Beth i’w wneud am wastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon ar eich tir
Sut i ddelio â gwastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon ar eich tir – fel eich gardd, dreif, ffordd breifat neu gae – ac atal tipwyr anghyfreithlon.
Gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon ar eich tir
Rydych chi’n gyfrifol am dalu i gael gwared ar unrhyw wastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon ar eich tir a’i waredu.
Dylech chi ei gofnodi, ei riportio, yna ei waredu.
Cofnodwch fanylion y gwastraff
Gall rhywfaint o wastraff sy’n cael ei dipio’n anghyfreithlon fod yn beryglus, felly byddwch yn ofalus. Gall tomenni o bridd fod wedi’u halogi neu yn cuddio deunydd peryglus. Peidiwch ag agor bagiau na drymiau.
Tynnwch lun neu fideo o’r gwastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon.
Gofynnwch i’ch cymdogion a welson nhw unrhyw un neu unrhyw beth amheus.
Rhowch wybod amdano
Rhaid i chi roi gwybod am y gwastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon cyn i chi ddechrau ei waredu.
Gwnewch nodyn o’r canlynol:
- dyddiad ac amser y daethoch o hyd i’r gwastraff
- lleoliad, fel cyfeirnod grid neu leoliad what3words
- disgrifiad a maint y gwastraff – er enghraifft, bagiau, drymiau, oergell, teiars, gwastraff adeiladu
Rhowch wybod amdano i’ch awdurdod lleol. Gallant chwilio am dystiolaeth o bwy sy’n berchen arno. (Os dympio ar raddfa fawr ydyw – dros 18 tunnell – dylech roi gwybod i ni.)
Tynnwch y gwastraff
Gallwch gael gwared ar y gwastraff o’ch tir eich hun, os yw’n ddiogel gwneud hynny. Ewch ag ef i safle sydd â chaniatâd i’w dderbyn – gwiriwch gyda nhw cyn i chi fynd.
Os byddwch chi’n trefnu i rywun arall gael gwared â’r gwastraff, gwiriwch fod ganddyn nhw drwydded cludo gwastraff.
Cadwch nodyn o’ch costau
Cadwch gofnod o’r gost i chi glirio a gwaredu’r gwastraff. Os caiff y bobl a wnaeth dipio’n anghyfreithlon eu herlyn, efallai y byddwch yn gallu adennill eich costau.
Amddiffynwch eich tir rhag tipio anghyfreithlon
Cyfyngwch fynediad i’ch tir drwy osod gatiau neu rwystrau ffisegol, gan gynnwys:
- byndiau pridd
- boncyffion coed
- clogfeini
Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n rhwystro hawl tramwy gyhoeddus yn barhaol.
Cadwch gatiau ar gau ac, os yn bosibl, wedi’u cloi pan nad ydych chi’n eu defnyddio.
Gwellwch amlygrwydd eich tir fel nad yw tipwyr anghyfreithlon wedi’u cuddio o’r golwg.
Ystyriwch y canlynol:
- gosod neu wella goleuadau
- gosod arwyddion
- gosod camerâu diogelwch
Cliriwch unrhyw wastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon cyn gynted ag y bydd yr awdurdodau wedi chwilio am dystiolaeth. Mae hyn yn atal eraill rhag cael eu hannog i ychwanegu ato.
Riportio am rywun rydych chi’n ei weld yn tipio’n anghyfreithlon
Cofiwch fod tipwyr anghyfreithlon yn gweithredu’n anghyfreithlon felly nid ydym yn argymell eich bod yn mynd atynt i’w hwynebu.
Os gwelwch chi dipio anghyfreithlon yn digwydd, peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl trwy geisio ymyrryd. Ffoniwch 101 a rhowch wybod i’r heddlu ar unwaith o leoliad diogel. Gallwch hefyd ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.