Adroddiadau i’r Rhestr Allyriadau: Arweiniad ar gyfer Ffermio Dwys

Y Rhestr Llygredd oedd yr enw blaenorol ar y Rhestr Allyriadau. Mae'n cynnwys data ynglŷn ag allyriadau o weithgareddau diwydiannol, gan gynnwys ffermio dwys, a reoleiddir gennym yng Nghymru. Mae'r data a gasglwn yn cael ei adrodd i DEFRA ar gyfer y Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol a Chofrestr y DU ynghylch Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion. 

Pwy ddylai gyflwyno data allyriadau

Bydd gweithredwyr ffermio dwys yn derbyn Hysbysiad Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol Rheoliad 61 pan roddir eu trwydded. Mae'r hysbysiad yn gofyn i chi, fel gweithredwr, roi adroddiad ar ddata allyriadau i'r Rhestr Allyriadau.

Pryd i adrodd ar ddata allyriadau ffermio dwys

Dylech ddarparu data allyriadau yn flynyddol.

Bydd y system adrodd ar-lein ar gael i chi o’r ail wythnos o Chwefror ymlaen bob blwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno data yw 31 Mawrth.

Mae’n rhaid i chi adrodd ar ddata allyriadau ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol.

Os nad ydych yn adrodd erbyn 31 Mawrth gallwn gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Sut i adrodd ar ddata allyriadau ffermio dwys

Dylech wneud eich datganiad blynyddol ar-lein yn https://prtr.defra.gov.uk/data-entry-system. Nid yw'n bosib cyflwyno datganiad ar bapur.

Byddwch yn derbyn e-bost atgoffa i gwblhau'r rhestr bob blwyddyn, felly rydym yn argymell eich bod yn diweddaru eich manylion gyda ni.

Mae cyfarwyddiadau ar gyfer cwblhau'r datganiad ar gael ar dudalen mewngofnodi'r system adrodd ar-lein.

Os ydych yn cael trafferthion yn defnyddio’r system neu'n cael mynediad ati, cysylltwch â ni ar PRTR.national.manager@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Pa ddata allyriadau ffermio dwys y dylwn ei adrodd?

Dylech adrodd ar ollyngiadau i aer, gollyngiadau i ddŵr rheoledig, trosglwyddiadau dŵr gwastraff a throsglwyddiadau gwastraff oddi ar y safle. Mae'r system ar-lein yn cynnwys rhestr o'r holl sylweddau yn y rhestr allyriadau, ond dim ond y rheini sy'n berthnasol i'ch gweithgareddau chi y mae’n  rhaid i chi eu hadrodd. Gallwch drafod hyn gyda'ch cyswllt PRTR os nad ydych yn siŵr.

Rhowch adroddiad ar y swm o bob sylwedd a ollyngwyd yn y flwyddyn galendr flaenorol. Mae'r system adrodd ar-lein yn gofyn am y swm mewn cilogramau ar gyfer gollyngiadau i aer a dŵr, ac mewn tunelli ar gyfer trosglwyddiadau gwastraff.

Defnyddiwch y blwch Sylwadau o dan bob datganiad a throsglwyddiad a adroddwyd i egluro sut y gwnaethoch gyfrifo'r ffigurau. Cynhwyswch eich cyfrifiadau a nodwch niferoedd yr adar a'r ffactorau allyriadau a ddefnyddiwyd gennych.

Dylech adrodd ar y gollyngiadau amonia i’r aer, deunydd gronynnol PM10, methan, ac ocsidiau nitrogen gan ddefnyddio ffactorau allyriadau. Adroddwch ar y swm, mewn cilogramau, o bob llygrwr a ollyngwyd yn y flwyddyn galendr flaenorol.

Mae gan bob sylwedd drothwy adrodd penodol. Os yw'ch ffigurau yn is na'r trothwy adrodd, nid yw'n ofynnol i chi adrodd hyn ond rydym yn annog adrodd. Os yw'r holl allyriadau yn is na'r trothwy adrodd, a'ch bod yn dewis peidio ag adrodd, mae dal rhaid i chi gyflwyno datganiad ‘dim’ a rhoi gwybod i'ch cyswllt PRTR. I wneud datganiad ‘dim’ gadewch y manylion rhyddhau a throsglwyddo yn wag, a chofiwch bwyso cyflwyno ar y ddwy adran. Mae'n ddefnyddiol os ydych yn cynnwys sylw yn un o'r blychau sylwadau i ddweud ei fod yn ddatganiad ‘dim’ neu gyfathrebu hyn i'ch prif gyswllt ar gyfer datganiadau PRTR.

Hyd yn oed os yw eich gweithrediad wedi cau yn ystod y flwyddyn adrodd, mae’n rhaid i chi gyflwyno data ar gyfer y cyfnod yr oeddech yn gweithredu. Os nad ydych wedi gweithredu, ac nad oes gennych unrhyw allyriadau i'w hadrodd, dylech adolygu, a diweddaru manylion eich cyfleuster a gwneud datganiad ‘dim’ fel uchod.

Gwybod eich ffactorau allyrru

Cyfrifir y gollyngiad gan ddefnyddio ffactorau allyrru. Mae ffactorau allyrru ar gyfer dofednod a ffactorau allyrru ar gyfer magu moch. Mae'r rhain yn ffigurau sydd wedi'u pennu o fonitro allyriadau gwirioneddol o wahanol fathau o siediau a chyfrifo allyriad cyfartalog fesul safle anifail y flwyddyn. Nid ydym yn gofyn i chi fonitro'r allyriadau o'ch fferm oni bai ein bod wedi rhoi amodau penodol yn eich trwydded.

Os oes gennych waith lleihau allyriadau (fel sgwriwr) sy'n trin yr allyriadau o'ch siediau da byw, dylech gyfrifo'r allyriadau amonia drwy ddefnyddio data monitro cywir neu os nad yw hyn ar gael drwy addasu'r ffactor allyriadau yn eich cyfrifiad i adlewyrchu canran y gostyngiad a bennir yn eich trwydded. Os nad ydych yn siŵr beth yw hyn, cysylltwch â'ch cyswllt PRTR. Gweler yr esiamplau o gyfrifiadau allyriadau

Byddwch yn sicr o'ch safleoedd anifeiliaid

I gyfrifo allyriadau, bydd angen i chi wybod nifer y safleoedd  anifeiliaid a ddefnyddiwyd. Hwn yw nifer yr anifeiliaid a gedwir mewn siediau ar unrhyw bryd, nid y cyfanswm blynyddol. Gall fod yn llai na'r hyn y mae eich trwydded yn ei ganiatáu.

Ar gyfer brwyliaid, cymerwch yn ganiataol fod gan bob cylch cynyddol yr un nifer o adar. Nid oes yn rhaid i chi addasu eich cyfrifiad ar gyfer y cyfnod y mae'r siediau yn wag ar gyfer eu glanhau a'u diheintio oherwydd rhoddir cyfrif am hyn yn y ffactor allyrru.

Ar gyfer dofednod arall neu foch, cymerwch yn ganiataol fod y siediau yn cael eu defnyddio drwy'r flwyddyn. Os oes cyfnodau estynedig lle mae'r siediau'n wag, yna addaswch y cyfrifiad i roi cyfrif am hyn.

Gall nifer y da byw newid yn ystod y flwyddyn. Gall hyn fod oherwydd bod eich trwydded wedi’i hamrywio i gynyddu'r niferoedd. Dylech gyfrifo beth oedd yr allyriadau bob mis yn seiliedig ar nifer y da byw a fagwyd a'r ffactor allyrru perthnasol.

Gollyngiadau amonia

Lluoswch nifer y safleoedd anifeiliaid a ddefnyddiwyd gyda'r ffactor allyrru priodol. Ar gyfer siediau dofednod gyda chewyll wedi’u cyfoethogi dylech ddefnyddio'r ffactor allyrru sy'n cyfateb orau i’r system ymdrin â thail.

Os yw tail yn cael ei storio o fewn ffin y gosodiad wedi iddo gael ei dynnu o'r siediau, rhaid ychwanegu gollyngiadau amonia o hyn at y swm a adroddir. Gweler yr esiamplau o gyfrifiadau allyriadau

Gollyngiadau methan

Dim ond os ydych yn storio tail y tu allan i'r siediau ac o fewn ffin y gosodiad y mae angen i chi adrodd ar ollyngiadau methan ar gyfer dofednod.

Ar gyfer moch, bydd  angen i chi adrodd ar y methan o'r moch eu hunain (eplesu enterig) ac o’r storfa tail.

Gollyngiadau ocsidiau nitrogen

Mae hyn yn debygol o fod yn berthnasol i fathau penodol o osodiadau magu moch yn unig.

Gollyngiadau deunydd gronynnol PM10 (llwch)

Mae hyn yn berthnasol i ddofednod yn unig. Bydd angen i chi adrodd ar Ddeunydd gronynnol PM10 a Chyfanswm Deunydd Gronynnol. Gadewch PM2.5 yn wag, nid yw hyn yn berthnasol i ffermio dwys.

I gyfrifo'r gollyngiad Deunydd Gronynnol PM10, lluoswch nifer y lleoedd adar a ddefnyddiwyd gyda'r ffactor allyrru perthnasol, a’i rannu â 3.

Mae angen adrodd y ffigur a gyfrifir ar gyfer Deunydd gronynnol PM10 hefyd yn y blwch Deunydd Gronynnol — Cyfanswm.

Gallwch ddarllen mwy ynglŷn â dulliau cyfrifo allyriadau moch ac allyriadau dofednod, a gweld esiamplau o gyfrifiadau allyrru.

Gollyngiadau ffermio dwys i ddyfroedd rheoledig

Os oes gennych amodau yn eich trwydded sy'n caniatáu gollwng sylweddau penodol i ddŵr daear, afon neu'r môr, cwblhewch y rhan berthnasol o'r datganiad ar-lein. Caiff y swm ei gyfrifo o grynodiad gwirioneddol a data llif mesuredig.

Gweler y Canllaw Adroddiadau i’r Rhestr Allyriadau cyffredinol am fwy o wybodaeth am sut i gyfrifo'r gollyngiadau hyn.

Trosglwyddiadau oddi ar y safle i ddŵr gwastraff

Os oes gennych ganiatâd elifion masnach gan gwmni dŵr i ollwng o'r gosodiad i garthffos, mae’n rhaid i chi adrodd ar y swm o bob sylwedd penodol.

Trosglwyddiadau gwastraff oddi ar y safle

Mae’n rhaid i chi adrodd ar gyfanswm y gwastraff peryglus a gwastraff nad yw'n beryglus y gwnaethoch ei anfon oddi ar y safle yn ystod y flwyddyn ar gyfer ei waredu neu ei adfer. Mae hyn yn cynnwys unrhyw dail neu slyri a anfonwyd i’w waredu neu ei adfer (megis gwaith treulio anaerobig). Nid yw’n cynnwys tail neu slyri a anfonwyd oddi ar y safle ar gyfer ei daenu ar dir.

Mae gwastraff arall y dylid adrodd arno yn cynnwys deunydd lapio plastig, cardfwrdd, bylbiau golau, paledi pren a dillad diogelu.

Nid oes angen i chi adrodd ar garcasau anifeiliaid llawn ond dylech gynnwys gwastraff meinwe anifeiliaid arall.

Dylech wneud cofnodion ar wahân ar y system adrodd ar gyfer gwastraff nad yw’n beryglus a anfonwyd i’w waredu a’i adfer. Os yw cyfanswm tunelledd y gwastraff nad yw’n beryglus yn llai na 2,000 tunnell nid oes angen i chi adrodd y trosglwyddiad gwastraff nad yw’n  beryglus, ond fe’ch anogir i wneud. 

Os yw cyfanswm y gwastraff peryglus a anfonwyd oddi ar y safle yn y flwyddyn yn fwy na 2 dunnell bydd angen i chi adrodd y swm a anfonwyd i'w waredu a’i adfer.

Cadwch y nodiadau trosglwyddo gwastraff a dderbyniwch gan y cludydd gwastraff sy'n symud eich gwastraff. Bydd hyn yn eich galluogi i gadw cofnod o gyfanswm y gwastraff peryglus a’r gwastraff nad yw’n beryglus a symudwyd yn ystod y flwyddyn.

Adrodd ar allyriadau o weithgareddau eraill

Os oes gennych weithgareddau eraill wedi'u rhestru ar eich trwydded, bydd angen i chi ddilyn y canllawiau cyffredinol yn Adroddiadau i’r Rhestr Allyriadau: canllawiau.

Diweddarwyd ddiwethaf