Ystadegau, rhagolygon ac arolygon coedwigaeth
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynhyrchu amrywiaeth o ddata, gwybodaeth a thystiolaeth. Ar gyfer materion coedwigaeth, rydyn ni’n gwneud hyn ar raddfeydd sy'n amrywio o fonitro effaith prosiectau lleol, i astudiaethau hirdymor sy'n edrych ar ymchwil i newid amgylcheddol ledled y DU. Gallwch ddarganfod rhagor am ein tystiolaeth a sut i lawrlwytho ein data trwy ddilyn y dolenni perthnasol.
Gwybodaeth allweddol
Mae’r prif ystadegau coedwigaeth ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol gan Lywodraeth Cymru yn adroddiad Dangosyddion Coetiroedd i Gymru, sy’n gysylltiedig â Strategaeth Coetiroedd i Gymru. Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn dangos gwybodaeth ac ystadegau ynghylch arwynebedd coetir, gwaith plannu newydd, allbwn economaidd a nifer yr ymweliadau â choetiroedd. Dyma brif bwyntiau’r adroddiad diweddaraf:
- Mae arwynebedd y coetiroedd yng Nghymru wedi cynyddu dros y tair mlynedd ar ddeg diwethaf ac mae’n 306,000 o hectarau bellach
- Mae cyfanswm y coed newydd a blannwyd rhwng 2009 a 2014 wedi cynyddu; plannwyd tua 3,289 bryd hynny, ond yn 2015 aeth y plannu i lawr i 103 hectar yn 2015
- Gwerth Ychwanegol Gros y sector coedwigaeth yng Nghymru yw £499.3 miliwn ac mae’n cyflogi rhwng 8,500 a 11,300 o bobl
- Wrth ymateb i’r arolwg, nododd 64% o oedolion yng Nghymru eu bod wedi ymweld â choetir am resymau hamdden dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd 52% o bob ymweliad awyr agored yn cynnwys amser a dreuliwyd mewn coetiroedd
Cydweithio i gasglu a chyhoeddi tystiolaeth
Mae'r rhan fwyaf o'n tystiolaeth goedwigaeth yn cael ei chasglu a'i chyhoeddi ar y cyd ag asiantaethau a phartneriaid eraill. Mae ystadegau ar gyfer y DU ac ar gyfer gwledydd unigol ar gael ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth. Trwy ddilyn y dolenni perthnasol, gallwch weld manylion ein cydymffurfiad â Chod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol Awdurdod Ystadegau'r DU, rheolaeth arolygon ystadegol, a chynllun gwaith blynyddol y Comisiwn Coedwigaeth.
Hefyd mae yna ddolenni i'r adnoddau hyn:
- Prif ystadegau, yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol – yn eu plith mae Ystadegau Coedwigaeth a Forestry Facts and Figures
- Arolygon blynyddol o ddiwydiant pren y DU– mae modd llenwi'r rhain ar-lein bellach
- Y Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol(NFI) – mae'r arolwg parhaus o goetir ym Mhrydain Fawr yn weithredol ers 1924 ac yn cynnwys map o goetiroedd ac arolygon maes. Mae'r rhain yn cael eu diweddaru bob pum mlynedd
- Ymchwil economaidd – mae hwn yn helpu i adeiladu corff o wybodaeth sy'n sail i benderfyniadau polisi ac ymarferol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac yn rhyngwladol
Ymhlith materion cysylltiedig mae:
- Y diwydiant coedwigaeth – astudiaethau'n ymwneud â'r diwydiannau coedwig a phren
- Gwerthoedd anfarchnadol – astudiaethau'n ymwneud â chostau a buddion anfarchnadol coedwigoedd, fel hamdden a bioamrywiaeth
- Effeithiau economaidd – astudiaethau o effaith economaidd, ee yn nhermau cyflogaeth a Gwerth Ychwanegol Gros
- Polisi – gwerthusiadau o raglenni, arfarniadau o opsiynau polisi ac astudiaethau o offerynnau polisi
Y Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol
Mae'r Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol yn darparu gwybodaeth allweddol am goedwigoedd a choetiroedd Prydain. Mae'n cynnwys gwybodaeth fel arwynebedd, dosbarthiad, cyfansoddiad a chyflwr coetiroedd, yn ogystal â gwybodaeth am rywogaethau, oedrannau a meintiau coed. Mae’n cynnwys map o goetiroedd, yn ogystal ag adroddiadau cryno, ystadegau, rhagolygon a senarios. Un adroddiad pwysig sy’n defnyddio amrywiaeth o ddata yw’r “Rhagolwg Cynhyrchu”. Gall busnesau coedwigaeth, yn enwedig proseswyr pren, ddefnyddio’r wybodaeth hon i’w cynorthwyo gyda’u cynllunio busnes ac i ragweld pa gyfeintiau fydd ar gael o amrywiaeth o gynhyrchion pren. Mae rhagolygon cynhyrchu ar lefel gwlad yn helpu i greu modelau ar gyfer penderfyniadau polisi a chynigion buddsoddi. Mae’r rhagolygon cynhyrchu’n cynhyrchu adroddiad ar gyfer y 25-50 mlynedd nesaf ac yn defnyddio amrywiaeth o dybiaethau i amcangyfrif pryd y caiff pren ei gwympo a’r cyfeintiau rhywogaethau a chynhyrchion pren a ragwelir. Mae coedwigwyr hefyd yn defnyddio offer rhagweld cynhyrchiant yn lleol, yn aml fel rhan o becyn gwybodaeth ddaearyddol (GIS), i brofi drafftiau cynlluniau rheoli coedwigoedd.
Data ar gyfer Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru
Mae’r Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru yn cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Er mwyn bodloni disgwyliadau ein rhanddeiliaid sydd wedi gofyn a allwn rannu gwybodaeth berthnasol ynglŷn â rheoli’r Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, rydym yn crynhoi ac yn cynhyrchu amrediad o ddata a gwybodaeth:
Cysylltu â ni
Os hoffech chi gysylltu â thîm Rheolaeth Coedwigaeth Gynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiad at sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk