Pysgota â rhwydi a thrapiau

Pysgodfeydd rhwydi a thrapiau

Mae amrywiaeth o bysgodfeydd rhwydi a thrapiau ar gael ledled Cymru. Mae eogiaid, siwin a llysywod yn cael eu targedu mewn aberoedd ac o amgylch yr arfordir. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cyfuniad o drwyddedau pysgota, Gorchmynion Cyfyngu ar Rwydi, awdurdodiadau ac is-ddeddfau i reoleiddio pysgota â rhwydi a thrapiau am bysgod mudol a physgod dŵr croyw. 

Pysgota am lysywod a llysywod ifanc

Yr ydym yn gyfrifol am awdurdodi pysgota am lysywennod a llysywenigion (llysywennod ifanc) yng Nghymru gan arfer pwerau o dan Adran 27A o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975.

Ni fyddwn mwyach yn rhoi awdurdod i neb bysgota am lysywennod a llysywenigion yn fasnachol yng Nghymru, ond byddwn yn adolygu’r sefyllfa’n barhaus.

Gallem roi awdurdod i ddefnyddio rhwydi a maglau i ddal llysywennod a llysywenigion at ddibenion priodol megis ymchwil neu gaffael llysywenigion ar gyfer prosiectau stocio cymeradwy. Cyn gwneud cais am awdurdodiad, dylech drafod yr hyn y bwriadwch ei wneud gydag un o’n Swyddogion Pysgodfeydd lleol.

Trwyddedau rhwydi eogiaid a siwin

Mae rhwydi a thrapiau o bob math yn cael eu defnyddio i ddal eogiaid a siwin. Mae’r rhain yn cynnwys rhwydi cwmpas, rhwydi sân, rhwydi llaw, rhwydi bracso (gan gynnwys rhwydi gafl) a rhwydi cyryglau.

Rydyn ni’n defnyddio cyfuniad o drwyddedau pysgota, Gorchmynion Cyfyngu ar Rwydi, ac is-ddeddfau pysgodfeydd i reoleiddio’r pysgodfeydd hyn.

Gwaredu cimwch yr afon anfrodorol a brodorol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am awdurdodi gwaredu cimychiaid yr afon anfrodorol a thrwyddedu gwaredu cimychiaid yr afon brodorol. Mae cimychiaid yr afon crafanc wen brodorol yn rhywogaeth a warchodir.

Nid ydym ni'n awdurdodi pysgota cimychiaid yr afon anfrodorol, ond rydym ni'n awdurdodi eu dal mewn trapiau at ddibenion ymchwil o bryd i'w gilydd. Dylech drafod eich cynigion gyda ni cyn gwneud cais am awdurdodiad drwy lenwi ffurflen gais. 

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 0300 065 3000 neu anfonwch ebost i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ffurflen CR1: Cais dal cimychiaid afon, neu’u symud ymaith, neu’r ddau beth Cais dal cimychiaid afon, neu’u symud ymaith, neu’r ddau beth PDF [104.1 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf