Cynlluniau wrth gefn tomenni glo ar gyfer safleoedd penodol: ystyriaethau amgylcheddol

1. Cyflwyniad

Mae CNC yn gyfrifol am reoleiddio nifer o gyfundrefnau amgylcheddol. Mae’r ddogfen hon yn dwyn ynghyd gyngor rheoleiddio amgylcheddol o bob rhan o’r cyfundrefnau hyn i gefnogi tirfeddianwyr a/neu reolwyr tomenni wrth iddynt lunio cynlluniau wrth gefn ar gyfer tomenni glo. Nid yw'n ofynnol i CNC asesu na chymeradwyo'r cynlluniau wrth gefn hyn.

Nid yw'r ddogfen hon yn:

  • Darparu canllawiau manwl a chymhleth ar gyfer pob cyfundrefn amgylcheddol. Mae’n eich cyfeirio at ganllawiau ychwanegol am ragor o fanylion.
  • Nodi sut i ysgrifennu cynllun wrth gefn. Mae'n rhestr wirio o ystyriaethau rheoleiddio posibl.
  • Cwmpasu cyngor yn ymwneud ag ystyriaethau cynllunio. Gall eich awdurdod cynllunio lleol roi’r cyngor hwn. Ymgynghorir ag CNC ar ystyriaethau cynllunio fel ymgynghorai statudol i’r awdurdod cynllunio lleol.

Mae’n bosibl y bydd modd cael cyngor ac arweiniad ychwanegol ar y gofynion rheoleiddiol drwy ymgysylltu â thimau gweithrediadau lleol CNC, gan gynnwys trafod penderfyniadau rheoleiddiol posibl. Efallai y bydd hefyd yn bosibl cael cyngor ar gynlluniau wrth gefn wedi'u cwblhau trwy wasanaeth cyngor dewisol CNC. 
 

2. Gwastraff

Wrth gynhyrchu cynllun wrth gefn, dylid datblygu strategaeth rheoli gwastraff i gefnogi cydymffurfedd â'r fframwaith rheoleiddio gwastraff.

Mae ei angen i fynd i'r afael â'r materion gwastraff posibl a all godi mewn perthynas ag unrhyw domen lo hanesyddol. Bydd y strategaeth rheoli gwastraff yn helpu i nodi'r canlynol:

  • beth allai fod o fewn cwmpas rheoleiddio gwastraff
  • lle gall fod angen samplu a phrofi
  • pa awdurdodiadau y gall fod eu hangen i wneud gwaith

Mae'r rhestr wirio isod yn rhestru'r ystyriaethau posibl sydd eu hangen wrth ddatblygu strategaeth rheoli gwastraff.

Efallai y byddwch am siarad â’ch tîm rheoleiddio gwastraff lleol yn CNC ar gyfer y canlynol:

  • cyngor technegol ar ddiffinio gwastraff, dosbarthu gwastraff, gweithgareddau rheoli gwastraff, a chyngor cyn ymgeisio
  • canllawiau ar gyfer awdurdodiadau a all fod yn ofynnol

Gellir cysylltu â'ch tîm lleol drwy ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae CNC yn cyflawni swyddogaethau a ddirprwywyd i ni gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar gasglu a gweinyddu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Pan fo gwastraff yn cael ei waredu ar dir neu mewn tir yng Nghymru heb drwydded waredu, gall cyfradd anawdurdodedig y dreth gwarediadau fod yn gymwys. ACC sy’n gyfrifol am unrhyw benderfyniadau ynghylch sut a phryd y caiff y dreth ei defnyddio. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach yma: Gwarediadau anawdurdodedig a Threth Gwarediadau Tirlenwi | LLYW.CYMRU

Adnabod gwastraff

Aseswch y safle a nodi cyfeintiau/swm y gwastraff ar y safle. Gall ystyriaethau gynnwys:

  • Pa bentyrrau sydd ar y safle (gallai map yn nodi pentyrrau, gan gynnwys y rhai sydd fwyaf mewn perygl o fethu ac yn gofyn am ymyrraeth, fod yn ddefnyddiol)
  • Swm y gwastraff o fewn pob pentwr
  • Cadarnhau eu bod yn wastraff
  • Asesu a dosbarthu'r gwastraff yn unol â chanllawiau technegol ar ddosbarthu gwastraff
  • Nodi mannau peryglus / meysydd o halogiad peryglus etifeddol posibl

Rheoliadau gwastraff peryglus

Gall gwaith profi a dadansoddi i nodi a dosbarthu'r gwastraff arwain at nodi gwastraff peryglus.

Os canfyddir gwastraff peryglus, efallai y bydd angen gwaith adfer/gwaredu arbenigol a bydd angen adolygu hyn fel rhan o'r strategaeth rheoli gwastraff o fewn cynlluniau wrth gefn.

Mae cydymffurfedd â Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 yn cynnwys y canlynol:

Nodi blaenoriaethau ac adolygu opsiynau posibl

Nodwch y pentyrrau â blaenoriaeth ac sydd â'r risg uchaf, ac unrhyw feysydd sy'n peri pryder. Er enghraifft, unrhyw wastraff a aseswyd ac a ddosbarthwyd yn beryglus yn ystod asesiad cychwynnol.

Ystyriwch y gofynion rheoli gwastraff ar gyfer y pentyrrau ar y safle, er enghraifft:

  • Beth yw'r opsiynau adfer neu waredu gwastraff
  • A fydd angen trin unrhyw wastraff ar y safle
  • A fydd angen cludo/symud gwastraff o'r safle
  • A fydd angen storio gwastraff dros dro ac, os felly, amcangyfrifwch faint o amser sydd ei angen

Awdurdodiadau gwastraff

Adolygwch y blaenoriaethau a’r opsiynau yn erbyn gofynion o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 ac ystyried pa awdurdodiadau y gallai fod eu hangen. Er enghraifft:

  • Pa awdurdodiadau fydd eu hangen ar gyfer adennill/gwaredu/storio/trin/symud gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwirio a oes angen rhoi gwybod i ni am weithgaredd gwastraff
  • A fydd angen trwydded rheolau safonol neu drwydded amgylcheddol bwrpasol – ac, os felly, pa fath
  • A oes unrhyw esemptiadau neu benderfyniadau rheoleiddio a allai gwmpasu gweithgareddau Cyfoeth Naturiol Cymru / Cofrestru neu adnewyddu eich esemptiadau gwastraff
  • Beth yw'r amodau cydymffurfio, gofynion ymgeisio, ac amserlenni ar gyfer penderfynu ar unrhyw awdurdodiadau
  • A fydd angen triniaeth ar y safle. Os felly, efallai y bydd angen awdurdodiadau (hy defnyddio offer symudol) ar gyfer y gweithgaredd cyn-driniaeth
  • Lleoliadau safleoedd a gweithredwyr â thrwyddedau a allai dderbyn/trin/adennill/gwaredu’r gwastraff a nodwyd, gan gynnwys opsiynau lluosog
  • A ellid ailddefnyddio'r gwastraff yn gynaliadwy o dan God Ymarfer Diffiniad o Wastraff CL:AIRE
  • Sut bydd cydymffurfio â gofynion yn cael ei fodloni

Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedau gwastraff a rheolaethau cysylltiedig ar gael ar wefan CNC: Trwyddedu gwastraff.

Dyletswydd gofal

Lle mae gwastraff yn cael ei nodi a bod y cynllun wrth gefn yn dangos y bydd angen ei symud, ystyriwch:

  • sut y bydd yn cael ei symud
  • y lle y bydd yn cael ei symud iddo

Mae cydymffurfio â’r ddyletswydd gofal yn cynnwys:

  • Dogfennaeth ar gyfer symudiadau gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru / Llenwi nodiadau trosglwyddo gwastraff
  • Awdurdodiadau ar gyfer trydydd partïon a ddefnyddir (gan gynnwys trwyddedau cludwyr gwastraff ar gyfer unrhyw un sy'n cludo gwastraff, trwyddedau neu esemptiadau perthnasol ar gyfer safleoedd derbyn awdurdodedig – gellir gwirio'r rhain ar gofrestrau cyhoeddus CNC)

Bydd angen cadw cofnodion o'r rhain i ddangos cydymffurfedd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn: Dyletswydd gofal gwastraff i sefydliadau

Ystyriaethau eraill

Fel rhan o’r strategaeth rheoli gwastraff, byddai’n ddefnyddiol nodi'r canlynol:

  • derbynyddion amgylcheddol allweddol y gallai unrhyw weithgaredd rheoli gwastraff effeithio arnynt
  • sut mae’r cynllun yn ategu/rhyngweithio ag agweddau eraill yr ymateb (fel y posibilrwydd o symud gwastraff a’r effaith y gallai hynny ei chael ar ansawdd dŵr, bioamrywiaeth ac ati)
  • pa fesurau neu liniaru ychwanegol sydd angen eu hystyried i sicrhau nad yw unrhyw weithgareddau rheoli gwastraff yn arwain at effaith ar dderbynyddion amgylcheddol eraill (er enghraifft, rheoli llwch)
  • caniatadau perthnasol eraill sydd eu hangen / sy’n ofynnol – er enghraifft, caniatâd perchennog tir, caniatâd cynllunio

3. Ansawdd ac adnoddau dŵr

Gall tirlithriadau arwain at lygru dŵr nentydd a dalgylchoedd. Maent hefyd yn peri risg i ansawdd dŵr yfed, a all olygu cau gweithfeydd trin dŵr i lawr yr afon dros dro, neu’r angen am fwy o driniaeth.

Dylai cynllun wrth gefn roi ystyriaeth gynnar i oblygiadau dargyfeirio neu reoli llifoedd dŵr wyneb. Gall sut y rheolir llifoedd dŵr wyneb liniaru effeithiau ar yr amgylchedd dŵr. Gall effeithiau fod yn y dŵr derbyn ac ymhellach i lawr yr afon o fewn y dalgylch. Gallant effeithio ar ansawdd dŵr, ecosystemau, a safleoedd gwarchodedig.

Cyfeiriwch at yr adran halogiad tir sy'n rhoi dolen i gyngor ar sut i reoli risgiau i'r amgylchedd dŵr oherwydd halogiad tir.

Dylai'r cynllun wrth gefn gyfeirio at weithdrefnau yn achos digwyddiad, megis:

  • Hysbysu'r cwmnïau dŵr i lawr yr afon – dylai cynlluniau wrth gefn gynnwys manylion cyswllt y cwmnïau dŵr perthnasol a all dynnu dŵr ar gyfer cyflenwad dŵr i lawr yr afon
  • Hysbysu CNC os yw deunyddiau llygrol wedi mynd i mewn i gwrs dŵr neu os gallent fynd i mewn i gwrs dŵr neu gael eu hamsugno i'r ddaear. Cofiwch y gallai unrhyw sylwedd nad yw'n cael ei ganfod yn naturiol mewn amgylchedd achosi llygredd. Mae manylion ar gyfer hysbysu Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau CNC ar ein gwefan: Rhoi gwybod am ddigwyddiad

Mae blaenoriaethau allweddol eraill i fynd i'r afael â nhw mewn cynllun wrth gefn wedi'u nodi isod.

Cymryd camau i leihau llygredd pridd, dŵr a dŵr daear

Rhaid i chi gymryd camau i osgoi achosi llygredd trwy atal unrhyw sylwedd sy'n niweidio, neu a allai niweidio, pobl neu'r amgylchedd rhag mynd i mewn i'r dŵr neu'r ddaear.

Paratowch gynllun ymateb i ddigwyddiad o lygredd y byddwch yn cadw ato wrth ymateb i ddigwyddiad ac adfer ohono, gan gynnwys, er enghraifft:

  • cynllun ar gyfer mesurau cyfyngu dŵr
  • cynllun storio deunyddiau a gloddiwyd (gan gynnwys gwastraff) mewn ffordd sy’n atal mynediad i’r cwrs dŵr
  • cynllunio gwaith i atal cerbydau rhag mynd drwy gyrsiau dŵr, lle bo modd

Deall yr halogion tebygol

O ystyried y deunydd a allai gael ei symud, penderfynwch ar yr halogion tebygol a'r risg i ansawdd dŵr i lawr yr afon neu'r cyflenwad dŵr yfed.

Deall sensitifrwydd y dŵr derbyn

Dylai cynlluniau wrth gefn nodi lleoliadau dynodiadau dyfrol a safleoedd gwarchodedig eraill, yn syth i lawr yr afon ac ymhellach i ffwrdd.

Darganfod a oes angen trwydded arnoch i ollwng i ddŵr wyneb neu ddŵr daear

Efallai y bydd angen trwydded amgylcheddol arnoch os byddwch yn gollwng elifiant hylifol neu ddŵr gwastraff i ddyfroedd wyneb (er enghraifft, afonydd, nentydd, aberoedd, llynnoedd, camlesi neu ddyfroedd arfordirol) neu i mewn i, neu ar, y ddaear.

Darganfyddwch a oes angen trwydded arnoch ar gyfer gollyngiadau i ddŵr wyneb a dŵr daear.

Darganfod a oes angen trwydded tynnu neu gronni dŵr arnoch

Bydd angen trwydded tynnu dŵr arnoch os byddwch yn cymryd dŵr o ddŵr mewndirol neu ddŵr daear, oni bai ei fod wedi’i esempt rhag trwyddedu.

Bydd angen trwydded cronni dŵr os ydych chi’n adeiladu, yn newid, yn atgyweirio neu'n tynnu adeiledd cronni, oni bai ei fod yn weithgaredd esempt.

Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan: Cewch wybod a oes angen trwydded arnoch i dynnu neu gronni dŵr.

4. Safleoedd a rhywogaethau gwarchodedig

Mae'n bwysig bod safleoedd a rhywogaethau a warchodir yn cael eu hystyried o fewn cynlluniau amgylcheddol wrth gefn i sicrhau bod yr effeithiau'n cael eu lleihau a bod trwyddedau perthnasol yn cael eu sicrhau lle bo angen.

Safleoedd gwarchodedig

Nodir ym Mholisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru 92017) bod safleoedd gwarchodedig yn rhan graidd o rwydweithiau ecolegol. Er mwyn meithrin cydnerthedd, rhaid inni leihau a rheoli’n well y pwysau ar ecosystemau ac adnoddau naturiol. Mae ymagwedd sy'n seiliedig ar natur yn elfen allweddol o weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

Bydd cynnwys gwybodaeth amgylcheddol a strategaethau ymateb priodol mewn cynllun yn helpu i gyflawni'r gofynion hyn ac yn sicrhau bod buddiannau bioamrywiaeth a geoamrywiaeth yn cael sylw digonol.
Mae dau gam mewn cynllunio wrth gefn mewn perthynas â sensitifrwydd amgylcheddol:

1. Nodi ardaloedd a safleoedd sensitif
2. Cynllunio strategaethau ymateb priodol

Cam 1 Cynllunio gofodol – nodi safleoedd gwarchodedig

Nodwch leoliadau’r holl safleoedd gwarchodedig o fewn yr ardal ddaearyddol sy’n berthnasol i leoliad y domen lo. Gall y setiau data canlynol eich cefnogi wrth gwmpasu’r cynllun wrth gefn:

  • Mae gwybodaeth ffiniau GIS y gellir ei lawrlwytho ar gael ar Hafan | MapDataCymru (llyw.cymru) ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), Safleoedd Ramsar a Pharthau Cadwraeth Morol
  • Mae dogfennaeth dynodi safle statudol, gan gynnwys dyfyniadau SoDdGA (disgrifiad o’r safle a’i nodweddion arbennig), Nodiadau Daearegol Eglurhaol SoDdGA (lle bo’n berthnasol), Datganiadau Rheoli Safle ar gyfer SoDdGAoedd, a Chynlluniau Rheoli Craidd ar gyfer ACAau ac AGAau, i’w gweld ar wefan CNC: Canfod ardaloedd o dir a môr gwarchodedig. Mae hyn hefyd yn cynnwys map ar-lein i chwilio am ardaloedd gwarchodedig yn ôl cyfeiriad, cod post, neu enw pentref, tref neu ddinas.

Nodwch y gall gweithgareddau sy'n digwydd y tu allan i ffiniau safleoedd gwarchodedig achosi difrod i nodweddion dynodedig y safle. Mae angen i gynigion ystyried cyngor CNC (cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol), lleihau difrod i nodweddion y safle, ac adfer y safle neu safleoedd i’w cyflwr blaenorol os bydd unrhyw ddifrod yn digwydd. Er enghraifft, gall dargyfeirio neu reoli llifoedd dŵr wyneb effeithio ar wlyptir / glaswelltir corsiog gerllaw mewn SoDdGA (gallai fod yn effaith gadarnhaol neu negyddol).

Dylai cynlluniau wrth gefn ategu cynlluniau a rhaglenni cyhoeddedig eraill:

  • Datganiadau Ardal
  • Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur – cenedlaethol, lleol a sefydliadol
  • Dalgylchoedd Cyfle Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd
  • Cynlluniau adfer afonydd
  • Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
  • Map Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Cymru'r Dyfodol
  • Strategaethau seilwaith gwyrdd awdurdodau cynllunio lleol
  • Strategaeth bioamrywiaeth arall a gyhoeddir gan awdurdod o dan adran 6

Cam 2 Ystyried strategaethau ymateb priodol – dyletswyddau cyfreithiol a gofynion polisi

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) – Mae adran 28G o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn nodi dyletswydd ymgymerwr statudol i gymryd camau rhesymol, yn gyson ag arfer ei swyddogaethau'n briodol, i hybu cadwraeth a gwella'r fflora, y ffawna neu'r nodweddion daearegol neu ffisiograffigol y mae'r safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig o'u herwydd.

Mae rhagor o ganllawiau ar geisio caniatâd ar gael yn Safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig: cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus ac ymgymerwyr statudol

Rydym yn argymell y dylai cynlluniau wrth gefn gyfeirio at y gofynion hyn, ochr yn ochr â chydnabod bod y ddeddfwriaeth – Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn adran 28P(4)(b) – yn darparu esemptiad rhag ceisio cydsyniad SoDdGA os yw’r gwaith wedi’i ystyried yn weithrediad brys. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn diffinio’r term “brys” yn y cyd-destun hwn, ond mae CNC yn ystyried bod hyn yn golygu sefyllfaoedd fel y’u diffinnir o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl.

Dylai cynlluniau wrth gefn gydnabod hyn a nodi, pe bai angen gwneud gwaith brys a allai effeithio ar SoDdGA, fod rhaid hysbysu CNC cyn gynted â phosibl ar ôl cychwyn drwy gysylltu ag CNC gan ddefnyddio’r manylion isod:

Trwy e-bost: SSSI.notices@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth CNC ar gyfer digwyddiadau: 0300 065 3000.

Dylid nodi hefyd, os yw’r SoDdGA yn cael ei ddifrodi o ganlyniad i waith brys, dylid hysbysu CNC drwy gysylltu â’r llinell gymorth digwyddiadau.

Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ofynnol ar gyfer unrhyw gynllun neu brosiect a allai gael effaith ar safle gwarchodedig Ewropeaidd (ACA, AGA neu Safle Ramsar). Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r canlynol: Asesiadau rheoliadau cynefinoedd: diogelu safle Ewropeaidd | LLYW.CYMRU

Os ydych yn gorff cyhoeddus, o fewn y cynllun wrth gefn dylech ddangos sut yr ydych wedi cyflawni eich dyletswydd o dan adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) i “geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru ac, wrth wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol”.

5. Rhywogaethau a warchodir

Trwyddedau rhywogaethau

Lle bydd gwaith yn effeithio ar rywogaeth a warchodir, efallai y bydd angen trwydded rhywogaeth a warchodir.

Fel rhan o gynllunio wrth gefn, nodwch y canlynol:

  • a oes unrhyw rywogaethau a warchodir o fewn ardal y domen lo, neu o fewn yr ardaloedd lle gallai fod angen gwneud gwaith
  • a yw'r rhywogaethau gwarchodedig a nodwyd yn debygol o gael eu heffeithio gan unrhyw waith sy'n ofynnol
  • a fyddai angen unrhyw drwyddedau i wneud y gwaith

Nid oes angen trwydded os yw gwaith yn cael ei drefnu mewn ffordd na fydd yn amharu ar y rhywogaeth neu ei chynefin neu'n ei niweidio.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais am drwyddedau ac amserlenni ar gyfer penderfynu, ar gael yma: Trwyddedu rhywogaethau a warchodir.

Trwyddedau adar

Mae pob rhywogaeth o adar gwyllt yng Nghymru yn cael ei gwarchod. Fel rhan o gynllunio wrth gefn, efallai y byddwch am ystyried a fydd unrhyw waith brys yn effeithio ar adar, eu nythod a’u hwyau, a nodi a oes unrhyw adar, yn yr ardal sydd angen y gwaith brys, yn dod o dan yr adar prin a restrir yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd).

Gall CNC roi trwyddedau at ddibenion penodol. Mae yna trwyddedau cyffredinol ar gael ar gyfer rhai sefyllfaoedd, y gellir eu lawrlwytho o wefan CNC heb fod angen cais. Os nad yw trwydded gyffredinol yn cwmpasu eich sefyllfa, ystyriwch ddiben eich gweithgareddau a drwyddedir a chwblhewch y ffurflen gais berthnasol.

Gellir dod o hyd i ganllawiau pellach, gan gynnwys sut i wneud cais, yn drwyddedau adar.

Rhywogaethau estron goresgynnol

Mae rheoliadau ar waith i atal a lleihau effaith cyflwyno anifeiliaid a phlanhigion anfrodorol a’u lledaeniad.

Yn ystod cynllunio wrth gefn:

  • ystyriwch a oes unrhyw rywogaethau oresgynnol o fewn ardal y domen lo, neu a fyddai unrhyw waith brys neu fethiannau tomenni glo yn effeithio arnynt
  • os bydd rhywogaethau goresgynnol yn cael eu nodi yn ystod yr adolygiad, ystyriwch gynnwys camau i'w hatal rhag lledaenu neu gael eu rhyddhau ymhellach i'r amgylchedd

Rhagor o wybodaeth am rywogaethau goresgynnol: rhywogaethau estron goresgynnol.

6. Coetiroedd a choedwigoedd

Mae llawer o domenni glo ledled Cymru wedi’u lleoli mewn ardaloedd gerllaw coetiroedd a choedwigoedd neu ynddynt, a gallai fod angen eu rheoli’n ofalus os bydd tomen lo yn methu neu yn ystod gweithgareddau brys. Mae CNC yn gyfrifol am roi trwyddedau torri coed, cymeradwyo cynlluniau rheoli coedwigoedd, cynlluniau adnoddau coedwigoedd, a goruchwylio asesiadau o’r effaith amgylcheddol ym maes coedwigaeth.

Wrth gynllunio wrth gefn:

Yn unol â’r cyngor yn Adran 4, efallai y bydd angen i chi asesu’r effeithiau posibl ar fywyd gwyllt o ganlyniad i unrhyw dorri coed. Gweld a oes angen trwydded bywyd gwyllt arnoch yn ystod gweithrediadau coedwig.

7. Rheoli perygl llifogydd

Bydd angen gwneud asesiad o unrhyw waith a allai effeithio ar brif afonydd. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu a oes angen unrhyw awdurdodiadau o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Prif ddibenion Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd o dan y rheoliadau hyn yw rheoli unrhyw effaith ar berygl llifogydd ac atal niwed amgylcheddol. Bydd angen ystyriaeth hefyd ar gyfer unrhyw waith a allai effeithio ar gyrsiau dŵr cyffredin o fewn Ardal Draenio Mewnol.

Yn ystod cynllunio wrth gefn, rhaid i chi ystyried y canlynol:

  • a oes unrhyw asedau perygl llifogydd CNC gerllaw
  • a fyddent yn cael eu heffeithio gan unrhyw waith posibl

Mae hyn yn cynnwys, nid yn unig yr asedau eu hunain, ond hefyd a effeithir ar allu CNC i gynnal yr asedau.

Byddai'r asedau'n cynnwys amddiffynfeydd, adeileddau, mesuryddion ac offer monitro.

Nid yw’r ddogfen ganllaw hon yn ymdrin â chyngor sy’n ymwneud ag asedau perygl llifogydd sy’n eiddo i awdurdod rheoli risg arall neu ganiatâd ar gyfer gwaith mewn cwrs dŵr cyffredin (oni bai ei fod wedi’i leoli o fewn Ardal Draenio Mewnol). Gall eich awdurdod llifogydd lleol arweiniol ddarparu'r cyngor hwn.

Asedau perygl llifogydd

I nodi a oes unrhyw asedau perygl llifogydd gerllaw, defnyddiwch fap Asesiad Perygl Llifogydd Cymru, sydd â haen ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd: Mapiau Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Cofiwch ystyried bod angen mynediad i sicrhau y gellir cynnal yr asedau hyn.

Nid yw mesuryddion ac offer monitro yn cael eu dangos ar y mapiau ar-lein. Gellir gofyn am yr wybodaeth hon gan dîm Hydrometreg a Thelemetreg CNC drwy gysylltu ag ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd

Wrth gynllunio wrth gefn, aseswch a ydych yn debygol o fod angen gwneud gwaith mewn prif afon.

Bydd angen Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 ar gyfer gwaith mewn prif afon.

Nodwch pa afonydd ger eich tomen lo sy'n brif afonydd. Gweld a oes arnoch angen trwydded gweithgaredd perygl llifogydd.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar sut i wneud cais ar gael ar ein gwefan: Drwydded gweithgarwch perygl llifogydd

Gallwn gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio cyn i gais ffurfiol gael ei wneud. Cysylltwch â’r tîm ardal perthnasol drwy’r cyfeiriadau e-bost canlynol:

  • Y tîm Datblygu a Pherygl Llifogydd yn y Gogledd a'r Canolbarth – floodpermitting.northmid@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
  • Y tîm Datblygu a Pherygl Llifogydd yn y De – DFRSouthPermitting@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd angen y canlynol ar gais am drwydded:

  • Lleoliad / cynlluniau safle
  • Darluniau o waith arfaethedig (cynllun a thrawstoriad)
  • Datganiad dull os ymgymerir â gwaith afon
  • Ffi berthnasol
  • Asesiadau amgylcheddol (mewn rhai achosion)

Cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd: Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu.

Caniatâd draenio tir

Wrth gynllunio wrth gefn, aseswch a ydych yn debygol o fod angen gwneud gwaith ar gwrs dŵr cyffredin o fewn Ardal Draenio Mewnol.

Efallai y bydd angen i chi wneud cais i ni am ganiatâd draenio tir o dan adran 23 o Ddeddf Draenio Tir 1991.

Mae'r Ddeddf Draenio Tir yn nodi mai dim ond gweithgareddau penodol sy'n gofyn am ganiatâd draenio tir.
Mae'r gweithgareddau hyn fel a ganlyn:

  • Gosod, codi neu addasu unrhyw argae melin, cored neu rwystr arall i lif cwrs dŵr cyffredin
  • Gosod cwlfert
  • Addasu cwlfert mewn modd a fyddai'n effeithio ar lif y dŵr

Wrth wneud eich cais, sicrhewch eich bod yn llenwi'r ffurflen briodol yn gywir (ar gael ar ein gwefan) ac yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • cynlluniau sy'n dangos lleoliad eich gwaith
  • darluniau manwl sy'n dangos yr hyn rydych am ei wneud, ynghyd ag unrhyw gyfrifiadau
  • datganiad dull ar gyfer y gwaith, gan gynnwys manylion ar sut bydd y gwaith yn cael ei gyflawni ac unrhyw fesurau diogelu/lliniaru amgylcheddol a fydd yn cael eu rhoi ar waith

Byddwn yn caniatáu neu’n gwrthod ceisiadau ymhen dau fis o ddyddiad derbyn eich cais. Os na fyddwn yn eich hysbysu am benderfyniad eich ceisiadau, ystyrir eu bod wedi eu caniatáu.

8. Halogiad a sefydlogrwydd y tir

Gall halogiad tir gael effeithiau sylweddol ar iechyd pobl, eiddo, ecosystemau ac ansawdd dŵr (er enghraifft, afonydd, dŵr daear a llynnoedd) ac mae angen ei reoli'n briodol. Bydd angen ymgynghori â'r awdurdod lleol am y risgiau i iechyd dynol o halogiad hanesyddol.

Yn ystod cynllunio wrth gefn, byddwn yn gweithio gyda datblygwyr, eu hymgynghorwyr a thirfeddianwyr mawr i ddarparu cyngor generig a safle-benodol, yn enwedig ar faterion dŵr. Byddwn yn gwneud hyn cyn ceisiadau am ganiatâd cynllunio neu pan fydd gwaith adfer gwirfoddol yn cael ei gynnig neu ei wneud. Efallai y bydd angen i ni godi tâl am y gwasanaeth hwn yn unol â'n gwasanaeth cyngor cynllunio dewisol: Cyfoeth Naturiol Cymru / Ein gwasanaeth i ddatblygwyr.

Mae'r blaenoriaethau allweddol i fynd i'r afael â nhw mewn cynllun wrth gefn o safbwynt halogiad a sefydlogrwydd tir isod.

Tir halogedig

Asesiad o risgiau halogiad hanesyddol (os bydd llithriad) yn unol â chanllawiau Rheoli Risg Halogiad Tir (LCRM): Land contamination risk management (LCRM) – GOV.UK (www.gov.uk)

Asesiad risg dyfroedd a reolir ar gyfer unrhyw safle derbyn dros dro / newydd ar gyfer deunydd llithro: Datblygu tir yr effeithir arno gan halogiad:canllaw i ddatblygwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 2023 (PDF 1.64MB)

Gall fod yn ddefnyddiol hefyd cyfeirio at y cyngor amddiffyn dŵr daear hwn: Groundwater protection – GOV.UK

Sefydlogrwydd y tir

Dylid cynnal asesiad risg ar gyfer sefydlogrwydd cyn unrhyw waith peirianyddol arfaethedig ar safle'r domen lo ac mewn unrhyw leoliadau derbyn eraill lle mae deunydd yn cael ei symud, neu ei storio dros dro, yn unol â'r canllawiau cynllunio ar sefydlogrwydd tir Land stability - GOV.UK

Os yw trosglwyddo deunydd yn ffurfio tomen lo newydd, dylai'r tirfeddiannwr ei ychwanegu at ei restr o domenni sborion a phennu categori perygl. Lle mae sborion yn aros ar y safle ac yn cael ei ailbeiriannu, dylid ailasesu categori perygl y domen sborion.

Dylid hysbysu'r awdurdod canolog perthnasol am domen newydd neu newidiadau i domen sy'n bodoli eisoes.

Diweddarwyd ddiwethaf