ymweld ag e ac i’r gymuned leol.
Nod y cynllun newydd yw sefydlu Coetir Twyni mwy naturiol ger yr arfordir a fydd yn caniatáu mwy o le i gynefinoedd twyni tywod ger y môr. Bydd y Coetir Twyni hefyd yn helpu i ddiogelu’r goedwig gonwydd gymysg y tu ôl. Tua’r tir, bydd y goedwig gonwydd gymysg yn parhau i gael ei rheoli i hybu cynefin coedwig sy’n addas i’r wiwer goch ac i ddarparu cnydau masnachol, gan hefyd adnewyddu ardaloedd cadwraeth ar gyfer rhywogaethau pwysig fel y Gigfran, y Fadfall Ddŵr Gribog a Thafolen y Traeth. Bydd y newidiadau hyn yn digwydd yn araf, dros gyfnod hir o amser, a fydd yn helpu pawb i addasu i’r newidiadau dros amser. Bydd y penderfyniadau rheoli a wneir yn y Cynllun yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac yn cael eu dilyn gan waith monitro rheolaidd a fydd yn helpu i lywio gwaith rheoli yn y dyfodol a’r penderfyniadau a wneir yn ystod adolygiad nesaf y Cynllun.
Map lleoliad
Crynodeb o'r amcanion
Cytunwyd ar yr amcanion rheoli er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu:
- Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu: Adfer a chynnal nodweddion diddordeb cynefin twyni’r ACA ar hyd yr arfordir, at gyflwr ffafriol yn unol â’r amcanion cadwraeth. Mae’r rhain yn cynnwys egin-dwyni, twyni symudol a sefydlog, twyni’n cynnwys Salix repens a chynefinoedd llaith llaciau’r twyni sy’n cynnal amrywiaeth o fflora a ffawna prin. Bydd hyn yn golygu tynnu coed conwydd o nodweddion diddordeb a’r ardaloedd cyfagos, er mwyn caniatáu mwy o le i system y twyni tywod ddatblygu dros amser ac addasu i godiad yn lefel y môr o ganlyniad i newid hinsawdd. Yn ogystal, bydd mwy o bori rheoledig mewn cynefinoedd agored er mwyn cynnal y nodweddion diddordeb hyn.
- Adfer a chynnal cynefinoedd drwy reoli coetiroedd priodol fel eu bod yn cefnogi nodweddion ardaloedd cadwraeth arbennig / safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig eraill yn y goedwig. Mae'r rhain yn cynnwys Tafol y Traeth, Gele feddyginiaethol, madfallod gribog fawr, a chlwydi cigfrain.
- Rheoli ardaloedd o gwmpas geoparc creigiog cyn-Cambriaidd UNESCO, nodwedd o safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig a safle rhanbarthol sy’n bwysig yn ddaearegol. Datgelu nodweddion daearegol pwysig yn hygyrch ar gyfer astudiaeth ymchwil ac at ddefnydd addysgol ar hyd llwybr daearegol arfaethedig.
- Cynnal ecosystem goedwig amrywiol a pharhaol sy'n cynnwys coetir conwydd cymysg a choetir brodorol, sy'n addas fel cynefin i'r wiwerod coch (rhestr goch a rhywogaethau Cynllun Gweithredu ar Fioamrywiaeth y DU), gyda choetir mwy olynol, llennyrch a chynefinoedd agored ar hyd ffyrdd a rhodfeydd coedwigol. Bydd ecosystem y coetir yn parhau i ddarparu cynefinoedd ar gyfer nifer o rywogaethau o adar, mamaliaid fel ystlumod a thylluanod, yn ogystal ag infertebratau ac ystod amrywiol o fflora cysylltiedig.
- Cynyddu nifer y coed marw yn y goedwig, sy'n cefnogi biota amrywiol o fewn ecosystem y goedwig.
- Rheoli rhywogaethau Anfrodorol Ymledol (INNS) fel Cotoneaster, Crib y Ceiliog a'r Geiriosen Ddu.
- Parhau i ddefnyddio Systemau Coedamaeth Effaith Isel (LISS) a chynllunio llennyrch cwympo llai lle bo modd, i helpu i leihau'r effaith ar ansawdd dŵr yn ardal forol ehangach yr ardaloedd cadwraeth arbennig, drwy leihau'r risg o waddodiad, llif brig, ac asideiddio, yn ogystal â lleihau'r effeithiau gweledol yn nhirwedd y goedwig y mae cannoedd o filoedd o ymwelwyr yn ymweld â nhw bob blwyddyn.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Rheoliadau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017 wrth ymgymryd â gweithgareddau gweithredol trwy ddilyn yr arfer gorau fel yr amlinellir yn 'Safon Coedwigoedd y DU - Canllawiau Coedwig a Dŵr' i ddiogelu ansawdd dŵr ac ecosystemau dŵr croyw yn y goedwig.
- Gwella strwythur mewnol y goedwig drwy ddatblygu amrywiaeth dosbarth oedran, amrywiaeth o goed o ran maint a chymysgedd o rywogaethau lle bo hynny'n bosibl. Gellir cyflawni hyn drwy barhau i reoli coedwigoedd gan ddefnyddio systemau coedamaeth effaith isel. Gall y rhain gynnwys cwympo coed mewn stribedi bach, cwympo coed mewn grwpiau a pharhau i deneuo cnydau conwydd.
- Cynnal ac ailgyflwyno cysylltiadau rhwng canopïau ble'n bosib er lles y wiwer goch. Bydd cadwraeth tymor hir, Gwarchodfeydd Naturiol ac oedi cyn teneuo mewn cnydau pinwydd aeddfed a phlannu conwydd newydd mewn ardaloedd priodol, yn helpu i gyflawni hyn.
- Arallgyfeirio cyfansoddiad rhywogaethau'r goedwig trwy hyrwyddo strategaeth ailstocio mwy amrywiol, a fydd yn cynnwys mwy o amrywiaethau o goed dail llydan a choed brodorol yn ogystal â chonwydd cynhyrchiol. Mae pinwydd yr Alban, rhai rhywogaethau ffynidwydd, cyll a ffawydd hefyd yn addas ar gyfer darparu bwyd gwiwerod coch.
- Cynyddu'r Coetir Twyni Arfordirol yn y goedwig. Mae wedi cael ei ddewis fel safle addas i'r cynefin prin hwn fel rhan o Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU.
- Parhau i ddarparu mynediad hamdden helaeth i dirwedd goedwig unigryw a chyrchfan arfordirol sy'n economaidd bwysig yn ogystal â darparu buddiannau llesiant i ymwelwyr a chymunedau Niwbwrch, Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru.
- Rheoli'r goedwig i helpu i ddarparu mynediad agored gyda chyn lleied o gyfyngiadau a phosib, a phrofiad rhyngweithiol a boddhaus i ymwelwyr tra'n lleihau effeithiau nifer yr ymwelwyr ar fioleg, treftadaeth a thirwedd y safle.
- Parhau i ddarparu mynediad i ddigwyddiadau chwaraeon unigryw a ffilmio.
- Archwilio cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau teithio llesol strategol newydd i'r goedwig.
- Ystyried effaith weledol gweithrediadau rheoli coedwigoedd a newidiadau hirdymor o fewn y goedwig i ymwelwyr. Dylid cymryd agwedd feddal at reoli coedwigoedd.
- Gwarchod holl henebion a nodweddion hanesyddol wrth gyflawni gweithrediadau rheoli coedwig. Efallai bydd angen ymgynghori ychwanegol mewn ardaloedd archeolegol sensitif fel y’u nodir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
- Gwella gwerth y goedwig yn weledol ac i’r synhwyrau a gwerth tirwedd cynefinoedd drwy gynyddu planhigion brodorol a sicrhau amrywiaeth yn y coetir.
- Cynnal gorchudd coetir/coedwigoedd cyn belled ag y bo modd tra'n bodloni amcanion eraill, yn enwedig o amgylch nodweddion ardaloedd cadwraeth arbennig / safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, rheoli'r Wiwer Goch a'r ddarpariaeth hamdden yng nghoedwig Niwbwrch.
- Edrych am gyfleoedd i greu coetir newydd o amgylch y goedwig bresennol ac i ddigolledu am golledion posibl yn y tymor hir oherwydd adfer cynefinoedd twyni tywod.
- Gweithio'n gydgynhyrchiol gyda chymunedau a rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi i helpu i ddatblygu a chyflwyno 'Cynllun Pobl' tymor hir cynaliadwy ar gyfer defnyddio safleoedd yn y dyfodol, ar gyfer yr economi leol, a mynediad hamdden i’r goedwig a'r ardal gyfagos.
- Parhau i weithio mewn partneriaeth â Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr a chaniatáu cytundebau rheoli pellach a allai gynnwys ardal goedwig fwy.
- Bod yn gymydog da
- Caniatáu i brosesau naturiol ddod yn fwy blaenllaw ar draws y safle cyfan.
- Parhau i ddarparu mynediad i'r lleoliad unigryw hwn ar gyfer addysg ac amrywiaeth o waith ymchwil. Gweithio gyda grwpiau ymchwil a phartneriaid eraill i ddarparu tystiolaeth bellach ar gyfer parhau i reoli'r goedwig a'i holl ecosystemau yn gynaliadwy.
- Parhau â gweithgarwch masnachol a rheoli'r cnwd pinwydd Corsicaidd aeddfed presennol. Sicrhau hyfywedd masnachol y goedwig yn y dyfodol, drwy ailstocio'r genhedlaeth nesaf o gnydau conwydd cymysg mewn lleoliadau priodol.
Mapiau
- Map 1: Gweledigaeth hirdymor
- Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo
- Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio
Sylwadau neu adborth
Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.