Cael a chynnal cynllun rheoli coedwig: cam wrth gam

Gwiriwch yr hyn sydd angen i chi ei wneud i wneud cais am gynllun rheoli coedwig a'i gynnal.


1.

Gwirio a oes angen cynllun rheoli coedwig arnoch


2.

Pwy all wneud cais

Darganfyddwch:

  • pwy all gwblhau'r cais
  • pwy sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am y cynllun rheoli coedwig cymeradwy

Pwy all wneud cais am gynllun rheoli coedwig


3.

Paratoi cais

Paratoi eich cais am gynllun

Darllenwch sut i baratoi cais am gynllun rheoli coedwig er mwyn:

  • bod yn glir ynglŷn â'r hyn y byddwn yn gofyn amdano yn y cais ar-lein
  • darganfod pa elfennau sensitifrwydd i'w nodi a'u hasesu
  • lawrlwytho templedi i'w cwblhau a'u lanlwytho
  • darganfod pa fapiau i'w paratoi


Os oes gennych chi gynllun eisoes yr hoffech chi ei gyflwyno

Darllenwch sut i gyflwyno cynllun sy’n bodoli eisoes i gefnogi eich cais am gymeradwyaeth reoleiddiol gan CNC.


4.

Gwneud cais

Gwneud cais ar-lein nawr

Gwneud cais am gynllun rheoli coedwig


Cyhoeddi eich cynlluniau arfaethedig

Yn ystod y broses gymeradwyo, byddwn yn cyhoeddi amlinelliad o'ch cais ar ein cofrestr o gynlluniau rheoli coedwigoedd am 28 diwrnod. 

Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl weld eich cynigion a gwneud sylwadau arnynt.
 

Cyhoeddi eich cynllun rheoli coedwig cymeradwy

Os byddwn yn cymeradwyo eich cynllun rheoli coedwig, byddwn yn cyhoeddi tystysgrif cymeradwyaeth ar gyfer cwympo coed a chytundeb rheoli tir i chi ei lofnodi a'i ddychwelyd.

Mae'r cytundeb rheoli tir yn ddogfen gyfreithiol sy'n egluro'r telerau ac amodau sy'n gysylltiedig â'ch cynllun rheoli coedwig cymeradwy.


5.

Diwygio eich cynllun



7.

Estyn eich cynllun rheoli coedwig am flynyddoedd 5 i 10

I estyn cymeradwyaeth eich cynllun rheoli coedwig i gwmpasu blynyddoedd 5 i 10 o'r dyddiad cymeradwyo gwreiddiol, rhaid i chi gwblhau a chyflwyno ffurflen adolygu Blwyddyn 5.

Os na fyddwch yn cyflwyno adolygiad Blwyddyn 5, bydd eich cymeradwyaeth reoleiddiol yn dod i ben ar ddyddiad dod i ben eich cytundeb rheoli tir. I barhau ag unrhyw waith, rhaid i chi ailymgeisio am gynllun rheoli coedwig newydd.

Cwblhau adolygiad Blwyddyn 5 o’r cynllun rheoli coedwig

Diweddarwyd ddiwethaf