Cynllun Lwfansau Tirlenwi yng Nghymru
Gall tirlenwi gwastraff dinesig pydradwy, er enghraifft, bwyd, papur, a gwastraff gardd, gyfrannu at broblemau amgylcheddol fel cynhyrchu trwytholch - hylif sy'n draenio oddi ar safle tirlenwi.
Mae hefyd yn rhyddhau methan, sef nwy tŷ gwydr cryf, a all gyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
Ein rôl
Mae Llywodraeth Cymru yn gosod cyfyngiadau ar faint o wastraff trefol pydradwy gaiff awdurdodau lleol yng Nghymru ei dirlenwi.
Cyfoeth Naturiol Cymru yw awdurdod monitro'r cynllun, ac mae'n ddyletswydd arno i adrodd ar berfformiad mewn perthynas â lwfansau blynyddol pob awdurdod lleol a'r cyfanswm ar gyfer Cymru gyfan.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am gysoni'r lwfansau sydd ar gael i bob awdurdod lleol i gyd-fynd â faint o wastraff trefol pydradwy a dirlenwyd ganddynt.
Gwybodaeth am Lwfansau Tirlenwi y Cynllun
Daeth rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 i rym yng Nghymru ar 1 Hydref 2004, er mwyn lleihau faint o wastraff trefol pydradwy sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.
Mae’r cynllun lwfansau tirlenwi’n mynnu bod awdurdodau gwaredu gwastraff Cymru’n cyfyngu cyfanswm y gwastraff dinesig pydradwy a yrrant i’w gladdu.
Rhaid i’r symiau a anfonir i safleoedd tirlenwi fod yn is na’r lwfans a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn osgoi bod yn agored i gosb.
Canlyniadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi
2019-20 yw blwyddyn olaf y cynllun lle dyrannwyd lwfansau tirlenwi i Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae Cymru wedi lleihau faint o wastraff trefol pydradwy (gwastraff bwyd, papur a gerddi) sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi gan 91% ers blwyddyn lawn gyntaf y cynllun yn 2005/06.
Gallwch weld canlyniadau'r blynyddoedd blaenorol yn Cofrestr Cynllun Lwfansau Tirlenwi (CLT) Cymru o 2004 ymlaen.
Crynodeb o ganlyniadau 2019/20
At ei gilydd, anfonodd awdurdodau lleol Cymru 73,294 o dunelli o wastraff trefol pydradwy i safleoedd tirlenwi yn 2019/20, o gymharu â lwfans o 330,000 o dunelli ar gyfer Cymru gyfan. Mae hyn 78% yn llai na'r lwfans.
Perfformiadau awdurdodau lleol unigol
Blaenau Gwent, Caerdydd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Tor-faen, Bro Morgannwg a Wrecsam lai na 10% o'u lwfansau, tra bod Abertawe wedi defnyddio dros 80% o'i lwfans.
Cyfyngiadau data
Nodwyd mater yn ymwneud ag ansawdd data gyda'r fformiwla ar gyfer amcangyfrif y gyfran o wastraff pydradwy mewn safleoedd tirlenwi a gaiff eu dirlenwi. Ni chafodd y fformiwla cydbwysedd torfol ei hadolygu yn ystod blwyddyn 2019-20.