SoNaRR2020: Gweithredu dros bobl a'r blaned
Mae SoNaRR2020 yn asesiad o'r graddau y mae Cymru'n rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Daw'r adroddiad i'r casgliad nad yw Cymru'n cyflawni'r pedwar nod tymor hir eto. Nid yw hyn yn syndod gan na ellir cyflawni datblygu cynaliadwy dros nos, ond mae Cymru wedi rhoi'r cyfreithiau a'r prosesau ar waith i gyflawni ei nodau llesiant ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Nid yw Cymru'n cynnal stociau o adnoddau naturiol, fel y disgrifir yn nod 1. Rhagwelir y bydd rhywogaethau eiconig fel y gylfinir yn diflannu yng Nghymru o fewn ychydig ddegawdau.
Mae cyflwr adnoddau naturiol yn cael effaith ar wydnwch ein hecosystemau. Mae nod 2 yn canfod bod gwydnwch yn gostwng yn unol â thueddiadau byd-eang. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn rhagweld y bydd miliwn o'r wyth miliwn o rywogaethau ar y blaned yn diflannu o fewn 20 mlynedd.
Heb lefelau sefydlog o adnoddau naturiol ac ecosystemau gwydn, bydd nod 3 yn parhau i ddangos nad yw pobl ledled Cymru yn rhydd o beryglon amgylcheddol ac nad oes ganddynt i gyd leoedd iach i fyw ynddynt.
Ni ellir cyflawni economi atgynhyrchiol, fel yn nod 4, tra bo gweithgarwch economaidd yn digwydd ar draul yr amgylchedd.
Nod 1: Diogelu a gwella stociau adnoddau naturiol
Nod 2: Ecosystemau gwydn yn erbyn newid disgwyliedig ac annisgwyl
Nod 3: Lleoedd iach ar gyfer pobl yng Nghymru, wedi'u hamddiffyn rhag peryglon amgylcheddol
Nod 4: Economi atgynhyrchiol
Gyda'r model datblygu economaidd presennol, daeth asesiad byd-eang IPBES yn 2019 i'r casgliad hwn:
'Rydym yn erydu sylfeini ein heconomïau, bywoliaeth, diogelwch bwyd, iechyd ac ansawdd bywyd yn fyd-eang.'
Model economaidd newydd
Yn lle'r graff safonol o gynnyrch mewnwladol crynswth (CMC), sy'n dangos potensial sy'n ymddangos yn ddiderfyn i gynyddu'r broses o gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau, datblygodd Oxfam fodel economeg Toesen.
Mae ymyl allanol y model Toesen yn dangos y terfynau ffisegol i weithrediad systemau byd-eang. Ar ein planed mae terfynau ffisegol pendant, fel y dywedodd yr economegydd Kenneth Boulding, "mae unrhyw un sy'n credu y gall twf esbonyddol fynd ymlaen am byth mewn byd cyfyngedig naill ai'n wallgof neu'n economegydd."
Mae Oxfam wedi ychwanegu data o adroddiadau Llesiant Cymru Llywodraeth Cymru i ddiweddaru eu hadroddiad Toesen Cymru. Mae'r doesen yn dangos methiant i aros o fewn terfynau'r hyn sy'n gynaliadwy, a ddangosir gan y doesen werdd (Ffigur 1). Nid yw Cymru'n cadw o fewn ein cyfran o'r amgylchedd ar y Ddaear, ar du allan y doesen, nac yn cyflawni ei nodau economaidd-gymdeithasol, ar yr ymyl mewnol:
Ffigur 1: Canlyniadau Toesen Economaidd Cymru 2020 Ffynhonnell: Oxfam 2020
Yr opsiynau ar gyfer sicrhau digonedd o fewn capasiti ffisegol y blaned yw'r gofod y byddai economi atgynhyrchiol a chylchol yn ei archwilio fel y nodir yn nod 4.
Yr angen am ddull integredig
Rhaid i ffyrdd o fyw a'r ffordd y mae nwyddau'n cael eu cynhyrchu a'u defnyddio newid er mwyn cyflawni SMNR. Mae angen i ddefnydd cyffredinol Cymru o adnoddau ostwng os ydym am gyflawni'r amcan 'byw ar un blaned'. Fel y dywed yr IPBES, yr hyn sydd ei angen yw:
"newid trawsnewidiol, ad-drefnu sylfaenol ar draws y system gyfan ar draws ffactorau technolegol, economaidd a chymdeithasol, gan gynnwys paradeimau, nodau a gwerthoedd."
Mae gan Gymru'r fframwaith ar waith, ar ffurf Deddfau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Amgylchedd, i gyflawni newid o'r fath a throsglwyddo i ddyfodol cynaliadwy.
Er mwyn archwilio sut olwg fyddai ar 'fyw ar un blaned' neu 'fywyd y tu mewn i'r Doesen', mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â'r Gynghrair Economi Llesiant, rhwydwaith sy'n gweithio tuag at economi llesiant, gan ddarparu lles dynol ac ecolegol. Drwy gydnabod bod lles pobl a'r blaned wedi'i gydblethu, rhaid i'r dull integredig hwn fod wrth wraidd datrys argyfyngau natur a hinsawdd.
Pobl: Lefelau cyfrifol o gynhyrchu a defnyddio
Y tu hwnt i'r enghreifftiau hyn o newidiadau y gellid eu gwneud i dair system economaidd-gymdeithasol graidd, mae angen mwy cyffredinol i leihau lefelau cynhyrchu a defnyddio a gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n lleihau lefelau llesiant.
Ni all defnyddio model economeg Toesen, gan leihau'r gormodedd y tu hwnt i'r ymyl allanol, ddod ar draul crebachu ymyl mewnol y doesen a chreu gwasgfa ar les cymdeithasol.
Ffigur 2: Ffigur sy’n defnyddio’r model toesen sy’n dangos chwe nod llesiant Cymru o fewn yr isafswm cymdeithasol a nod gwytnwch Cymru fel yr hyn sy’n rhagori ar hyn o amgylch y tu allan.
Y Blaned: Lle i fyd natur
Mae nodi sut y gall Cymru fynd i'r afael ag achosion sylfaenol dirywiad amgylcheddol yn dal i adael angen am weithredu ar lawr gwlad i helpu i adfer a gwella ein hecosystemau eang.
Gan fynd i'r afael â'r heriau yn y systemau ehangach hynny, gellir ystyried bellach bod y pwysau y mae'r amgylchedd naturiol yn eu hwynebu o ran darnio, gorddefnyddio a llygredd, yn ogystal ag ymaddasu i'r hinsawdd, yn nodweddion hanfodol o ailgynllunio'r ffordd yr ydym yn trefnu ein cymdeithas a'n heconomi.
Yn y gorffennol, rydym wedi adeiladu fframwaith rheoleiddio mewn ymateb i'r cyfaddawdau amgylcheddol a achosir gan dwf a defnydd anghynaliadwy o adnoddau.
Yn y dyfodol, gallwn gynllunio mewn mecanweithiau rheoleiddio sy'n sicrhau bod lle i fioamrywiaeth yn cael ei gynnwys mewn economi atgynhyrchiol. Er mwyn galluogi hyn, efallai y bydd angen amrywiaeth o dargedau neu fesurau arnom o hyd i helpu i gyfleu'r buddsoddiad a'r adnoddau sydd eu hangen.
Un enghraifft o'r fath yw awgrym y Cenhedloedd Unedig y dylai gwledydd neilltuo 30% o'u harwynebedd ar gyfer natur erbyn 2030. Mae'r DU wedi ymrwymo i ddiogelu 30% o'i thir ar gyfer natur erbyn 2030, sy'n golygu 400,000 hectar ychwanegol, ardal chwarter maint Cymru.
Dylai mesurau fel hyn gael eu cynllunio mewn dulliau sy'n edrych ar systemau yn y dyfodol, ac ni ddylid eu hystyried yn amcanion annibynnol. Mae hwn yn gyfle i ddefnyddio egwyddorion SMNR i ddilyn y nodau llesiant.
Yn hytrach na chael eu labelu'n 'ardaloedd gwarchodedig', wedi'u diogelu rhag pobl, efallai y gellid ailfframio'r ardaloedd estynedig hyn fel 'ardaloedd a hyrwyddir', mannau lle caiff bioamrywiaeth ei hyrwyddo a lle caiff gweithgarwch dynol ei reoleiddio yn unol â hynny. (Buscher B a Fletcher R, 2020)
Byddai hyn yn ei gwneud yn glir na ellir diogelu natur drwy ei gwahanu oddi wrth gymdeithas, ond bod angen i bobl ymgysylltu'n gadarnhaol â'u hamgylchedd.
Fel y dywedodd cyn-bennaeth Gwarchodaeth Natur yr Unol Daleithiau byddai'n:
dangos sut mae ffawd natur a phobl wedi'u cydblethu'n ddwfn ac yna'n cynnig strategaethau newydd ar gyfer hybu iechyd a ffyniant y ddau.
Kareiva P, Lalasz R, Marvier M. Cadwraeth yn yr Anthroposen: Y Tu Hwnt i Unigrwydd a Bregusrwydd.
Bydd cyflawni'r nodau llesiant a sicrhau datblygu cynaliadwy, a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn dibynnu ar lwyddiant Cymru wrth gyflawni systemau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol iach sy’n ffynnu.
Nid yw edrych ar gymdeithas a'r economi fel pe baent ar wahân i'r amgylchedd wedi gweithio. Mae wedi arwain at bobl yng Nghymru yn dilyn ffyrdd o fyw na all cyfran deg Cymru o adnoddau'r Ddaear eu cynnal.
Ar y llaw arall, mae rheoli'r amgylchedd fel pe bai ar wahân i gymdeithas wedi golygu bod y ddynoliaeth wedi cyfyngu ei hun i ddelio ag effeithiau amgylcheddol uniongyrchol ffyrdd o fyw yng Nghymru. Nid yw camau mwy cydgysylltiedig wedi'u cymryd yn y maes cymdeithasol i fynd i'r afael â gwraidd y problemau, gyda'r problemau'n cael eu hystyried yn rhai amgylcheddol yn unig.
Astudiaeth achos
Dod â'r cyfan at ei gilydd
Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd - logo gan Gyngor Caerdydd yn dangos y saith ardal â ffocws o fewn ei strategaeth Caerdydd Un Blaned ©
Fel enghraifft o ddull integredig o ymdrin â'r materion hyn, mae Cyngor Caerdydd yn datblygu'r strategaeth Caerdydd Un Blaned i wneud Caerdydd yn fwy cynaliadwy a dod yn ddinas garbon niwtral erbyn 2030. Mae'r strategaeth yn edrych ar 7 maes ffocws gwahanol:
- Ynni: Lleihau'r defnydd o ynni yn gyffredinol, a'n dibyniaeth ar danwyddau ffosil yn benodol
- Yr Amgylchedd Adeiledig: Lleihau'r galw am ynni gwres a thrydan yn adeiladau'r ddinas hyd at 60%
- Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth: Ailflaenoriaethu seilwaith gwyrdd y ddinas i gynyddu a chysylltu mannau gwyrdd
- Trafnidiaeth: Cynyddu'r defnydd o deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gyflym; cyflymu'r defnydd o gerbydau 'glân'
- Gwastraff: Hybu cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff i chwarae ein rhan i wneud Cymru'n genedl Ddiwastraff erbyn 2050
- Bwyd: Lleihau'r effaith y mae ein dewisiadau o ran bwyd yn ei chael ar yr amgylchedd
- Dŵr: Paratoi ar gyfer digwyddiadau tywydd eithafol fel llifogydd
Gweledigaeth ar gyfer 2050
Mae CNC wedi cynhyrchu SoNaRR2020 fel sylfaen dystiolaeth i sefydliadau ledled Cymru ddefnyddio yn eu proses o wneud penderfyniadau.
Er enghraifft, rydym yn disgwyl i SoNaRR2020 fod o ddefnydd i Lywodraeth Cymru wrth lywio'r Polisi Adnoddau Naturiol ac i awdurdodau lleol wrth iddynt ysgrifennu eu Cynlluniau Datblygu Lleol. Gobeithiwn y bydd o ddefnydd i sefydliadau eraill ledled Cymru sy'n gweithio i gyflawni'r nodau llesiant.
Bydd CNC ei hun yn defnyddio'r dystiolaeth yn SoNaRR2020 i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer 2050 gan ymateb i'r pwysau amgylcheddol cynyddol a nodir yn ein hadroddiad.
Byddwn yn ysgogi sgwrs genedlaethol i helpu i ddatblygu agenda hirdymor ar gyfer rheoli adnoddau naturiol. Y canlyniad fydd gweledigaeth ar y cyd, y gall pawb yng Nghymru helpu i'w chyflawni.
Mae CNC mewn sefyllfa unigryw i arwain y sgwrs genedlaethol hon, i gydweithio ag eraill ac i helpu i wireddu gweledigaeth a rennir. Bydd y Weledigaeth ar gyfer 2050 yn canolbwyntio ar sut mae angen i ymddygiadau ac arferion presennol sy'n effeithio ar adnoddau naturiol newid er mwyn dod yn gynaliadwy.
Bydd y sgwrs am y weledigaeth yr un mor bwysig â'r datganiad terfynol ei hun. Bydd CNC yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau o wahanol sectorau a lleoedd ledled Cymru. Rydym am alluogi partneriaid i ddatblygu eu cynlluniau hirdymor eu hunain i gyflawni gweledigaeth ar y cyd ar gyfer Cymru.
Gyda'i gilydd, bydd y cynlluniau unigol hyn yn helpu Cymru i gyflawni'r Weledigaeth a rennir ar gyfer 2050. Bydd CNC yn chwarae rôl arweiniol wrth gydlynu, datblygu a gwireddu'r weledigaeth hon.
Darllenwch nesaf
SoNaRR2020: Y tu hwnt i gynaliadwyedd
SoNaRR2020: Trawsnewid y system fwyd
SoNaRR2020: Trawsnewid y system ynni
SoNaRR2020: Trawsnewid y system drafnidiaeth
Darllenwch mwy
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig