Sut i ddosbarthu ac asesu gwastraff

Fel rhan o’ch dyletswydd gofal yn ymwneud â gwastraff, rhaid ichi ddosbarthu’r gwastraff y mae eich busnes yn ei gynhyrchu:

  • cyn iddo gael ei gasglu, ei waredu neu ei ailgylchu
  • er mwyn pennu’r camau rheoli sy’n berthnasol i symud y gwastraff
  • er mwyn cwblhau cofnodion a dogfennau gwastraff
  • er mwyn rhannu dewisiadau awdurdodedig yn ymwneud â rheoli gwastraff
  • er mwyn atal niwed i bobl a’r amgylchedd

Dylech ddefnyddio’r canllawiau hyn os ydych yn cynhyrchu, yn rheoli neu’n rheoleiddio gwastraff.

Wrth lenwi’r dogfennau gwastraff, rhaid i’r gwastraff gael ei ddosbarthu trwy ddefnyddio cod.

Bydd yn eich helpu i ddewis y cod cywir ar gyfer y gwastraff, ac yn arbennig yn penderfynu a yw’r gwastraff yn beryglus ai peidio.

Dosbarthu Gwastraff - Nodyn Technegol WM3 v.1.2 GB Mae'r ddogfen hon yn Saesneg yn unig (Gov.uk)

Diweddarwyd ddiwethaf