Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd Cylch 3 (2021 i 2027): Adolygiad cynnydd y rhaglen o fesurau dros dro
Cyflwyniad a throsolwg o’r rhaglen o fesurau
Diweddarwyd a chyhoeddwyd y Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn 2022. Wrth i gynnydd gael ei wneud gyda’u gweithredu, mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r adolygiad o gynnydd y rhaglen o fesurau rhwng 21 Rhagfyr 2021 a 31 Mawrth 2025. Nid yw’r adolygiad hwn yn cynnwys gwerthusiad manwl o amcanion ar raddfa’r corff dŵr gan fod hyn yn cael ei wneud bob chwe blynedd, fel sy’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn cael ei adrodd nesaf yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd wedi’u diweddaru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2027.
O dan Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, mae rheoliad 34(4) yn gosod rhwymedigaeth ar Cyfoeth Naturiol Cymru i baratoi adroddiad interim yn disgrifio cynnydd wrth weithredu’r rhaglen arfaethedig o fesurau a fydd ar gael i’r cyhoedd.
“(4) Rhaid i’r asiantaeth briodol, o fewn tair blynedd i gyhoeddi cynllun rheoli basn afon wedi’i ddiweddaru o dan reoliad 31(5):
(a) cynhyrchu adroddiad interim yn disgrifio cynnydd wrth weithredu pob rhaglen o fesurau a gynlluniwyd;
(b) cyhoeddi’r adroddiad hwnnw yn y modd y mae’r asiantaeth briodol yn ei ystyried yn briodol.”
Cynhaliwyd yr adolygiad hwn ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer ardaloedd basnau afonydd trawsffiniol afon Dyfrdwy ac afon Hafren, ac ar gyfer Cymru, gyda mewnbwn gan grŵp gorchwyl a gorffen cynllunio basnau afonydd Fforwm Rheoli Dŵr Cymru. Mae’n cynnwys y penawdau a’r ffocws ar raddfa’r ardal basn afon. Mae ardaloedd basnau afon Dyfrdwy ac afonydd Gorllewin Cymru wedi’u cynnwys, yn ogystal â’r rhan o’r afon Hafren sydd yng Nghymru. Mae’n cynnwys argymhellion i gefnogi’r gwaith parhaus o gyflawni, olrhain ac adrodd ar y cynlluniau rheoli basnau afonydd.
Ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, bydd hefyd angen ystyried argymhelliad Adroddiad Terfynol y Comisiwn Dŵr Annibynnol a bydd hefyd angen ystyried canlyniadau adolygiad barnwrol Costa Beck Uwch. At ddiben yr adroddiad hwn, nid yw’r newidiadau a oedd yn ofynnol o’r rhain wedi’u cymhwyso i’r adolygiad penodol hwn oherwydd amseriad eu cyhoeddi.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rheoli basnau afonydd cyfredol ar gael yma.
Mathau o fesurau
Mae’r rhaglen o fesurau yn rhan allweddol o’r cynlluniau rheoli basnau afonydd i gyflawni’r amcanion statudol:
- Atal dirywiad: ni chaniateir i gyrff dŵr ddirywio.
- Anelu at gyflawni statws / potensial cyffredinol da ar gyfer dyfroedd wyneb a dyfroedd daear: gweithredu mesurau i gyflawni statws cyffredinol da os ydynt yn dechnegol ymarferol a heb fod yn anghymesurol o gostus.
- Cyflawni’r amcanion ar gyfer ardaloedd gwarchodedig: cyflawni’r safonau a bennir gan y ddeddfwriaeth berthnasol y cawsant eu dynodi oddi tani. Ar gyfer safleoedd Ewropeaidd sy’n ddibynnol ar ddŵr, byddwn yn parhau i weithio tuag at gyflawni amcanion cadwraeth. Bydd cyflawni statws da erbyn 2027 yn cyfrannu at gyflawni’r amcanion hynny.
Er mwyn gwneud hyn, mae angen cyfuniadau o fesurau a gyflwynir ar draws llawer o sectorau, sefydliadau, prosiectau partneriaeth yn ogystal â chan y cyhoedd yn gyffredinol – mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae. Mae’r mesurau’n cynnwys y canlynol:
- Mesurau cenedlaethol. Mae’r rhain fel arfer yn berthnasol i Gymru gyfan, Cymru a Lloegr, neu’r Deyrnas Unedig. Yn gyffredinol, mae’r rhain yn pennu’r dull o weithredu o safbwynt deddfwriaeth, polisi neu strategaeth, a’r gefnogaeth gysylltiedig, neu maent yn hanfodol bwysig i waith cyflenwi lleol a chanlyniadau amgylcheddol. Maent hefyd yn cynnwys rhai o’r prif raglenni cyflenwi. Er enghraifft, gwaharddiad cenedlaethol ar ddefnyddio cemegyn penodol, neu strategaeth genedlaethol ar gyfer blaenoriaethu ac ariannu gwaith adfer mwyngloddiau segur. Mae mesurau cenedlaethol ar gael yma ar Arsylwi Dyfroedd Cymru.
- Mesurau dalgylchoedd cyfle. Gyda ffocws lleol, mae’r rhain yn gamau gweithredu sydd wedi’u nodi’n lleol, ac yn ofynnol i gyflawni canlyniadau Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, manteision ehangach i’r amgylchedd dŵr a chyfrannu at nodau llesiant. Dyma’r mesurau dalgylchoedd cyfle ac maent yn ffurfio maes gwaith sylweddol ar gyfer y cynlluniau rheoli basnau afonydd cyfredol, ac maent hefyd, gyda’i gilydd, yn un o’r mesurau cenedlaethol. Mae enghreifftiau o gamau gweithredu lleol yn cynnwys datblygu argymhellion a nodir mewn cynlluniau adfer afonydd, gwelliannau i lwybrau pysgod o dan gynlluniau rheoli asedau cwmnïau dŵr a sicrhau cydymffurfedd rheoleiddiol o fewn y sector amaethyddol. Mae mesurau dalgylchoedd cyfle ar gael yma, ar Arsylwi Dyfroedd Cymru.
- Mesurau lleol, sy'n cynnwys:
- Camau gweithredu lleol (ymrwymedig) – Dyma’r camau gweithredu hynny sy’n anelu at gyflawni amcanion Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017, manteision ehangach i ddŵr ac/neu i bobl os oes sicrwydd ynghylch cyllid, adnoddau, partneriaethau ac/neu amserlenni.
- Nodau’r dyfodol (gweithredu lleol posibl) – Mae nodau’r dyfodol yn fesurau mwy uchelgeisiol a hyblyg lle mae llai o sicrwydd ynghylch eu gweithredu. Mae cynnydd yn erbyn y mesurau dyheadol hyn yn dibynnu ar bethau fel sicrhau cyllid digonol a datblygu’r partneriaethau cywir, a gallant newid pe bai rhagor o dystiolaeth neu wybodaeth yn dod i’r amlwg.
Mae llawer o’r mesurau, yn genedlaethol ac yn lleol, yn cael eu cyflawni drwy’r prif raglenni cyflenwi gan gynnwys: Strategaeth Ddŵr i Gymru gan Lywodraeth Cymru; rhaglen Cyfoeth Naturiol Cymru a arweinir gan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr; dulliau graddfa dalgylch drwy adfer afonydd a chyfleoedd pysgodfeydd cynaliadwy; ardaloedd gwarchodedig, gan gynnwys prosiect maetholion yr ardal cadwraeth arbennig; rheoli risg llifogydd a risgiau arfordirol; y rhaglen buddsoddi yn y diwydiant dŵr, gan gynnwys map trywydd gorlifoedd storm; mesurau cynaliadwyedd adnoddau dŵr; rheoli tir yn gynaliadwy – amaethyddiaeth rheoli tir yn gynaliadwy – coetir a choedwigaeth; Cronfa Gyfalaf Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru a’r dalgylchoedd cyfle.
Mabwysiedir dull o’r tarddle i’r môr er mwyn anelu at integreiddio’r rhaglenni hyn a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd.
Crynodeb o’r cynnydd hyd at fis Ebrill 2025
Ar y cyfan, ar gyfer Cymru, Ardal Basn Afon Dyfrdwy, Ardal Basnau Afonydd Gorllewin Cymru a rhan Cymru o Ardal Basn Afon Hafren, statws y rhaglen o fesurau yw gwyrdd. Mae Adran 3 yn darparu gwybodaeth bellach ar ardaloedd basnau afonydd. Er bod y cynlluniau rheoli basnau afonydd yn parhau i gyflawni a chefnogi gwarchodaeth ac adferiad ein dyfroedd, nid yw hynny’n golygu bod y rhaglen heb ei heriau.
Mae un o’r sefyllfaoedd canlynol wedi’i neilltuo i bob mesur:
- Cwblhawyd – mae’r mesur wedi’i gyflawni.
- Gwyrdd – yn parhau, mae gwaith i gyflawni’r camau gweithredu gofynnol wedi cychwyn.
- Oren – mae gwaith i gyflawni’r camau gofynnol wedi cychwyn, ond y mae wedi cael ei ohirio, neu mae’r cynnydd wedi methu â chyrraedd yr hyn a ddisgwyliwyd.
- Coch – mae’r gwaith i gyflawni’r camau gofynnol wedi cael ei oedi; mae’n annhebygol y bydd y terfynau amser gofynnol yn cael eu cyflawni oni bai bod camau cynlluniedig yn cael eu cymryd.
- Heb ddechrau – nid yw’r gwaith wedi dechrau eto ac nid yw’r dyddiad cyflawni wedi mynd heibio.
- Wedi’i atal – mae’r gwaith i gyflawni’r camau gofynnol wedi’i atal am resymau penodol.
- Adolygu – mae angen adolygu geiriad y mesur i sicrhau ei fod yn ymwneud â’r camau gweithredu y mae eu hangen.
- Wedi cau – nid oes angen mesur mwyach gan fod y camau’n cael eu cymryd drwy fesurau eraill.
- Arall – ar gyfer mesurau trawsffiniol cyfeiriwch at y sefyllfaoedd adrodd a neilltuwyd i Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae’r costau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r cynlluniau rheoli basnau afonydd wedi’u nodi yn y Crynodebau o’r cynlluniau rheoli basnau afonydd. Yn ogystal â hyn, ar gyfer y cylch hwn, mae Cronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfraniad sylweddol ychwanegol wrth alluogi a chyflawni prosiectau. Mae hyn yn cynnwys cymorth i brosiectau sy’n gysylltiedig â dŵr, gan ganolbwyntio ar wella ansawdd dŵr a bioamrywiaeth o fewn systemau afonydd. Ers 2020, darparwyd £44.9 miliwn ar gyfer Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o hyn.
Rhaglen o fesurau
Mae’r mesurau cenedlaethol, gan gynnwys cynnydd mesurau unigol, a chrynodeb o deitlau’r meysydd a disgrifiadau cysylltiedig ar gyfer y data hyn, i’w gweld ar Arsylwi Dyfroedd Cymru.
Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o statws cyffredinol y rhain. Mae hyn yn cynnwys cynnydd o fewn statws lle mae mesurau wedi’u cofnodi fel rhai parhaus, lle mae angen eu cau neu lle mae angen adolygu’r mesur. At ei gilydd, mae’r statws yn wyrdd, gyda 78 o’r 85 mesur yn meddu ar statws gwyrdd.
Tabl 1 – Crynodeb o gynnydd y mesurau a’u statws ar draws y mesurau cenedlaethol
Cynnydd |
Statws gwyrdd |
Statws oren |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
Wedi cau |
10 |
N/A |
10 |
Cwblhawyd |
7 |
N/A |
7 |
Wedi’i atal |
N/A |
2 |
2 |
Yn parhau |
50 |
4 |
54 |
Adolygu |
11 |
1 |
12 |
Cyfanswm |
78 |
7 |
85 |
Mae Tabl 2 yn rhoi dadansoddiad pellach o’r mesurau cenedlaethol, gyda’r mecanweithiau cyflawni allweddol o fewn y cynlluniau rheoli basnau afonydd, ac yn dangos lle mae’r mesurau hynny’n cynnwys camau gweithredu penodol i gyrff dŵr. Mae hyn yn helpu i wahaniaethu rhwng mesurau sydd â chamau gweithredu lleol, er enghraifft, camau gweithredu adfer afonydd lleol drwy’r Rhaglen Adfer Afonydd (mesur cenedlaethol) mewn cyferbyniad â mesurau eraill sy’n galluogi ac yn gwarchod yn fwy drwy, er enghraifft, rheoleiddio, ymgyrchoedd a chyngor. Wrth adolygu’r data hyn, rydym wedi cynnwys y lefel ychwanegol hon o fanylder sy’n galluogi ffordd fwy effeithiol o olrhain cynnydd ar gyfer y mesurau hynny sydd â chamau mesuradwy ar raddfa corff dŵr, a’r rhai sydd â chwmpas llawer ehangach. Mae’r ddau yn hanfodol i warchod ac adfer ein dalgylchoedd ar y cyd. Mae gwaith yn parhau i wella sut mae’r lefel hon o fanylder yn cael ei darparu. Os ydynt ar gael ar hyn o bryd, mae dolenni ychwanegol wedi’u cynnwys yn y data ar Arsylwi Dyfroedd Cymru; er enghraifft, mae nifer o fesurau lleol bellach ar gael ar y Porth Adfer Afonydd.
Tabl 2 – Crynodeb o’r mecanwaith cyflawni mesurau cenedlaethol a chamau gweithredu lleol cysylltiedig
Mecanwaith Cyflawni Cynllun Rheoli Basn Afon | Heb fesurau lleol | Gall canlyniad yr ymchwiliad arwain at gamau gweithredu penodol |
Gyda mesurau lleol |
Cyfanswm |
---|---|---|---|---|
Cymhellion ariannol (gan gynnwys cymhellion amaethyddol a choedwigaeth) | 2 | N/A | N/A | 2 |
Ymgyrch neu gynllun addysg neu gyngor cyffredinol | 18 | N/A | N/A | 18 |
Ymchwiliadau | N/A | 5 | N/A | 5 |
Partneriaethau (yn cynnwys Fforwm Rheoli Dŵr Cymru) | 2 | N/A | 1 | 3 |
Rheoliad | 16 | N/A | 1 | 17 |
Prosiectau ymchwil neu arddangos neu gynlluniau peilot | 5 | N/A | N/A | 5 |
Cynlluniau strategol | 15 | 1 | 10 | 26 |
Buddsoddiad cwmni dŵr (Cynllun Rheoli Asedau) | N/A | 5 | 4 | 9 |
Cyfanswm | 58 | 11 | 16 | 85 |
Mae’r mesurau dalgylchoedd cyfle a nodir ar gyfer y 10 dalgylch cyfle yn cynrychioli’r gyfres orau o gyfleoedd ar gyfer mynd i’r afael ag amcanion Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a chanlyniadau ehangach rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy a llesiant. Mae’r dull hwn wedi galluogi adnoddau staff i ganolbwyntio ar draws swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru i gynorthwyo partneriaid i ddarparu atebion rheoli dalgylchoedd integredig.
Mae Tabl 3 yn rhoi crynodeb o statws cyffredinol y mesurau yr ymrwymwyd iddynt. Gellir dod o hyd i gynnydd mesurau unigol ar Arsylwi Dyfroedd Cymru. Mae gan 46 o’r 92 mesur statws gwyrdd. Mae Adran 3 yn darparu gwybodaeth bellach, ynghyd ag astudiaethau achos ar raddfa ardaloedd basnau afonydd. Mae Atodiad 1 hefyd yn darparu crynodeb o fuddsoddiad ar gyfer pob un o’r dalgylchoedd cyfle.
Tabl 3 – Crynodeb o gynnydd y mesurau yr ymrwymwyd iddynt ar draws y dalgylchoedd cyfle
Statws |
Nifer y camau gweithredu |
---|---|
Cwblhawyd |
13 |
Gwyrdd |
46 |
Oren |
16 |
Coch |
8 |
Heb ddechrau |
5 |
Wedi’i atal |
4 |
Cyfanswm |
92 |
Ers cyhoeddi’r cynlluniau rheoli basnau afonydd wedi’u diweddaru, rydym wedi gwneud y canlynol:
- Cynllunio a chyflawni gwaith drwy raglenni cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru. Rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2025, roedd gwerth cyfunol rhaglenni Cronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd yn £79,985,604, a darperir crynodeb yn Atodiad 1. Mae’r Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr wedi ariannu cyflawni gwaith drwy’r 10 dalgylch cyfle, prosiectau ar gyfer y dalgylchoedd cyfle morol, adfer afonydd, cyfleoedd pysgodfeydd cynaliadwy a’r rhaglen mwyngloddiau metel ledled Cymru.
- Mae’r dalgylchoedd cyfle morol yn cwmpasu dyfroedd trosiannol ac arfordirol pedwar dalgylch cyfle. Mae perthnasoedd gwaith da wedi’u sefydlu gydag unigolion a sefydliadau partner yn y meysydd hyn. Mae prosiectau gwella ansawdd dŵr wedi’u cyflawni. Er enghraifft, yn ystod 2023–2024 cyflwynodd y dalgylchoedd cyfle morol 3.7 cilometr o ffensys glannau afon, a phlannwyd 7,700 o goed, gyda chyfanswm o 2.7 hectar o goetir glannau afon newydd ac eithrio stoc o 4 hectar pellach o goetir glannau afon.
- Mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd hefyd yn cael ei hariannu drwy’r Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd, ac y mae wedi cwblhau dros 3,200 hectar o weithgarwch adfer, wedi dosbarthu £1.15 miliwn i 13 o sefydliadau partner adfer mawndiroedd drwy dair rhaglen grant. Mae’r rhaglen wedi cydlynu grwpiau a rhwydweithiau strategol allweddol i ddatblygu gallu, rhannu arfer gorau a gwella llif gwybodaeth. Mae wedi gweithio i wella polisi cynllunio er mwyn osgoi effeithiau ar gynefinoedd mawndiroedd na ellir eu hadnewyddu, yn ogystal â chynnal arolwg dyfnder a chyflwr mawn, a threialon monitro infertebratau.
- Gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid, er enghraiift, tîm rheoleiddio ansawdd dŵr.
- Mae’r mesurau cenedlaethol wedi cynnwys gwaith ledled Cymru gyfan, nid yn unig o fewn dalgylchoedd cyfle, er enghraifft, drwy’r rhaglen dŵr mwyngloddiau a gwaith yng Nghwm Rheidol.
- Lle na chyrhaeddodd cyrff dŵr statws da, rydym wedi parhau i gynnal ymchwiliadau er mwyn llywio ein dealltwriaeth o’r rhesymau fel y gellir nodi camau gweithredu priodol.
- Parhau i ymateb i ddigwyddiadau, ac mae llawer ohonynt yn effeithio ar ein dyfroedd. Mae manylion am ein gwaith ymateb i ddigwyddiadau ac ymchwiliadau cyffredinol (2016 i 2024) ar gael yma: Digwyddiadau Llygredd Amgylcheddol Cymru.
- Mae gwaith yn parhau i fynd i’r afael â heriau cyfredol a rhai sy’n dod i’r amlwg i fynd i’r afael ag ystod eang o bwysau gan gynnwys maetholion yn ein safleoedd dynodedig trwy brosiect maetholion yr ardal gadwraeth arbennig a gollyngiadau o orlifoedd storm trwy Dasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru.
- Mae Byrddau Rheoli Maethynnau, sy'n cynnwys awdurdodau cymwys, yn cynhyrchu Cynllun Rheoli Maethynnau y gellir gweithredu arno sy'n nodi'r camau gweithredu, y rolau a'r cyfrifoldebau y cytunwyd arnynt sy'n ofynnol i gyflawni'r ddau nod o gyrraedd a chynnal statws cadwraeth ffafriol yr Ardal Cadwraeth Arbennig, tra’n hwyluso datblygiad niwtral o ran maethynnau.
- Roedd rhaglen fuddsoddi’r cwmnïau dŵr rhwng 2020 a 2025 yn cynnwys £218 miliwn er mwyn cyflawni eu gofynion amgylcheddol statudol. Roedd y rhaglen yn cynnwys ymchwiliadau a buddsoddiad wedi’i dargedu er mwyn lleihau effeithiau gorlifoedd storm sy’n gollwng yn uchel, trydydd cam Rhaglen Ymchwilio i Gemegau’r DU, a buddsoddiad pellach mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff i fodloni gofynion Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994.
- Parhau i fabwysiadu dull mwy integredig ar gyfer dalgylchoedd o’r tarddle i’r môr. Dechreuodd Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi yn 2023, ac mae’n un o nifer o ddulliau dalgylch yr ydym yn dysgu ohonynt er mwyn llywio dulliau’r presennol a’r dyfodol. Mae cyflawni canlyniadau prosiectau Pedair Afon LIFE a LIFE Afon Dyfrdwy yn parhau. Rydym hefyd yn symud i ail gam dulliau’r dalgylchoedd cyfle morol gyda’r nod o leihau mewnbynnau nitrogen anorganig tawdd o’r tarddle i’r môr.
- Gwneud cynnydd gydag asesiadau mesurau lliniaru mewn rhai cyrff dŵr wedi’u haddasu’n helaeth er mwyn nodi camau gweithredu sydd bellach wedi’u hariannu i’w cyflawni o dan y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol Adnoddau Dŵr.
- Archwilio a dechrau darparu ffyrdd gwell o ddarparu mwy o wybodaeth am gamau gweithredu a gynlluniwyd ac a gyflawnwyd trwy ddefnyddio gwybodaeth geo-ofodol, gan gynnwys y Porth Adfer Afonydd ac adolygiad Prisiau Rhaglen Genedlaethol yr Amgylchedd ar gyfer Buddsoddiad mewn Cwmnïau Dŵr.
Nid yw’r dulliau wedi bod heb eu heriau. Er mwyn cefnogi sut yr ydym yn mynd i’r afael â’r rhain, mae’r adroddiad hwn yn cynnwys nifer o argymhellion yn Adran 4.
Ardaloedd basn afon
Ardal Basn Afon Dyfrdwy (Cymru a Lloegr)
Mae Ardal Basn Afon Dyfrdwy yn ymgorffori mesurau cenedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, mesurau lleol Dalgylch Cyfle Afon Dyfrdwy, a gwaith y ddwy bartneriaeth dull seiliedig ar ddalgylch drawsffiniol yn Afon Dyfrdwy Ganol ac Afon Dyfrdwy Lanwol. Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn ddalgylch allweddol dangosol o fewn yr ardal basn afon hon.
Darperir crynodeb o gynnydd y mesurau fel y’i nodir yn y Cynllun Rheoli Basnau Afonydd yn Nhabl 4 gyda rhagor o fanylion ar gael trwy Arsylwi Dyfroedd Cymru a’r Porth Adfer Afonydd. Mae cynnydd da yn cael ei wneud gyda gwaith er budd dŵr a’r amgylchedd ehangach;
- Sicrhau gwelliannau i ansawdd dŵr ledled y dalgylch gan gynnwys adolygu trwyddedau dŵr gwastraff i leihau ffosfforws. Astudiaethau dichonoldeb i leihau llwytho metel o fwyngloddiau metel segur yn afon Clywedog.
- Gwaith rheoleiddio a chynghori gyda thirfeddianwyr amaethyddol, ac ymyriadau fferm, er mwyn lleihau mewnbynnau maetholion a gwarchod pridd.
- Gwelliannau ar gyfer mudo pysgod ar gyfer eogiaid, brithyll y môr, rhywogaethau lamprai, pennau lletwad a llyswennod yn y brif afon Dyfrdwy a’i hisafonydd trwy gyfuniad o gael gwared ar goredau, hawddfreintiau, llwybrau pysgod a rheolaeth addasol o asedau eraill.
- Adeiladu gwytnwch yn y dyfodol ar gyfer rhywogaethau prin gan gynnwys cregyn gleision perlog dŵr croyw a’r pryf y cerrig Isogenus nubecula, yn ogystal ag adfer cynefinoedd afonydd.
- Cryfhau cydweithrediadau presennol a meithrin rhai newydd. Mae enghreifftiau’n cynnwys ffyrdd newydd o weithio i uno ar draws gogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain Cymru, pedwar cwmni dŵr yn cydweithio i gynllunio cyflawni cynllun rheoli asedau dŵr yfed, bwrdd rheoli maethynnau afon Dyfrdwy, dull integredig o reoli risg llifogydd, cyfleoedd adfer natur gyda phartneriaethau natur lleol ar ddwy ochr y ffin, ysbrydoli a chynnwys cymunedau lleol o amgylch y rhywogaethau, cynefinoedd ac ansawdd yr afon hyd at y cynefinoedd arfordirol yn yr aber.
- Drwy gamau gweithredu dull seiliedig ar ddalgylch ar draws 18 mesur, mae crynodeb ar gael yn Afon Dyfrdwy Ganol ac Afon Dyfrdwy Llanwol.
Tabl 4 – Crynodeb o gynnydd y mesur ar draws Ardal Basn Afon Dyfrdwy
Statws – Ardal Basn Afon Dyfrdwy |
Camau gweithredu dalgylchoedd cyfle Cyfoeth Naturiol Cymru |
Camau gweithredu Asiantaeth yr Amgylchedd |
---|---|---|
Cwblhawyd |
2 |
N/A |
Gwyrdd |
3 |
1 |
Oren |
7 |
N/A |
Coch |
0 |
N/A |
Heb ddechrau |
0 |
N/A |
Wedi’i atal |
0 |
N/A |
Cyfanswm |
12 |
1 |
Astudiaeth achos
Lleoliad y prosiect: Bala, Gwynedd, dalgylch Dyfrdwy Uchaf
Partneriaid allweddol: Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, Dŵr Cymru, Canŵ Cymru, a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Prif ffrwd ariannu: Cyllid adnoddau dŵr CNC
Disgrifiad o’r prosiect: Mae poblogaethau eogiaid Cymru dan bwysau cynyddol ac mae eogiaid yn nodwedd bwysig o Ardal Cadwraeth Arbennig afon Dyfrdwy a Llyn Tegid. Dros y deg mlynedd diwethaf, mae CNC wedi gweithio i ddeall a yw ein gwaith o reoleiddio'r llif yn afon Dyfrdwy, sy'n ofynnol gan Ddeddf Awdurdod Afonydd Dyfrdwy a Chlwyd 1973, yn effeithio ar fudo eogiaid llawndwf ac eogiaid ifanc.
Mae nifer o goredau a strwythurau yn rheoli'r llif, ond mae llifddorau Bala yn rhan allweddol o'r dull rheoli hwn. Mae'r llifddorau hyn yn helpu i reoli faint o ddŵr sy'n cael ei storio yn Llyn Tegid a faint sy'n llifo i lawr yr afon. Gall systemau llif o Lyn Celyn hefyd effeithio ar sut mae pysgod yn mudo drwy'r rhannau hyn o afonydd Dyfrdwy a Thryweryn.
Defnyddiwyd technegau monitro ac olrhain dros yr wyth mlynedd diwethaf i ddeall symudiadau'r pysgod yn well drwy’r strwythurau hyn ac o’u hamgylch. Mae'r dystiolaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio i newid y ffordd rydym yn gweithio a’r ffordd mae'r asedau hyn yn cael eu rheoli. Mae Grŵp Llywio Dyfrdwy Uchaf, gydag aelodau o CNC, Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, Dŵr Cymru, Canŵ Cymru, a Pharc Cenedlaethol Eryri, i gyd wedi goruchwylio a chyfrannu at y gwaith ym mhob cam.
Cyfoeth Naturiol Cymru / Helpu afon Dyfrdwy i ffynnu: Sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwahaniaeth
Y prif ganlyniadau: Newidiadau cadarnhaol ar gyfer mudo pysgod gan gynnwys newid y ffordd rydym yn rheoli'r gatiau yn llifddorau'r Bala, gweithio gyda Dŵr Cymru i ryddhau mwy o ddŵr o Lyn Celyn i amddiffyn wyau eogiaid, ymateb i ddigwyddiadau glaw bach i fyny'r afon o Lyn Tegid a cheisio dynwared y llifau hynny i lawr yr afon o'r llyn.
Gwersi a ddysgwyd: Manteision cadarnhaol gweithio gyda grŵp llywio allanol ym mhob cam o'r gwaith, o'r cam cyntaf a'r cynllunio i ddadansoddi data a newid gweithrediadau.
Heriau: Mae gwaith tagio gleisiaid yn cael ei wneud yn y nos felly mae’r staff yn gweithio oriau anghymdeithasol; gwaith parhaus i sicrhau cyllid o flwyddyn i flwyddyn; gweithio gyda buddiannau rhanddeiliaid gwahanol.
At ei gilydd: Mae angen gwneud rhagor o waith dadansoddi data, ond mae cydweithio â phartneriaid a defnyddio'r dystiolaeth wrth i ni fynd ymlaen yn allweddol i wneud newidiadau.
Ardal Basnau Afonydd Gorllewin Cymru
Mae chwe dalgylch cyfle yn Ardal Basnau Afonydd Gorllewin Cymru, a phrosiectau hefyd drwy’r dalgylch cyfle morol sydd wedi bod yn gweithio’n bennaf yn afon Cleddau ac Ynys Môn ond, hefyd yng Nghlwyd a Bae Abertawe. Mae’r camau gweithredu o fewn y rhain ar Arsylwi Dyfroedd Cymru ac mae rhai o’r rhain hefyd ar gael yn geo-ofodol ar y Porth Adfer Afonydd. Darperir crynodeb o’r cynnydd yn Nhabl 5.
Mae llawer o waith da wedi’i wneud ar draws yr ardal basnau afonydd. Er bod y dalgylchoedd cyfle wedi canolbwyntio ar chwe ardal ddaearyddol, mae gwaith wedi’i gyflawni ar draws yr ardal basnau afonydd gyfan. Mae’r gwaith yn cynnwys ymyriadau wedi’u targedu gan gynnwys ffensio, gwrychoedd, gwella cynefinoedd glannau afon, croesfannau gwell i wartheg a chynlluniau draenio cynaliadwy sydd wedi’u cynnal gyda chyllid drwy’r Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr. Yn ogystal, mae prosiect Pedair Afon LIFE wedi cynnal gwaith tebyg, ychwanegol, o fewn dalgylchoedd afon Cleddau ac afon Teifi. Ochr yn ochr â’r mentrau hyn, mae prosiect arddangos dalgylch afon Teifi hefyd yn cyfrannu at y dulliau dalgylch o fewn yr ardal basnau afonydd. Mae prosiectau yn yr amgylchedd morol wedi bod yn gweithio ar wella ansawdd dŵr a lleihau maetholion i forlynnoedd, dyfrffyrdd arfordirol a throsglwyddadwy. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio mewn cydweithrediad â llawer o randdeiliaid i gyflawni nodau ar y cyd ar gyfer dŵr ar draws yr ardal basnau afonydd gyfan.
Tabl 5 – Crynodeb o gynnydd y mesurau ar draws Ardal Basnau Afonydd Gorllewin Cymru
Statws |
Afon Clwyd |
Conwy |
Ynys Môn |
Afon Teifi |
Afon Cleddau / Aberdaugleddau |
Bae Abertawe |
Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Statws cyffredinol |
Gwyrdd |
Gwyrdd |
Gwyrdd |
Gwyrdd / oren |
Oren |
Gwyrdd |
Gwyrdd |
Cwblhawyd |
N/A | N/A | 3 | N/A | 3 | 2 | 8 |
Gwyrdd |
7 | 5 | 3 | 2 | 3 | 5 | 25 |
Oren | N/A | 1 | 2 | 2 | 1 | 1 | 7 |
Coch | N/A | N/A | N/A | N/A | 4 | 4 | 8 |
Heb ddechrau |
2 | N/A | 1 | N/A | N/A | N/A | 3 |
Wedi'i atal | N/A | N/A | N/A | N/A | N/A | 4 | 4 |
Astudiaeth achos
Lleoliad y prosiect: Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Cemlyn a chorff dŵr arfordirol Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Morlyn Cemlyn
Partneriaid allweddol: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tenantiaid, contractwyr ffensio
Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr
Tarddle: Nentydd i forlyn arfordirol ardal cadwraeth arbennig
Disgrifiad o’r prosiect: Gwelliannau ansawdd dŵr i Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Cemlyn.
Mae gan Forlyn Cemlyn broblem ansawdd dŵr a nodwyd oherwydd llygredd gwasgaredig. Mae macroalgâu manteisgar wedi cael eu gweld yn y morlyn gorllewinol llai, ond y mae problemau yn y ddau. Mae llygredd dŵr gwasgaredig trwy gorfaethu yn debygol o fod yn un ffactor achosol. Mae’r dalgylch bach i gyd yn dir fferm sy’n draenio trwy dair nant fach sy’n arwain i Forlyn Cemlyn. Mae’r morlyn yn rhan o’r rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig ac mae’n ardal cadwraeth arbennig, safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac yn ardal gwarchodaeth arbennig forol yn ogystal â gwarchodfa natur. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar y morlyn a’r tir o’i gwmpas, ac y mae’n prydlesu’r morlyn a’r rhan fwyaf o’r ardal cadwraeth arbennig i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, sy’n cael ei rhedeg fel gwarchodfa natur. Mae tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o amgylch y morlyn sy’n weddill wedi’i rentu i dair fferm.
Nod y prosiect partneriaeth oedd gwella ansawdd dŵr drwy atal mynediad stoc i’r morlyn a nentydd neu byllau bwydo. Bydd hyn yn lleihau gallu maethynnau i gyrraedd y morlyn. Mae ffynonellau yfed amgen wedi’u darparu i’r anifeiliaid gan ddefnyddio pibellau a chafnau. Mae rhai ardaloedd wedi cael eu plannu gyda gwrychoedd, neu goed brodorol, neu fel perllannau. Plannwyd a darparwyd y rhain gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gweithio gyda’r tenantiaid i blannu rhywfaint o laswelltir arfordirol traddodiadol sydd ar dir sy’n draenio i’r morlyn. Mae llawer o ardaloedd clustogi yn cael eu creu, a bydd coridorau ar gyfer bywyd gwyllt a bioamrywiaeth. At ei gilydd, nod y mesurau yw gwella ansawdd dŵr a gwneud y morlyn yn fwy gwydn i lygredd dŵr gwasgaredig a dŵr ffo. Mae’r ffermydd hefyd yn elwa o gael mynediad at ddŵr yfed glân i anifeiliaid. At ei gilydd roedd bron i 2.7 cilometr o ffensys newydd, gyda thros 1 cilometr o bibellau dŵr, a nifer o gafnau newydd.
Ffens newydd Morlyn Cemlyn

Y prif ganlyniadau: Mae’r morlyn bellach wedi’i ffensio er mwyn atal stoc rhag mynd i mewn, mae parthau clustogi a choridorau a chynefinoedd bywyd gwyllt newydd hefyd wedi’u creu. Dylai ansawdd y dŵr yn y morlyn ddangos gwelliant gydag amser a bydd y morlyn yn gallu gwrthsefyll difrod yn well.
Gwersi a ddysgwyd: Gellir cyflawni llawer drwy gael partneriaid a rhanddeiliaid parod eu cymorth. Hefyd, er mwyn sicrhau bod contractwyr yn cael eu cadw at y fanyleb, yn brydlon, ac yn cael eu harchwilio.
Heriau: Deall a blaenoriaethu prosiectau cystadleuol ar gyfer cyllideb gyfyngedig, a hefyd rheoli disgwyliadau rhanddeiliaid o ystyried y gall gwelliannau ansawdd dŵr gymryd amser hir.
At ei gilydd: Gwell treulio amser ychwanegol yn sicrhau prosiect o ansawdd da na rhuthro i gyrraedd targedau.
Dalgylch Cyfle Clwyd
Y brif thema yw mabwysiadu dull rheoli adnoddau naturiol cynaliadwy ar gyfer rheoli dalgylchoedd sy’n fuddiol i ansawdd dŵr afonydd a dŵr ymdrochi, pysgodfeydd a phobl, gan integreiddio gwaith o fewn Dalgylch Cyfle Clwyd yn unol â themâu datganiad ardal y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin a’r môr.
Mae Fforwm Dyffryn Clwyd wedi’i sefydlu ac yn adeiladu momentwm. Mae’r sefydliadau sy’n rhan o Fforwm Dyffryn Clwyd yn weithgar o fewn dalgylch Clwyd, gan gynnig cyngor, gwybodaeth, cyfleoedd, gweithgareddau a digwyddiadau sy’n fuddiol i’r ardal a’r trigolion.
Mae amrywiaeth o waith wedi digwydd i leihau llygredd, mewnbynnau ffosffad a bacteria i gyrsiau dŵr a gwella cynefinoedd pysgodfeydd o fewn dalgylch Clwyd. Mae hyn fel arfer yn cynnwys sefydliadau’n gweithio mewn partneriaeth er mwyn gwneud y mwyaf o effaith gwahanol gyfleoedd ariannu. Ynghyd â ffyrdd newydd o weithio ar draws lleoedd yn y gogledd-ddwyrain a’r gogledd-orllewin yn Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cael eu datblygu, mae hyn yn arwain at nifer o fanteision amgylcheddol, bioamrywiaeth a lles. Mae gwaith hefyd ar y gweill i beilota gwlyptir integredig wedi'i adeiladu yng ngwaith trin dŵr gwastraff Dŵr Cymru yn Nhremeirchion, y cyntaf yng Ngogledd Cymru i ddefnyddio datrysiad sy’n seiliedig ar natur i ddisodli triniaeth eilaidd gonfensiynol.
Astudiaeth achos
Lleoliad y prosiect: Cronfa Ddŵr Dolwen ac afon Ffyddion
Partneriaid: CNC, Dŵr Cymru, Cyngor Sir Ddinbych
Cyllid: Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr
Trosolwg o'r prosiect: Yn 2023, ffurfiolwyd parterniaeth rhwng CNC a Dŵr Cymru i wella ansawdd dŵr mewn cyrff dŵr y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a pharthau diogelu dŵr yfed sy'n methu ar draws dalgylch Clwyd. Yn sgil y bartneriaeth, bu modd cynllunio ar y cyd, rhannu data, a gwneud cyfraniadau cyllid ar y cyd i sicrhau bod modd cyflawni ymyriadau ar lawr gwlad.
Canolbwyntiodd y gwaith cychwynnol ar wella arferion rheoli tir o amgylch cronfa ddŵr Dolwen, rhan o barth diogelu Glascoed, a ddynodwyd ar gyfer maethynnau a phlaladdwyr. Yn 2024 a 2025, estynnodd y bartneriaeth ei chylch gwaith i gynnwys dyfrhaen Ffynnon Asa a chorff dŵr afon Ffyddion (rhan o barth diogelu Trecastell). Fe wnaeth lleoliad y corff dŵr o fewn Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy alluogi mwy o gyfle i gydweithio’n agosach â Chyngor Sir Ddinbych a'r tîm Tirwedd Genedlaethol.
Y prif ganlyniadau:
- Ansawdd dŵr gwell ar gyfer dŵr yfed, targedau'r Ddeddf Adnoddau Dynol, a buddion i ardaloedd i lawr yr afon (aber afon Clwyd, dyfroedd ymdrochi'r Rhyl)
- Yn cefnogi nod Dŵr Cymru o leihau nifer y parthau diogelu dynodedig
- Cydweithio rhyngasiantaethol cryfach a chyflenwi ar raddfa dalgylch
- Cefnogodd ymgysylltiad perchnogion tir arferion cynaliadwy a mynediad at gyllid
Cyn ac ar ôl y gwaith gosod ffensys

Heriau: Alinio blaenoriaethau ac amserlenni ar draws asiantaethau, capasiti cyfyngedig ar gyfer ymgysylltu â thirfeddianwyr a gwneud gwaith dilyn i fyny, llywio dynodiadau rheoleiddiol a thirwedd sy'n gorgyffwrdd a chynnal momentwm cyllido a chyflawni hirdymor.
Cyfleoedd yn y dyfodol (Cynllunio Rheoli Asedau 8 a thu hwnt): Ehangu grwpiau clwstwr ar draws dalgylchoedd i gryfhau rhwydweithiau tirfeddianwyr a newid dan arweiniad cyfoedion, targedu parthau diogelu yn fwy strategol (gan adeiladu ar ymyriadau llwyddiannus yn Nhrecastell a Glascoed), datblygu dulliau llwyddiannus o waith blaenorol i ardaloedd newydd o fewn y dalgylch a nodi cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio ag awdurdodau lleol, tirweddau cenedlaethol, a rhwydweithiau ffermio i wella gwydnwch a chanlyniadau ansawdd y dŵr.
Gwersi a ddysgwyd: Gwerth dulliau cydweithredol o ymdrin â heriau amgylcheddol cymhleth, ar raddfa dalgylch. Mae rhannu gwybodaeth a dulliau cyflenwi wedi arwain at welliannau pendant yn ansawdd y dŵr. Mae gweithio mewn partneriaeth barhaus yn hanfodol ar gyfer diogelu ffynonellau dŵr yfed ac adfer ecosystemau dyfrol.
Dalgylch Cyfle Conwy
Mae gan y dalgylch cyfle ystod eang o gynefinoedd, o’r clogwyni arfordirol a’r traethau i gorgorsydd, rhostir, coedwigoedd, aberoedd, llynnoedd ac afonydd. Mae afon Conwy’n llifo ar draws y dirwedd gan gysylltu pobl â natur, o darddle’r dŵr yn Ardal Cadwraeth Arbennig Gorgors y Migneint i’r môr yng Nghonwy. Mae pwysau o fewn y dalgylch cyfle yn cynnwys gollyngiadau o fwyngloddiau metel, llygredd tarddle penodol a llygredd gwasgaredig, addasiadau ffisegol ac asideiddio. Drwy adfer cynefinoedd afonol a mawndir (cors), a gwneud gwelliannau mewn arferion rheoli tir a choedwigoedd, bydd cynefinoedd a rhywogaethau a phobl sy’n ddibynnol ar ddŵr yn elwa.
Mae prosiectau partneriaeth ar raddfa dirwedd wrth wraidd y dalgylch cyfle hwn tra bod ffyrdd cydweithredol newydd o weithio yn y dalgylch yn gwella cynllunio a chyflenwi gwaith yn y dyfodol. Mae prosiect graddfa tirwedd Uwch Conwy yn gweithio gyda phobl leol ac yn cyflawni amrywiaeth o waith adfer cynefinoedd mawndir ac afonydd, creu dolydd a manteision lles. Mae prosiect tirwedd y Carneddau wedi canolbwyntio ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol ucheldiroedd y Carneddau. Mae gwaith dichonoldeb yn mynd rhagddo ar adfer mwyngloddiau metel yng Nghoedwig Gwydir, mae cynlluniau rheoli llifogydd naturiol yn cael eu cyflawni gyda phartneriaid newydd yn gweithio gyda’i gilydd, ac i lawr ar yr arfordir yn Llandudno mae gwaith partneriaeth yn digwydd i ddatrys camgysylltiadau, lle mae pibellau dŵr gwastraff wedi’u cysylltu’n anghywir â draeniau dŵr wyneb, er mwyn gwella dyfroedd arfordirol ac ymdrochi.
Astudiaeth achos
Lleoliad y prosiect: Conwy
Partneriaid allweddol: Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, Tiroedd Afon yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rhoddion preifat.
Tarddle: Conwy
Disgrifiad o’r prosiect: Prosiect ar raddfa tirwedd i wella ansawdd yr amgylchedd a threftadaeth dalgylch Uwch Conwy. Gweithio gyda chymunedau lleol er mwyn cyflawni amcanion y Ddeddf Llesiant, ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Drwy’r prosiect hwn rydym yn gwneud cymunedau’n fwy gwydn i newid hinsawdd gan ddefnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur er mwyn adfer prosesau naturiol, gan alluogi natur i wella, a thrwy weithio gyda thirfeddianwyr a chymunedau rydym yn lleihau llygredd.
Mae’r gwaith hyd yma yn cynnwys y canlynol:
- Adfer mawndir – gosod argaeau mawn i rwystro ffosydd, ail-broffilio ac ail-lysdyfu mewn mawndiroedd er mwyn dal carbon a lleihau erydiad. Mae’r gwaith hwn wedi helpu i arafu llif y dŵr, gan sicrhau bod llif afonydd yn fwy cyson yn ogystal â gwella ansawdd y dŵr.
- Adfer afonydd – cael gwared ar argloddiau a wnaed gan ddyn, a gwella cynefinoedd yn y nant er mwyn creu mwy o gynefinoedd silio i bysgod.
- Ffensio glan yr afon a dulliau amgen ar gyfer dyfrio stoc – er mwyn atal stoc rhag tarfu ar wely a glannau’r afon, lleihau erydiad a gwarchod graean silio i lawr yr afon.
- Creu dolydd – creu morfeydd heli yn ogystal ag ailsefydlu perllannau hynafol, creu cynefinoedd ar gyfer peillwyr, a gwrychoedd er mwyn cysylltu cynefinoedd darniog gan ddarparu coridorau bywyd gwyllt hanfodol.
- Gweithio gyda chymunedau lleol, ysgolion a grwpiau gwirfoddol.
Y prif ganlyniadau: Prosiect dalgylch Uwch Conwy | Cymru | National Trust
Gwersi a ddysgwyd: Mae llwyddiant y prosiect yn seiliedig ar weledigaeth a rennir a chefnogaeth gan y ddau sefydliad. Treulio amser yn gweithio gyda’r gymuned ac ynddi, gan rannu’r dystiolaeth er mwyn gwneud newid cynaliadwy hirdymor. Mae manteision gweithio mewn partneriaeth a defnyddio’r wybodaeth a’r profiad gan y ddau sefydliad wedi galluogi mwy i gael ei gyflawni ar lawr gwlad.
Heriau: Sicrhau cyllid hirdymor a chynnal staff.
At ei gilydd: Mae gweithio ar draws lle yn galluogi adferiad ar raddfa tirwedd i ddigwydd yn hytrach na chanolbwyntio ar un corff dŵr.
Astudiaeth achos
Lleoliad y prosiect: Fferm Carrog, Cwm Penmachno
Partneriaid allweddol: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Partneriaid eraill: Ymgynghorwyr (ar gyfer opsiynau a dylunio manwl), ffensio a gwaith tir (prif gontractwr)
Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr
Tarddle: Afon Machno
Disgrifiad o’r prosiect: Gwaith adfer afon a’r gwastadedd gorlif yn nalgylch Uwch Conwy yn helpu i leihau’r risg o lifogydd i lawr yr afon ac yn hybu natur.
Fel rhan o Brosiect Uwch Conwy, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae wedi cynnal gwaith adfer afonydd a gorlifdiroedd ar afon Machno – un o brif lednentydd afon Conwy.
Roedd rhan o’r gwaith yn cynnwys tynnu argloddiau a wnaed gan ddyn a gostwng glan yr afon, sy’n caniatáu i ddŵr gyrraedd y gorlifdir unwaith eto. Mae hyn yn arafu llif yr afon yn ystod lefelau dŵr uchel ac yn helpu i leihau’r risg o lifogydd yn is i lawr yn y dalgylch.
Mae pyllau dŵr tymhorol a sianeli hefyd wedi’u cloddio ar y gorlifdir i adfer patrymau llif hanesyddol, gan alluogi storio dŵr pellach.
Nod Prosiect Uwch Conwy yw darparu manteision i gymunedau a bywyd gwyllt dalgylch Uwch Conwy drwy greu amgylchedd glanach ac iachach, gan ddod â phobl a natur yn agosach at ei gilydd.
Cyn mis Hydref 2021

Ar ôl mis Mai 2025

Y prif ganlyniadau: Safle arddangos er mwyn dangos gwaith rheoli llifogydd yn naturiol mewn lleoliad ucheldir, gwelliant mewn cynefinoedd dŵr croyw a thirol.
Gwersi a ddysgwyd: Mae’r prosiect wedi cymryd tair blynedd i’w gyflawni - ar gyfer ystyried opsiynau, dylunio manwl a chyflawni. Mae cyllid a staffio hirdymor yn hanfodol i alluogi prosiectau fel hyn i gael eu cyflawni. Drwy gydol y prosiect hwn rydym wedi cynnal sesiynau galw heibio, teithiau cerdded cymunedol ar hyd yr afon, ac wedi gweithio gyda’r gymuned i gyflawni prosiectau amgylcheddol. Drwy’r ymgysylltiad hwn, mae trigolion Cwm wedi deall pam yr ydym yn gwneud y prosiect, yn gwerthfawrogi’r manteision, ac yn cymryd rhan i fonitro’r newidiadau gyda ni.
Heriau: Ansicrwydd ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd. Angen adnoddau, megis swyddog prosiect ychwanegol.
At ei gilydd: Mae cyllid a staffio hirdymor yn hanfodol i ddatblygu cysylltiadau â thirfeddianwyr a chymunedau.
Dalgylch Cyfle Ynys Môn
Mae gan yr ynys amgylchedd dŵr cyfoethog ac amrywiol, gan gynnwys cynefinoedd, rhywogaethau a thirweddau pwysig sy’n ddibynnol ar ddŵr, ond y mae dan bwysau oherwydd effeithiau megis gorfaethu, arferion rheoli tir, gollyngiadau o ffynonellau carthffosiaeth a dŵr gwastraff, a mwyngloddio metel hanesyddol. Y brif thema ar gyfer dalgylch cyfle Ynys Môn yw cael rhwydwaith o ecosystemau gwydn ar draws yr ynys a chysylltu pobl â’u hamgylchedd lleol. Drwy greu tirwedd lle gall bywyd gwyllt ffynnu mewn amgylchedd glân, iach a chynaliadwy, gellir datblygu gwytnwch i’r newid yn yr hinsawdd.
Mae cynnydd da yn cael ei wneud wrth weithio gyda thirfeddianwyr ac amrywiaeth o bartneriaid er mwyn nodi a gweithredu cynlluniau i wella cynefin coridor afonydd ac eithrio stoc o gyrsiau dŵr a darparu ffynonellau dyfrio amgen er mwyn lleihau mewnbwn maetholion a bacteria. Mae’r gwaith hwn yn digwydd ar draws nifer o gyrff dŵr afonydd, gan fod o fudd i amgylcheddau llynnoedd ac aberoedd, ac yn arfordirol i lawr yr afon, ac y mae wedi cynnwys cysylltiadau cryf â chyflawni dalgylchoedd cyfleoedd morol. Cwblhawyd treialon system driniaeth oddefol ym Mynydd Parys fel rhan o waith parhaus i ddatblygu opsiynau trin dŵr mwyngloddiau cost-effeithiol profedig.
Mae gwaith i warchod a gwella ansawdd dŵr a hydroleg cynefinoedd ffen o bwysigrwydd cenedlaethol, gan adeiladu gwytnwch ar gyfer y dyfodol, wedi’i gynllunio fel rhan o Gorsydd Calon Môn. Prosiect cydweithredol newydd (wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri) yw hwn, sy’n anelu at sicrhau dyfodol ffeniau Ynys Môn a dathlu eu hanes cyfoethog.
Astudiaeth achos
Lleoliad y prosiect: Afon Gwna
Partneriaid allweddol: Ystadau Bodorgan, Menter Môn
Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr
Tarddle: Afon Gwna
Disgrifiad o’r prosiect: Mae afon Gwna yn llifo i mewn i ardal cadwraeth arbennig a safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Llyn Coron, sef llyn maeth-gyfoethog yr effeithir arno’n andwyol yn aml gan ordyfiant algâu. Mae afon Gwna ei hun yn gynefin allweddol i rywogaethau mudol gan gynnwys brithyll y môr. Dros y blynyddoedd mae ansawdd graean silio a chynefinoedd meithrin wedi dirywio, oherwydd mewnbynnau gwaddod o erydiad ar lan y glannau, a chan dda byw yn croesi’r afon ac yn ei defnyddio i gael dŵr yfed. Mae llygredd gwaddod a maetholion cysylltiedig wedi gwaethygu’r effaith ar y safleoedd dynodedig i lawr yr afon.
Mae gwaith a wnaed mewn partneriaeth â Menter Môn ac Ystadau Bodorgan wedi ein galluogi i ffensio bron i 2 gilometr o lan yr afon. Mae pympiau solar a chafnau dŵr wedi’u gosod gan atal mwy na 50 o wartheg rhag croesi bob dydd, yn ogystal ag atal y gwartheg rhag cael mynediad i’r dŵr i’w yfed.
Er mwyn sicrhau y gellid dal i ffermio’r tir, mae pontydd stoc wedi’u gosod fel y gall y ffermwr symud ei stoc yn hawdd rhwng y caeau, ac ar yr un pryd dileu’r angen i wartheg fynd i mewn i’r afon a tharfu ar waddodion a fyddai’n gorchuddio graean silio i lawr yr afon.
Bydd y coridor glan yr afon llydan a grëwyd gan y ffens yn caniatáu i lystyfiant a choed sefydlu a sefydlogi glan yr afon. Mae’r gwaith a wnaed hyd yma wedi lleihau’n sylweddol faint o waddod sy’n cael ei gludo i lawr yr afon yn ogystal â lleihau llwytho maethynnau, a bydd hyn yn helpu i wella ansawdd y dŵr, gan leihau’r risg o ordyfiant algâu gwenwynig.
Mae llwyddiant y prosiect hwn wedi arwain at ddiddordeb gan ffermydd cyfagos, gan arwain at waith ffensio ychwanegol ar lan yr afon ar eu tir, ac rydym bellach yn y broses o’i gyflawni.
Lluniau cyn ac ar ôl creu croesfan yr afon

Y prif ganlyniadau: Roedd bron i 2 gilometr o lan yr afon yn gwarchod cynefin a grëwyd, gan gael gwared ar fewnbynnau sylweddol o waddod a maetholion, ac arweiniodd hyn at gyfle i greu 300 metr ychwanegol o goridor glan yr afon.
Gwersi a ddysgwyd: Angen dyrannu mwy o adnoddau yn ystod y cyfnod datblygu, er mwyn rhoi amser i lunio cynlluniau gyda pherchnogion tir. Caniatáu digon o amser i gytuno ar y gwaith - gall hyn gymryd llawer mwy o amser nag a ddisgwylir yn enwedig wrth ymdrin â nifer o bartneriaid. Angen cyllid hirdymor fel y gellir cynllunio a chyflawni gwaith yn y ffenestr tywydd orau, yn hytrach na’i gynllunio o amgylch terfynau amser ariannol.
Heriau: Roedd y prosiect yn dibynnu ar weithio gydag ystad fel perchnogion tir. Gall gweithio gydag asiantau tir yn hytrach nag ymdrin â’r tenant yn uniongyrchol greu oedi. Roedd rhaid i gyfathrebu fod yn glir iawn fel bod pawb yn gwybod beth oedd yn digwydd cyn i’r gwaith ddechrau ar y ddaear.
At ei gilydd: Mae cynllunio ar gyfer digon o amser ac adnoddau yn golygu y gellir cyflawni prosiectau i gael y canlyniad gorau i’r amgylchedd.
Dalgylch Cyfle Afon Teifi
I ddechrau, roedd cwmpas daearyddol y dalgylch cyfle wedi’i gyfyngu i’r rhannau uchaf, gan ganolbwyntio ar gyrff dŵr yr oedd dŵr mwyngloddiau segur wedi effeithio arnynt. Fe’i hymestynnwyd yn fuan i gynnwys llednentydd o fewn y dalgylch isaf, lle deallwyd bod pwysau amaethyddol yn effeithio ar bysgodfeydd, cyn cwmpasu’r dalgylch cyfan.
Mae materion blaenoriaeth ar gyfer dŵr o fewn y dalgylch cyfle hwn yn cynnwys asideiddio, effaith mwyngloddio metel hanesyddol, llygredd gwledig gwasgaredig o amaethyddiaeth a choedwigaeth, llygredd tarddle penodol o ollyngiadau carthffosiaeth o weithfeydd trin dŵr gwastraff, asedau ysbeidiol ac ardaloedd i ffwrdd o ardaloedd carthffosiaeth prif, addasu ffisegol a rhywogaethau estron goresgynnol. Mae agweddau allweddol eraill yn cynnwys cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd, gofynion tynnu dŵr oherwydd defnydd cynyddol o ddŵr, pwysau newid hinsawdd a mabwysiadu dull integredig o reoli risg llifogydd afonydd ac arfordirol.
Ers cyhoeddi’r cynlluniau rheoli basnau afonydd mae’r dalgylch cyfle hwn hefyd wedi elwa o Raglen Arddangos Teifi a ddechreuodd yn 2023. Dyma un o nifer o ddulliau dalgylch yn yr ardal basn afon sy’n helpu i gyflawni Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, ac sy’n llywio dulliau’r dyfodol hefyd. Mae prosiect Pedair Afon LIFE hefyd yn cyflawni canlyniadau ar gyfer afon Teifi.
Dalgylch Cyfle Afon Cleddau ac Aberdaugleddau
Nodwyd y dalgylch cyfle fel maes blaenoriaeth yn bennaf oherwydd problemau sy’n effeithio ar ansawdd dŵr. Y nodau fu cefnogi mentrau sy’n mynd i’r afael â llygredd nitrad, ffosfforws a gwaddod o darddle penodol, a llygredd gwasgaredig. Yn ogystal, mae addasiadau ffisegol i sianeli a glannau afonydd, pori, sathru a thrin y tir hyd at ymyl y lan (colli coridor bywyd gwyllt afonydd) a phresenoldeb eang rhywogaethau ymledol wedi darparu ffocws.
O’r cychwyn cyntaf bu ymrwymiad i weithio gyda’r gymuned amaethyddol i wella arferion rheoli tir er mwyn lleihau dŵr ffo o’r pridd, erydiad a gwella ansawdd dŵr. Drwy weithio gydag eraill ar raddfa dalgylch rydym yn gobeithio mynd i’r afael â materion fel gorfaethu, rhywogaethau goresgynnol a darnio cynefinoedd, sy’n bygwth bywyd gwyllt a chynefinoedd pwysig a gwarchodedig. Hefyd, trwy fentrau ar draws y dalgylch ehangach, ein nod yw gwella cyflwr yr ardal cadwraeth arbennig forol.
O fewn y dalgylch cyfle mae yna hefyd y prosiect Pedair Afon LIFE sy’n un o nifer o ddulliau dalgylch yn yr ardal basn afon, sy’n helpu i gyflawni Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac yn llywio dulliau’r dyfodol.
Astudiaeth achos
Lleoliad y prosiect: Adfer Afon Cam 2 Fferm Windsor, Afon Penfro, ger Aberdaugleddau
Partneriaid allweddol: Tirfeddianwyr a Phrosiect Adfer Afon Penfro
Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr
Tarddle: Afon Penfro
Disgrifiad o’r prosiect: Wedi’i gyflwyno gan CNC mewn cydweithrediad â’r tirfeddiannwr a phartneriaid, mae deunydd prennaidd mawr wedi’i osod mewn darn 200 metr o’r afon mewn ymgais i adfer prosesau naturiol yr afon ac ‘ail-siglo’ yr afon. Mae’r deunydd prennaidd mawr yn helpu i greu llifau gwahanol o fewn yr afon, ac yn annog dolennu naturiol, a phyllau a rifflau, i ffurfio dros amser. Mae’r rhain yn brin yn yr afon ar hyn o bryd gan ei bod wedi’i sythu’n hanesyddol at ddibenion dynol.
Mae’r pren hefyd yn dal gwaddod a malurion, gan annog adfywio cynefinoedd ar gyfer infertebratau a rhywogaethau eraill. Mae’n darparu lloches i bysgod mudol sy’n teithio i fyny’r afon i gyrraedd mannau silio.
Er mwyn lleihau erydiad pridd a gwella ansawdd dŵr, gosodwyd ffensys yn 2023 a 2024 i greu clustogfa eang, ac i atal da byw rhag mynd i mewn i’r afon, gyda ffynonellau dŵr yfed newydd, amgen, wedi’u cyflwyno.
Gyda chymorth a chyllid gan Bartneriaeth Prosiect Adfer Afon Penfro, plannwyd 600 o goed hefyd i greu llain goediog ar hyd yr afon. Ar ôl iddynt aeddfedu, bydd y coed yn darparu parth clustogi rhwng tir amaethyddol cynhyrchiol a’r afon, gan leihau maetholion sy’n rhedeg i ffwrdd ac sy’n effeithio ar ansawdd dŵr. Mae CNC nawr yn gobeithio defnyddio’r prosiect i arddangos arferion adfer afonydd gan ddefnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur.
Cynllun o waith adfer afon

Detholiad o luniau ar ôl cynnal gwaith

Heriau: Diffyg capasiti a ffocws penodol oherwydd pwysau gwrthgyferbyniol gan gynnwys yr angen i flaenoriaethu gwaith adweithiol. Mae hyn wedi effeithio ar ymchwiliadau is-ddalgylchoedd, wedi atal ceisiadau am gyllid cyfalaf, ac wedi gwyro gweithgaredd o’r mesurau fel y’u diffinnir. Roedd prosesau’n llesteirio gosod ffensys er mwyn rheoli tir.
Gwersi a ddysgwyd: Mae cefnogaeth ac ymrwymiad trwy grŵp gwaith gweithredol yn bwysig. Heb hyn, a diffiniad a dealltwriaeth glir o fesurau, mae wedi bod yn anodd gwneud cynnydd ystyrlon. Felly, mae mesurau rhagweithiol a gymerwyd wedi’u cyflawni i raddau helaeth drwy’r Prosiect Pedair Afon LIFE.
At ei gilydd: Wedi’i gydnabod am ei bwysigrwydd ecolegol uchel, ei harddwch naturiol a’i wasanaethau ecosystem cysylltiedig, mae angen mwy o weithredu er mwyn:
- gwella ansawdd dŵr drwy leihau a rheoli lefelau maethynnau
- dod â nodweddion yr ardal cadwraeth arbennig i statws cadwraeth ffafriol
- mynd i’r afael ag amhariad ar bysgodfeydd
- archwilio cyfleoedd ar gyfer atebion arloesol
Dalgylch Cyfle Bae Abertawe
Mae’r dalgylch cyfle yma yn cynnwys afonydd wedi’u haddasu’n fawr gyda hydromorffoleg wedi’i newid, a tharfu ar brosesau naturiol. Mae hyn yn gwneud dalgylchoedd yn llai gwydn, ac yn cyfyngu ar adferiad ecolegol ecosystemau afonydd. Mae’n arwain at golli bioamrywiaeth, yn peryglu’r gwasanaethau ecosystem yr ydym yn dibynnu arnynt, gan wneud cymunedau a’r amgylchedd yn fwy agored i effeithiau llifogydd, sychder, erydiad ac ansawdd dŵr gwael.
Mae llygredd o ardaloedd trefol a gwledig a gweithgarwch mwyngloddio hanesyddol yn effeithio’n andwyol ar ansawdd dŵr afonydd yn y dalgylch cyfle. Mae gweithio gyda Dŵr Cymru er mwyn gwella’r rhwydwaith carthffosydd, yn enwedig yn ardal Afan, yn faes gwaith blaenoriaeth.
Astudiaeth achos
Lleoliad y prosiect: Sandfields, canol dinas Abertawe
Partneriaid allweddol: Cyngor Abertawe, trigolion Sandfields, ac Ysgol Gynradd Sandfields
Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr, Teithio Llesol, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Disgrifiad o’r prosiect: Gweithio gyda natur i ddal dŵr, ei arafu, ei lanhau, ei ddefnyddio, ei golli.
Yn Abertawe rydym yn credu bod pobl yn haeddu cynefinoedd da hefyd. Gan weithio gyda phartneriaid cymdeithasol, mae CNC wedi mabwysiadu dull ffocws i wella iechyd ac ansawdd Dalgylch Cyfle Bae Abertawe, ac y mae bellach yn gweithio tuag at gael Abertawe fel dinas sbwng, er mwyn addasu i effeithiau newid hinsawdd, glanhau a rheoli ein dŵr, gwneud lle i natur, a hyrwyddo iechyd a llesiant cymunedau lleol.
Mae Bae Abertawe, sy’n ddŵr ymdrochi dynodedig, yn cael ei fwynhau gan lu o bobl leol ac ymwelwyr. Fodd bynnag, mae canol y ddinas, sydd wedi’i lleoli ar y bae crwm hwn, yn dioddef fwyfwy o lifogydd dŵr wyneb a gollyngiadau gorlif storm cysylltiedig yn ystod glawiad trwm. Mae digwyddiadau o’r fath yn effeithio ar bobl leol ac ansawdd dŵr ymdrochi, gyda llifogydd yn achosi problemau i drigolion a hefyd yn golchi llygryddion i mewn i’r system garthffosiaeth storm, a thrwyddo.
Fel rhan o gyflawniad parhaus strategaeth seilwaith gwyrdd Abertawe, mae gerddi glaw biogadw a thoeau gwyrdd wedi’u gosod ledled y ddinas i reoli dŵr ffo storm, ac atal llygryddion rhag cyrraedd Bae Abertawe trwy eu hidlo allan. Mae’r materion sy’n cael eu trafod yn niferus: llifogydd lleol, effaith ar ddyfroedd ymdrochi, diffyg mynediad at natur, gwneud llwybrau teithio llesol yn fwy gwyrdd, a chynnal bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau. Un fenter o’r fath fu trawsnewid Sandfields. Ar draws tri lleoliad, gan gynnwys ysgol gynradd leol, bydd y mannau gwyrdd hyn yn gwneud y canlynol:
- Arafu llif dŵr glaw i ddraeniau storm, er mwyn lleihau’r risg o lifogydd a lleihau’r pwysau ar y rhwydwaith carthffosiaeth.
- Helpu i leihau llygredd trwy hidlo dŵr storm trwy brosesau naturiol.
- Cynnal bioamrywiaeth a gwella cysylltedd ar draws y dirwedd drefol a’r rhwydwaith ecolegol gwydn trefol sy’n datblygu.
- Mae planhigion yn hidlo’r aer yn naturiol ac yn amsugno llygryddion gan wella ansawdd yr aer.
- Cysylltu pobl â natur a gwella llesiant.
- Darparu cysgod yn ystod tywydd poeth, gan greu mannau cyhoeddus oerach a mwy cyfforddus i frwydro yn erbyn effaith ynys wres drefol.
Y prif ganlyniadau: Enghreifftiau gweithredol o erddi glaw biogadw bywiog, ecolegol swyddogaethol, sy’n gweithredu fel sbyngau i ddal ac arafu llif dŵr i’r rhwydwaith carthffosydd storm wrth ddarparu nifer o fuddion eraill.
Gwersi a ddysgwyd: Mae gan CNC offer ac ymglymiad rheoleiddio traddodiadol cyfyngedig yn nhirwedd drefol Abertawe. Dyma enghraifft o’n gwaith i ddylanwadu ar yr amgylchedd a’i wella wrth gyflawni ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), ac fel aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.
Mae mabwysiadu dull cydgynhyrchiol gwirioneddol trwy ymgysylltu â thrigolion lleol o’r cychwyn cyntaf yn allweddol i ‘gelfyddyd y posibl’, i herio ‘normau’ a dulliau a allai gael eu ‘costio allan’ fel arall.
Gall amser, dull amlddisgyblaethol, cyfathrebu da, ac ymgysylltu cynnar â rhanddeiliaid arwain at lawer o lwyddiant, ond peidiwch â thanamcangyfrif yr amser a’r capasiti y mae eu hangen! Lle nad oes adnodd pwrpasol, mae angen rhywun i yrru’r gwaith yn ei flaen.
Heriau: Capasiti adnoddau ac arbenigedd. Mae’r amser y mae ei angen i lywio prosesau ar gyfer prosiectau risg isel, technoleg isel a chost isel yn ymddangos yn anghymesur, a gall achosi oedi.
At ei gilydd: Oherwydd etifeddiaeth diwydiant a fu unwaith o’r radd flaenaf, mae cymhlethdodau a heriau yn aml i gyfleoedd adfer afonydd, gyda materion ansawdd dŵr i’w hystyried ochr yn ochr â hwy. Fodd bynnag, mae natur amrywiol y dalgylch yn ei gwneud hi’n addas ar gyfer datblygu a chyflawni nifer o brosiectau, ac mae llawer o barodrwydd ymhlith cydweithredwyr posibl, gyda manteision yr un mor niferus ac amrywiol.
Ardal Basn Afon Hafren (Cymru yn unig)
Mae tri dalgylch cyfle ar ochr Cymru i Ardal Basn Afon Hafren, sef Taf/Elái, Canol Sir Fynwy ac Ieithon. Mae rhagor o fanylion am y camau gweithredu hyn ar gael ar Arsylwi Dyfroedd Cymru a thrwy’r Porth Adfer Afonydd. Darperir crynodeb o’r cynnydd yn Nhabl 6.
Bydd Ardal Basn Afon Hafren (Cymru a Lloegr) yn cael ei chynnwys yn adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2025.
Mae llawer o waith da wedi’i wneud ar draws yr ardal basn afon, tra yng Nghymru mae’r dalgylch cyfle wedi canolbwyntio ar dair ardal ddaearyddol, ac y mae gwaith wedi’i gyflawni ar draws yr ardal basn afon gyfan. Ers cyhoeddi’r cynlluniau rheoli basnau afonydd, mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf wedi dechrau. Nod y prosiect yw gwarchod rhywogaethau a gwella cynefinoedd drwy fynd i’r afael ag amrywiaeth o bwysau sy’n effeithio ar yr afon. Ei nod yw gwneud hyn drwy adfer a gwella cynefinoedd afonydd, lleihau gwaddod a llygryddion sy’n mynd i mewn i’r afonydd, a gwella gwytnwch effeithiau newid hinsawdd. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â thirfeddianwyr, ffermwyr, cymunedau a sefydliadau lleol i adfer a chreu cynefinoedd, lleihau llygredd, adfer ac ailgysylltu gorlifdiroedd, gwella llwybr pysgod a rheoli rhywogaethau goresgynnol.
Tabl 6 – Crynodeb o gynnydd y mesur ar draws Ardal Basn Afon Hafren (Cymru yn unig)
Dalgylchoedd Cyfle Afon Hafren |
Taf ac Elái |
Canol Sir Fynwy |
Ieithon |
Cyfanswm |
---|---|---|---|---|
Statws cyffredinol |
Gwyrdd |
Gwyrdd |
Gwyrdd |
Gwyrdd |
Cwblhawyd |
1 |
2 |
N/A |
3 |
Gwyrdd |
7 |
6 |
5 |
18 |
Oren |
2 |
N/A | N/A |
2 |
Coch |
N/A | N/A | N/A | N/A |
Heb ddechrau |
N/A | N/A |
2 |
2 |
Wedi’i atal |
N/A | N/A | N/A | N/A |
Dalgylch Cyfle Taf / Elái
Mae’r dalgylch cyfle yn dechrau’n uchel ym Mannau Brycheiniog ac yn llifo trwy ddyffrynnoedd serth i ardaloedd arfordirol isel Caerdydd. Mae ansawdd dŵr yr afonydd wedi adfer, i raddau helaeth, ers y diraddiant hanesyddol a achoswyd gan y diwydiant haearn, y diwydiant glo a diwydiannau eraill. Fodd bynnag, mae lloriau cul y cymoedd yn golygu bod datblygiad diwydiannol a threfol wedi tueddu i ddigwydd yn agos at lannau’r afonydd, gan arwain at newidiadau helaeth o law dyn, colli cynefinoedd ar lannau afonydd, a pheri bod afonydd yn agored i lygredd trefol. Mae mesurau a gynllunnir gan brosiectau partneriaeth fel Prosiect Dalgylch Taf Bargoed yn dwyn buddion i waith rheoli tir, a’r amgylcheddau glannau afon ar draws y dalgylch, a hynny wrth ymgysylltu â’r gymuned leol.
Y prif thema yw ‘pobl’, a’r rôl y gall yr amgylchedd dŵr ei chwarae mewn lles ac adfywio yn yr amgylchedd trefol iawn hwn. Gyda phoblogaeth dalgylch o ryw 500,000, sef 20% o boblogaeth Cymru, gan gynnwys Caerdydd, mae’r dalgylch cyfle hwn yn cynnig cyfle unigryw i archwilio cysylltiad pobl â’r amgylchedd dŵr, y pwysau ôl-ddiwydiannol a threfol ar yr amgylchedd dŵr, a gwasanaethau ecosystem dŵr croyw gwydn. Mae ‘Gweithio gyda dŵr’ yn un o themâu allweddol Datganiad Ardal Canol De Cymru. Rydym yn archwilio ffyrdd o weithio ar draws swyddogaethau yn fewnol ac yn datblygu rhwydweithiau gwell gyda phartneriaid strategol, gan ddatblygu dull integredig ar y cyd o adfer dalgylchoedd ar raddfa dirwedd ystyrlon. Drwy ddeall a gwerthfawrogi’r amgylchedd naturiol, gweithio drwy bartneriaethau teg a rhoi’r amgylchedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, rydym yn cyflawni adferiad ar raddfa dalgylch, yn gweithio gyda phrosesau naturiol, ac yn archwilio atebion sy’n seiliedig ar natur i gyflawni rheolaeth gynaliadwy o’r dalgylch a chynyddu’r manteision lles i bobl sy’n byw yno.
Dalgylch Cyfle Canol Sir Fynwy
Mae’r dalgylch cyfle yn cynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Wysg, sy’n tarddu ar lethrau’r Mynydd Du ac yn llifo trwy ddalgylch hir a chul o harddwch golygfaol gwych trwy drefi Aberhonddu, Crucywel, y Fenni a Brynbuga. Mae twristiaeth yn bwysig i’r economi leol, gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chamlas Mynwy ac Aberhonddu yn denu ymwelwyr sy’n chwilio am weithgareddau hamdden awyr agored. Mae hefyd yn ymestyn tua’r gorllewin gan gwmpasu rhannau o ddalgylch afon Gwy. Mae bywyd gwyllt toreithiog yn y dalgylch cyfle ac y mae ei werth ecolegol uchel yn cael ei gydnabod trwy ddynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae prosiectau fel Gwent Gydnerth yn canolbwyntio ar y prif ffactorau sy’n achosi colli bioamrywiaeth, sef newid hinsawdd, llygredd, newid / colli cynefinoedd, rhywogaethau goresgynnol ac ecsbloetio.
Mae’r dalgylch cyfle yn alinio’n uniongyrchol ag un o’r pum ardal proffil tirwedd sy’n ffurfio Datganiad ardal y de-ddwyrain. Un o’r nodau yw cyflawni partneriaeth gydweithredol ar raddfa’r dirwedd sy’n mynd ar drywydd amcanion y datganiad ardal, Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, ac amcanion llesiant. Mae’r ardal hon yn cynnwys yn bennaf dir fferm caeedig, sy’n creu pwysau trwy arferion amaethyddiaeth a rheoli tir gwledig, a chyfleoedd i’r dirwedd, megis amaethyddiaeth ac economi wydn, a bwyd parod i’r hinsawdd carbon isel. Mae cyfle hefyd i gymhwyso dull ‘darparu unwaith’ wrth fynd i’r afael â’r pwysau a’r effeithiau yn ogystal â gwella gwytnwch ecosystemau ar raddfa’r dirwedd gyda chyfleoedd i wella statws cyrff dŵr o ran Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, a chyflwr Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Wysg.
Astudiaeth achos
Lleoliad y prosiect: Canol Sir Fynwy
Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr
Tarddle: Is-afon i afon Troddi
Disgrifiad o’r prosiect: Cyn i’r gwaith ar y safle ddigwydd, roedd trac yn rhedeg i lawr at strwythur tebyg i ryd drwy’r nant. Defnyddiwyd hwn ddwywaith y dydd gan fuches o 200 o wartheg ar eu ffordd i’r parlwr godro ac yn ôl. O ran ansawdd y dŵr, roedd hyn yn cyfrannu llwythi uchel o waddod a maethynnau i’r cwrs dŵr.
Cyn ac ar ôl gosod croesfan afon

Y prif ganlyniadau: Gwnaeth y prosiect ddisodli’r rhyd gyda phont bren galed â rhychwant clir, wedi’i hardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd, gan gael gwared ar rwystr i lwybr pysgod, ac atal pridd a mwd rhag mynd i’r nant yn barhaus.
Heriau: Mae yna lawer o broblemau wedi bod ynghylch gosod pympiau solar. Un o’r rhain oedd oedi wrth gyflenwi. Disgwyliad y contractwr oedd y byddai’r pwmp yn cyrraedd yn gyflym. Cymerodd y pwmp dros ddau fis i gyrraedd, gan achosi oedi ar draws blynyddoedd ariannol.
Gwersi a ddysgwyd: Collwyd cyfleoedd i gyflwyno’r ddau barti ar gyfer y daith gerdded cyn y gwaith ar y safle, ac ni chafodd esboniad o ddulliau a sensitifrwydd y safle ei nodi. Mae’n allweddol bod pawb yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau, bod disgwyliadau’n glir, a bod cyfathrebu’n cael ei gynnal drwy gydol oes y prosiect. Hefyd, gall dod o hyd i ddeunyddiau gymryd mwy o amser nag a ddisgwylir. Dylid cynnwys hyn wrth gynllunio prosiect, a dylid ystyried manteision caffael rhai deunyddiau ymhell cyn y dyddiadau cychwyn y cytunwyd arnynt.
Dalgylch Cyfle Ieithon
Mae afon Ieithon wedi’i nodi fel dalgylch cyfle oherwydd ei phwysigrwydd o ran cynefinoedd a rhywogaethau sy’n ddibynnol ar ddŵr, ond hefyd fel ardal amaethyddol gynhyrchiol gyda dwysedd uchel o unedau ffermio dwys. Mae’r ardal yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwy, ac mae cydweithio’n allweddol i wella ansawdd dŵr, cynefinoedd afonydd, a rheoli tir a dŵr mewn ffordd gynaliadwy er mwyn atal dirywiad. Mae prosiectau fel Prosiect Ecosystem Gwy Ieithon a Hafren yn gweithio gyda ffermwyr er mwyn gwarchod a gwella adnoddau naturiol mewn ffordd sy’n fuddiol i fusnesau amaethyddol, afonydd a’r gymuned ehangach.
Y brif thema yw cydweithio â phartneriaid er mwyn atal dirywiad ansawdd dŵr a rheoli dŵr, tir ac aer yn gynaliadwy er budd bywyd gwyllt a phobl. Mae gan y dalgylch cyfle y dwysedd uchaf o unedau dofednod dwys yn Ewrop ac, ochr yn ochr â hyn, mae cynhyrchu moch yn datblygu o fewn y dalgylch. Bydd cynllunio a rheolaethau amgylcheddol digonol ar gyfer ffermio dwys, lleihau mewnbynnau maetholion i’r dalgylch, ac adfer cynefinoedd afonydd yn cyfrannu at well ansawdd dŵr ac amcanion Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae amgylchedd dŵr iachach yn dwyn buddion i’r rhywogaethau a chynefinoedd sy’n dibynnu arno, ac yn creu lle y gall pobl ei fwynhau.
Argymhellion
Dyma’r tro cyntaf i ofyniad deddfwriaethol fodoli i gwblhau adroddiad o’r natur hon ar gyfer y cynlluniau rheoli basnau afonydd. Er bod ei gynhyrchiad wedi’i lywio gan y gofyniad hwn, mae hefyd wedi bod yn ymarfer hynod ddefnyddiol, ac rydym wedi tynnu nifer o argymhellion ohono i gynnal gweithrediad parhaus y cynlluniau rheoli basnau afonydd. Mae’r 15 argymhelliad hyn wedi’u nodi isod yn Nhabl 7 ac, yn y lle cyntaf, maent yn fater i CNC eu hadolygu a chytuno ar sut i symud ymlaen. Fodd bynnag, byddant hefyd yn cael eu cyflwyno i grŵp gorchwyl a gorffen cynllunio basnau afonydd Fforwm Rheoli Dŵr Cymru i’w hystyried, gan weithio gyda CNC i’w symud ymlaen. Ochr yn ochr â’r rhain, bydd angen ystyried argymhellion o Adroddiad Terfynol y Comisiwn Dŵr Annibynnol a chanlyniadau adolygiad barnwrol Costa Beck hefyd. Fodd bynnag, at ddiben yr adroddiad hwn, nid yw’r newidiadau a oedd yn ofynnol o’r rhain wedi’u cymhwyso oherwydd amseru, ac mae’r adroddiad hwn hefyd yn canolbwyntio ar y cynllun rheoli basn afon cyfredol a’i weithrediad cyn cyhoeddi canlyniadau’r adroddiadau hynny. Er mwyn cefnogi dulliau yn y dyfodol, bydd argymhelliad 1 yn cael blaenoriaeth, a dylid gweithredu argymhelliad 2 hefyd gan gynnwys elfen drawsffiniol gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a rhanddeiliaid tebyg. Mae hwn yn gam hollbwysig i sicrhau adrodd a gwerthuso effeithiol ar gynnydd.
Tabl 7 – Argymhellion
Nifer |
Thema |
Argymhelliad |
---|---|---|
1 |
Dulliau |
Adolygu canfyddiadau’r adroddiad hwn ochr yn ochr â gofynion y dyfodol drwy adroddiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol ac adolygiad barnwrol Costa Beck. Mae hwn yn ddarn arwyddocaol o waith ar gyfer dulliau’r presennol a’r dyfodol o ymdrin â Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. |
2 |
Dulliau |
Ymgymryd ag ymarfer gwersi a ddysgwyd i lywio dulliau ar gyfer gweithredu, olrhain mesurau, ac adrodd arnynt. Cynnwys gweithdy gyda grŵp gorchwyl a gorffen cynllunio basnau afonydd Fforwm Rheoli Dŵr Cymru er mwyn llywio hyn a llunio dulliau gweithredu yn y dyfodol ar gyfer cynlluniau rheoli basnau afonydd. |
3 |
Dulliau |
Parhau i weithio gyda grŵp gorchwyl a gorffen cynllun rheoli basnau afonydd Fforwm Rheoli Dŵr Cymru er mwyn cefnogi dulliau cyflenwi cynlluniau rheoli basnau afonydd a llywio dulliau yn y dyfodol. Mae’r grŵp hwn yn llenwi bwlch yn dilyn diddymu’r hen baneli cyswllt. |
4 |
Dulliau |
Drwy’r gwersi a ddysgwyd o’r adroddiad hwn, ystyried sut y gellid gwella adrodd ar ardaloedd basnau afonydd trawsffiniol. |
5 |
Dulliau |
Mae’r adolygiad hwn wedi nodi heriau i’r broses weithredu, yn enwedig o ran adnoddau staff a sgiliau arbenigol technegol, yn ogystal â chymhlethdodau prosesau i gyflawni prosiectau a chyfyngiadau ariannu. Mae angen ystyried y rhain mewn dulliau yn y dyfodol er mwyn galluogi cyflawniad yn hytrach na’i rwystro. |
6 |
Dulliau |
Mae’r adroddiad hwn wedi canolbwyntio ar y mesurau a gyhoeddwyd ar Arsylwi Dyfroedd Cymru gan gynnwys y deg dalgylch cyfle. Er nad oedd o fewn cwmpas yr adolygiad hwn i edrych ar draws yr holl gamau gweithredu eraill sy’n cyfrannu at ddiogelu ac adfer ein dyfroedd, dylid cydnabod y gwaith hwn ac mae angen ystyried dulliau ar gyfer ei gynnwys. |
7 |
Safonau data |
Diffinio’n glir beth yw mesur, a sicrhau ei fod yn benodol ac yn fesuradwy. Dylai hyn gynnwys yr iaith a ddefnyddir a all fod yn ddryslyd, lle mae’r cynlluniau rheoli basnau afonydd yn cynnwys mesurau a chamau gweithredu. |
8 |
Safonau data |
Edrych ar draws y rhaglenni allweddol sy’n ffurfio’r mesurau cenedlaethol a nodi ble y gellir alinio safonau data yn well er mwyn galluogi adrodd mwy effeithlon ac effeithiol yn y dyfodol. Cynnwys safonau cyffredin, megis defnyddio dulliau adnabod cyrff dŵr a dalgylchoedd. Gan fod yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu’n fwyfwy yn ofodol, a’i rheoli trwy wahanol gronfeydd data, mae’n hanfodol bod safonau data wedi’u diffinio’n glir i helpu i reoli’r data fel y gellir cynhyrchu adroddiad cynhwysfawr ar ardaloedd basnau afonydd. |
9 |
Mesurau |
Datblygu’r camau a nodwyd o’r adolygiad hwn ar fesurau penodol fel y’u cofnodwyd ac a adroddwyd o fewn manylion y mesurau a ddiweddarwyd ar Arsylwi Dyfroedd Cymru. |
10 |
Mesurau |
Adolygu a diweddaru yn ôl yr angen arweinwyr mesurau enwol er mwyn sicrhau perchnogaeth, gweithredu, olrhain ac adrodd. |
11 |
Mesurau |
Roedd y rhaglen mesur dalgylch cyfle yn cynnwys nifer o gamau gweithredu lleol y gwnaethom eu galw’n ‘Nodau’r Dyfodol' (gweithredu lleol posibl). Roedd y rhain yn fesurau mwy uchelgeisiol a hyblyg lle mae llai o sicrwydd ynghylch eu gweithredu. Ychydig o gynnydd a wnaed yn erbyn y mesurau uchelgeisiol hyn sy’n dibynnu ar bethau fel sicrhau digon o gyllid, datblygu’r partneriaethau cywir ac ati. Mae angen adolygu’r rhain. |
12 |
Olrhain |
Cynnal adolygiad blynyddol o gynnydd. Dylai fod dull cytûn ar gyfer hyn i alluogi partneriaid sydd hefyd yn arwain ar gyflawni mesurau i gyfrannu at eu cynnydd. Dylid integreiddio hyn yn llawn yn y rhaglen cynllun rheoli basn afon. Dylid nodi’n glir y dulliau ar gyfer adolygiad blynyddol yn y cynllun rheoli basn afon. |
13 |
Olrhain |
Nodi pa fesurau y mae angen eu blaenoriaethu er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud yn ystod y cylch cynllun rheoli basn afon hwn. Dylid blaenoriaethu’r rhain gan y mesurau hynny lle nad yw statws cynnydd yn wyrdd risg uchel, a lle mae effeithiau buddiol y mesur ar eu mwyaf, fel y nodwyd drwy’r adolygiad hwn. |
14 |
Olrhain |
Sicrhau bod holl dracwyr cynnydd CNC yn cael eu defnyddio ac yn gyfredol, gan ychwanegu data at lwyfannau data CNC. Bydd cael dull TGCh integredig o ran dalgylchoedd yn allweddol. |
15 |
Olrhain |
Drwy olrhain, cynnwys y costau buddsoddi ac unrhyw gostau prosiect cysylltiedig er mwyn cynnal y gwaith adrodd yn y dyfodol. Cipio’r manylion ariannol sy’n gysylltiedig â mesurau cynllun rheoli basn afon a defnyddio hyn i lywio cost-effeithiolrwydd, gan gynnwys cyfraniadau sector. |
Atodiad 1
Crynodeb o’r Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd 2021 i 2025
Rhaglen y Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd: Ansawdd dŵr |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
2024-25 |
---|---|---|---|---|
Cloddfeydd metel |
£3,621,100 |
£3,861,530 |
£5,444,758 |
£6,036,900 |
Ansawdd dŵr |
£1,115,412 |
£2,139,311 |
£4,497,794 |
£4,706,416 |
Cronfeydd dŵr |
£0 |
£0 |
£3,170,749 |
£2,141,583 |
Pysgodfeydd |
£1,722,580 |
£1,725,820 |
£2,660,519 |
£2,114,394 |
Rhaglen y Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
2024-25 |
---|---|---|---|---|
Coedwigoedd cenedlaethol |
£0 |
£277,941 |
£953,244 |
£1,571,322 |
Mawndiroedd |
£2,068,100 |
£2,393,780 |
£3,306,030 |
£3,815,472 |
Rhwydweithiau natur |
£2,936,993 |
£4,444,686 |
£6,232,594 |
£7,026,576 |
Crynodeb o’r buddsoddiad ar gyfer pob dalgylch cyfle o dan y Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr 2021–2025
Enw’r prosiect |
Dalgylch cyfle |
Gwariant 2020-2021 |
Gwariant 2021-2022 |
Gwariant 2022-2023 |
Gwariant 2023-2024 |
---|---|---|---|---|---|
Dalgylch cyfle morol |
Afon Cleddau ac Aberdaugleddau, Ynys Môn, Conwy, Bae Abertawe |
£0 |
£0 |
£100,930 |
£96,630 |
Dalgylch Cyfle Clwyd |
Clwyd |
£0 |
£16,500 |
£124,260 |
£244,720 |
Dalgylch Cyfle y Gogledd-orllewin / Uwch Conwy |
Conwy, Ynys Môn, Clwyd |
£58,800 |
£0 |
£171,000 |
£173,390 |
Dalgylch Cyfle Bae Abertawe |
Bae Abertawe |
£191,000 |
£88,740 |
£55,630 |
£89,500 |
Diatomau ac Infertebratau Gwy Uchaf |
Afon Ieithon |
£0 |
£0 |
£50,000 |
£0 |
Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf |
Afon Ieithon |
£0 |
£0 |
£0 |
£61,160 |
Dalgylch Cyfle Canol Sir Fynwy |
Canol Sir Fynwy |
£0 |
£50,470 |
£42,310 |
£95,120 |
Gweithio gyda Dŵr yng Nghanol De Cymru |
Taf / Elái |
£0 |
£0 |
£122,000 |
£28,630 |
Addasiadau ffisegol |
Taf / Elái, Ieithon, Dyfrdwy, Cleddau, Bae Abertawe |
£0 |
£195,921 |
£144,356 |
£401,358 |
Dull Dalgylch Elái a Merthyr Tudful |
Taf / Elái |
£0 |
£77,860 |
£119,717 |
£98,425 |
Adfer Nant y Fendrod |
Bae Abertawe |
£0 |
£24,970 |
£0 |
£1,160 |
Ymyriadau Rheoli Tir Dyfrdwy / LIFE Afon Dyfrdwy |
Dyfrdwy |
£0 |
£373,600 |
£204,890 |
£0 |
Clwyd Isaf |
Clwyd |
£0 |
£22,300 |
£20,293 |
£0 |
Dalgylch Cyfle Afon Cleddau, Aberdaugleddau |
Afon Cleddau, Aberdaugleddau |
£0 |
£48,327 |
£5,194 |
£0 |
Dalgylch Cyfle Dŵr Daear / Afonydd Ynys Môn |
Ynys Môn |
£0 |
£78,400 |
£0 |
£0 |
Afonydd y De-ddwyrain |
Canol Sir Fynwy |
£0 |
£0 |
£0 |
£4,376 |
Cyfanswm y buddsoddiad |
Pob ardal |
£249,800 |
£832,258 |
£837,450 |
£1,294,469 |