Defnyddio llithiau ac abwydydd
Eogiaid - Cyfyngiadau
Defnyddio bachau heb adfach neu dynnu’r adfach
Mae pluen yn cyfeirio at bluen artiffisial heb bwysau sy’n pwyso llai na 5g.
Caniateir bachau triphlyg â cheg hyd at 7mm - tua maint 8 ar blu pysgota eogiaid. Os byddwch yn defnyddio bachau sengl mwy neu fachau dwbl, rhaid iddynt fod heb adfach neu rhaid tynnu’r adfach.
Caniateir bachau sengl yn unig ar droellwyr, bachau llwy neu ar blygiau gyda cheg sy’n mesur dim mwy na 13mm. Gallwch ddefnyddio hyd at of 3 o fachau sengl ar blwg.
Caniateir defnyddio perdys a chorgimychiaid gyda bachyn triphlyg bychan sengl â cheg llai na 7mm.
Ni chaniateir defnyddio bachau triphlyg ar droellwyr, plygiau na bachau llwy.
Gwaherddir defnyddio mwydod i bysgota eogiaid ar unrhyw adeg.
Ni chaniateir defnyddio fflôt ar y cyd ag unrhyw lith neu abwyd i ddal eogiaid yn Rhanbarth Pysgodfeydd Gwy neu yn Ardal Hafren Uchaf.
Ni chaniateir abwyd gwaelod nac abwyd bwydo ar unrhyw adeg.
Tymhorau agored a chyfyngiadau dull ar gyfer eogiaid.
Darllenwch gyngor ar sut i ymarfer dal a rhyddhau eogiaid.
Sewin - Cyfyngiadau
Dylai pob bachyn a ddefnyddir fod heb adfach neu rhaid tynnu’r adfach
Mae pluen yn cyfeirio at bluen artiffisial heb bwysau sy’n pwyso llai na 5g.
Caniateir plu (bachau triphlyg) â cheg hyd at 7mm - tua maint 8. Os byddwch yn defnyddio bachau sengl mwy neu fachau dwbl, rhaid iddynt fod heb adfach neu rhaid tynnu’r adfach. Ni waherddir plu math tandem ac arf ‘cudd’ hyd at 4 pwynt. Rhaid i fachau triphlyg fod yn llai na 7mm.
Caniateir bachau sengl yn unig ar droellwyr, bachau llwy neu ar blygiau, gyda cheg heb fod yn fwy na 13mm. Gallwch ddefnyddio hyd at of 3 o fachau sengl ar blwg.
Ni chaniateir defnyddio bachau triphlyg ar droellwyr, plygiau na bachau llwy.
Caniateir defnyddio abwyd ar gyfer pysgota sewin y tu allan i’r cyfnod dal a rhyddhau, gyda bachyn bychan â cheg maint 8mm (tua maint 8) ac un mwydyn.
Ni chaniateir abwyd gwaelod nac abwyd bwydo ar unrhyw adeg.
Ni chaniateir defnyddio cynrhon, chwilerod na larfau nad ydynt yn ddyfrol, ac eithrio yn Rhanbarth Pysgodfeydd Gwynedd lle caniateir defnyddio cynrhon i bysgota os cânt eu defnyddio â phlu artiffisial i bysgota yn y cyfnod rhwng awr cyn machlud haul ac awr ar ôl toriad gwawr.
Darllenwch fwy am dymhorau agored ar gyfer brithyllod y môr.
Defnyddio llithiau ac abwydydd - cyffredinol
Cimwch yr afon
Ni chaniateir defnyddio cimwch yr afon, o unrhyw fath, yn fyw neu’n farw, yn gyfan neu ran ohono, fel abwyd ar gyfer eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw na llysywod.
Abwyd byw
Dim ond yn y dŵr lle’i cafwyd ac yn ystod yr un cyfnod o bysgota y ceir defnyddio abwyd byw.
Gronell pysgod
Ni chaniateir defnyddio gronell pysgod o unrhyw ffynhonnell wrth bysgota am eogiaid, brithyllod neu bysgod dŵr croyw.
Defnyddio llithau ac abwyd - brithyll anfudol, pysgod bras a llysywod
Bachau
Ni chaniateir ond un bachyn ag abwyd, onid yw’r pellter rhwng coes a blaen y bachyn yn 10mm (0.375 modfedd) neu’n llai, ac eithrio y gall y pellter rhwng coes a blaen bachau abwyd plwg fod hyd at 13mm (0.5 modfedd) ac y defnyddir yr abwyd plwg heb unrhyw bwysau.
Yn unrhyw achos, ni fydd unrhyw abwyd â rhagor na naw bachyn, ac ni ellir gosod pwysau islaw’r abwyd.
Dyfroedd llonydd (gan gynnwys camlesi)
Nid oes cyfyngiadau mewn is-ddeddfau ar ddefnyddio abwydydd mewn cronfeydd dŵr, llynnoedd, pyllau neu gamlesi ond gall perchnogion pysgodfeydd osod eu rheolau eu hunain.
Afonydd - brithyll anfudol
Nid oes cyfyngiadau mewn is-ddeddfau ar ddefnyddio abwydydd mewn afonydd, AC EITHRIO:
- ni chaniateir abwyd daear nac abwyd bwydo ar unrhyw adeg
- ni chaniateir cynrhon, pwpaod na larfâu annyfrol (ac eithrio yn Ardal Pysgodfeydd Gwynedd lle caniateir pysgota â chynrhon ar yr un pryd â phryf artiffisial wrth bysgota rhwng un awr cyn y machlud ac un awr ar ôl codiad yr haul)
- dim ond pryf genwair naturiol neu blu artiffisial a ganiateir o fewn Ardal Pysgodfeydd Wysg
- Yn Ardal Hafren Uchaf yn ystod y tymor cau pysgota bras, ni cheir defnyddio flot a dim ond pryfed naturiol, plu, llith, sildod, mwydod, gorgimychiaid neu berdysen gaiff fod yn abwyd.
Tymhorau agored ar gyfer brithyllod anfudol, torgochiaid, pysgod bras a llysywod.
Afonydd - pysgod bras a llysywod
Gellir defnyddio pob dull o fewn y tymor priodol, yn amodol ar yr amodau canlynol:
- yn Afon Gwy a’i llednentydd i fyny’r afon o Bont Boughrood, ni chaniateir pryf genwair naturiol, corgimwch na pherdysen rhwng 30 Medi a 1 Tachwedd
- Yn Ardal Hafren Uchaf, pan yn pysgota am lysywod, (15 Mawrth a 15 Mehefin cynnwysiedig) yn ystod y tymor cau pysgota bras, ni cheir defnyddio flot a dim ond pryfed naturiol, plu, llith, sildod, mwydod, gorgimychiaid neu berdysen gaiff fod yn abwyd
- Yn Ardal Hafren Uchaf yn ystod y cyfnod 8 Hydref a 31 Rhagfyr gwaherddir defnyddio pysgod marw, mwydod, gorgimwch neu lith (heb od yn bluen) ar yr afonydd canlynol
- Afon Efyrnwy, yn uwch na phont Meifod (SJ156128)
- Holl lednentydd Afon Efyrnwy yn uwch na (SJ268205)
- Yr Afon Hafren yn uwch na phont rheilffordd Penstrowed (SO074911)
- a Holl lednentydd Afon Hafren uwch na phont Cilcewyddall (SJ228041)
- caniateir cynrhon, pwpaod a larfâu annyfrol yn yr ardal CNC a restrir isod yn unig
Afon | Dyddiadau a ganiateir (cynwysedig) ar gyfer defnyddio cynrhon, pwpaod neu larfâu annyfrol wrth bysgota am bysgod bras neu lysywod |
---|---|
• Gwy |
15 Medi tan 14 Mawrth y flwyddyn wedyn |
• Taf, i lawr yr afon o Upper Boat, Treforest |
16 Mehefin tan 14 Mawrth sy’n dilyn |
Wysg a’i llednentydd, i fyny’r afon o Bont Llanfoist | 1 Hydref tan 14 Ionawr y flwyddyn wedyn |
Wysg a’i llednentydd, i lawr yr afon o Bont Llanfoist | 16 Mehefin tan 14 Ionawr y flwyddyn wedyn |
Ardal Pysgodfeydd Gwynedd - pob afon | 1 Mehefin tan 17 Hydref |
Is-ddeddfau gwialen a llinyn Cymru
Darllenwch Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn (Eogiaid a Brithyllod y Môr) Cymru 2017.
Darllenwch offeryn cadarnhau Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn Afonydd Trawsffioniol.
Darllenwch Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn Afonydd Trawsffiniol 2017.
Darllenwch y Is-ddeddfau gwialen a llinyn Afon Gwy (Eogiaid a brithyllod y mor) 2021.
Darllenwch offeryn cadarnhau ar gyfer yr Afon Gwy yng Nghymru 2021.
Darllenwch y Is-ddeddfau gwialen a llinyn Afon Wysg (Eogiaid a brithyllod y mor) 2021.
Darllenwch offeryn cadarnhau ar gyfer yr Afon Wysg yng Nghymru 2021.
Darllenwch y Is-ddeddfau gwialen a llinyn Afon Hafren (Eogiaid a brithyllod y mor) 2021.
Darllenwch offeryn cadarnhau ar gyfer yr Afon Hafren yng Nghymru 2021.