Sut y byddwn yn adfer natur yn ein cymunedau
Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Cynllun Corfforaethol hyd at 2030
Y De-ddwyrain
Yn y De-ddwyrain, bydd gweithio mewn partneriaeth yn allweddol er mwyn cyflawni'r uchelgais o atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth ar draws tirwedd ryfeddol Gwent. I gefnogi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwent Fwyaf, sy’n ymdrin â chyfnod y ddeng mlynedd, byddwn yn grymuso partneriaid i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â’r prif ffactorau y tu ôl i golli bioamrywiaeth, byddwn yn datblygu gwytnwch ecosystemau ar lefel leol ac ar raddfa fwy, a byddwn yn cynyddu amrywiaeth y rhywogaethau a'r cynefinoedd sydd i’w cael yma.
Gan adeiladu ar ein gwaith fel rhan o'r Bartneriaeth Tirwedd Lefelau Byw, byddwn hefyd yn buddsoddi yn y berthynas rydym wedi'i meithrin â'r gymuned leol a'n partneriaid yn y maes, ac yn gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu a gwella’r amgylchedd naturiol yn y lle arbennig hwn, ac ailsefydlu perthynas pobl ag ef.
Canol y De
Ar draws ardal Canol y De byddwn yn rheoli ein coetiroedd yn gynaliadwy gan roi ystyriaeth i’n cymunedau lleol. Mae traean o boblogaeth Cymru yn byw ger coetir trefol, sy’n lleoedd i archwilio a chysylltu â natur ac sydd â choed i amsugno sŵn a nwyon tŷ gwydr. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau’r budd mwyaf posibl o Ystad Goed Llywodraeth Cymru. Mewn ardaloedd fel Coetiroedd Gogledd Caerdydd, byddwn defnyddio dull ehangach o reoli’r Ystad a'n cynnig hamdden i sicrhau y gallwn wella gwytnwch ecosystemau a rheoli’r pwysau a ddaw yn sgil ymwelwyr, gan hefyd sicrhau buddion iechyd a lles niferus i gymunedau Caerdydd.
Bydd gwneud y mwyaf o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy bartneriaethau hefyd yn ffocws allweddol yn y rhan hon o Gymru. Byddwn yn defnyddio ein grym i gael pobl ynghyd ac yn manteisio ar dystiolaeth ein Datganiad Ardal i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio a chefnogi datblygiad Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn, megis partneriaeth tirwedd Pen-y-bont ar Ogwr, i sicrhau manteision amgylcheddol a chymdeithasol-economaidd niferus. Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei defnyddio i gysylltu, diogelu a gwella seilwaith gwyrdd ardaloedd trefol Canol y De.
Y De-orllewin
O Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig i'n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, bydd gwella cyflwr ein hardaloedd gwarchodedig i adfer byd natur yn ganolbwynt allweddol i'n timau yn y De-orllewin. Gan weithio gyda thirfeddianwyr a phartneriaid, byddwn ni'n mynd ar drywydd cyfleoedd i ddatblygu rhwydwaith ehangach o ecosystemau gwydn, gan ganolbwyntio ar laswelltiroedd lled-naturiol yn yr ardal. Bydd ein gwaith i adfer coetiroedd hynafol a'n mawndiroedd gwerthfawr ar Ystad Goed Llywodraeth Cymru yn parhau, a byddwn ni'n sicrhau bod tir rydyn ni'n ei lesio i eraill yn cael ei reoli'n gyfrifol ac mewn ffordd sensitif.
Y Canolbarth
Bydd gwaith i adfer natur yng Nghanolbarth Cymru yn canolbwyntio ar feithrin gwydnwch ecosystemau a gwella cynefinoedd ar draws safleoedd gwarchodedig a dynodedig. Gan weithio mewn partneriaeth â Glandŵr Cymru, byddwn ni'n diogelu planhigion dynodedig ac infertebratau o fewn Ardal Gadwraeth Arbennig Camlas Maldwyn. Byddwn ni hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a phartneriaid eraill i adolygu cyfrifoldebau rheoli diogelwch ymwelwyr yng Ngwlad y Rhaeadrau, gan sicrhau ar yr un pryd y caiff nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol eu gwarchod.
Y Gogledd-ddwyrain
Bydd ein gwaith gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn allweddol o ran sut byddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau i wella gallu cymunedau’r Gogledd-ddwyrain i oroesi’r heriau sy'n eu hwynebu. Bydd bwrdd gwasanaeth cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych yn gweithredu ar lefel strategol i ddylanwadu ar agendâu partneriaid ac eraill, gan ganolbwyntio ar un amcan llesiant, sef: lle mwy cyfartal, llai difreintiedig. Bydd y cynllun yn ceisio gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal drwy wella gallu cymunedau i wrthsefyll yr argyfyngau hinsawdd a natur a chostau byw cynyddol.
Bydd cynlluniau gweithredu sydd â’r nod o sicrhau mwy o fynediad cyfartal i gefn gwlad a'r arfordir a gwella bioamrywiaeth a chynefinoedd naturiol yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn rhoi budd pellach i iechyd a lles y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Gogledd-ddwyrain.
Ein partneriaethau llwyddiannus fydd meini sylfaen prosiectau sy'n canolbwyntio ar adfer natur, megis datblygu dalgylchoedd integredig yn Nyffryn Clwyd, lle bydd fforwm gwirfoddol a phartneriaid yn dod at ei gilydd i weithio ar reoli ucheldiroedd. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol, fel Grŵp Ymchwil a Mewnwelediad Gogledd Cymru i gynyddu dealltwriaeth o'r argyfwng natur a hinsawdd drwy ymgysylltu ar y cyd a rhannu gwybodaeth ac ymchwil i lywio ein penderfyniadau a gwella ein ffyrdd o weithio.
Y Gogledd-orllewin
Yn y Gogledd-orllewin, byddwn yn parhau â'n dull aml-thema - sef 'Llifo' - o ddatblygu prosiectau ym Môn a Dyffryn Conwy, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n gyffredin rhwng amcanion llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, blaenoriaethau’r dalgylch a Datganiad Ardal y Gogledd Orllewin. Byddwn ni'n adeiladu ar y cyfleoedd y mae'r dull hwn yn eu cynnig i'n galluogi i gydweithio'n fwy effeithiol, i feddwl yn arloesol, i wneud pethau'n wahanol, ac i ysgogi newid.
Byddwn ni'n parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r hyn y mae gwytnwch ecosystemau yn wyneb yr argyfwng natur yn ei olygu i'r ardal mewn gwirionedd, gan ddefnyddio'r mapiau cynefinoedd rydyn ni wedi eu datblygu fel sylfaen ar gyfer ymgysylltu â'n partneriaid wrth i ni geisio parhau â'n gwaith o adfer ecosystemau yn y Gogledd-orllewin. Lle bynnag y bo'n bosibl, byddwn yn cychwyn prosiectau aml-bartner ar draws yr ardal, gan ganolbwyntio ar leoliadau a fydd yn ategu ein dyheadau i gefnogi adferiad natur, tra hefyd yn cyflawni blaenoriaethau ein partneriaid, themâu ein Datganiad Ardal a blaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Y Môr
Drwy ein haelodaeth o Bartneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru (CaSP Cymru), byddwn yn gweithio gydag ystod o bartneriaid ar y blaenoriaethau sydd gennym yn gyffredin i wella gallu moroedd Cymru i wrthsefyll yr argyfyngau natur a hinsawdd. Bydd hyn yn cynnwys gwella dealltwriaeth pobl o sut mae gweithredu ar y cyd ac yn unigol yn effeithio ar iechyd y môr, a sut mae iechyd y môr yn effeithio ar ein bywydau ni drwy weithredu’r Strategaeth Llythrennedd Morol.
Byddwn ni'n gweithio ochr yn ochr â'n cymunedau arfordirol i feithrin y gallu i fynd i'r afael ag effeithiau'r argyfyngau hinsawdd a natur, a byddwn yn archwilio dulliau arloesol o gyllido a all gefnogi adferiad natur a datblygu gallu ein moroedd a'n harfordiroedd i wrthsefyll yr argyfyngau.
Byddwn ni'n adeiladu ar ein gwaith i wella cyflwr y rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig yng Nghymru, sy'n cefnogi cynefinoedd a bywyd gwyllt sydd ymhlith y mwyaf amrywiol yn Ewrop. Er mwyn lleihau pwysau'r argyfyngau hinsawdd a natur ar yr ardaloedd hyn, byddwn yn darparu rhaglen amrywiol o weithgaredd gan gynnwys gwaith i ddod o hyd i gychod segur, a chael gwared arnynt. Byddwn ni hefyd yn ceisio deall yn well pam fod rhai cynefinoedd arfordirol allweddol, megis banciau tywod, mewn cyflwr gwael. Bydd gwneud hynny'n ein galluogi i roi cynlluniau ar waith i reoli'r gwaith o adfer y nodweddion pwysig hyn. Byddwn ni hefyd yn datblygu cynlluniau bioddiogelwch cadarn ar gyfer safleoedd morol a fydd yn helpu i atal rhywogaethau anfrodorol ymledol o amgylch ein harfordiroedd rhag lledaenu ac yn cyflawni gwaith adfer morfeydd heli yng Nglanfa Rhymni yng Nghaerdydd.