Gwarchod yr amgylchedd yn ystod gweithrediadau coedwigaeth

Mae'r prif gontractwr yn gyfrifol am sicrhau bod pob is-gontractwr yn darllen ac yn dilyn y wybodaeth ar y dudalen hon.

Polisi amgylcheddol CNC

Darllenwch ein datganiad polisi amgylcheddol llawn.

Sut i ddelio â digwyddiad amgylcheddol ar y safle

Atal

Cyn i chi adrodd am y digwyddiad, rhaid atal y gwaith.

Rheoli

Lle bo hynny'n ddiogel, cyflawnwch unrhyw fesurau atal llygredd safle lleol neu ddigwyddiadau brys i atal unrhyw ddifrod pellach i'r amgylchedd ac i reoli'r gollyngiad a chael gwared ar unrhyw ffynonellau tanio (os yw'n fflamadwy).

Hysbysu

Yn syth ar ôl i'r gwaith gael ei atal, yr asesiad risg wedi'i gwblhau a'r llygredd sydd wedi'i reoli os yw'n ddiogel i wneud hynny, adroddwch am y digwyddiad.

Rhowch wybod i oruchwyliwr safle CNC. 

Rhowch wybod amdano:

Adroddwch am ddigwyddiadau amgylcheddol trwy ffonio 0300 065 3000, 24 awr y dydd.

Dewiswch opsiwn 1 ar gyfer Cymraeg a 2 ar gyfer Saesneg. 

Rhowch fanylion llawn y digwyddiad (gan gynnwys lleoliad / manylion cyswllt).  Cofiwch ofyn am rif y digwyddiad a’i nodi

E-bostiwch dîm EMS CNC:

EMS.Team@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Atal llygredd

  • Rhaid cario pecyn gorlif llygredd ar unrhyw beiriant sy'n gweithredu yn y goedwig. Rhaid i weithredwyr fod yn gyfarwydd â'i ddefnyddio.
  • Rhaid storio olew a chemegau yn ddiogel mewn cynhwysydd atal eilaidd.
  • Rhaid defnyddio bowserau tanwydd symudol â chroen dwbl neu wedi'u bwndelu a thanciau cydio mewn tanwydd. Rhaid iddynt fod mewn cyflwr da, yn rhydd o ollyngiadau a bod modd eu cloi.
  • Rhaid peidio â gadael drymiau olew, cynwysyddion irad a chynwysyddion cemegol ar y safle p'un a ydynt yn llawn neu'n wag.
  • Dylid cymryd gofal wrth ail-lenwi â thanwydd er mwyn osgoi gollwng tanwydd neu olew i mewn i ddraeniau a chyrsiau dŵr.
  • Rhaid rhoi gwybod i CNC neu eu hasiant am unrhyw ollyngiad olew neu gemegol sydd â'r potensial i lygru cyn gynted a phosib.

 

Rheoli Gwastraff

  • Rhaid i'r contractwr gydymffurfio â deddfwriaeth Amgylcheddol berthnasol a rhwymedigaethau cydymffurfio eraill.
  • Dylid storio gwastraff yn ddiogel ac i ffwrdd o gyrsiau dŵr.
  • Os cynhyrchir unrhyw wastraff peryglus ar y safle gan y contractwr, maent yn gyfrifol am drosglwyddo'r gwastraff gan ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig i safle a ganiateir sydd â'r hawl i dderbyn a thrin y gwastraff gan ddefnyddio nodiadau cludo gwastraff peryglus.
  • Os cynhyrchir unrhyw wastraff nad yw'n beryglus ar y safle gan y contractwr, maent yn gyfrifol am drosglwyddo'r gwastraff gan ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig i safle a ganiateir sydd a'r hawl i dderbyn a thrin y gwastraff gan ddefnyddio nodiadau trosglwyddo gwastraff.

UKWAS

Wrth weithio ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru (WGWE) mae gennych rôl bwysig wrth ein helpu i reoli'r tir yn gynaliadwy i gynnal ein Hardystiad Coedwigoedd.

Mae corff ardystio annibynnol yn archwilio CNC yn flynyddol yn erbyn Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig (UKWAS) sy'n caniatáu inni fasnachu ein cynhyrchion fel rhai ardystiedig.

Mae ardystiad yn dangos ein bod yn rheoli ein coetir yn gynaliadwy.

Mae gweithrediadau rydych chi'n eu cyflawni yn unol â'r cynlluniau yn golygu bod ein holl gynhyrchion pren a chynhyrchion nad ydynt yn goed pren wedi'u hardystio gan Forest Stewardship Council® (FSC®) a Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).

Cod trwyddedu Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® FSC® yw FSC-C115912 a chod trwyddedu PEFC yw PEFC/16-40-1003.

Diweddarwyd ddiwethaf