Grwpiau Pysgodfeydd Lleol
Mae gennym naw grŵp pysgodfeydd lleol yng Nghymru (Gwy, Wysg, Taf, Gŵyr, Gorllewin Cymru, De Ceredigion, Gogledd Ceredigion, Gwynedd, a Dyfrdwy a Chlwyd). Fel arfer, mae'r grwpiau anstatudol hyn yn cwrdd o leiaf dwywaith y flwyddyn.
Diben Grwpiau Pysgodfeydd Lleol
- Gweithredu fel dolen gyswllt â physgodfeydd a chyrff pysgota cynrychiolaidd ac unigolion ar reoli pysgodfeydd, gorfodi a materion cysylltiedig
- Darparu fforwm er mwyn cyfnewid gwybodaeth am reoli pysgodfeydd
- Cywain barn a chyngor gan aelodau'r grŵp ynghylch rheoli pysgodfeydd a materion cysylltiedig
- Ystyried effaith ecolegol, fiolegol ac economaidd materion newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg sy'n effeithio ar ein pysgodfeydd
- Cynyddu ymwybyddiaeth yn y gymuned pysgodfeydd ac ymhlith grwpiau eraill â diddordeb ynghylch datblygu adnoddau pysgodfeydd a rhannu arfer da
- Hwyluso gwaith partneriaeth
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Nodyn Briffio: Grŵp Cynghori ar Adar sy'n Bwyta Pysgod
PDF [116.6 KB]
Nodyn Briffio: Pasbort Pysgota Hyrwyddo cyfleoedd marchnata i bysgodfeydd Cymru trwy Gymru gyfan (Cymru a'r gororau)
PDF [74.9 KB]
Incwm a gwariant pysgodfeydd (2017/18) – papur gwybodaeth
PDF [194.3 KB]
Papur Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru Cyfeiriad Strategol y Polisi Amaethyddol a gwaith is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol ar amaethyddiaeth
PDF [121.2 KB]
Cynigion rheoli pysgota 16-03-18 (Saesneg yn unig)
PDF [185.1 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf