Deddf Gwarchod yr Arfordir 1949: Caniatâd

Beth yw Deddf Gwarchod yr Arfordir 1949: Caniatâd?

Pan fydd Awdurdod Gwarchod yr Arfordir yn dymuno ymgymryd â chynllun newydd ar gyfer gwarchod yr arfordir (erydiad arfordirol), yn hytrach na gwaith cynnal a chadw parhaus, mae'n ofynnol arno dan Ddeddf Gwarchod Arfordir 1949 (CPA) i wneud rhai hysbysiadau ac ymgynghoriadau â nifer o bersonau â buddiant ac mae’n bosib hefyd y bydd angen cael caniatâd arall cyn dechrau'r gwaith. Mae Adran 5 (5) y CPA yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi cadarnhad inni fod y camau hyn wedi eu dilyn, bod pob caniatâd angenrheidiol wedi ei gael ymlaen llaw ac nad oes unrhyw wrthwynebiadau parhaus i'r gwaith arfaethedig. Mae Awdurdod Gwarchod yr Arfordir yn gwneud hyn trwy gyflwyno ffurflen gais sy'n cadarnhau'r holl wybodaeth ofynnol. Os ydym yn fodlon â chynnwys y cais, yna byddwn yn ymateb gyda llythyr i gadarnhau ei fod yn cael ein caniatâd i fynd ymlaen â'i gais i Gangen Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru am gyllid posibl ar gyfer y gwaith arfaethedig o ddiogelu’r arfordir.

Beth sydd wedi newid a pham?

Yn dilyn ein Hadolygiad Ardal mewnol i Reoli Busnes Perygl Llifogydd, rydym wedi diweddaru ein proses yn ddiweddar ar gyfer ymdrin â'r ceisiadau hyn. Mae bellach yn haws ac yn symlach, heb gyfaddawdu ar ofynion y CPA. Mae ein ceisiadau bellach yn cael eu prosesu gan ein Tîm Derbyn Trwyddedau. 

Sut i wneud cais?

Cwblhewch y ffurflen gais CPA1:2018 newydd sy'n disodli'r 'Ffurflen CPA 1 v4 (Cymru)' blaenorol ac o hyn ymlaen nid oes angen darparu dogfennau ategol fel tystiolaeth gyda'r cais. Mae'r ffurflen a'r arweiniad ategol i'w gweld isod. 

I ble y dylid anfon cais sydd wedi ei gwblhau?

Dylid anfon ceisiadau i’n Canolfan Derbyn Trwyddedau, yn ddelfrydol trwy e-bost i: permitreceiptcentre@naturalresourceswales.gov.uk. Fel arall, gallwch gyflwyno'ch cais drwy'r post i: Canolfan Derbyn Trwyddedau, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP. 

Faint o amser mae cais caniatâd CPA yn ei gymryd?

Nod ein Tîm Derbyn Trwyddedau yw ateb gyda phenderfyniad cyn pen 10 diwrnod gwaith. 

Oes gyda chi ymholiad?

Os oes gyda chi ymholiad ac os hoffech chi siarad â ni ynglŷn â chaniatâd CPA, gallwch anfon e-bost yn cynnwys eich ymholiad i permitreceiptcentre@naturalresourceswales.gov.uk, ffoniwch ni ar 0300 065 3770 neu ysgrifennwch at y Ganolfan Derbyn Trwyddedau, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.

Diweddarwyd ddiwethaf