Maint y Llifogydd a Gofnodwyd
Dysgu am lifogydd a gofnodwyd
Rydym yn cofnodi digwyddiadau llifogydd o afonydd, y môr ac, mewn rhai lleoliadau, o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. Fodd bynnag, rydym yn cofnodi'r rhain dim ond mewn lleoliadau lle:
- rydym yn ymwybodol o lifogydd
- roedd gennym ni adnoddau i'w cofnodi
- mae gennym hyder rhesymol yn y cofnodion
Edrychwch ar ein teclyn Gweld eich risg llifogydd i weld a oes gennym gofnod o lifogydd mewn ardal.
Dewiswch yr haen ‘Maint llifogydd a gofnodwyd’ ar ein map Asesu Perygl Llifogydd Cymru i weld llifogydd hanesyddol ar fap, gan gynnwys y dyddiad y'u cofnodwyd nhw.
Ystyr llifogydd a gofnodwyd
Os cofnodir bod ardal wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol, nid yw’n golygu:
- bydd llifogydd yn digwydd yn yr un modd yn y dyfodol. Mae'n bosibl bod newidiadau wedi bod yn yr ardal sy'n effeithio ar batrwm llifogydd
- bod eiddo yn yr ardal honno dan ddŵr yn fewnol
Yn yr un modd, os nad oes llifogydd wedi’u cofnodi mewn ardal, nid yw’n golygu:
- nid yw erioed wedi profi llifogydd. Efallai nad oes cofnodion neu nid yw'r cofnodion yn ddibynadwy
- ni fydd llifogydd yn y dyfodol
Byddwn yn parhau i ddiweddaru ein gwybodaeth llifogydd a gofnodwyd wrth i ni gasglu mwy o ddata. Byddwn hefyd yn cofnodi digwyddiadau llifogydd newydd, lle mae gwybodaeth ddigonol ar gael.
Cael mwy o wybodaeth am lifogydd a gofnodwyd
Efallai y bydd gan awdurdodau lleol fwy o wybodaeth am berygl llifogydd a chofnodion llifogydd hanesyddol.
Cysylltwch â’r awdurdod lleol am unrhyw wybodaeth llifogydd hanesyddol ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach.