Llwybrau Cenedlaethol a Llwybr Arfordir Cymru
Y Llwybrau Cenedlaethol yw llwybrau blaenllaw y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Maen nhw’n llwybrau hir trwy rai o olygfeydd godidocaf Cymru ac yn ffordd ddelfrydol o ddarganfod cefn gwlad Cymru.
Y tri Llwybr Cenedlaethol
Mae yna dri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru:
- Llwybr Arfordir Sir Benfro, a agorwyd yn 1970
- Llwybr Clawdd Offa, a agorwyd yn 1971
- Llwybr Glyndŵr, a agorwyd yn 2002
Beth ydy’r Llwybrau Cenedlaethol?
Mae’r Llwybrau Cenedlaethol wedi cael eu cymeradwyo gan y llywodraeth fel ‘llwybrau pellter hir’ o dan adran 51 Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Dyma hefyd y ddeddfwriaeth arloesol a sefydlodd y Parciau Cenedlaethol, yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a mapiau diffiniol o hawliau tramwy cyhoeddus.
Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys pwerau a dyletswyddau ar gyfer darparu unrhyw wybodaeth, llety, a hyd yn oed fferïau, a all fod yn angenrheidiol er mwyn i’r cyhoedd allu mwynhau’r llwybrau hyn. Yn ymarferol, mae llety’n cael ei ddarparu gan y sector preifat. Un o’n hamcanion allweddol ydy cynyddu’r effaith gadarnhaol y gall Llwybrau Cenedlaethol eu cael ar fusnesau lleol. Mae gwybodaeth yn cael ei darparu gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’n partneriaid mewn taflenni a theithlyfrau, ar-lein ac mewn mannau allweddol ar hyd y Llwybrau.
Mae pob Llwybr Cenedlaethol wedi’i frandio â nod masnach y fesen.
Rheoli Llwybrau Cenedlaethol Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r brif asiantaeth o ran rheoli Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru, ond mae cadw’r llwybrau ar eu gorau yn waith tîm. Rydyn ni’n darparu cyllid grant i awdurdodau lleol sydd â Llwybrau’n rhedeg trwy eu hardaloedd er mwyn eu helpu i wella a chynnal y Llwybrau i’r safon orau posibl. Mae’r cyllid hwn hefyd yn sicrhau bod yna Swyddog Llwybrau Cenedlaethol ar gyfer pob Llwybr i reoli’r gwaith o ddydd i ddydd, i weithredu fel pwynt cyswllt yn lleol, ac i godi proffil eu Llwybrau. Mae Llwybr Clawdd Offa, sy’n rhedeg trwy Gymru a Lloegr, hefyd yn cael ei ariannu’n rhannol gan Natural England.
Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn goruchwylio’r llwybrau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am lunio ac adolygu’r safonau ansawdd ar gyfer Llwybrau Cenedlaethol Cymru. Mae’r safonau hyn yn cwmpasu bron pob agwedd ar y ddarpariaeth, o’r math o gatiau, camfeydd ac arwynebau, ynghyd â’u cyflwr, a safon arwyddion, i ddarparu byrddau gwybodaeth a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni’n adolygu’r safonau hyn mewn partneriaeth â’n partneriaid yn yr awdurdod lleol.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol ar newidiadau arfaethedig i drywydd ein Llwybrau Cenedlaethol. Yn ogystal â hyn, rydyn ni’n edrych am ffyrdd i hyrwyddo buddion i fusnesau a chymunedau lleol, ac yn cydlynu gwaith monitro a gwaith ymchwil i wirio i ba raddau y mae’r Llwybrau’n parhau i fodloni’r safonau cytunedig ac anghenion pobl leol ac ymwelwyr.
Darganfod mwy am Lwybrau Cenedlaethol yng Nghymru
- Er mwyn cysylltu â’r Swyddogion Llwybrau neu i ddarganfod mwy am y teulu o Lwybrau Cenedlaethol neu Lwybrau Cenedlaethol unigol, ewch i www.nationaltrail.co.uk
- Er mwyn gweld mapiau o’r Llwybrau Cenedlaethol a llwybrau cylchol lleol sy’n cynnwys rhannau o’r Llwybrau Cenedlaethol, edrychwch ar ein mapiau Crwydro Cymru ar-lein Outdoor Wales online mapping
- Er mwyn cael y newyddion diweddaraf am Lwybrau Cenedlaethol, dilynwch ni ar Twitter neu Facebook (facebook.com/thenationaltrails)
Llwybrau Cenedlaethol ar-lein
Ceir gwefan benodol ar gyfer hyrwyddo'r Llwybrau Cenedlaethol sy'n cael ei rheoli gan Natural England mewn partneriaeth â CNC.
Rheoli Llwybr Arfordir Cymru
Cafodd Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir o hyd, ei agor yn swyddogol ym mis Mai 2012. Mae’n rhedeg o gyrion Caer i Gas-gwent ac, ynghyd â Llwybr Clawdd Offa, yn ffurfio llwybr dros 1000 o filltiroedd o hyd, yn fras o amgylch cyrion Cymru.
Sut y mae Llwybr Arfordir Cymru yn cael ei ariannu
Ar hyn o bryd, mae datblygu a chynnal Llwybr yr Arfordir yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol hynny y mae’r llwybr yn teithio trwy eu hardaloedd. Ar ben hyn, cafwyd cyllid o £3.9 miliwn o’r Undeb Ewropeaidd (ERDF) yn ystod y cam datblygu cychwynnol.
Rheoli’r Llwybr
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am y cydlynu, tra bo Llywodraeth Cymru yn dosbarthu grantiau ac yn monitro a marchnata’r Llwybr. Mae’r safonau yr un fath â rhai’r Llwybrau Cenedlaethol (gweler lawrlwythiadau o’r dogfennau cysylltiedig isod). Mae wedi ei arwyddo gan ei logo ‘cragen y ddraig’ nodedig.
Mae 16 o awdurdodau lleol a dau o’r Parciau Cenedlaethol yn rheoli’r Llwybr ar lawr gwlad.
Mwy o wybodaeth am Lwybr Arfordir Cymru
Mae gan Lwybr yr Arfordir ei wefan benodol ei hun yma, lle cewch chi ddigonedd o wybodaeth, yn cynnwys mwy am sut y cafodd ei sefydlu, a dogfennau ac adroddiadau strategol eraill.