Beth i’w ystyried wrth gynllunio eich gwlyptir a adeiladwyd
Diben
Ceisiwch ddeall beth yr ydych chi’n disgwyl i’r gwlyptir a adeiladwyd ei gyflawni ac unrhyw fanteision ychwanegol.
Cydnabyddir bod gwlyptiroedd a adeiladwyd yn opsiwn ar gyfer trin halogion a maethynnau, gan gynnwys cael gwared ar ffosfforws.
Ni ddylid defnyddio gwlyptiroedd a adeiladwyd yn lle lleihau llygredd yn y ffynhonnell.
Bydd angen i chi allu dangos eich bod wedi ystyried ffyrdd o osgoi neu leihau’r broblem cyn defnyddio gwlyptir a adeiladwyd.
Lleoliad
Dylid lleoli gwlyptiroedd a adeiladwyd mewn man priodol ar gyfer yr hyn y maent yn cael eu hadeiladu i’w gyflawni.
Ni ddylai gwlyptiroedd a adeiladwyd cael eu lleoli ar gynefinoedd blaenoriaeth presennol a restrir dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd, gan gynnwys cynefin gwlyptir naturiol presennol.
Os yw’r cynnig yn debygol o effeithio ar Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), bydd angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA).
Rhagor o wybodaeth am Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd ar wefan Llywodraeth Cymru
Os yw’r cynnig o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) bydd angen cydsyniad. Ni chaniateir cynigion o fewn safleoedd gwarchodedig oni bai eu bod yn gwneud dim niwed neu eu bod nhw o fudd i’r safle.
Rhaid i wlyptiroedd a adeiladwyd peidio â chynyddu perygl llifogydd neu lifogydd arfordirol na llygru dŵr daear, yn enwedig Parthau Diogelu Tarddiad Dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr.
Dyluniad
Dylai eich dyluniad sicrhau bod pob un o’r canlynol wedi’u cynnwys:
- y gallu i gyflawni’r anghenion trin dŵr a/neu storio dŵr
- arafu a storio dŵr i gyflawni’r amseroedd cadw hydrolig gofynnol
- maint
- effeithiau tymhorol
- rhaid osgoi’r perygl o unrhyw ollyngiadau posibl i’r ddaear o’r tu mewn i’r gwlyptir, neu yn ystod y gwaith o’i adeiladu
- anghenion cynnal a chadw
- creu cynefinoedd
- gofynion deddfwriaeth neu ganiatadau eraill.
Dylid bodloni safonau cynllunio priodol ac argymhellir defnyddio ymgynghorydd achrededig.
Gellir cael cyngor gan CWA (Cymdeithas Gwlyptiroedd a Adeiladwyd).
Perchnogaeth
Eglurwch y cyfrifoldebau a’r rhwymedigaethau wrth bawb dan sylw, gan gynnwys y perchennog tir.
Cyllid
Ystyriwch y gost o osod, monitro a chynnal a chadw eich gwlyptir a adeiladwyd am ei oes ddisgwyliedig.
Cylch bywyd
Meddyliwch pa wastraff a gaiff ei greu yn ystod y cyfnodau adeiladu, cynnal a chadw a datgomisiynu a sut y caiff ei reoli.
Sicrwydd
Argymhellir bod dyluniadau gwlyptir a adeiladwyd yn rhagofalus wrth gyfrifo cyfradd tynnu maetholion a halogion wrth fesur maint y gwlyptir.
Dylai gwaith monitro parhaus nodi unrhyw berfformiad gwael yn gynnar fel y gellir gweithredu cynllun rheoli addasol.
Monitro a gwaith cynnal a chadw
Dylech fod yn gallu dangos eich bod yn medru rheoli, monitro a chynnal a chadw y system am ei hoes.
Gofynion rheoleiddio eraill
Efallai y bydd arnoch angen caniatâd cynllunio gan eich awdurdod cynllunio lleol.
Dod o hyd i’ch awdurdod cynllunio lleol ar wefan Llywodraeth Cymru.
Efallai y bydd angen caniatâd rheoliadau adeiladu arnoch.
Rhagor o wybodaeth am reoliadau adeiladu ar wefan Llywodraeth Cymru.
Efallai y bydd angen cymeradwyaeth arnoch ar gyfer eich system ddraenio.
Efallai y bydd angen trwydded gweithgarwch perygl llifogydd arnoch
Gwneud cais am Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd
Efallai y bydd angen trwydded adnoddau dŵr arnoch ar gyfer tynnu neu gronni dŵr.
Gwneud cais am dynnu neu gronni dŵr
Os yw safle arfaethedig eich gwlyptir a adeiladwyd mewn ardal warchodedig, efallai y bydd angen i’ch awdurdod cynllunio gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
Rhagor o wybodaeth am Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd ar wefan Llywodraeth Cymru
Efallai y bydd angen i chi ddangos na fydd y gwlyptir a adeiladwyd yn achosi dirywiad i gorff dŵr.