Grantiau ar gyfer plannu coed a chreu coetiroedd

Mae nifer o grantiau ar gael ar gyfer creu coetir. Gallwch ddefnyddio’r grantiau i’ch helpu i gynllunio a datblygu eich coetir newydd. Mae’r grantiau ar gael drwy gydol y flwyddyn.

Gallwch hefyd dderbyn coed a grantiau gan Coed Cadw os ydych chi:

  • yn plannu coeden unigol neu ychydig o goed
  • yn rhan o grŵp cymunedol
  • yn ysgol
  • yn ffermwr

Cyngor cyn ymgeisio

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio am ddim i unrhyw un sy'n awyddus i blannu coetir newydd.

Cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu i gadarnhau a yw eich tir yn addas ar gyfer creu coetiroedd newydd.

Map cyfleoedd coetir

Bydd y map cyfleoedd coetir yn eich helpu i wirio pa ardaloedd sy’n addas ar gyfer creu coetiroedd newydd. Bydd yn eich helpu i sicrhau bod y coed a blannwch yn y lle iawn i sicrhau’r budd gorau posib.

Dylech ddefnyddio’r map cyfleoedd coetir cyn gwneud cais am unrhyw grantiau.

Cynllun Grantiau Bach Creu Coetir

Os ydych chi’n plannu mwy na 0.1 hectar (0.25 erw) a llai na dau hectar (4.94 erw), gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun Grantiau Bach Creu Coetir.

Ni ddylai eich tir fod mewn ardal warchodedig ble mae coetir hynafol neu goed unigol hynafol neu hynod.

Cynllun Cynllunio Creu Coetir

Yn yr amgylchiadau isod:

  • heb fod mewn ardal warchodedig ble mae coetir hynafol neu goed unigol hynafol neu hynod
  • os mae’r ardal dros ddau hectar (4.94 erw)
  • o leiaf 0.25 hectar (0.62 erw)

gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Mae'r cynllun yn cynnig grantiau o rhwng £1,000 a £5,000 i ddatblygu cynlluniau ar gyfer creu coetir newydd. Gallwch ddefnyddio’r cyllid i gael cynllunydd coetir cofrestredig a fydd yn eich helpu i ddatblygu cynllun creu coetir.

Unwaith y bydd y cynllun wedi’i gwblhau, gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun Cynllunio Creu Coetir i dderbyn cyllid i blannu coed.

Cynllun Grant Creu Coetir

Os ydych chi’n plannu ardal mwy na 0.25ha (0.62 erw) gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun hwn. Nid oes uchafswm o ran maint yr ardal blannu.

Mae’r cynllun Grant Creu Coetir yn darparu cyllid ar gyfer plannu a ffensio. Gall ffermwyr a pherchnogion tir ymgeisio ar gyfer y cynllun hwn.

Bydd angen i chi ymgeisio ar gyfer y cynllun Cynllunio Creu Coetir a bod wedi rhoi cynllun ar waith cyn y gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun hwn.

Y  Grant Buddsoddi mewn Coetir

Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir ar gyfer tirfeddianwyr a rheolwyr gan gynnwys sefydliadau nid er elw. Gallwch ddefnyddio’r grant hwn i greu coetiroedd at ddefnydd cymunedau lleol.

Mae’r cynllun yn gobeithio creu, adfer a gwella coetiroedd fel rhan o’r rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.   

Mae’r cynllun hwn yn darparu cymorth ariannol i’ch galluogi:

  • i greu coetiroedd newydd
  • i wella ac ehangu ar goetiroedd presennol

Mae’n rhaid i’ch coetir fod â photensial i fod yn rhan o’r rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod rhai i’ch coetir fod:  

  • wedi’i reoli’n dda
  • yn hygyrch
  • yn gallu darparu cyfle i gymunedau lleol fod yn rhan o goetiroedd a natur

Coetiroedd Bach yng Nghymru

Mae Coetiroedd Bach yng Nghymru yn gynllun grant newydd sy’n rhan o raglen y Goedwig Genedlaethol. Mae’n cynnig grantiau rhwng £10,000 a £40,000 os ydych yn plannu coed ar un safle, neu hyd at £250,000 ar gyfer safleoedd lluosog.

Mae Coetiroedd Bach yn ein galluogi i fwynhau manteision y goedwig yng nghanol y ddinas neu ardal drefol. Dysgwch fwy am Goetiroedd Bach.

Os hoffech gymryd rhan, bydd angen i chi wneud cais drwy gynllun Coetiroedd Bach yng Nghymru Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

The Tree Council

Os ydych chi’n bwriadu plannu coed yn eich cymuned, gallai grantiau gan The Tree Council helpu.

Mae’r grantiau ar gyfer ysgolion, grwpiau cymunedol a Rhwydweithiau Wardeiniaid Coed.  Gallwch ddefnyddio’r rhain i blannu coed, gwrychoedd a pherllannau.

Cysylltwch â ni

Os hoffech unrhyw gymorth pellach gyda chreu coetir, cysylltwch â ni.

Diweddarwyd ddiwethaf