Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol i waredu dip defaid gwastraff i'r tir

Cyn i chi wneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen ein canllawiau ar 'Sut i waredu dip defaid gwastraff yn ddiogel'

Sut i wneud cais am Drwydded Amgylcheddol i waredu dip defaid gwastraff i'r tir

I wneud cais am Drwydded Amgylcheddol i waredu dip defaid gwastraff i'r tir, bydd angen i chi gwblhau ein ffurflen gais ar-lein


Os oes angen cyngor arnoch cyn i chi wneud cais am drwydded, defnyddiwch ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio.

Ffioedd

Ffioedd ymgeisio

Y ffi ymgeisio ar gyfer y Drwydded Amgylcheddol hon yw £3,840.

Yn ogystal â'r ffi ymgeisio untro, codir ffi flynyddol i gynnal y drwydded. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddeiliaid trwydded y tâl hwn yw £178 y flwyddyn.

Darllenwch fwy am ffioedd yn ein cynllun codi tâl am drwyddedau amgylcheddol.

Ffi Asesiadau Cynefinoedd

Os yw eich gollyngiad yn agos at safle cynefin Ewropeaidd cydnabyddedig bydd angen i ni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd fel rhan o’r gwaith o asesu eich cais am drwydded.  Bydd hyn yn golygu ffi ychwanegol o £1,721

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y gallai fod angen yr asesiadau hyn, gweler ein tudalen we 'Asesiad Rheoliadau Cynefin ar gyfer eich Trwydded Amgylcheddol'

Ceisiadau heb ddigon o fanylion i fwrw ymlaen

Os byddwn yn dychwelyd eich cais oherwydd diffyg manylion ac felly'n methu bwrw ymlaen heibio'r

cam lle derbynnir y cais, byddwn yn cadw 10% o'r ffi ymgeisio.  Dim ond ar ôl rhoi cyfle i chi ddarparu gwybodaeth goll y byddwn yn dychwelyd cais. 

Os byddwch yn penderfynu tynnu eich cais am drwydded yn ôl

Os byddwch yn penderfynu tynnu eich cais am drwydded yn ôl ar ôl i ni ei dderbyn, byddwn yn cadw 100% o’r ffi ymgeisio. Os byddwch yn penderfynu tynnu'n ôl cyn i ni symud ymlaen o'r cam lle derbynnir y cais, byddwn yn cadw 10% o’r ffi ymgeisio.

Diweddarwyd ddiwethaf