Cyfrifo gollyngiadau o ffermydd dofednod a moch: esiamplau

Newid math o ddofednod neu'r nifer sy'n cael eu magu

Defnyddiwch y fformiwla hon i gyfrifo gollyngiad pan fo nifer a/neu'r math o anifail a fagwyd gennych wedi newid yn ystod y flwyddyn

((N x F) x M/12) + ((n x F) x M12) = allyriadau mewn kg

Ble:

N = nifer y da byw

n = nifer newydd y da byw

F = ffactor allyrru perthnasol

M = y misoedd sy'n gymwys

 Esiampl:

Mae gan fferm brwyliaid 50,000 o adar yn ystod pum mis cyntaf y flwyddyn a 100,000 yn ystod y saith mis sy'n weddill. Y ffactor allyrru amonia ar gyfer brwyliaid yw 0.034. Y cyfrifiad amonia fyddai:

((50,000 x 0.034) x 5/12) + ((100,000 x 0.034) x 7/12) = 2692kg

Gollyngiadau amonia o ddofednod

Lluoswch nifer yr adar gyda'r ffactor allyrru perthnasol

Esiampl 1 - Brwyliaid dofednod

80,000 o leoedd brwyliaid x ffactor allyriadau o 0.024 = rhyddhau 1,920kg

Enghraifft 2 - Siediau dofednod gyda thechnoleg lleihau allyriadau

Os oes gennych chi dechnoleg lleihau amonia, fel sgwrwyr ar eich sied dofednod ac nad oes gennych ddata monitro cywir, dylech leihau'r ffactor allyriadau a ddefnyddiwch yn eich cyfrifiad yn ôl swm y gostyngiad sy'n berthnasol yn eich trwydded.

Er enghraifft, mae angen i fferm brwyliaid gyda 240,000 o adar â thechnoleg sgwrio aer sy'n lleihau allyriadau 90% gymhwyso gostyngiad o 90% i'r cyfrifiad.

Y ffactor allyriadau fydd 0.024 x 0.1 = 0.0024kg fesul aderyn y flwyddyn. Yr allyriadau fydd 240,000 x 0.0024 = 576kg.

Enghraifft 3 - Storio tail o fewn terfyn y gosodiad

Os yw tail yn cael ei storio ar y safle ac o fewn terfyn y gosodiad, ar ôl ei dynnu o'r siediau, mae'n rhaid rhoi gwybod am yr amonia sy'n cael ei ryddhau o hyn hefyd.

Y ffactor allyrru yw 2.68 ar gyfer tail ieir sy’n dodwy ac 1.12 ar gyfer tail dofednod arall. Bydd y canlyniad yn rhoi'r kg o amonia a ollyngir fesul tunnell y flwyddyn i chi.  Mae hyn yn seiliedig ar bod y tail yn cael ei storio am 12 mis. Bydd angen i chi roi'r amcangyfrif gorau o dunelli o dail sydd wedi'i storio dros y cyfnod hwnnw o 12 mis. Os caiff ei storio ar y safle am gyfnod byrrach o amser, yna bydd angen i chi newid y cyfrifiad. Gall cadw cofnodion sy'n ofynnol o dan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 helpu i amcangyfrif tunelledd a hyd yr amser y cafodd tail ei storio ar y safle. 

Felly, os caiff 17 tunnell o tail ei dynnu o'r siediau ar system wregys a'i storio mewn storfa tail am 6 mis cyn ei daenu ar y tir. Dyma fyddai'r cyfrifiad:

17 tunnell x ffactor allyrru o 2.68 = 45.56kg ÷ 12 mis = 3.8 x 6 mis o storio = 22.78kg am 6 mis o storio.

Peidiwch ag anghofio ychwanegu'r holl amonia a gynhyrchwyd gyda'i gilydd a chofnodi'r cyfanswm ar y system.  Cofiwch ddangos eich cyfrifiadau yn y blwch Sylwadau.

Er enghraifft, os oes gennych ddofednod, sgwriwr amonia a’ch bod yn storio tail ar y safle bydd angen i chi gyfuno'r tri gollyngiad amonia a rhoi gwybod am un gollyngiad amonia ynghyd â'ch gwaith cynllunio.  

Gollyngiadau deunydd gronynnol PM10 (llwch) o ddofednod

Lluoswch nifer yr adar gyda'r ffactor allyrru perthnasol.

Esiampl:

Gosodiad gyda 50,000 o ddodwyr mewn cewyll.

(50,000 x ffactor allyrru o 0.05) ÷ 3 = 833kg

Cofiwch ychwanegu hyn i'r blychau Deunydd Gronynnol (PM10) a Deunydd Gronynnol - Cyfanswm a dangoswch eich cyfrifiadau yn y blwch Sylwadau.

Gollyngiadau methan o ddofednod

Lluoswch nifer yr adar gyda'r ffactor allyrru perthnasol.

Esiampl:

50,000 o frwyliaid x ffactor allyrru ar gyfer rheolaeth tail dofednod o 0.078 = 3900kg.

Mae hyn yn llai na'r trothwy adrodd 10,000 kg, felly gallwch nodi naill ai 'brt' neu 3,900.

Newid y math o foch neu’r nifer a gaiff eu magu

Defnyddiwch y fformiwla hon i gyfrifo'r gollyngiadau pan fo nifer a/neu'r math o anifail a fagir gennych yn newid yn ystod y flwyddyn

((N x F) x M/12) + ((n x F) x M/12) = allyriadau mewn kg

Ble:

N = nifer y da byw

n = nifer newydd y da byw

F = ffactor allyrru perthnasol

M = y misoedd sy'n gymwys

Esiampl:

Mae gan osodiad 800 o hychod yn ystod pum mis cyntaf y flwyddyn a 1000 o hychod yn ystod y saith mis sy'n weddill. Y ffactor allyrru amonia ar gyfer hychod ar wellt yw 3.29.

Y cyfrifiad amonia fyddai:

((800 x 3.29) x 5/12) + ((1000 x 3.29) x 7/12) = 3016kg

Gollyngiadau amonia o foch

Esiampl - Siediau moch

Fferm a ddefnyddiodd lleoedd ar gyfer 800 o hychod a 1500 o lathrwyr ar wellt yn y flwyddyn galendr

(800 x ffactor allyrru o 3.29) + (1500 x ffactor allyrru o 1.888)

= cyfanswm gollyngiad o 5464kg

Os caiff tail neu slyri ei storio o fewn ffin y gosodiad, rhaid ychwanegu gollyngiadau o hyn at y gollyngiadau o’r siediau

Felly, ar gyfer lagŵn slyri 43m2 heb orchudd,

ychwanegwch (43 x ffactor allyrru o 1.4) = 60.2kg

Cyfanswm allyriad o siediau a storfa tail =  5464 + 60.2 = 5524.2kg

Gollyngiadau methan o foch

Bydd angen i chi adrodd ar fethan o'r moch eu hunain (eplesu enterig), ac o storfa tail.

 Esiampl:

Gosodiad gyda 800 o hychod

(800 x ffactor allyrru ar gyfer eplesu enterig o 1.5) = 1200kg

A

(800 x ffactor allyrru ar gyfer rheolaeth tail o 3) = 2400kg

Cyfanswm allyriad = 3600kg

Diweddarwyd ddiwethaf