Cyngor i awdurdodau cynllunio ar gyfer ceisiadau cynllunio sy'n effeithio ar afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy’n sensitif i ffosfforws
Ein cyngor
Fersiwn 4 o'r cyngor hwn, a gyhoeddwyd 28/06/24.
Y cyngor hwn i awdurdodau cynllunio yw barn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn perthynas â chadwraeth natur, ac effeithiau datblygiadau arfaethedig sydd angen caniatâd cynllunio, ar afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) sy’n sensitif i faetholion.
At ddibenion Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (y cyfeirir atynt yn y Cyngor hwn fel y Rheoliadau Cynefinoedd), mae’r Awdurdod Cynllunio yn awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i ystyried goblygiadau cynllun neu brosiect ar ACA. Fel y cyfryw, mater i'r Awdurdod Cynllunio yw penderfynu p’un a yw cynllun neu brosiect yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar ACA ar ôl ystyried y cyngor hwn.
Rhaid ymgynghori gyda CNC at ddibenion yr Asesiad Priodol, fel y Corff Cadwraeth Natur Priodol, lle byddwn yn cynghori ar oblygiadau datblygiadau arfaethedig ar amcanion cadwraeth y safle. Ni fyddwn yn cynghori ar faterion y tu hwnt i'n cyfrifoldebau fel Corff Cadwraeth Natur Priodol. Dylai Awdurdodau Cynllunio roi sylw i’n cyngor, ond yn y pen draw, cyfrifoldeb yr awdurdod cymwys fydd sicrhau bod gofynion y Rheoliadau’n cael eu bodloni cyn rhoi caniatâd. At y diben hwn, dylai Awdurdodau Cynllunio gael eu cyngor annibynnol eu hunain lle bo angen.
O ystyried amrywiaeth y cynigion datblygu a dderbynnir gan Awdurdodau Cynllunio, rydym yn cynghori bod yr egwyddorion a nodir isod yn cael eu hystyried a'u gweithredu fesul achos – bydd eithriadau yn berthnasol, a bydd hyn yn fater o farn i Awdurdodau Cynllunio. Sylwch fod y term maetholion yn cael ei ddefnyddio yn y cyngor hwn i ddisgrifio ffosfforws ac amonia.
Beth yw'r broblem?
Mae naw afon yng Nghymru sydd wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig o dan y Rheoliadau Cynefinoedd. Yr afonydd hyn yw afon Cleddau, afon Eden, afon Gwyrfai, afon Teifi, afon Tywi, afon Glaslyn, afon Dyfrdwy, afon Wysg ac afon Gwy. Mae ecosystemau’r afonydd hyn yn cynnal rhai o fywyd gwyllt prinnaf a phwysicaf Cymru, gan gynnwys yr eog, misglen berlog yr afon, cimwch yr afon, a llyriad-y-dŵr arnofiol.
Mae'r targedau amgylcheddol y dylai'r afonydd hyn eu cyrraedd i fod mewn cyflwr ffafriol wedi'u nodi fel amcanion cadwraeth yng Nghynlluniau Rheoli Craidd safleoedd. CNC sy’n gyfrifol am y Cynlluniau Rheoli Craidd sydd i’w gweld ar gyfer pob afon ACA ar ein gwefan
Mae’r targedau ansawdd dŵr diwygiedig mewn Cynlluniau Rheoli Craidd wedi’u nodi yng nghanllawiau Monitro Safonau Cyffredin y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC 2015b, 2016). Mae gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd statudol i gyrraedd y targedau hyn ac amddiffyn yr afonydd sy’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig trwy reoleiddio gweithgareddau y maent yn gyfrifol amdanynt.
Ym mis Ionawr 2021, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad (Cyfoeth Naturiol Cymru / Asesiad Cydymffurfiaeth Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd Cymru yn erbyn Targedau Ffosfforws) lle cyflwynwyd ein hasesiad o faint o ffosfforws sydd mewn afonydd ACA wedi'i fesur yn erbyn targedau ansawdd dŵr diwygiedig. Dangosodd yr adolygiad tystiolaeth fod dros 60% o’r cyrff dŵr a aseswyd mewn dalgylchoedd afonydd mewn ACA yn methu â bodloni'r targedau ansawdd dŵr diwygiedig ar gyfer ffosfforws. Cyhoeddwyd diweddariad i dargedau ffosfforws ym mis Awst 2023 'Diweddariad i dargedau ffosfforws ar gyfer cyrff dŵr mewn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru'.
Darllenwch y ddau adroddiad yn ein hadran Adroddiadau Dŵr
Mae ffosfforws yn bresennol yn naturiol mewn amgylcheddau afonydd ond ar lefelau isel iawn. Mae gweithgareddau dynol fel amaethyddiaeth a gollwng dŵr gwastraff wedi'i drin yn codi lefelau ffosfforws yn llif yr afon. Mae crynodiadau uchel o ffosfforws yn arwain at y broses o orfaethu, a elwir hefyd yn ewtroffigedd, a gall hynny newid cydbwysedd rhywogaethau planhigion yn ein hafonydd, gan achosi difrod ecolegol sylweddol.
Ym mis Ionawr 2024, fe wnaethom gyhoeddi asesiad o briodoleddau ansawdd dŵr eraill yn erbyn targedau mewn afonydd ACA (Asesiad Cydymffurfedd o Afonydd ACA yn erbyn Targedau Ansawdd Dŵr). Roedd yr astudiaeth yn cynnwys asesiad o amonia, a all gael effeithiau gwenwynig uniongyrchol ar fywyd dyfrol neu fod yn llygrydd sy'n arwain at orfaethu. Er bod y rhan fwyaf o ddalgylchoedd ACA yn cyrraedd targedau amonia, bydd angen i Awdurdodau Cynllunio ystyried effaith datblygiadau ar ollyngiadau amonia i afonydd ACA. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran nesaf.
Darllenwch Asesiad Cydymffurfiaeth ACA Afonydd Cymru yn Erbyn Targedau Ansawdd Dŵr
At ddibenion y Cyngor hwn, mae dalgylch afon ACA yn disgrifio'r dalgylch hydrolegol ar gyfer afon ACA ddynodedig. Mae hyn yn cynnwys dalgylchoedd llednentydd heb eu dynodi sy'n draenio i'r ACA. O dan Reoliadau Amgylchedd Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, rhennir nodweddion hydrolegol yn ffurfiol yn unedau a elwir yn gyrff dŵr, gyda phob un yn cael cyfeirnod adnabod unigryw. Mae cyrff dŵr yn cynrychioli darn o afon neu aber, llyn, neu nodwedd artiffisial neu nodwedd sydd wedi'i haddasu'n helaeth fel camlas. Mae dalgylchoedd cyrff dŵr yn ddalgylchoedd hydrolegol sy'n gysylltiedig â chorff dŵr penodol.
Sut mae hyn yn effeithio ar gynllunio datblygiadau?
Gall rhai datblygiadau newydd, gan gynnwys tai neu fentrau amaethyddol, arwain at fwy o faetholion yn mynd i mewn i amgylchedd yr afon o ddŵr gwastraff ychwanegol neu reoli tir. O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried effeithiau maetholion datblygiadau arfaethedig ar ansawdd dŵr o fewn dalgylchoedd afon sy’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.
Dylai Awdurdodau Cynllunio ystyried cyfraith achosion wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio neu adolygu polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol a allai effeithio ar afonydd ACA. Rhoddir mwy o fanylion am gyfraith achos ar ddiwedd y cyngor hwn.
Mewn dalgylchoedd ACA sy’n methu â bodloni targedau maetholion diwygiedig, mae’n bosibl y gellir awdurdodi datblygiadau newydd os gellir dangos na fyddant yn arwain at ddirywiad pellach mewn ansawdd dŵr ac na fyddant yn tanseilio gallu'r ACA i fodloni ei hamcanion cadwraeth.
Gellir cyflawni hyn os yw'r canlynol yn wir:
- nid yw datblygiadau yn ffynhonnell maetholion neu
- mae datblygiadau yn ffynhonnell maetholion ond nid oes llwybr iddynt fynd i mewn i amgylchedd afon yr ACA neu
- mae mesurau sy'n gysylltiedig â datblygiad penodol yn cael eu rhoi ar waith fel y gellir cyflawni niwtraliaeth o ran maetholion.
Mae ffosfforws ac amonia yn adweithio'n wahanol yn amgylchedd yr afon. Mae gan ffosfforws gyfradd ddadfeilio isel iawn a gall gronni yn y system afonydd o ffynonellau lluosog a gollyngiadau gwasgaredig. I'r gwrthwyneb, mae gan amonia gyfradd ddadfeilio lawer uwch, gan ymddatod drwy'r broses nitreiddio o fewn y system afonydd. Felly mae effeithiau gwenwynig gollyngiadau amonia yn tueddu i fod yn agos at y pwynt gollwng a dylid asesu effeithiau ar y raddfa honno. Ar y sail hon, gellir mynd i'r afael â methiannau amonia ar lefel corff dŵr yn hytrach na graddfa dalgylch. Mae hyn yn golygu nad oes angen niwtraliaeth amonia ac eir i'r afael â gollyngiadau amonia trwy gyfyngiadau ar Drwyddedau Amgylcheddol unigol.
Yn ogystal, mae'n bosibl y bydd nifer cyfyngedig o achosion lle gellir cynyddu gollyngiadau maetholion elifiant terfynol o waith trin dŵr gwastraff hyd at y terfynau a nodir yn y drwydded amgylcheddol gysylltiedig. Dim ond mewn rhai amgylchiadau y bydd hyn yn bosibl, fel yr eglurir yn yr adran ‘Beth mae hyn yn ei olygu i gynigion datblygu sy'n ymwneud â chysylltu â gweithfeydd trin dŵr gwastraff cyhoeddus?’.
Mewn dalgylchoedd ACA sy’n bodloni targedau maetholion, mae’n bosibl y gellir awdurdodi datblygiadau newydd os gellir dangos na fyddant yn cael unrhyw effaith arwyddocaol debygol neu na fyddant yn arwain at effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle (h.y. ni fyddant yn tanseilio gallu ACA i gyflawni ei hamcanion cadwraeth).
Mae'r adrannau canlynol yn cynnig cyngor i awdurdodau cynllunio ei ystyried wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio neu adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol a allai effeithio ar afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.
Beth yw Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd?
Mae angen i gynigion datblygu o fewn dalgylch afon ACA fod yn destun Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i bennu eu heffaith ar y safle dynodedig a'i nodweddion. Dau brif gam Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yw:
- Prawf yr Effaith Arwyddocaol Debygol – asesiad sgrinio yw hwn i benderfynu p’un a oes gan ddatblygiad y potensial i effeithio ar ACA. Lle gellir diystyru effaith arwyddocaol debygol, nid oes angen asesiad pellach o dan y Rheoliadau Cynefinoedd.
- Asesiad priodol – pan ystyrir bod datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith arwyddocaol, neu na ellir diystyru effaith o’r fath, mae angen asesiad manylach o’r effeithiau posibl. Pwrpas yr Asesiad Priodol yw asesu'r goblygiadau i'r afon ACA o ystyried amcanion cadwraeth y safle hwnnw, a thrwy hynny benderfynu o ran a allai'r cynnig gael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle.
Pa gynigion datblygu sy'n annhebygol o gynyddu lefelau maetholion o fewn afon mewn ACA?
Dylai pob datblygiad gael ei ystyried gan Awdurdodau Cynllunio fesul achos.
Gellir sgrinio’r datblygiadau canlynol allan fel rhai nad ydynt yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar afon mewn ACA mewn perthynas â mewnbynnau ffosfforws, gan ei bod yn annhebygol y bydd ffynhonnell maetholion ychwanegol neu lwybr ar gyfer effeithiau:
- unrhyw ddatblygiad nad yw'n cynyddu cyfaint a chrynodiad maetholion mewn dŵr gwastraff
- unrhyw ddatblygiad sy'n gwella ansawdd dŵr sy'n cael ei ollwng ar hyn o bryd trwy leihau crynodiad maetholion dŵr gwastraff heb gynyddu cyfaint neu drwy leihau cyfaint y dŵr gwastraff a gynhyrchir heb gynyddu'r crynodiad o faetholion
- datblygiadau y bwriedir iddynt ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau, safleoedd masnachol neu fannau cyflogaeth (e.e. adeiladau cymunedol, ysgolion ac ati) ar gyfer poblogaeth leol sydd eisoes yn cael ei gwasanaethu gan gysylltiadau preswyl â charthffosydd cyhoeddus neu breifat presennol sy’n gollwng o fewn dalgylch afon ACA
- unrhyw ddatblygiad sy’n lleihau amlder, neu gyfaint, gollyngiadau maetholion afreolaidd o fewn dalgylch afon ACA, megis codi strwythurau amaethyddol a chynlluniau draenio i wahanu dŵr glaw oddi wrth dail a slyri trwy orchuddio iardiau a storfeydd tail/slyri presennol. Sylwer na ddylai unrhyw ddatblygiad o'r fath fod yn gysylltiedig â chynnydd yn niferoedd da byw neu'r gallu i gynyddu niferoedd da byw trwy ddarparu seilwaith ychwanegol. Ceir rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau amaethyddol yn yr adran nesaf.
- systemau trin carthion preifat sy'n gollwng dŵr gwastraff domestig i'r ddaear, wedi'i adeiladu i'r Safon Brydeinig berthnasol (BS 6297:2007+A1:2008) sydd ag uchafswm cyfradd gollwng dyddiol o lai na 2 fetr ciwbig (m3) a lle mae'r cae draenio wedi'i leoli fwy na 40m oddi wrth unrhyw nodwedd dŵr wyneb megis afon, nant, ffos neu ddraen ac sydd wedi'i leoli mwy na 50m o ffin ACA ac o leiaf 50m o unrhyw arllwysiad hysbys arall i'r ddaear.
Sylwch y dylid defnyddio'r meini prawf sgrinio uchod i benderfynu a oes effaith arwyddocaol debygol a, lle na chaiff y meini prawf eu bodloni, dylid cynnal Asesiad Priodol.
Rhagor o fanylion am esemptiadau ansawdd dŵr cofrestredig ar wefan Data Map Cymru.
Sylwch nad yw'r holl ollyngiadau esempt yng Nghymru wedi'u cofrestru. Dylai ymgeiswyr wirio trefniadau draenio gyda chymdogion yn ogystal â defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael ar wefan MapDataCymru i benderfynu ar leoliadau caeau draenio.
Efallai y bydd achosion hefyd lle gall datblygiadau sy’n cynnig cysylltiadau newydd â charthffos gyhoeddus gael eu sgrinio allan fel rhai nad ydynt yn cael unrhyw effaith arwyddocaol debygol. Gweler yr adran ‘Beth mae hyn yn ei olygu i gynigion datblygu sy'n ymwneud â chysylltu â gweithfeydd trin dŵr gwastraff cyhoeddus?’
Beth mae hyn yn ei olygu i ddatblygiadau amaethyddol?
Mae gan ddatblygiadau amaethyddol newydd sy'n ymwneud â chynhyrchu, storio, rheoli a thaenu tail organig a slyri o fewn dalgylch afon ACA y potensial i gyfrannu at swm y maetholion sy'n mynd i mewn i safle dynodedig.
Ni chredir y bydd y mathau canlynol o ddatblygiadau amaethyddol yn cael effaith sylweddol debygol ar nodweddion ACA mewn perthynas ag effeithiau ansawdd dŵr:
- Gorchuddio iard bresennol
- Gosod to uwchben storfeydd tail / slyri neu storio silwair nad yw'n effeithio ar strwythur presennol y storfa.
Rhaid i ddatblygiadau amaethyddol gydymffurfio’n llawn â’r rheoliadau cyfredol ar gyfer gweithgareddau sy’n berthnasol i arferion amaethyddol a dylent gadw at ganllawiau arfer da rheoli, gan gynnwys y Cod arfer amaethyddol da.
Darllenwch y Cod arfer amaethyddol da ar Gov.Wales
Ystyrir bod y mathau canlynol o ddatblygiadau amaethyddol yn debygol o gael effaith sylweddol ar nodweddion ACA afonol ac felly dylid cynnal Asesiad Priodol:
- Lloches da byw – unrhyw gynigion lle mae newid yn y math o dda byw neu gynnydd yn eu niferoedd
- Cyfleusterau ac adeiladau ar gyfer trin tail da byw, slyri a mathau eraill o dail organig e.e. treulio anaerobig neu gompostio
- Storfa tail / slyri newydd neu wedi'i newid yn sylweddol - pob math o dail gan gynnwys 'tail organig' er enghraifft gweddillion treuliad anaerobig neu gompost
- Clampiau silwair a seilwaith cysylltiedig i gynnwys elifiant sy'n cynnwys llawer o faetholion
- Gwlyptiroedd adeiledig ar fferm (Darllenwch Gwlyptiroedd adeiledig ar gyfer gwella ansawdd dŵr)
- Datblygiadau garddwriaethol, gan gynnwys tai pecynnau a thwneli polythen.
- Cyfleusterau trin da byw
Lle cynigir datblygiad amaethyddol newydd a fydd yn arwain at gynnydd mewn cynhyrchu tail a slyri organig, dylai ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i’r Awdurdod Cynllunio i gadarnhau y bydd tail a slyri organig yn cael eu taenu ar dir ar gyfraddau sy'n diwallu angen y pridd a chnydau yn unig. Pan fydd tail neu slyri yn cael eu rhoi ar dir heb unrhyw fudd amlwg i'r pridd neu dyfiant cnwd neu pan fyddant yn mynd y tu hwnt i ofynion maethol y cnwd, ystyrir eu bod yn ddeunyddiau gwastraff ac mae rheoliadau trwyddedu amgylcheddol yn berthnasol.
Darllenwch gyngor ar ddefnyddio tail a slyri
Dylai ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth i'r awdurdod cynllunio yn dangos:
- lle bydd y tail a/neu’r slyri o'r datblygiad yn cael eu taenu ar y tir
- lle bydd y tail a/neu’r slyri o’r datblygiad yn cael eu trin os ydynt yn cael eu hallforio fel porthiant ar gyfer treulio anaerobig
- sut y bydd ganddynt reolaeth dros gyrchfan y deunydd ar gyfer ei daenu ar y tir
- cynllun rheoli tail ar gyfer yr arwynebedd tir y caiff y tail, y slyri neu’r gweddillion eu taenu arno, gan ddangos bod gan y daliad y gallu i dderbyn y deunydd a chydymffurfio â rheoliadau ar gyfer taenu. Dylai'r cynllun gynnwys manylion am gyfeintiau’r tail a slyri organig a gynhyrchir, a sut y cânt eu trosglwyddo, eu storio a'u defnyddio. Darllenwch gyngor ar gynlluniau rheoli tail a maetholion.
- cynllun wrth gefn ar gyfer rheoli a thaenu tail a slyri i’w defnyddio mewn amgylchiadau pan na ellir defnyddio’r cynllun rheoli tail uchod (e.e. tywydd gwlyb eithafol, hirfaith)
Rhaid i ffermwyr a thirfeddianwyr hefyd ystyried mesurau rheoli pridd yn ogystal â rheoli maetholion yn effeithiol (fel y nodir uchod) a dylent fodloni rheolau Trawsgydymffurfio os ydynt yn gwneud cais am daliadau o dan y Cynllun Taliad Sylfaenol.
Lawrlwythwch y rheolau Trawsgydymffurfio o wefan Llywodraeth Cymru
Mae cynnal adeiladwaith pridd da yn hanfodol er mwyn cyfyngu ar golledion maetholion a chynyddu maint y maetholion sydd ar gael i gnydau eu hamsugno. Mae perygl y gall maetholion fynd i mewn i systemau afonydd trwy ddŵr ffo yn ystod glawiad.
Darllenwch gyngor ar reoli pridd i atal dŵr ffo maetholion neu waddod ar wefan AHDB
Gall dŵr ffo sy’n cynnwys maetholion neu waddod i afon neu nant achosi llygredd ac mae'n drosedd o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.
Pa fathau o ddatblygiadau dibreswyl sy'n arwain at gynnydd mewn gollyngiadau maetholion?
Mae'r rhain yn cynnwys datblygiadau y disgwylir iddynt wasanaethu poblogaeth o'r tu allan i ddalgylch ACA nad yw eisoes yn cael ei gwasanaethu gan gysylltiadau preswyl â charthffosydd cyhoeddus neu breifat sy'n gollwng o fewn dalgylch afon yr ACA. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, lety hunanwasanaeth a llety â gwasanaeth i dwristiaid fel gwestai, tai llety, gwely a brecwast, cyfleusterau gwyliau llety hunanddarpar, a meysydd gwersylla a charafannau. Efallai y bydd achosion lle gallai ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau masnachol neu ddiwydiannol newydd, megis cyfleusterau cynadledda, safleoedd manwerthu mawr neu atyniadau mawr i dwristiaid, arwain at ryddhau maetholion ychwanegol i’r system afonydd.
Mewn achosion o'r fath, mae'n debygol y bydd angen asesiad pellach i benderfynu a fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd yr afon yn yr ACA.
Beth mae hyn yn ei olygu i estyniadau domestig?
Gall estyniadau domestig ddarparu mwy o le byw o fewn eiddo presennol. Efallai na fyddant yn arwain at newid yn nifer y preswylwyr ac, yn ein barn ni, byddai'n ymddangos yn rhesymol i estyniadau domestig gael eu sgrinio allan at ddiben Prawf yr Effaith Arwyddocaol Debygol. Ein barn ni yw oni bai y byddai’r cynnig yn arwain at greu llety byw annibynnol, uned gynllunio ar wahân a/neu newid defnydd, lle na ellir dweud mwyach ei fod yn atodol i’r brif breswylfa, mae datblygiadau o’r fath yn annhebygol o arwain at effeithiau arwyddocaol ar ACA trwy newidiadau i ollyngiadau dŵr gwastraff. Fodd bynnag, gallai cynigion sy’n arwain at greu llety byw’n annibynnol fel uned gynllunio ar wahân arwain at gynnydd mewn deiliadaeth gan drigolion o’r tu allan i ddalgylch afon ACA, ac, yn yr achosion hyn, mae angen asesu cynigion ymhellach.
Beth mae hyn yn ei olygu i gynigion datblygu sy'n ymwneud â chysylltu â gweithfeydd trin dŵr gwastraff cyhoeddus?
Ar gyfer datblygiadau newydd sy’n cynnig cysylltiadau i garthffos gyhoeddus, rydym yn cynghori’r Awdurdod Cynllunio i geisio’r wybodaeth ganlynol i gefnogi cais cynllunio:
- cadarnhad o sut bydd draenio dŵr budr yn cael ei reoli
- cynlluniau graddfa yn dangos lleoliad y garthffos gyhoeddus agosaf a'r pwynt cysylltu arfaethedig
Dylai Awdurdodau Cynllunio wedyn ymgynghori â'r ymgymerwr carthffosiaeth i benderfynu a yw'r drwydded amgylcheddol ar gyfer y gwaith trin dŵr gwastraff cysylltiedig wedi'i hasesu yn erbyn y targedau maetholion diwygiedig a nodir yn yr amcanion cadwraeth ar gyfer yr afon ACA.
Mae CNC yn cynnal adolygiad o drwyddedau cwmnïau dŵr presennol (gyda llif tywydd sych, gollyngiad elifiant terfynol o =>20m3 y dydd) yn erbyn targedau ansawdd dŵr diwygiedig. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud fel mesur priodol o dan Erthygl 6(2) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Fel y cyfryw, ni chynhyrchwyd Asesiadau Priodol i gefnogi'r Adolygiad.
Gall Awdurdodau Cynllunio gael mynediad at wybodaeth am drwyddedau drwy ein cofrestr gyhoeddus neu drwy gysylltu â ni yn: sacriversenquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Lle mae trwydded gwaith trin dŵr gwastraff wedi'i hadolygu yn erbyn y targedau ansawdd dŵr diwygiedig ac, mewn rhai achosion, wedi cael ei hamrywio yn unol â hynny, dylai datblygiadau newydd sy'n cysylltu â'r garthffos gyhoeddus gysylltiedig barhau i fod yn destun Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd gan yr Awdurdod Cynllunio. Er y dylid ystyried effeithiau maetholion cysylltiadau newydd fesul achos, mae’n debygol y gellir dod i gasgliad nad oes unrhyw effaith arwyddocaol debygol yng nghyd-destun effeithiau ansawdd dŵr lle mae’r ymgymerwr carthffosiaeth yn cadarnhau bod y canlynol yn berthnasol:
- mae capasiti i drin dŵr gwastraff ychwanegol o'r datblygiad arfaethedig o fewn terfynau trwydded amgylcheddol diwygiedig (sy'n golygu terfynau maetholion gyda dyddiadau dod i rym ar unwaith ac, ar gyfer rhai trwyddedau, terfynau maetholion tynnach gyda dyddiadau dod i rym yn y dyfodol), ac
- mae’r gwaith trin dŵr gwastraff ar hyn o bryd yn gweithredu yn unol ag amodau’r drwydded neu fe fydd cyn i gysylltiadau newydd gael eu gwneud, lle mae amodau’r drwydded yn cynnwys y rhai ar gyfer llif, safonau elifiant terfynol, a’r llif a drosglwyddir ymlaen (ar gyfer gwaith gyda thanciau storm neu orlif storm uniongyrchol).
Er, dylid nodi y gallai fod angen i gwmpas Asesiad Effaith Amgylcheddol fod yn ehangach na chwmpas yr adolygiad o drwydded ac ystyried nodweddion eraill y safle, gwybodaeth newydd neu newidiadau mewn amgylchiadau.
Pan fo'n briodol, cynghorir Awdurdodau Cynllunio i osod amodau ar amseriad y datblygiad i gyd-fynd â chyflawni gwelliannau yn y dyfodol mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff gan gynnwys y rhai a drefnwyd o dan y Cynllun Rheoli Asedau. Gellir defnyddio amodau Grampian ond, fel mesurau lliniaru penodol i ddatblygiad, dylid eu hystyried fesul achos mewn Asesiad Priodol. Lle mae angen gwelliannau yn y dyfodol er mwyn galluogi gwaith trin i fodloni terfynau trwydded a adolygwyd, dim ond os oes sicrwydd ar yr adeg y mae’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cael ei gynnal y bydd y gwelliannau hyn a gynigir o fewn y Cynllun Rheoli Asedau yn cael eu gweithredu y gellir dod i’r casgliad na fydd unrhyw effaith arwyddocaol debygol neu ddim effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle.
Lle nad oes gan waith trin dŵr gwastraff unrhyw gyfyngiadau maetholion fel amod ar ei drwydded, nad yw’n rhan o raglen adolygu trwyddedau CNC gyfredol a/neu nad oes gwelliannau’n cael eu cynnig o dan y Cynllun Rheoli Asedau, rydym yn cynghori bod yr Awdurdod Cynllunio yn cynnal Asesiad Priodol o gysylltiadau newydd â charthffos gyhoeddus gan ystyried y targedau ffosfforws diwygiedig ar gyfer yr afon ACA a thargedau cyrff dŵr lleol ar gyfer amonia. Mae'n debygol y bydd angen i gynigion datblygu sy'n cysylltu â gwaith o'r fath ddangos niwtraliaeth ffosfforws er mwyn dod i gasgliad na fydd unrhyw effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle.
Gellir lawrlwytho rhestr o fesurau lliniaru Llywodraeth Cymru oddi ar wefan Llywodraeth Cymru
Mewn cyrff dŵr sy'n cyrraedd targedau amonia, bydd angen asesu effeithiau amonia datblygiadau sy'n cysylltu â charthffos gyhoeddus trwy Asesiad Priodol lle nad oes terfyn amonia ar y drwydded ar gyfer y gwaith. Dylai'r asesiad benderfynu a fydd y cynnydd mewn dŵr gwastraff yn arwain at fynd y tu hwnt i'r targedau amonia lleol yn y cwrs dŵr derbyn ar y pwynt gollwng.
Mae rhagdybiaeth ar gyfer pob datblygiad bod dŵr glaw yn cael ei gadw ar wahân i ddŵr gwastraff budr a'i ollwng yn unol â chanllawiau cynllunio ar waredu dŵr glaw.
Darllenwch fwy am ddraenio ar ein tudalen Systemau Draenio Cynaliadwy.
A ellir defnyddio rhagdriniaeth gemegol i alluogi cysylltiad â charthffos gyhoeddus lle mae cyfyngiadau ffosfforws yn berthnasol?
Gallai rhagdriniaeth gemegol i leihau ffosfforws mewn dŵr gwastraff sy'n gollwng i garthffos gyhoeddus effeithio'n andwyol ar berfformiad hydrolig a biolegol y system garthffos ehangach a'r gweithfeydd trin. Yn y lle cyntaf, dylai Awdurdodau Cynllunio / datblygwyr geisio cyngor gan y cwmni dŵr ar gyfer unrhyw gynigion o'r fath.
Beth mae hyn yn ei olygu i gynigion datblygu sy'n ymwneud â systemau trin carthion preifat?
Y rhagdybiaeth gyntaf wrth lunio cynigion carthffosiaeth ar gyfer unrhyw ddatblygiad yw darparu system o ddraenio budr yn arllwys i garthffos gyhoeddus.
Darllenwch Bolisi Cynllunio Cymru ar wefan llyw.cymru.
Os, o ystyried y gost a/neu ymarferoldeb, y gellir dangos i foddhad yr Awdurdod Cynllunio nad yw cysylltu â charthffos gyhoeddus yn ymarferol, gellir ystyried system trin carthion breifat yn cynnwys cyfleuster parod i drin carthion. Dim ond os gall y datblygwr ddangos yn glir nad yw'r cysylltiad â’r garthffos, neu’r defnydd o gyfleuster parod preifat i drin carthion, yn ymarferol, y dylid ystyried system tanc carthion.
O ran dichonoldeb, safbwynt CNC yw nad yw cyfyngiadau cysylltu sy’n gysylltiedig â safon ansawdd yr elifiant y mae modd ei chyflawni mewn gwaith trin dŵr gwastraff, a/neu allu’r dalgylch ACA i dderbyn mwy o ollyngiadau maethynnau a chwrdd â thargedau ansawdd dŵr, yn rheswm dilys i gyfiawnhau'r defnydd o system trin carthion breifat mewn ardal â charthffosiaeth. Mae systemau trin carthion preifat yn debygol o fod angen trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithgaredd gollwng oni bai eu bod yn bodloni'r meini prawf i gofrestru esemptiad. Rydym yn annhebygol o roi trwydded ar gyfer systemau o'r fath os yw'r cynnig o fewn ardal â charthffosiaeth.
Lle gellir cyfiawnhau systemau trin preifat yn briodol, dylid blaenoriaethu gollyngiadau bach i'r ddaear (<2m3/dydd) trwy gae draenio addas, a adeiledir yn unol â’r meini prawf a nodir yn y cyngor hwn, yn hytrach na gollyngiadau uniongyrchol i gyrsiau dŵr oherwydd ystyrir eu bod yn annhebygol o fod â llwybr i faetholion fynd i mewn i amgylchedd yr afon ac yn annhebygol o gael effaith arwyddocaol ar ACA. Bydd angen i ollyngiadau mwy i'r ddaear fod yn destun Asesiad Priodol ynghyd â mathau eraill o ddatblygiad sy'n ymwneud â systemau trin carthion preifat nad ydynt yn cael sylw uchod.
I gael cyngor ar garthbyllau, cyfeiriwch at yr adran ar waredu slwtsh.
Rydym yn annog datblygwyr i ddefnyddio ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio am drwydded amgylcheddol wrth ystyried systemau trin carthion preifat i nodi unrhyw gyfyngiadau a allai fod yn berthnasol. Mae’n annhebygol y bydd trwyddedau sy’n awdurdodi gollyngiadau newydd i ddŵr wyneb yn cael eu rhoi mewn dalgylchoedd ACA sy’n methu â bodloni eu targedau ffosfforws oni bai y gellir dangos bod mesurau lleihau ffosfforws eraill wedi’u sicrhau a bod niwtraliaeth maetholion wedi’i gyflawni. Bydd gollyngiadau amonia yn cael eu hasesu ar sail effaith leol fel y nodwyd yn gynharach yn y cyngor hwn.
Mae deddfwriaeth gyfredol, sef Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, yn caniatáu i rai gollyngiadau bach, newydd i ddŵr daear a dŵr wyneb fod wedi’i eithrio o'r gyfundrefn trwyddedu amgylcheddol. Mae'r rhain yn cynnwys gollyngiadau sy'n gysylltiedig fel arfer â chynlluniau draenio preifat bach. Pan fo gweithredwr wedi penderfynu bod ei ryddhad yn bodloni’r meini prawf eithrio rhaid iddo gofrestru ei gynllun fel un sydd wedi’i eithrio rhag caniatáu. Mae’n bwysig nodi nad yw cofrestru esemptiad yn golygu bod CNC wedi rhoi trwydded na bod asesiad o’r effaith ar ansawdd dŵr wedi’i gynnal. Yn ogystal, nid yw cofrestru gollyngiad wedi'i eithrio yn golygu y gellir rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad gyda system ddraenio breifat newydd ac felly efallai y bydd angen i weithgareddau sydd wedi'u heithrio o'r gyfundrefn drwyddedu fod yn destun Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wrth ystyried y cais cynllunio.
Rydym yn cynghori Awdurdodau Cynllunio i geisio’r wybodaeth ganlynol i gefnogi cais cynllunio neu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer cynllun sy’n cynnwys system trin carthffosiaeth breifat:
- cadarnhad o sut bydd dŵr gwastraff budr yn cael ei reoli
- cynlluniau ar raddfa glir yn dangos lleoliad y system trin carthion breifat arfaethedig a lleoliad y gollyngiadau
- lle cynigir system trin carthion breifat o fewn ardal â charthffosiaeth, tystiolaeth i gyfiawnhau pam nad yw cysylltiad â charthffos gyhoeddus yn ymarferol yn unol â Chylchlythyr 008/2018 a Pholisi Cynllunio Cymru. Ar gyfer pob system trin carthion breifat arall, tystiolaeth bod Cylchlythyr 008/2018 wedi'i ddilyn
- lle cynigir gollyngiadau i'r ddaear, dylai datblygwyr ddarparu canlyniadau profion ymdreiddiad gyda chyfrifiadau i ddangos bod maint a dyluniad y cae draenio yn briodol ar gyfer maint y gollyngiad arfaethedig ac yn dilyn y Safon Brydeinig berthnasol
Dylai’r Awdurdod Cynllunio hefyd sicrhau, lle bo ar gael, fod copïau o unrhyw drwydded amgylcheddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru neu esemptiadau cofrestredig i ollwng i’r ddaear neu i gwrs dŵr ar gael.
Lle cynigir cae draenio newydd ger caeau draenio presennol ac arfaethedig eraill, mae perygl y bydd effeithiolrwydd y caeau draenio yn cael ei beryglu. Nid yw llawer o systemau draenio preifat sy’n gymwys ar gyfer esemptiad rhag Caniatâd Amgylcheddol wedi’u cofrestru gyda CNC ac felly mae’n bosibl y bydd data cyfyngedig ar gael ar leoliad y meysydd draenio presennol. Yn absenoldeb data cyflawn, cynghorir Awdurdodau Cynllunio i ddefnyddio mapiau / ffotograffau o'r awyr i asesu pa mor agos yw eiddo presennol sy'n debygol o fod â system ddraenio breifat ac ystyried p’un a oes angen ymchwilio ymhellach i'r safle. Gall gweithrediad gwael caeau draenio arwain at fwy o ollyngiadau maethynnau i systemau afonydd mewn ACA. Rydym felly yn cynghori Awdurdodau Cynllunio i ystyried amodau safle (fel agosrwydd at gaeau draenio cyfagos, math o bridd, dyfnder i ddŵr daear, pellter at nodweddion dŵr wyneb a ffin yr ACA ac ati) i benderfynu â sicrwydd y bydd caeau draenio presennol ac arfaethedig yn gweithredu’n effeithiol yn y dyfodol ac atal maetholion rhag mynd i mewn i afon mewn ACA. Efallai y bydd Awdurdodau Cynllunio am gyfeirio at gyngor ar asesiadau risg dŵr daear i lywio unrhyw asesiadau technegol.
Darllenwch asesiad risg dŵr daear ar gyfer eich trwydded amgylcheddol ar Gov.uk.
A ellir gollwng dŵr gwastraff ychwanegol i systemau trin carthion preifat presennol?
Nid yw cynigion datblygu sy’n arwain at ollwng dŵr gwastraff ychwanegol i system trin carthion breifat bresennol yn debygol o gael effaith arwyddocaol:
- os yw'r gollyngiad presennol i'r ddaear ac
- os yw’r cae draenio wedi’i leoli fwy na 40m o unrhyw nodwedd dŵr wyneb megis afon, nant, ffos neu ddraen ac wedi’i leoli fwy na 50m o ffin ACA ac
- os oes gan ddyluniad y system garthffosiaeth breifat bresennol (gan gynnwys y cae draenio) y gallu i drin a gollwng y dŵr gwastraff ychwanegol yn effeithiol, ac
- os gellir cynyddu gollyngiadau elifiant i'r ddaear pan fo'r gollyngiad yn parhau'n gymwys ar gyfer esemptiad presennol o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol neu'n gallu gweithredu yn unol ag amodau trwydded amgylcheddol sy'n bodoli.
Lle mae cynnydd mewn dŵr gwastraff i system trin carthion breifat yn cael ei gynnig mewn cysylltiad â datblygiad, cynghorir awdurdodau cynllunio i gael dyluniad manwl o’r system ddraenio breifat (gan gynnwys asesiad o gyflwr y ddaear yn y cae draenio) i ddangos ei bod yn gallu ymdopi â llif cynyddol a pharhau i weithredu'n effeithiol.
A fydd toiledau gwahanu (compost) yn cynyddu gollyngiadau maetholion i afonydd ACA?
Mae toiledau gwahanu, a elwir hefyd yn doiledau compost, yn annhebygol o arwain at gynnydd mewn gollyngiadau maetholion i amgylchedd afonydd ACA. Gall toiledau gwahanu sydd wedi'u cynllunio a'u cynnal yn dda leihau'r defnydd o ddŵr a darparu deunydd sy'n addas i'w ddefnyddio fel gwrtaith. Dylai dyluniad toiledau gwahanu sydd wedi'u lleoli'n barhaol a rhai cludadwy wahanu'r gwastraff wrin a glanweithiol oddi wrth y solidau. Mae toiledau gwahanu parhaol yn briodol ar gyfer safleoedd anghysbell, graddfa fach, defnydd isel. Dylai safleoedd parhaol â defnydd uchel megis lleoliadau gweithgaredd geisio cysylltu â charthffos gyhoeddus neu osod system driniaeth breifat, barhaol.
Mae unrhyw doiled compost dros dro nad yw'n gwahanu solidau a hylifau yn garthbwll a dylai cludwr gwastraff cofrestredig gasglu'r gwastraff canlyniadol i'w drin ar safle a ganiateir yn briodol ac ni ddylid ei roi ar dir.
Cyngor ar ddigwyddiadau dros dro a defnyddio cyfleusterau toiled dros dro
Dylai Awdurdodau Cynllunio ystyried sut y gall digwyddiadau dros dro effeithio ar allu ACA a’i nodweddion i gyflawni eu hamcanion cadwraeth ac a yw’r effeithiau posibl yn rhai dros dro yn unig. Gall effaith tymor byr gael effaith hirdymor ar ACA - felly ni ddylai asesiad fod yn seiliedig ar hyd y gweithgaredd dros dro.
Dylid ystyried safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio i gynnal digwyddiadau neu weithgareddau tymhorol yn rheolaidd ar sail hirdymor yn ddatblygiadau parhaol. Dylai safleoedd o’r fath ddefnyddio datrysiad draenio hirdymor sy’n gyson â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Dylai hyn gynnwys cysylltu â charthffos gyhoeddus neu osod system ddraenio breifat briodol. Mae enghreifftiau o'r math hwn o safle yn cynnwys lleoliadau priodas tymhorol, meysydd carafannau teithiol a lleoliadau gweithgareddau awyr agored.
Gall digwyddiadau dros dro gan gynnwys gwyliau cerddoriaeth neu chwaraeon elwa o hawliau datblygu a ganiateir. Dylai trefnydd digwyddiad ddilyn y broses a nodwyd gennym yn adran Datblygiad a Ganiateir y cyngor hwn wrth ystyried goblygiadau cynllunio datblygiad effeithiau amgylcheddol digwyddiad.
Rydym yn cynghori Awdurdodau Cynllunio i gael cynllun draenio gan drefnwyr digwyddiadau dros dro sy'n ceisio cymeradwyaeth ymlaen llaw, yn nodi sut y bydd dŵr gwastraff yn cael ei gasglu, ei reoli a'i waredu.
Sut y dylid cael gwared ar ddŵr gwastraff o gyfleusterau dros dro?
Dylai gwastraff toiledau cemegol o unedau carafán/gwersylla cludadwy gael ei ollwng yn uniongyrchol i garthffos gyhoeddus neu i garthbwll wedi'i selio ar y safle a'i symud gan gludwr gwastraff trwyddedig. Ni ddylid gollwng gwastraff toiledau cemegol i system ddraenio breifat gyda chyfleuster parod i drin carthion neu danc carthion.
Rhaid i ddŵr llwyd (o fasnau ymolchi, cawodydd, cyfleusterau cegin) gael ei ollwng yn uniongyrchol i garthffos gyhoeddus, system trin breifat a ganiateir yn briodol gyda'r gallu i dderbyn y dŵr gwastraff (e.e. cyfleuster parod i drin carthion neu danc septig) neu garthbwll dros dro wedi'i selio ar y safle a'i symud ymaith gan gludwr gwastraff trwyddedig.
Dylai'r holl ddeunydd gwastraff o doiledau cemegol masnachol gael ei symud o'r safle gan gludwr gwastraff trwyddedig a'i waredu mewn cyfleuster trin â thrwydded.
Gellir defnyddio toiledau gwahanu cludadwy ar gyfer digwyddiadau dros dro ond, fel toiledau cemegol masnachol, rhaid i gludwr gwastraff trwyddedig symud yr holl wastraff o'r safle i'w drin mewn cyfleuster a ganiateir. Ni ddylai hylifau o doiledau/troethfeydd gwahanu masnachol cludadwy gael eu gollwng yn uniongyrchol i'r ddaear.
Datblygu a ganiateir
Mae'r Rheoliadau Cynefinoedd yn gosod amod ar gynigion datblygu sy'n cynnwys datblygu a ganiateir o dan orchymyn datblygu cyffredinol, sy'n golygu na ddylai gwaith ar ddatblygiad sy'n debygol o gael effaith arwyddocaol ar ACA ddechrau nes bod yr awdurdod cynllunio wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig.
Ar gyfer cynigion o’r fath, gall datblygwyr geisio barn CNC yn gyntaf ynghylch p’un a ydynt yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar ACA. Os deuir i gasgliad na fydd unrhyw effaith arwyddocaol debygol, yna gellir ystyried bod barn CNC ar y mater yn derfynol. Oni bai fod CNC yn diystyru y bydd effaith arwyddocaol debygol, yna mae’n rhaid i ddatblygwyr gael caniatâd ymlaen llaw i fwrw ymlaen â’r datblygiad hwnnw gan yr awdurdod cynllunio, sy’n gorfod cwblhau asesiad priodol ac ymgynghori ymhellach ag CNC.
Bydd defnyddio tir ar gyfer carafannau fel safle ardystiedig fel arfer yn ddatblygiad a ganiateir o dan Orchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir 1995 ac felly’n cael ei ddal gan ddarpariaethau perthnasol y Rheoliadau Cynefinoedd. Mae CNC o’r farn na fydd unrhyw effaith arwyddocaol debygol lle mae trefniadau draenio dŵr budr yn eu lle fel na fyddai deiliadaeth y carafannau/pebyll yn cynyddu faint o faetholion sy’n cael ei ollwng o’r safle, er y bydd cynigion o’r fath yn cael eu hasesu fesul achos.
A ellir defnyddio technoleg lleihau ffosfforws mewn systemau trin carthion preifat?
Mae technolegau i leihau ffosfforws mewn gollyngiadau elifiant o systemau trin carthion preifat fel arfer yn seiliedig ar dechnoleg dosio cemegol. Efallai na fydd y defnydd o systemau dosio cemegol mewn systemau trin bach, preifat yn gallu sicrhau gostyngiadau ffosfforws yn y tymor hir. Mae angen safonau uchel o waith cynnal a chadw ar systemau o'r fath er mwyn iddynt allu gweithredu'n effeithiol, gan gynnwys rheoli'r cemegau a'r system ddosio, yn ogystal â chael gwared ar slwtsh yn rheolaidd lle mae dosio yn cynyddu faint o slwtsh sy'n cael ei ddyddodi.
Nid yw llawer o systemau trin carthion bach a phreifat yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda a gall methu â chynnal system breifat gyda system dosio cemegol arwain at halogiad cemegol mewn dŵr afon, dirywiad yn ansawdd yr elifiant, a chynnydd mewn gollyngiadau ffosfforws dros amser. Gall eu defnyddio hefyd arwain at dorri amodau trwydded yn ogystal â bod yn risg i ddiogelwch personol ac amgylcheddol lle mae trin a storio sylweddau cemegol dan sylw. Mae systemau dosio cemegol yn fwy addas i'w gweithredu mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff cyhoeddus ar raddfa fawr.
Os cynigir technolegau lleihau ffosfforws ar gyfer system breifat, dylai datblygwyr sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio ddarparu digon o wybodaeth gyda’u cais i awdurdodau cynllunio ddangos gyda sicrwydd y gellir gosod a gweithredu’r system arfaethedig yn effeithiol yn unol â manylebau’r gwneuthurwr ar gyfer oes y datblygiad. Dylai gwybodaeth ategol gynnwys:
- ardystiad perfformiad prawf wedi'i gyhoeddi gan gorff cydnabyddedig sy'n dangos safonau ffosfforws yr elifiant y gellir eu cyflawni gan y system driniaeth arfaethedig
- datganiad dull yn manylu sut y bydd y gwaith trin carthion a thechnoleg lleihau ffosfforws yn cael eu gweithredu a'u cynnal.
Sylwch fod yr wybodaeth hon yn ychwanegol at ddarparu manylebau gwneuthurwyr, gwybodaeth ddylunio a chynlluniau draenio a ddylai gyd-fynd ag unrhyw gais.
Nid yw lleihau ffosfforws mewn systemau preifat yn cael gwared ar yr holl faetholion o elifiant. Felly, bydd angen i ddatblygwyr ac Awdurdodau Cynllunio ystyried effaith ffosfforws gweddilliol mewn elifiant ar afon mewn ACA, gan fod llwybr ar gyfer effeithiau yn parhau pan nad yw gollyngiadau i gyrsiau dŵr neu ollyngiadau i'r ddaear yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y cyngor hwn. Rhoddir canllawiau ar slwtsh systemau preifat isod.
Bydd systemau trin preifat sy'n cynnwys dosio cemegol yn gofyn am drwydded amgylcheddol ar gyfer y gweithgaredd gollwng. Rydym yn argymell bod datblygwyr sy’n cynnig triniaeth ychwanegol i leihau ffosfforws yn cyfeirio at ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio cyn gwneud cais am drwydded amgylcheddol. Codir tâl am y gwasanaeth hwn. Ar ôl ei adeiladu, dylai'r gwaith trin carthion preifat gael ei gynnal gan gontractiwr â chymwysterau addas yn unol â gofynion y gwneuthurwr a chydymffurfio ag amodau’r drwydded amgylcheddol.
Gwneud cais am gyngor cyn ymgeisio am drwyddedau amgylcheddol
Sut y dylid ystyried gwaredu slwtsh o systemau trin dŵr gwastraff preifat a thoiledau cludadwy mewn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd?
Yn ein barn ni, gyda’r fframwaith rheoleiddio presennol sy’n llywodraethu cludo, gwaredu a thrin slwtsh carthion, gall Awdurdodau Cynllunio ddod i’r casgliad rhesymol bod gwaredu slwtsh o systemau trin carthion newydd, preifat neu doiledau cludadwy yn annhebygol o gael effaith arwyddocaol ar afon ACA.
Bydd datblygiadau sy'n cysylltu â systemau draenio preifat yn arwain at gronni slwtsh yn yr uned drin a bydd angen cael gwared ar y slwtsh yn rheolaidd i sicrhau y bydd yn gweithredu'n effeithiol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y gwastraff a dynnir o danc system trin breifat yn cynnwys cyfuniad o'r ffracsiwn hylifol, gwastraff wedi'i drin a charthion heb eu trin. At ddibenion y cyngor hwn, bydd y gwastraff cyfun yn dwyn y term generig o 'slwtsh' system breifat. Cesglir slwtsh hefyd o doiledau cludadwy a weithredir gan ddarparwyr masnachol ar gyfer digwyddiadau dros dro. Dylid mynd â slwtsh o’r ffynonellau hyn trwy gludwr gwastraff cofrestredig i waith dŵr gwastraff cyhoeddus priodol i'w drin ymhellach. Ar ôl cael ei ddyddodi yn y gwaith dŵr gwastraff cyhoeddus, mae slwtsh carthion wedi'i drin yng Nghymru yn dilyn llwybr gyda deunydd canlyniadol yn cael ei daenu ar dir. Mae’r broses o drin yn y gwaith cyhoeddus, treulio anaerobig a lledaenu ar dir yn cael ei llywodraethu gan ystod o reoliadau amgylcheddol, cynllun sicrwydd, a chodau ymarfer. Mae rheolaethau wedi'u nodi yn y fframwaith llywodraethu hwn i leihau'r risg o faetholion yn mynd i mewn i amgylchedd yr afon lle cyflawnir gweithrediadau taenu ar dir sy'n cydymffurfio.
Ar gyfer systemau draenio preifat, h.y. tanciau carthion a chyfleusterau parod i drin carthion heb dechnolegau lleihau ffosfforws, y ffosfforws mewn elifiant sy'n peri'r risg fwyaf i amgylchedd yr afon. Rydym yn cynghori mewn adrannau cynharach o’r canllaw hwn sut y dylid ystyried effeithiau gollyngiadau elifiant i ddŵr daear a chyrsiau dŵr mewn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Dim ond cyfran fach o gyfanswm y ffosfforws y mae'r slwtsh yn ei chadw.
Lle gosodir technoleg lleihau ffosfforws mewn systemau trin carthion preifat, mae'n newid y cydbwysedd o ran dosbarthiad y ffosfforws rhwng elifiant a slwtsh, gyda chrynodiad cynyddol o slwtsh a'r rhan fwyaf o’r ffosfforws yn cael ei gadw yn y tanc yn y deunydd hwn. Manylir uchod ar y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio technoleg lleihau ffosfforws mewn systemau preifat. O ganlyniad i'r newid yn y cydbwysedd o ran dosbarthiad y ffosfforws rhwng elifiant a slwtsh, bydd systemau o'r fath yn arwain at gynnydd mewn slwtsh sy’n llawn ffosfforws yn cael ei gludo i weithfeydd cyhoeddus i'w drin. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae gan seilwaith cwmnïau dŵr allweddol gapasiti a'r fframwaith rheoleiddio i dderbyn y deunydd hwn.
Nid yw carthbyllau wedi'u selio yn ddatrysiad draenio cynaliadwy a dylid rheoleiddio cynigion ar gyfer eu defnyddio yn unol â Chylchlythyr Llywodraeth Cymru 008/2018. Cynghorir awdurdodau cynllunio i gynnal asesiad priodol ar gyfer unrhyw gynigion sy’n ymwneud â defnyddio carthbyllau wedi’u selio oherwydd na ellir diystyru effaith arwyddocaol debygol o waredu a thrin gwastraff o’r systemau hyn oherwydd eu bod yn cadw'r holl wastraff dŵr o ddatblygiad.
Lawrlwythwch Gylchlythyr Llywodraeth Cymru 008/2018 oddi ar wefan Llywodraeth Cymru
Mesurau osgoi a lliniaru
O ganlyniad i'r dyfarniad 'People over Wind' (achos C-323/17),ni ddylid ystyried mesurau lliniaru y bwriedir iddynt osgoi neu leihau effeithiau niweidiol cynllun neu brosiect ar ACA yn y cam sgrinio ar gyfer effaith arwyddocaol debygol.
Dylid sefydlu effeithiolrwydd a dibynadwyedd unrhyw fesurau lliniaru trwy'r asesiad priodol.
Dylai Awdurdodau Cynllunio ofyn am dystiolaeth gan ddatblygwyr sy’n cynnig mesurau i osgoi neu liniaru effeithiau ffosfforws posibl, gan ddangos bod y mesurau hynny’n warantedig, yn effeithiol, yn ddibynadwy ac yn amserol, ac y byddant yn cael eu cynnal dros oes y datblygiad.
Rydym hefyd yn cynghori Awdurdodau Cynllunio I ofyn am gadarnhad y gellir gorfodi'r mesurau arfaethedig yn gyfreithiol.
Ar gyfer pob mesur, rydym yn cynghori awdurdodau cynllunio i gael gwybodaeth sy’n gwneud y canlynol:
- nodi sut y byddai’r mesur(au) yn osgoi neu’n lleihau effeithiau andwyol ar yr ACA (gan ystyried hyd disgwyliedig yr effeithiau)
- dangos sut y byddai'r mesur(au) yn cyflawni niwtraliaeth o ran maetholion.
- cadarnhau sut y caiff y mesur neu fesurau eu gweithredu, a gan bwy
- nodi sut y bydd y mesur yn cael ei gynnal a phwy fydd yn gyfrifol am waith cynnal a chadw
- dangos sut y bydd y mesur yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn effeithiol
Cyngor ar gyfer adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl)
Dylid sgrinio pob CDLl i benderfynu p’un a yw unrhyw bolisïau yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar afon mewn ACA.
Gellir sgrinio polisïau allan fel rhai nad ydynt yn debygol o gael effaith arwyddocaol mewn perthynas â llwyth maetholion uwch os:
- nad yw’r datblygiadau neu weithgareddau cysylltiedig yn ffynhonnell maethynnau neu nad oes llwybrau i faethynnau ychwanegol fynd i mewn i amgylchedd yr afon neu
- gall dyraniadau lle mae angen cysylltu â charthffos gyhoeddus fodloni'r meini prawf sgrinio a nodir yn yr adran ‘Beth mae hyn yn ei olygu i gynigion datblygu sy'n ymwneud â chysylltu â gweithfeydd trin dŵr gwastraff cyhoeddus?’
Dylai unrhyw bolisïau CDLl sy’n ymwneud â chynlluniau ar gyfer systemau trin carthion preifat sicrhau nad oes unrhyw effeithiau andwyol ar gyfanrwydd unrhyw afon mewn ACA lle:
- mae gollyngiadau'n uniongyrchol i ddyfroedd wyneb; neu
- mae gollyngiadau’n mynd i'r ddaear ac nid ydynt yn bodloni'r meini prawf sgrinio a nodir yn y cyngor hwn.
Dylai dyraniadau ar gyfer datblygiadau sydd â chysylltiad arfaethedig â gwaith trin dŵr gwastraff prif gyflenwad nad ydynt yn bodloni'r meini prawf sgrinio ac sydd â'r potensial i gynyddu'r llwyth maethynnau fod yn destun Asesiad Priodol yn unol â'r cyngor a nodwyd yn gynharach yn y ddogfen hon.
Dyraniadau lle nad oes capasiti ar gyfer dŵr gwastraff ychwanegol
Pan gynigir datblygiad gyda chysylltiad â charthffos gyhoeddus ond nad oes gan y gwaith trin dŵr gwastraff cysylltiedig ddigon o gapasiti i ymdopi â maetholion ychwanegol o gysylltiadau newydd neu os nad oes unrhyw welliannau i gynyddu’r gallu i drin maetholion wedi’u cynllunio o fewn rhaglen y Cynllun Rheoli Asedau, dylai’r awdurdod cynllunio ymgymryd ag asesiad priodol o'r cynigion. Dylai’r Asesiad Priodol ystyried unrhyw fesurau lliniaru, niwtraliaeth maetholion neu fesurau osgoi eraill.
Cyfraith achosion
O ganlyniad i “achos nitrogen yr Iseldiroedd” Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd (Joined Cases C-293/17 and C-294/17), mae’r cwmpas ar gyfer awdurdodi datblygu newydd a fydd yn arwain at lwyth ffosfforws ychwanegol o reidrwydd yn gyfyngedig lle mae statws cadwraeth yr ACA yn anffafriol gan fod lefelau ffosfforws yn uwch na’r safonau.
Dylai Awdurdodau Cynllunio hefyd fod yn ymwybodol o’r penderfyniad domestig yn achos Compton (Compton Parish Council and others v Guildford Borough Council and another [2019] EWHC 3242 (Admin)). Roedd yr achos hwn yn egluro’r dull i’w ddefnyddio wrth asesu llwythi critigol wrth ystyried a fyddai datblygiad arfaethedig yn effeithio’n andwyol ar integredd ACA sydd eisoes yn destun gormodedd o faetholion, yn rhinwedd y datblygiad dan sylw yn arwain at ddyddodi maetholion pellach.
Yn ogystal, gwnaeth achos Wyatt (R (Brook Avenue RAD) v Fareham BC) egluro nad yw’r ddyletswydd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd i gymryd camau priodol i osgoi dirywiad ACA yn atal agwedd niwtraliaeth o ran maetholion at ganiatáu datblygiad a fyddai fel arall yn arwain at lwyth maetholion pellach mewn safleoedd Ewropeaidd sydd eisoes mewn cyflwr anffafriol.
Roedd achosion yr Iseldiroedd, Compton a Wyatt yn ymwneud â nitrogen, ond mae CNC o’r farn y dylai’r egwyddorion fod yn berthnasol i faetholion eraill, gan gynnwys ffosfforws.
Er y bydd natur y datblygiad y gellir ei ganiatáu yn dibynnu ar ffeithiau pob achos, dylai Awdurdodau Cynllunio roi sylw i’r egwyddorion perthnasol a amlinellir mewn cyfraith achosion wrth asesu effeithiau datblygiadau arfaethedig o ran maetholion fel rhan o broses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.