Gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch
Os ydych yn bwriadu cwympo coed ar eich tir, rhaid i chi sicrhau bod gennych y drwydded gywir cyn i chi ddechrau unrhyw waith.
Os ydych yn un o’r canlynol:
- perchennog y coed
 - asiant
 - masnachwr pren neu gontractwr
 
Rhaid i chi sicrhau bod y drwydded gywir wedi'i chyhoeddi cyn y gall unrhyw waith cwympo ddigwydd.
Mae'n drosedd torri rhai coed i lawr heb drwydded.
Pryd nad oes angen trwydded cwympo coed arnoch
Nid oes angen trwydded cwympo arnoch
- os ydych chi'n torri coed mewn gardd, perllan, mynwent, neu fan agored cyhoeddus (fel gerddi cyhoeddus)
 - i gynnal gwaith fel tocio, brigdorri, codi’r corun neu leihau’r corun
 - i gwympo llai na phum metr ciwbig mewn chwarter calendr
 - i gwympo coeden beryglus. Rhaid bod perygl gwirioneddol ac uniongyrchol, yn hytrach na pherygl canfyddedig
 - ar gyfer cael gwared â choed sydd wedi cael eu chwythu i lawr yn llwyr ac sydd ar y ddaear ac nad ydynt wedi cael eu 'dinistrio'n fwriadol'. Byddai angen trwydded arnoch ar gyfer coed sydd wedi chwythu i lawr ond sy'n dal i sefyll ar ongl neu ar gyfer torri coed i greu ymyl sy'n gadarn rhag y gwynt.
 - os oes gennych ganiatâd cynllunio
 - i gydymffurfio â Deddf Seneddol, fel hysbysiad a gyflwynwyd gan awdurdod priffyrdd
 - os ydych yn gwmni cyfleustodau sy'n gwneud gwaith ar neu ger gwasanaethau nwy, trydan neu ddŵr
 - os ydym wedi cyhoeddi Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol
 
Os yw diamedr eich coed, o’u mesur 1.3 metr i fyny o’r ddaear, fel a ganlyn:
- 8 cm neu lai
 - 10 cm neu lai ar gyfer teneuo
 - 15 cm neu lai ar gyfer prysgoedio
 
Cynllun rheoli coedwig
Os ydych chi'n bwriadu rheoli eich coedwig neu'ch coetir dros gyfnod hir o amser, efallai yr hoffech wneud cais am gynllun rheoli coedwig.
Mae cynllun rheoli coedwig ar gyfer gwaith cwympo hirdymor dros gyfnod o ddeg i ugain mlynedd. Mae'r cynllun yn arbed i chi orfod gwneud cais am drwydded cwympo coed bob tro y bydd angen i chi gwympo coed ar eich tir.
Cosbau am gwympo coed heb drwydded
Mae’n drosedd torri rhai coed i lawr heb drwydded. Mae hefyd yn drosedd gwerthu pren sydd wedi’i dorri i lawr yn anghyfreithlon.
Os cewch eich collfarnu am dorri coed yn anghyfreithlon, gallwn roi dirwy ddiderfyn.