Dal a rhyddhau eog cyfarwyddid i bysgotwr

Eog yn cael ei ryddhau

Tacl

Defnyddiwch fachau bach, heb adfach, sengl neu ddwbl. Mae’n nhw’n gwneud llai o niwed. Mae dadfachu ynghynt. 

Mae’n anghyfreithlon defnyddio bachau mawr:

  • Ar blu artiffisial gyda bachyn â cheg sy’n fwy na 7mm, cyfyngir bachau i rai sengl neu ddwbl
  • Ar blu artiffisial gyda bachyn â cheg 7mm neu lai, cyfyngir bachau i ddim mwy na dau fachyn â chyfanswm o bedwar pwynt rhyngddynt
  • Ni chaniateir defnyddio bachau triphlyg neu ddwbl ar lithiau ar gyfer troelli
  • Un bachyn sengl yn unig â cheg 13mm neu lai a ganiateir ar droellwyr a bachau llwy.
  • Ni chaniateir mwy na thri bachyn sengl ar blygiau, a phob un â cheg 13mm neu lai.

Caniateir pysgota am eogiaid â berdys a chorgimychiaid o 1 Medi ar rai afonydd gan ddefnyddio un bachyn triphlyg, heb adfach, sydd â cheg sy’n llai na 7mm.

yn achos pryfed, rhaid iddynt fod yn llai na 7mm, yn achos troellwyr, llai na 13mm.

Defnyddiwch flaenllinyn neu lein mor gryf a phosib. Bydd hyn yn sicrhau fod y pysgodyn yn cael ei dynnu i’r rhwyd yn gyflym a diogel.

Troelli

Mae eog yn aml yn cymeryd y Flying C yn ddwfn a mae dros 10% yn marw. Mae defnyddio bachyn sengl heb adfach yn helpu ond mae’n well defnyddio lith arall gyda bachau wedi eu newid neu I bysgota’r bluen.

Mae bachau sengl uniongyrchol nad ydynt yn bigog neu gyda’r adfach wedi’i dynnu a’i wasgu i lawr yn lleihau’r peryglon y bydd y bachau yn niweidio pysgod.

Gellir newid y bachau ar lithiau, megis plygiau, yn effeithiol at gyfer bachau sengl uniongyrchol – gan leihau’r peryglon sy’n gysylltiedig â bachau triphlyg.

Gellir newid y bachau ar lithiau, megis plygiau, yn effeithiol ar gyfer bachau sengl uniongyrchol – gan leihau’r peryglon sy’n gysylltiedig â bachau triphlyg.

Cynllunio o flaen llaw

Cyn pysgota pwll ceisiwch ganfod man addas i lanio pysgodyn heb niwed at greigiau a cherrig.

Os yn pysgota ar eich pen eich hun, ewch a rhwyd.

Gall rhwydi a thyllau mawr traddodiadol hollti esgyll a chynfonnau pysgod.

Gwnech yn siwr fod gennych binsiwrn trwyn hir neu offeryn tebyg i dynnu’r bachyn yn hawdd.

Os ydych am dynnu llun, gwnewch yn siwr fod canmera wrth law, o amgylch eich gwddf er engrhaifft. 

Chwarae pysgodyn

Dylid chwarae pysgod yn gyflym a chadarn fel y gallant gael eu rhyddhau cyn blino gormod.

Glanio pysgodyn 

Rydym yn eich annog i beidio codi’r pysgodyn o’r dŵr mewn unrhyw ffordd os yn bosib. Yn bendant peidiwch a’i godi wrth ei gynffon neu ei dagell, bydd hyn yn creu niwed mewnol.

Ceisiwch osgoi eu llusgo dros gerrig neu raean.

Cynffon wedi hollti a achoswyd gan rwyd a thyllau mawr.

Cynffon wedi hollti a achoswyd gan rwyd a thyllau mawr.

Pysgota o gwch

Os yn pysgota o gwch, os yn gyfleus ewch a’r cwch i’r lan i lanio’r pysgod.

Os glanir y pysgodyn mewn i’r cwch gofalwch fod y pysgodyn yn cael ei orwedd ar fan gwastad wlyb i’w ddadfachu. Mae tywel gwlyb neu fat dadfachu yn addas i hyn.

Gall dal y pysgodyn ben i waered helpu i leddfu’r pysgodyn i’w ddadfachu. Mae pysgod yn ynhyrchu y mwyafrif o’i pwer drwy eu cynffon, gall dal y cynffon I lawr ar wyneb gwastad gadw y pysgodyn yn llonydd.

Rhwyd addas Cynffon wedi hollti a achoswyd gan rwyd a thyllau mawr.

Dadfachu a atgyfnerthu

Pan mae’r pysgodyn yn dawel, tynnwch y bachyn yn gyflym gyda pinsiwrn.

Os ydych yn achosi gwaedlif gallwch ladd y pysgodyn.

Dylid roi cyfle i’r pysgodyn atgyfnerthu a’i ddychwelyd i ddŵr glân ond ddim i lif cyflym.

Gall hyn gymeryd tipyn o amser.

Os yw’r pysgodyn wedi ei fachu’n ddwfn, yn arbennig yn y dagell, torrwch y lein yn agos at y bachyn, bydd hyn yn achosi llai o niwed na’i dynnu.

Ceisiwch osgoi pysgota dwry gyfnodau hir o dywydd poeth.

Cadw record o’ch dalfa

Os ydych yn codi’r pysgodyn o’r dŵr, gwnewch hynny am gyn lleied o amser a phosib. 

Ffotograffiaeth

Cadwch y pysgodyn yn, neu ychydig bach uwchben y dŵr. Daliwch y pysgodyn yn ofalus o dan y bol a daliwch y gynffon yn llac.

Pwyso

Os yn bodib defnyddiwch rwyd a thafol ynddi neu bachwch dafol i rwyd gyffredin.

Mesur

Gwnewch hyn yn y dŵr.

Defnyddiwch dâp mesur neu marciwch ar eich ffon neu ar eich gwialen.

Gellir amcangyfri pwysau o’r hyd – Gweler raddfa Asiantaeth yr Amgylchedd isod.

Dylid mesur o’r trwyn i fforch y gynffon.

Os bydd gennych bysgodyn nad yw’n gwella, gadewch ef yn yr afon a rhowch wybod i Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gynted ag sy’n ymarferol: 0300 065 3000.

Hyd (mod) 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42
Pwysau (pwys) 5 6 6.5 7.5 8.25 9.25 10.5 12 13 14.25 16 17 19 20.75 22.5 24.75 26.75 29 31
Diweddarwyd ddiwethaf