Ffilm am ymweld â’n safleoedd

Gwyliwch y ffilm

Chwilio am ysbrydoliaeth i fynd allan i’r awyr agored?

Gwyliwch ein ffilm am ymweld â’n coetiroedd a’n gwarchodfeydd.

Darganfod lle i ymweld ag ef

Rydym yn gofalu am goetiroedd, coedwigoedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ym mhob rhan o Gymru.

Er mwyn cael gwybodaeth am ymweld â’n safleoedd lle ceir cyfleusterau hamdden:

Darganfod beth allwch ei wneud yn ein safleoedd

Mae ein cyfleusterau ymwelwyr yn cynnwys llwybrau cerdded wedi’u harwyddo, llwybrau beicio mynydd i feicwyr o bob lefel a llwybrau rhedeg.

Mae gan rai o’n safleoedd lwybrau a chyfleusterau hygyrch, ac maen nhw’n cynnig digonedd o bethau i’w gwneud i deuluoedd.

Er mwyn chwilio am weithgaredd ar safle sy’n agos atoch chi, ewch i’r map o leoedd i ymweld â hwy a defnyddiwch yr hidlydd “dod o hyd i weithgaredd”.

Neu cliciwch ar y dolenni isod i fynd i’r we-dudalen sy’n trafod pob gweithgaredd.

Tra byddwch yno

Parciwch yn gyfrifol a defnyddiwch y maes parcio – peidiwch â pharcio ar ymyl y ffordd neu rwystro llwybrau mynediad brys.

Ewch â’ch sbwriel adref – diogelwch fywyd gwyllt a’r amgylchedd drwy beidio â gadael unrhyw ôl o’ch ymweliad.

Cadwch gŵn dan reolaeth – bagiwch a biniwch faw ci mewn unrhyw fin gwastraff cyhoeddus neu ewch ag ef adref.

Darllenwch y Cod Cefn Gwlad i ddysgu sut y gallwch barchu, diogelu a mwynhau cefn gwlad.

Ymwelwch ag un o’r safleoedd sydd yn ein ffilm

Mae ein ffilm yn rhoi sylw i bump o’n safleoedd lle ceir cyfleusterau hamdden.

Cliciwch ar y dolenni isod i fynd i’r we-dudalen sy’n trafod pob un.

Mannau eraill yng Lleoedd i ymweld â hwy

Diweddarwyd ddiwethaf