Amddiffynfeydd rhag llifogydd
Gallwch weld lleoliad amddiffynfeydd llifogydd a adeiladwyd i amddiffyn rhag llifogydd o afonydd a’r môr yn ein map Asesu Perygl Llifogydd Cymru. Dangosir hyn fel llinell goch trwy ddewis yr haen ‘Lleoliadau Amddiffyn rhag Llifogydd’.
Mae amddiffynfeydd rhag llifogydd yn lleihau, ond nid ydynt yn atal y siawns o lifogydd yn gyfan gwbl gan y gallant orlifo neu fethu.
Mae gan yr amddiffynfeydd hyn lefelau gwahanol o amddiffyn, a ddangosir yn haen Ardaloedd sy'n elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd ein map. Adlewyrchir y diogelwch yn ardaloedd risg Uchel, Canolig, ac Isel ar ein map.
Ychwanegwn ni amddiffynfeydd rhag llifogydd ac ardaloedd sy'n elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd i'r map, wrth iddyn nhw ddod i law.
Mae amddiffynfeydd rhag llifogydd fel arfer yn eiddio i berchennog y tir ac yn cael eu cynnal:
- yn breifat
- gan Gyfoeth Naturiol Cymru
- gan Awdurdod Rheoli Risg, megis eich awdurdod lleol
Bydd blaenoriaeth cynnal a chadw ar gyfer yr amddiffynfeydd sy'n diogelu rhag y lefel uchaf o risg neu a gaiff y goblygiadau mwyaf difrifol tasent yn methu.
Am fwy o wybodaeth am amddiffynfeydd rhag llifogydd, cysylltwch â ni.