Beth i’w wneud ar ôl llifogydd

Cadwch draw o lifddwr 

 

  • Gall fod wedi ei lygru â charthffosiaeth, cemegion a gwastraff anifeiliaid 
  • Peidiwch byth â cherdded mewn llifddwr
  • Peidiwch byth â gadael i blant chwarae mewn llifddwr
  • Peidiwch byth â gyrru drwy lifddwr
  • Peidiwch byth â cherdded ar amddiffynfeydd môr na glannau afonydd a byddwch yn ymwybodol y gall pontydd fod yn beryglus i gerdded neu yrru drostynt
  • Gall llifddwr symud ceir a gwrthrychau trwm eraill

Os oes llifogydd wedi bod yn eich eiddo

  • Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant a dilynwch eu cyngor.
  • Os ydych yn rentio eich eiddo, cysylltwch â’ch landlord neu eich asiant a gofynnwch beth mae eu hyswiriant yn ei gynnwys mewn achos o lifogydd.
  • Os nad oes gennych yswiriant, gall eich awdurdod lleol roi gwybodaeth am grantiau caledi neu elusennau a allai eich helpu.

Efallai y bydd cwmnïau yswiriant, adeiladwyr ac elusennau yn brysur a gall gymryd mwy o amser nag arfer i gael gafael arnynt.

Os yw eich cerbyd wedi’i ddifrodi

Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant os yw eich cerbyd wedi’i ddifrodi gan ddŵr llifogydd.

Trefnwch fod eich cerbyd yn cael ei archwilio gan fecanydd proffesiynol – peidiwch â cheisio gyrru eich car cyn iddo gael ei archwilio.

Pum cyngor craff os yw llifogydd wedi effeithio ar eich car
Cyngor Llifogydd - RoSPA

Dod o hyd i rywle i aros

Efallai y bydd eich yswiriant yn gallu darparu llety dros dro i chi.

Gall eich Awdurdod Lleol eich cefnogi gyda llety brys os na allwch aros yn eich cartref ac nad oes gennych yswiriant.

Gall hyn fod yn broses sy'n peri straen. Mae Shelter Cymru yn gallu darparu cyngor rhad ac am ddim, annibynnol a chyngor tai ar-lein neu ffonio 08000 495 495.

Gall y Groes Goch Brydeinig hefyd helpu gyda chludiant, lles a pharseli bwyd.

Os byddwch mewn eiddo dros dro am beth amser, ystyriwch drefnu i’ch post gael ei ailgyfeirio.

Gwneud hawliad yswiriant

Bydd eich cwmni yswiriant yn eich rhoi mewn cysylltiad â chymhwysydd colled (loss adjuster) i asesu'r difrod a goruchwylio unrhyw waith.

Gall y cymhwysydd colled ymweld â'ch eiddo. Gall hyn gymryd hyd at 7 diwrnod ar ôl i fynediad at y safle gael ei ganiatau.  

Os ydych chi’n rhentu eich eiddo, cysylltwch â'ch landlord a'ch cwmni yswiriant cynnwys cyn gynted â phosibl Mae gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth fwy o gyngor ar ddelio â llifogydd mewn cartref rhent.

Os nad oes gennych yswiriant, dylai eich Awdurdod Lleol allu darparu gwybodaeth am grantiau caledi neu elusennau a allai eich helpu.

Gofynnwch i'r cwmni yswiriant:

  • a fydd y cymhwysydd colled yn ymweld, a phryd
  • a fyddant yn darparu llety dros dro - nid oes rhaid i chi dderbyn y lle cyntaf y cewch gynnig
  • a fyddant yn cael cwmni i lanhau a sychu eich eiddo
  • a fyddant yn talu am unrhyw wasanaethau neu offer sydd eu hangen arnoch
  • a fyddant yn dod o hyd i adeiladwr i atgyweirio eich eiddo 
  • a fyddant yn trwsio neu amnewid eich eiddo
  • a fyddant yn cynnwys amddiffyn rhag llifogydd ac addasiadau eraill yn yr atgyweiriadau - gallai hyn leihau difrod llifogydd yn y dyfodol 

Os ydych yn gwneud gwaith atgyweirio i'ch eiddo, gall eich cwmni yswiriant drefnu hyn i chi. Neu gallwch ofyn am setliad arian parod i drefnu'r gwaith atgyweirio eich hun. Fodd bynnag, chi wedyn sy'n gyfrifol am ansawdd y gwaith.

Gwnewch gofnod o ddifrod llifogydd:

  • marciwch y wal i nodi’r uchder y daeth y dŵr llifogydd iddo - gwnewch hyn ym mhob ystafell yr effeithiwyd arni gan lifogydd
  • rhestrwch y difrod i'ch adeilad a’ch eiddo - tynnwch luniau a fideos hefyd
  • tynnwch luniau a fideos o bopeth rydych chi'n ei waredu ac ysgrifennu cymaint o fanylion â phosibl, ee. gwneuthuriad, model a rhif cyfresol 
  • os oes angen i chi gael gwared ar garpedi sydd wedi'u difrodi gan lifogydd, torrwch a chadwch samplau - bydd hyn yn cyflymu setliad eich hawliad

Cyngor craff:

  • peidiwch â thaflu dim i ffwrdd nes y dywedir wrthych (ac eithrio bwyd wedi'i ddifetha)
  • os ydych wedi'ch diogelu rhag colli nwyddau darfodus, gwnewch restr o'r holl fwydydd rydych chi'n eu taflu i ffwrdd
  • gwnewch nodyn neu gopi o'r holl ohebiaeth gan gynnwys galwadau ffôn, llythyrau ac e-byst - cofnodwch enwau, dyddiadau a'r hyn y cytunwyd arno
  • cadwch dderbynebau

Mae gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain gyngor ar gyfer busnesau y mae llifogydd yn effeithio arnynt.

Os ydych yn cael trafferth gyda'ch cwmni yswiriant, cysylltwch â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol i helpu i setlo anghydfodau unigol.

Dychwelyd i'ch eiddo

Holwch y gwasanaethau brys a yw'n ddiogel dychwelyd i'ch eiddo. 

Peidiwch â throi trydan, nwy neu ddŵr ymlaen heb gael cyngor proffesiynol. Os nad yw eich cyflenwad trydan wedi'i ddiffodd ar y prif gyflenwad, gofynnwch i berson cymwys wneud hyn.

Gwnewch yn siŵr bod eich nwy a'ch gwres canolog wedi cael eu gwirio gan beiriannydd cyn ei droi ymlaen.

Efallai y bydd peryglon cudd:

  • gwrthrychau miniog mewn llifddwr
  • gorchuddion tyllau archwilio wedi'u codi
  • llygredd
  • difrod strwythurol i'ch eiddo

Peidiwch â chyffwrdd â ffynonellau trydan wrth sefyll mewn dŵr llifogydd.

Sut i lanhau eich eiddo

Gall gymryd misoedd i lanhau ac atgyweirio eich cartref fel y gallwch fyw ynddo eto.

Os oes gennych yswiriant 

Efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn trefnu i'ch cartref gael ei lanhau, ei sychu a'i drwsio ar eich cyfer. 

Mae gan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol fwy o wybodaeth am adfer llifogydd a'r broses hawliadau yswiriant.

Os nad oes gennych yswiriant

Gofynnwch i'ch gwasanaeth tân lleol helpu i bwmpio dŵr o'ch eiddo, neu roi cyngor i chi ar sut i wneud hyn. Efallai y byddant yn codi ffi am y gwasanaeth hwn. 

Unwaith y bydd y dŵr wedi'i waredu, efallai y byddwch yn dod o hyd i fwd, silt neu falurion eraill ar ôl yn eich eiddo. Dylech ofyn am gyngor proffesiynol gan syrfëwr siartredig neu adeiladwr i helpu i'w waredu’n ddiogel.

Mae angen sychu'r eiddo cyn y gall y gwaith atgyweirio ddechrau. Efallai y bydd angen i chi gael gwared ar eitemau gwlyb (fel carpedi, isgarpedi a byrddau plastr) i adael i'r eiddo sychu'n llwyr. 

Gwiriwch a all eich awdurdod lleol ddarparu sgipiau a chasgliadau sbwriel ychwanegol 

Mae angen trin bagiau tywod a ddefnyddiwyd fel gwastraff halogedig - cysylltwch â'ch awdurdod lleol i gael cyngor ar sut i'w gwaredu

Os ydych chi'n gwneud y gwaith eich hun:

  • gwisgwch ddillad gwrth-ddŵr, menig, esgidiau glaw a mwgwd wyneb
  • golchwch arwynebau - peidiwch â defnyddio pibellau pwysedd uchel am eu bod yn ffrwydro deunydd halogedig i'r awyr
  • glanhewch a diheintiwch eich eiddo gan ddefnyddio cynhyrchion cartref cyffredin
  • cadwch ddrysau a ffenestri ar agor i sychu'ch eiddo, neu defnyddiwch ddadleithydd (dehumidifier) gyda'r ffenestri a'r drysau ar gau

Rhoi gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol i roi gwybod bod y llifddwr wedi dod i mewn i'ch eiddo.

Darganfyddwch â phwy y dylid cysylltu os ydych eisiau rhoi gwybod am broblem sy’n gysylltiedig â chwrs dŵr.

Gofalu am eich iechyd

Gall llifogydd fod yn brofiad brawychus. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth am y gwahanol risgiau iechyd, a sut i gael help.

Os ydych chi'n teimlo'n isel neu'n bryderus, siaradwch â chyfeillion neu aelodau o’ch teulu, neu cysylltwch â’ch meddyg. Fel arall, gall elusennau fel Mind neu’r Llinell Gymorth Iechyd Meddwl helpu hefyd.

Cymorth ariannol

Efallai y gallwch wneud cais am gymorth ariannol ar ffurf Taliadau Cymorth mewn Argyfwng  neu o’r Gronfa Cymorth Llifogydd i Fusnesau.

Gall ffermwyr a gweithwyr fferm wneud cais am gyllid gan y Sefydliad Elusengar Amaethyddol Brenhinol.

Gall eich Awdurdod Lleol eich cynghori chi ar y canlynol:

  • grantiau Adfer yn sgil Llifogydd i Gymunedau
  • llety brys/amgen
  • esemptiadau’r Dreth Gyngor

Cymerwch olwg i weld pa gymorth a grantiau sydd ar gael ar wefan Turn2us.

Cyngor i ffermwyr da byw

Mae gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) gyngor i ffermwyr da byw y mae llifogydd wedi effeithio arnynt.

Paratoi ar gyfer llifogydd yn y dyfodol

Sut i baratoi ar gyfer llifogydd a sut y gallwch wneud newidiadau i’ch eiddo i’w ddiogelu rhag llifogydd yn y dyfodol.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf