Newidiadau i bysgodfa gocos Cilfach Tywyn
Daw’r Gorchymyn Rheoleiddio Pysgodfeydd cocos presennol ar gyfer Cilfach Tywyn i ben ar 15 Mehefin 2025 a phan ddaw i ben mae’n debygol y bydd yn dychwelyd i fod yn bysgodfa gyhoeddus o dan drefniadau Llywodraeth Cymru. Mae CNC wedi cynnal adolygiad manwl ac wedi dod i’r casgliad na fydd yn ceisio gwneud cais am Orchymyn Rheoleiddio newydd.
Pam fod hyn yn digwydd?
Gorchymyn Rheoleiddio Cocos Cilfach Tywyn oedd y cyntaf o'i fath pan gafodd ei roi ar waith ym 1965. Hwn oedd yr unig offeryn rheoli pysgodfeydd effeithiol a oedd ar gael bryd hynny i amddiffyn y bysgodfa rhag gor-ecsbloetio.
Ers ei gyflwyno bron i 60 mlynedd yn ôl, mae tirwedd rheoleiddio pysgodfeydd morol a chadwraeth wedi datblygu'n sylweddol. Nawr, mae yna lawer o reoliadau sy'n gwarchod ecosystemau naturiol ac yn galluogi rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol, sydd felly'n disodli'r angen am y gorchymyn rheoleiddio.
Beth yw'r manteision
Er i ni ystyried a ddylem fwrw ymlaen â chais am Orchymyn Rheoleiddio newydd neu adael iddi ddychwelyd i fod yn bysgodfa gyhoeddus o dan drefniadau Llywodraeth Cymru ar 15 Mehefin 2025, cododd dau brif ffactor:
Cost
Fel rhan o'n hystyriaethau, adolygwyd y gost gyfredol i'r pwrs cyhoeddus o reoli'r bysgodfa a chanfuwyd y byddai'n rhaid i ffioedd trwyddedau unigol godi i lefelau anfforddiadwy er mwyn adennill y costau llawn angenrheidiol ar gyfer y gwasanaeth rheoli a ddarparwn.
Mae gwerth presennol Pysgodfa Gocos Cilfach Tywyn yn debyg i Bysgodfa Gocos gyfagos y Tair Afon sy'n ceisio cyflawni amcanion pysgodfeydd ac amcanion cadwraeth tebyg. Rheolir Pysgodfa Gocos y Tair Afon o dan drefniadau pysgodfeydd cyhoeddus wedi’u diweddaru Llywodraeth Cymru am gost is.
Galw
Mae galw sylweddol gan unigolion a hoffai gael mynediad i’r bysgodfa ond nad ydynt yn gallu gwneud hynny o dan y system bresennol sy’n cyfyngu ar nifer y trwyddedau i wneud yn siŵr bod y bysgodfa’n gynaliadwy. Gallai'r system drwyddedau newydd alluogi unigolion cymwys i wneud cais am drwyddedau yn flynyddol gyda'r hyblygrwydd i fynd i mewn neu adael y bysgodfa os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.
Mesurau Rheoli Cocos Cymru Gyfan Arfaethedig Newydd Llywodraeth Cymru
Mae mesurau Rheoli Cocos Cymru Gyfan newydd Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnig. Bydd gan y cynigion hyn reolaethau tebyg i warchod pysgodfa Cilfach Tywyn a nodweddion bywyd gwyllt a chadwraeth o bwysigrwydd rhyngwladol.
Bydd y mesurau newydd arfaethedig yn rhoi mwy o ddewis a hyblygrwydd i bysgotwyr cocos proffesiynol gael mynediad i bysgodfeydd cyhoeddus eraill yng Nghymru gyda system trwyddedau cocos Cymru gyfan. Mae’r mesurau hyn yn debygol o fod yn weithredol erbyn i’r Gorchymyn Rheoleiddio ar gyfer Cilfach Tywyn ddod i ben ar 15 Mehefin 2025.
Beth sy’n digwydd rhwng nawr a diwedd y Gorchymyn Rheoleiddio yn 2025?
Rydym yn cydnabod y bydd y penderfyniad i ganiatáu i’r Gorchymyn Rheoleiddio ddod i ben yn cael ei ystyried yn newid sylweddol gan rai. Rydym yn hyderus mai dyma’r trywydd cywir a chyfrifol sy’n cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru i symleiddio’r broses o reoli pysgodfeydd cocos yng Nghymru, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd stociau cocos a diogelu’r amgylchedd ehangach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rydym yn parhau’n ymrwymedig i reoli’r bysgodfa’n effeithiol hyd nes y daw’r Gorchymyn Rheoleiddio presennol i ben ym mis Mehefin 2025. Byddwn yn gweithio i ddatblygu a gweithredu unrhyw drefniadau trosiannol yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol. Yn y cyfamser byddwn yn parhau i ymgysylltu â phob trwyddedai yn unigol a thrwy Grŵp Cynghori ar Reoli Cilfach Tywyn (BIMAG). Rydym yn parhau i roi’r cynigion yn ein Cynllun Rheoli ar waith i ddatblygu pysgodfa gocos lewyrchus yng Nghilfach Tywyn sy’n cefnogi, yn gwarchod ac yn gwella anghenion y gymuned a’r amgylchedd y mae’n dibynnu arnynt.