Map llifogydd ar gyfer cynllunio / map cyngor datblygu

Map Cyngor Datblygu

Y Map Cyngor Datblygu a pholisi cynllunio cysylltiedig Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd yw'r fframwaith presennol ar gyfer asesu pergyl llifogydd ar ddatblygiadau newydd ac oddi wrthynt. 

Mae'r Map Cyngor Datblygu yn offeryn sgrinio i awdurdodau lleol er mwyn deall lle y gallai fod angen asesiad pellach o lifogydd. 

Diweddaron ni'r Map Cyngor Datblygu am y tro diwethaf yn Ionawr 2020. Does dim cynlluniau ar gyfer diweddaradau pellach. Cysylltwch â ni am wybodaeth ddiweddar am eich ardal. 

(Cliciwch fotwm dde eich llygoden ar y botwm uchod i'w agor mewn tab newydd)

 

Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu Nodyn Cyngor Technegol 15 diwygiedig. Bydd y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn cefnogi hwn. Mae'r map yn cynnwys gwybodaeth am newid hinsawdd i ddangos sut bydd hyn yn effeithio ar yr ardaloedd sydd mewn pergyl o lifogydd dros y ganrif nesaf. Mae'n dangos yr ardaloedd all gael eu heffeithio gan lifogydd, heb ystyried effaith amddiffynfeydd. 

Does gan y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ddim statws swyddogol nes bod Llywodraeth Cymru'n gweithredu'r Nodyn Cyngor Technegol 15 diwygiedig. Fodd bynnag, hon yw'r wybodaeth orau sydd ar gael ar risg llifogydd. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i'w ddefnyddio er mwyn hysbysu ein cyngor cynllunio.

Mae Llwydraeth Cymru newydd ymgynghori ar ddiwgiadau pellach arfaethedig i'r Nodyn Cyngor Technegol 15. Mae hyn yn golygu bod gweithredu ffurfiol Nodyn Cyngor Technegol 15 a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio wedi cael ei ohirio. Caeodd yr ymgynghoriad 17 Ebrill 2023. 

Gofynnwyd i Awdurdodau Cynllunio Lleol adolygu eu Hasesiadau Goblygiadau Llifogydd Strategol yn unol â'r Nodyn Cyngor Technegol 15 drafft, a gyhoeddwyd ym Medi 2021, a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.  

Mae mwy o wybodaeth ar weithrediad ffurfiol Nodyn Cyngor Technegol 15 a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn Natganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru. 

Mae dwy olyfga gan y map: 

  • Sylfaenol - mae hwn yn cynnwys digon o ddata ar gyfer sgrinio lefel uchel yn erbyn Nodyn Cyngor Technegol 15
  • Manwl - mae hwn yn cynnwys manylion ychwanegol a all gael eu defnyddio ar gyfer Asesiadau Canlyniadau Llifogydd 

(Cliciwch fotwm dde eich llygoden ar y botwm uchod i'w agor mewn tab newydd)

 

Gweler ein Map Asesu Pergyl Llifogydd Cymru ar gyfer y risg presennol, sy'n ystyried effaith amddiffynfeydd presennol. Does gan y map hwn ddim statws swyddogol ar gyfer dibenion cynllunio, gan nad yw'n ystyried effaith newid hinsawdd yn y dyfodol. Gyda'i gilydd mae'r ddau fap yn ffurfio Map Llifogydd Cymru. 

Beth mae'r haenau map yn ei feddwl? 

Mae gan y Map Llifogydd ar gyfer Cyllunio yr haenau canlynol sy'n dangos ystod posibl llifogydd, gan gymryd bod dim amddiffynfeydd rhag llifogydd yn bodoli: 

Afonydd - Parth Llifogydd 2

Ardaloedd gyda 0.1% i 1% (1 mewn 1000 i 1 mewn 100) o gyfle llifogydd o afonydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithio newid hinsawdd. 

Afonydd - Parth Llifogydd 3

Ardaloedd gyda mwy na 1% (1 mewn 100) o gyfle llifogydd o afonydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd. 

Afonydd a Môr - Parth Llifogydd 2

Risg 0.1% o haenau Parth Llifogydd Afonydd a Môr gyda'i gilydd.

Afonydd a Môr - Parth Llifogydd 3

Risg 1% o haenau Parth Llifogydd Afonydd a Môr gyda'i gilydd.

Môr - Parth Llifogydd 2

Ardaloedd gyda 0.1% i 0.5% (1 mewn 1000 i 1 mewn 200) o gyfle llifogydd o'r môr mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd. 

Môr - Parth Llifogydd 3

Ardaloedd gyda mwy na 0.5% (1 mewn 200) o gyfle llifogydd o'r môr mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd. 

Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach - Parth Llifogydd 2

Ardaloedd gyda 0.1% i 1% (1 mewn 1000 i 1 mewn 100) o gyfle llifogydd o ddŵr wyneb a/neu gyrsiau dŵr bach mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd. 

Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach - Parth Llifogydd 3

Ardaloedd gyda mwy na 1% (1 mewn 100) o gyfle llifogydd o ddŵr wyneb a/neu gyrsiau dŵr bach mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd. 

Parthau Amddiffynol TAN15

Ardal sy'n elwa o amddiffynfeydd llifogydd Awdurdodau Rheoli Risg gydag isafswm Safon Diogelu: 

  • 1 mewn 100 mlynedd (amser presennol) ar gyfer afonydd
  • 1 mewn 200 mlynedd (amser presennol) ar gyfer y môr

Ar gyfer amddiffynfeydd a adeiladwyd o 2016, rhaid cael lwfans ar gyfer newid hinsawdd a bwrdd rhydd dylunio. 

Llifogydd hanesyddol

Ardaloedd lle mae llifogydd wedi'u cofnodi.

Lleoliadau amddiffynfeydd llifogydd

Mwy o wybodaeth am leoliad a safon diogelu amddiffynfeydd llifogydd ffurfiol.

Risg llifogydd o gronfeydd

Mwy o wybodaeth am risg llifogydd o gronfeydd.

Prif afonydd

Mwy o wybodaeth am brif afonydd. Os ydy cynnig cynllunio wrth ymyl prif afon, efallai bod rhaid i chi gael trwydded, yn ychwanegol i ganiatâd cynllunio. 

Rheolwr Model Lleol CNC

Ardaloedd lle mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru fodelau llifogydd lleol manwl, sy'n gallu bod yn ddefnyddiol i hysbysu asesiad canlyniadau llifogydd i gefnogi cais cynllunio. Cysylltwch â datadistribution@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i ofyn am fynediad at y data hyn. 

Cynlluniau Rheoli'r Traethlin ac erydu arfordirol 

Mwy o wybodaeth am Gynlluniau Rheoli'r Traethlin ac erydu arfordirol. Bydd rhaid i chi ystyried y cynlluniau hyn yng ngheisiadau datblygu ar yr arfordir. 

Herio ein mapiau llifogydd

Dysgwch fwy am ein gwybodaeth risg llifogydd, gan gynnwys canllawiau ar: 

Herio ein map llifogydd

Datblygu eich modelau hydrolig eich hunain

Modelu ar gyfer Asesiadau Canlyniadau Llifogydd

Diweddaru'r map

Rydym yn diweddaru’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ar ran Llywodraeth Cymru bob blwyddyn ar yr adegau canlynol:

  • diwedd mis Mai
  • diwedd mis Tachwedd

Rydym y rhestru’r diweddariadau hyn isod ond yn cynnwys newidiadau i’r canlynol yn unig: 

  • Parthau Llifogydd o Afonydd
  • Parthau Llifogydd o’r Môr
  • Parthau Llifogydd o Afonydd a’r Môr
  • Parthau a Amddiffynnir TAN15

Cysylltwch â ni ynglŷn â diweddariadau i haenau eraill yn yr ardaloedd isod.

Diweddariad Tachwedd 2024

Cyhoeddwyd 28 Tachwedd 2024

Mae llyfrau Map PDF yn dangos manylion y newidiadau.  Mae'r mapiau hyn yn dangos y gwahaniaeth mewn meintiau llifogydd rhwng cyhoeddiad Mai 2024 a Tachwedd 2024.

Diweddariadau i Barthau a Amddiffynnir TAN15:

  1. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol newydd ar gyfer Machen

Diweddariadau i Barthau Llifogydd Afonol:

  1. Afon Cwm Dulyn yn Nebo
  2. Afon Elwy yn Llanfair Talhaearn
  3. Afon Rhyd-hir ym Mhwllheli
  4. Afon Rhymni yn Ystrad Mynach

Diweddariadau i Barthau Llifogydd o’r Môr:

  1. Ardaloedd llanwol i'r gogledd o Abersoch
  2. Ardaloedd llanwol i'r de o Abersoch
  3. Ardal lanwol Borth-y-Gest
  4. Ardal lanwol Cricieth
  5. Ardal lanwol Hafan-y-Môr
  6. Ardal lanwol Morfa Bychan
  7. Ardal lanwol Porthmadog
  8. Ardal lanwol Pwllheli

Diweddariad Mai 2024

Cyhoeddwyd 23 Mai 2024

Mae llyfrau Map PDF yn dangos manylion y newidiadau.  Mae'r mapiau hyn yn dangos y gwahaniaeth mewn meintiau llifogydd rhwng cyhoeddiad mis Tachwedd 2023 a mis Mai 2024.

Diweddariadau i Barthau a Amddiffynnir TAN15 :

  1. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol newydd ar gyfer Rhuthun
  2. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol newydd ar gyfer Llantrisant
  3. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol newydd ar gyfer Tywyn
  4. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol yn Ogwr
  5. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Rhuthun
  6. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Nhreherbert
  7. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol ym Mhont-y-clun
  8. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol ym Machen
  9. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol ym Bedwas

Diweddariadau i Barthau Llifogydd Afonol:

  1. Afon Gwyrfai ym Metws Garmon
  2. Afon Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr
  3. Afon Tawe yng Nghlydach
  4. Afon Dulais yn y Creunant
  5. Nant Guilsfield yng Nghegidfa
  6. Afon Tefeidiad yn Nhrefyclo
  7. Afon Hafren yn Llandinam
  8. Afon Dyfrdwy yn Llanuwchllyn
  9. Nant Morlais ym Merthyr Tudful
  10. Dalgylch uchaf Afon Rhondda
  11. Afon Clwyd yn Rhuthun
  12. Afon Tawe ym Mro Abertawe
  13. Afon Tawe yn Abertawe
  14. Afon Rhymni o Ystrad Mynach i Fachen

Diweddariadau i Barthau Llifogydd o’r Môr:

  1. Estyniadau’r llanw o’r Bermo i Fairbourne
  2. Estyniadau’r llanw o Landanwg i Lanaber
  3. Ardal llanwol Llwyngwril
  4. Ardaloedd llanwol Pwllheli
  5. Estyniadau’r llanw o Dywyn i'r Borth

Diweddariad Tachwedd 2023

Cyhoeddwyd 30 Tachwedd 2023

Mae llyfrau map PDF yn dangos manylion y newidiadau.  Mae'r mapiau hyn yn dangos y gwahaniaeth mewn meintiau llifogydd rhwng cyhoeddiad Mai 2023 a Tachwedd 2023.

Diweddariadau i Barthau a Amddiffynnir TAN15 :

  1. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol newydd ar gyfer Basaleg
  2. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol newydd ar gyfer Borth y Gest
  3. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol newydd ar gyfer Llanelli
  4. Tynnwyd tri Pharth a Amddiffynnir TAN15 ym Mhontarddulais

Diweddariadau i Barthau Llifogydd o Afonydd:

  1. Afon Hafren yng Nghaersŵs
  2. Afon Gwy yng Nghas-gwent
  3. Afon Morlais yn Ffos Las
  4. Nant Ewyn yn y Gaer, ger Crughywel
  5. Afon Cynffig ym Margam
  6. Afon Ewenni ym Mhencoed
  7. Afon Afan ym Mhort Talbot
  8. Afon Ebwy yn Nhŷ-du
  9. Afon Tawe yn Abertawe
  10. Afon Ewenni yn Waterton

Diweddariadau i Barthau Llifogydd o’r Môr:

  1. Estyniadau’r llanw yn Afon Gwy yng Nghas-gwent
  2. Ardaloedd llanwol Llanelli
  3. Ardaloedd llanwol Margam
  4. Ardal lanwol Port Talbot
  5. Ardaloedd llanwol Swansea

Diweddariad Mai 2023

Cyhoeddwyd ar 26 Mai 2023

Mae llyfrau map PDF yn dangos manylion y newidiadau.  Mae'r mapiau hyn yn dangos y gwahaniaeth mewn maint llifogydd rhwng cyhoeddiad Tachwedd 2022 a Mai 2023.

Diweddariadau i Barthau a Amddiffynnir TAN15:

  1. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol newydd ar gyfer Llanberis
  2. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol yn Abermaw
  3. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol yn Llanelli

Diweddariadau i Barthau Llifogydd o Afonydd:

  1. Afon Cynon o Hirwaun i Abercynon
  2. Nant Dowlais a Nant Myddlyn yn Ystrad Barwig
  3. Afon Tawe yng Nghlydach
  4. Nant Dyfatty ym Mhorth Tywyn
  5. Cwrs dŵr dienw yn Saundersfoot
  6. Afon Solfach yn Solfach
  7. Afon Hwch ac Afon Goch yn Llanberis
  8. Afon Goch yn Amlwch
  9. Afon Ceidiog yn Llandrillo
  10. Afon Alun yn yr Wyddgrug

Diweddariadau i Barthau Llifogydd o’r Môr:

  1. Ardal Dociau'r Barri
  2. Ffryntiad Port-Talbot
  3. Estyniadau’r llanw yn Afon Nedd yng Nghastell-nedd
  4. Ffryntiad Crofty
  5. Ffryntiad Llanelli
  6. Ffryntiad Llangennech
  7. Estyniadau’r llanw yn Afon Tywi yng Nghaerfyrddin
  8. Estyniadau’r llanw yn Afon Cynin yn Sanclêr
  9. Bae Saundersfoot
  10. Estyniadau’r llanw yn Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd
  11. Estyniad y llanw yn Afon Rheidol yn Aberystwyth

Diweddariad Tachwedd 2022

Cyhoeddwyd 28 Tachwedd 2022.

Mae’r llyfrau mapiau PDF yn dangos manylion y newidiadau. Mae’r mapiau hyn yn dangos y gwahaniaethau o ran maint llifogydd rhwng cyhoeddiad Mai 2022 a Thachwedd 2022.

Llyfr map PDF - Newidiadau i Barthau a Amddiffynnir TAN15

Llyfr map PDF - Newidiadau i Barth Llifogydd 3

Llyfr map PDF - Newidiadau i Barth Llifogydd 2

Diweddariadau i Barthau a Amddiffynnir TAN15:

Parthau a Amddiffynnir TAN15 newydd:

  1. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol newydd ar gyfer Llangennech
  2. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol newydd ar gyfer Cydweli
  3. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol newydd ar gyfer Dinbych-y-pysgod
  4. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol newydd ar gyfer Casllwchwr
  5. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol newydd ar gyfer Porthcawl

Parthau a Amddiffynnir TAN15 a addaswyd:

  1. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Llanelwy
  2. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Hwlffordd
  3. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn y Pwll
  4. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol ym Mhontarddulais
  5. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Hendy-gwyn ar Daf
  6. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Llanymddyfri
  7. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Abertawe
  8. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol ym Mhort Talbot
  9. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Resolfen
  10. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Aberteifi
  11. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yng Nglyn-nedd
  12. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol ym Meddgelert
  13. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Aberystwyth
  14. Addaswyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol a Morol yn Llanelli

Parthau a Amddiffynnir TAN15 a dynnwyd:

  1. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Nghwmafan
  2. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Nafen, i’r gogledd o Lanelli
  3. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn y Pîl
  4. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yng Ngorseinon
  5. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Nhre Ioan
  6. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Nantgarw
  7. Tynnwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn y Borth

Mae yna ystod o fân ddiweddariadau i gwmpas daearyddol y parthau a amddiffynnir TAN15 nad ydynt wedi’u rhestru fel rhan o’r diweddariad hwn.

Diweddariadau i Barthau Llifogydd o Afonydd:

  1. Afon Rheidol yn Aberystwyth
  2. Afon Aman yn Rhydaman
  3. Afon Glaslyn ym Meddgelert
  4. Nant Gwrach ym Mlaen-gwrach
  5. Nant Trebefered yn Nhrebefered
  6. Afon Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr
  7. Afon Dulais ym Mhorth Tywyn
  8. Afon Alun yng Nghaergwrle
  9. Afon Nedd yng Nglyn-nedd
  10. Afon Elwy o Lanelwy i Fae Cinmel
  11. Nant y Glasdwr yng Nghwm-ffrwd
  12. Afon Twrch yng Nghwm-twrch
  13. Afon Taf yn Abercannaid
  14. Afon Mynwy yn Nhrefynwy
  15. Nant Ewyn yn y Gaer, Crucywel
  16. Afon Nedd yng Nglyn-nedd
  17. Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd
  18. Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan
  19. Afon Gwy i’r de o Dyndyrn
  20. Afon Dulais yn y Pwll
  21. Afon Tywi yn Llandeilo
  22. Afon Teifi yn Llandysul
  23. Afon Rhymni yn Llanedern
  24. Afon Elwy yn Llanfair Talhaearn
  25. Afon Wysg yn Llan-ffwyst
  26. Afon Ewenni yn Llanharan
  27. Afon Taf o Bontypridd i Gaerdydd
  28. Afon Llynfi ym Maesteg
  29. Afon Ogwr ym Mro Ogwr
  30. Afon Tawe ym Mhontardawe
  31. Afon Gwendraeth ym Mhont-iets
  32. Afon Gwendraeth ym Mhorth-y-rhyd
  33. Afon Cynffig yn y Pîl
  34. Nant Bon Ville yn Saundersfoot
  35. Afon Mynwy yn Ynysgynwraidd
  36. Nant Lledan yn y Trallwng
  37. Afon Taf yn Hendy-gwyn ar Daf
  38. Afon Tawe yn Ystradgynlais

Diweddariadau i Barthau Llifogydd o’r Môr:

  1. Afon Wysg yng Nghasnewydd
  2. Y ffryntiad arfordirol yn Abertawe
  3. Afon Gwy i’r de o Dyndyrn

Diweddariad Mai 2022

Cyhoeddwyd ar 30 Mai 2022.

Mae llyfrau mapiau PDF yn dangos manylion y newidiadau. Mae'r mapiau hyn yn dangos y gwahaniaethau o ran maint llifogydd rhwng cyhoeddiad Mawrth 2022 a Mai 2022.

Diweddariadau i Barthau a Amddiffynnir TAN15:

  1. Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol newydd ar gyfer Aberaeron.
  2. Cafwyd gwared â Pharth a Amddiffynnir TAN15 Morol yn Marshes, Casnewydd.

Diweddariadau i Barthau Llifogydd o Afonydd:

  1. Afon Daron yn Aberdaron
  2. Afon Cresswell yn Begeli
  3. Afon Hoddnant yn Nhrebefered
  4. Afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt
  5. Afon Tywi yng Nghaerfyrddin
  6. Nant y Glasdwr yng Nghwm-ffrwd
  7. Afon Gïedd yng Nghwmgïedd
  8. Afon Tawe yn Nghwm-twrch
  9. Afon Rhythallt yng Nghwm y Glo
  10. Afon Aman yng Nglanaman
  11. Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd
  12. Afon Ganol yng Nghyffordd Llandudno
  13. Afon Tywi yn Llandeilo
  14. Afon Llanfairfechan yn Llanfairfechan
  15. Afon Ceunant yn Llanfihangel y Creuddyn
  16. Afon Morlais yn Llangennech
  17. Afon Dulais yn Llanwrda
  18. Afon Dyfi ym Machynlleth
  19. Nant Melin-cwrt ym Melin-cwrt
  20. Afon Pennal ym Mhennal
  21. Afon Solfach yn Solfach
  22. Afon Aeron yn Nhal Sarn
  23. Nant Lledan yn y Trallwng
  24. Afon Taf yn Hendy-gwyn ar Daf

Diweddariad Mawrth 2022

Cyhoeddwyd ar 17 Mawrth 2022. Roedd hwn yn gyhoeddiad gohiriedig o fis Tachwedd 2021.

Diweddariadau i Barthau a Amddiffynnir TAN15:

  1. Cafwyd gwared â Pharth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Llangennech
  2. Cafwyd gwared â Pharth a Amddiffynnir TAN15 Afonol ym Mhont-hir
  3. Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol yn Crofty

Diweddariadau i Barthau Llifogydd o Afonydd:

  1. Afon Adda ym Mangor-Is-coed
  2. Afon Cadnant yng Nghaernarfon
  3. Afon Hafren yng Nghaersŵs
  4. Afon Dyfrdwy yng Nghorwen
  5. Afon Wnion yn Nolgellau
  6. Afon Henddol yn Fairbourne
  7. Afon Cegidog yn Ffrith
  8. Afon Cegidog yn Llandrillo
  9. Afon Lliw yn Llanuwchllyn
  10. Afon Rheidol yn Aberystwyth
  11. Afon Llwchwr yn Rhydaman
  12. Nant Dyfatty ym Mhorth Tywyn
  13. Afon Tregatwg yn Nhregatwg
  14. Afon Morlais yn Crofty
  15. Afon Tywi yn Llanymddyfri
  16. Afon Teifi yn Llandysul Pentre-cwrt
  17. Afon Rhymni yn Llanedeyrn
  18. Afon Wysg yn Llan-ffwyst
  19. Afon Llwyd ym Mhont-y-pŵl, Cwmbrân a Phont-hir
  20. Ogwr Fawr yng Nghwm Ogwr
  21. Afon Ewenni ym Mhencoed
  22. Afon Tawe ym Mhontardawe
  23. Afon Dulais ym Mhontarddulais
  24. Afon Afan ym Mhort Talbot
  25. Afon Cynffig yn y Pîl
  26. Afon Nedd yn Resolfen
  27. Afon Cynin yn Sanclêr
  28. Afon Elái a Thaf yng Nghaerdydd
  29. Afon Rhymni yn Ystrad Mynach
  30. Basn Pant ym Merthyr Tudful
  31. Afon Alun yn Rhyd-y-mwyn

Data GIS

Os oes angen i chi lawrlwytho data GIS, gellir lawrlwytho nifer o haenau’r map o MapDataCymru.

Cydnabyddiaeth

Mae'n cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Natural Resources Wales a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae cyfran o’r wybodaeth wedi’i seilio ar ddata gofodol digidol sydd wedi’u trwyddedu gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg © NERC (CEH). Mapio Daearegol: Arolwg Daeareg Prydain © NERC. DEFRA a’r Swyddfa Dywydd © hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Cynnwys data OS data © Hawlfraint y Goron a hawl sylfaen-data 2017. Gwasanaethau Tir ac Eiddo Land © Hawlfraint y Goron a hawl sylfaen-data.

Diweddarwyd ddiwethaf