Anghenion tystiolaeth
Dyma restr fer o'r hyn y credwn sydd ei angen arnom i asesu rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol – rhywbeth y credwn nad oes gennym ar hyn o bryd.
Os credwch y gallwch ein helpu gyda'r rhain, neu os gallwch ein cyfeirio at wybodaeth sy'n bodoli eisoes, cysylltwch â ni sonarr@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Lefel o flaenoriaeth | Y dystiolaeth sydd ei hangen |
---|---|
Uchaf | (Presennol) Maint, cyflwr ac amrywiaeth y cynefinoedd mewn ACA, AGA, SoDdGA a'r amgylchedd ehangach |
Dealltwriaeth o anghenion defnydd dŵr aml-sector | |
Dealltwriaeth o bwyntiau di-droi’n-ôl yng Nghymru | |
Deall y risgiau i iechyd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd (e.e. ansawdd dwr gwael, clefydau a gludir mewn bwyd, pathogenau a gludir gan fector) | |
Cymedrol | Gorlifdir gweithredol o fewn tir a reolir ar gyfer buddion eraill |
Manteision coetiroedd a choed-gwasanaethau ecosystem | |
Newidiadau o ran maint cynefinoedd ymylon arfordirol | |
Mapiau cysylltedd yn dangos rhwydweithiau cynefin, nodweddion llinellol a cherrig camu ar gyfer pob cynefin | |
Gwelliannau wrth ddatrys mapiau pridd er mwyn amcangyfrif stociau carbon y pridd yn gywir | |
Data ynghylch stoc pysgodfeydd môr 12 milltir forol | |
Dulliau o fesur llygredd o ffynonellau amaethyddol fel amonia | |
Effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd ar ryngweithiadau'r pridd - hinsawdd - cnydau, ynghyd â’r effeithiau dilynol ar gynhyrchu cnydau a da byw | |
Gwybodaeth feintiol am sut mae INNS yn effeithio'n andwyol ar bobl | |
Deall ymatebion ac adferiad traethlin in sgil effeithio'n andwyol at bobl | |
Gwell data ar dosrannu tarddiad llygredd gwasgaredig i'r aer, dŵr a thir | |
Deall effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ddŵr a bregusrwydd ecosystemau, cynefinoedd sy'n dibynnu ar ddwr a rhywogaethau | |
Isaf | Tystiolaeth ymddygiadol a chymdeithasol ar gamau gweithredu ac agweddau'r cyhoedd/ rheolwr y tir |
Manteision coetiroedd-economaidd | |
Capasiti tir yng Nghymru i ddefnyddio gwastraff er mwyn ei ddefnyddio'n fuddiol | |
Cyfraddau dal a storio carbon mewn gwahanol rywogaethau o goed | |
Gwybodaeth am gyflwr ar safleoedd geoamrywiaeth anstatudol (RIGS) | |
Data cyson ledled Cymru ar leoliad a chyflwr Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SPGN) | |
Cyflwr presennol a thueddiadau priddoedd yng Nghymru a'r graddau y meant yn agored i niwed gan y defnydd o dir a'u gallu i'w wrthsefyll, rheoli tir, a hinsawdd a phatrymau tywydd cyfnewidiol | |
Data mater gronynnol cydraniad uwch ar gyfer mapio cyfleoedd mewn ardaloedd trefol | |
Gwella dealltwriaeth o gydnerthedd ecosystemau (gan gynnwys deall y cysylltiadau rhwng cydnerthedd ecosystemau a'r buddion y maent yn eu darparu) | |
Gwella ein dealltwriaeth o'r modd y mae'r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar grynodiadau NOx | |
Gwybodaeth am ddosbarthiad plau chlefydau | |
Asesiad yn seiliedig ar le o newidiadau posibl, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, i 'gyfanswm yr effaith ar iechyd ' (meddyliol, corfforol a lles) sy'n deillio o opsiynau rheoli tir yn y dyfodol | |
Maint, oed a chyflwr coed stryd mewn ardaloedd trefol | |
Map llonyddwch Cymru | |
Ffurfiant y pridd a chyfraddau colli | |
Dealltwriaeth o ba mor agored i niwed a gwydn yw ein hymylon arfordirol o ran ffactorau newid yn yr hinsawdd e.e. mwy o stormydd a chynnydd yn lefel y môr newid yn y glawiad a thymheredd |
Darllenwch fwy o fanylion y tu ôl i'r rhestr o anghenion tystiolaeth (saesneg in unig)
Archwilio mwy
Diweddarwyd ddiwethaf