Ardaloedd sy'n elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd
Amddiffynfeydd rhag llifogydd ar ein mapiau
Mae ein teclyn Gweld eich risg llifogydd a map Asesu Perygl Llifogydd Cymru yn dangos ardaloedd sy’n elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd rhag:
- afonydd
- y mor
- y ddau, lle mae ffynonellau llifogydd yn gorgyffwrdd
Nid ydym yn dangos ardaloedd sy'n elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd o ddŵr wyneb neu gyrsiau dŵr bach. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol am wybodaeth am yr amddiffynfeydd hyn.
Os byddwn yn dangos bod ardal yn elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd, nid yw hyn yn golygu na fydd llifogydd. Mae amddiffynfeydd rhag llifogydd yn lleihau, ond nid ydynt yn atal y siawns o lifogydd yn gyfan gwbl gan y gallant gael eu trechu neu fethu.
Safonau Amddiffyn
Mae amddiffynfeydd rhag llifogydd yn rhoi gwahanol safonau o amddiffyniad. Rydym yn cymryd y Safon Amddiffyn i ystyriaeth pan fyddwn yn dangos y perygl llifogydd ar gyfer ardal.
Y Safon Amddiffyn isaf ar ein map yw 30. Mae hyn yn golygu bod yr amddiffynfa rhag llifogydd yn yr ardal hon yn amddiffyn rhag llifogydd 1 mewn 30 siawns mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Mae Safon Amddiffyn o 100 yn golygu bod yr amddiffynfa rhag llifogydd yn amddiffyn rhag llifogydd 1 mewn 100 mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae hyn yn lefel uwch o amddiffyniad rhag llifogydd na Safon Amddiffyn o 30.
Mae gan rai amddiffynfeydd rhag llifogydd Safon Amddiffyn sy'n is na 30. Ar gyfer yr amddiffynfeydd hyn, nid ydym yn dangos ardal sy'n elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd, ond efallai y byddwn yn dal i ddangos lleoliad yr amddiffynfa ar ein map.
Edrychwch ar y Safon Amddiffyn ar gyfer ardal trwy ddewis yr haen 'Ardaloedd sy'n elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd' ar fap Asesu Perygl Llifogydd Cymru.
Gall y Safon Amddiffyn mewn ardaloedd arfordirol sy'n cael eu heffeithio gan donnau'n torri drosodd fod yn is na'r hyn a ddangosir ar ein map.
Byddwn yn ychwanegu gwybodaeth am amddiffynfeydd rhag llifogydd ac ardaloedd sy'n elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd at y map pan fyddant ar gael.
I gael gwybodaeth am amddiffynfeydd rhag llifogydd nad ydyn nhw'n cael eu dangos ar y map eto, cysylltwch â ni.