Ardaloedd Storio Llifogydd
Mae'r dotiau glas yn dangos lagwnau, cyrff dŵr neu ardaloedd cronni sydd wedi'u dynodi'n Ardaloedd Storio Llifogydd. Mae'r rhain yn ffurfio rhan o System Rheoli Perygl Llifogydd, ac yn cael eu defnyddio fel arfer yn ystod lefelau dŵr uchel i wanhau llif brig afon er mwyn helpu rheoli llifogydd.
Mae llawer o Ardaloedd Storio Llifogydd yn para’n sych am y rhan fwyaf o'r amser, ac ond yn dod i rym yn ystod adegau o lifogydd, felly nid ydynt yn hawdd eu hadnabod, tra bod rhai yn llynnoedd â strwythurau rheoli sy'n dal mwy o ddŵr yn ôl yn ystod cyfnodau o lifogydd.
Diweddarwyd ddiwethaf