Caniatâd draenio tir

Caniatadau o fewn Ardaloedd Draenio Mewnol

Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith ar gwrs dŵr arferol o fewn Ardal Draenio Mewnol, mae'n bosibl y bydd angen i chi anfon cais atom am ganiatâd draenio tir o dan Adran 23 Deddf Draenio Tir 1991.

Pam fod angen caniatâd draenio tir arnoch?

Efallai y bydd angen i chi gael ein caniatâd er mwyn sicrhau nad yw eich gweithgareddau'n achosi perygl llifogydd neu'n gwneud perygl llifogydd cyfredol yn waeth. Bydd hefyd angen cael caniatâd i sicrhau na fydd eich gwaith yn aflonyddu ar ein hasedau rheoli perygl llifogydd na'n effeithio'n negyddol ar yr amgylchedd, pysgodfeydd na bywyd gwyllt lleol.

Os na fyddwch yn gwneud cais am ganiatâd draenio tir, gallai'r canlyniadau fod yn ddrud. Gallwn adennill y gost o unioni'r sefyllfa oddi wrthych a gallech hefyd gael eich erlyn.

Pa weithgareddau sydd angen caniatâd draenio tir?

Mae'r Ddeddf Draenio Tir yn nodi mai dim ond gweithgareddau penodol sy'n gofyn am ganiatâd draenio tir. Mae'r gweithgareddau hyn fel a ganlyn:

  • Gosod, codi neu addasu unrhyw argae melin, cored neu rwystr arall i lif cwrs dŵr arferol
  • Gosod cwlfert
  • Addasu cwlfert mewn modd a fyddai'n effeithio ar lif y dŵr

Lleoliad y gwaith arfaethedig

Diffinnir prif afon yn gyfreithiol fel cwrs dŵr a ddangosir ar brif fap afonydd. Os yw lleoliad eich gweithgaredd arfaethedig ar brif afon, bydd angen i chi wneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd.

Os yw lleoliad eich gweithgaredd o fewn Ardal Draenio Mewnol ac ar gwrs dŵr nad yw'n brif afon, mae'n bosibl y bydd angen i chi gyflwyno cais i ni am ganiatâd draenio tir.

Os nad yw lleoliad eich gweithgaredd arfaethedig yn brif afon, a'i fod y tu allan i Ardal Draenio Mewnol, dylech gysylltu â'r awdurdod sy'n gyfrifol am y cwrs dŵr, oherwydd mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud cais am Ganiatâd Cwrs Dŵr Arferol. Bydd yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn gyfrifol am ddosbarthu'r trwyddedau hyn, ac argymhellwn eich bod yn cysylltu â nhw am wybodaeth a chyngor.

Os nad ydych yn siŵr a yw'r cwrs dŵr dan sylw'n brif afon, yn gwrs dŵr arferol neu'n rhan o Ardal Draenio Mewnol, cysylltwch â ni.

Gwneud cais am ganiatâd draenio tir

Dewch o hyd i'r ffurflen gais a'r nodyn cyfarwyddyd ategol ar gyfer caniatâd draenio tir

Beth i'w gynnwys yn eich cais

Wrth wneud eich cais, sicrhewch eich bod yn llenwi'r ffurflen briodol (sydd ar gael isod) yn gywir ac yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • cynlluniau sy'n dangos lleoliad eich gwaith
  • lluniau manwl sy'n dangos yr hyn rydych yn dymuno ei wneud, ynghyd ag unrhyw gyfrifon
  • datganiad dull ar gyfer y gwaith, gan gynnwys manylion ar sut bydd y gwaith yn cael ei gyflawni ac unrhyw fesurau diogelu/lliniaru amgylcheddol a fydd yn cael eu rhoi ar waith

Gwaith parhaol a thros dro

Yn y ffurflen gais, bydd yn gofyn i chi a yw'r gwaith yn barhaol neu dros dro.

Fel arfer, mae 'gwaith parhaol' yn cyfeirio at adeiledd a fydd yn aros yn ei le pan fydd y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau.

Mae 'gwaith dros dro' yn cyfeirio at adeileddau neu weithgareddau sydd eu hangen fel rhan o'r cyfnod adeiladu – er enghraifft, sgaffaldiau, argaeau coffr, sianeli dargyfeirio neu beiriannau trwm.

Datganiadau dull

Bydd angen datganiadau dull manwl ar gyfer caniatâd am waith dros dro sy'n nodi sut bydd y gwaith yn cael ei gyflawni. Mae'n bosibl y bydd angen caniatâd draenio tir ar wahân ar gyfer gwaith dros dro er mwyn sicrhau bod y cyfnod adeiladu'n cael ei ystyried yn briodol.

Faint bydd cais yn ei gostio?

£50 (wedi’i eithrio rhag TAW) yw'r ffi am gais ar gyfer caniatâd draenio tir ar hyn o bryd, a rhaid talu'r ffi hon ar gyfer pob adeiledd, sianel, pwll neu elfen unigol arall sy'n ffurfio'r prosiect.

I le y dylwn i anfon fy nghais a’r ffi?

Mae'r ffurflen gais yn cynnwys manylion y lle y dylech anfon eich ffurflen gais gyflawn a ffi ato. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, efallai yr hoffech gysylltu â'ch Canolfan Gofal Cwsmeriaid, a fydd yn gallu eich cyfeirio at aelod o staff a fydd yn ymdrin â'ch cais a'ch taliad.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pan fyddwn yn derbyn eich cais am ganiatâd draenio tir, byddwn yn gwirio eich bod wedi cwblhau eich cais yn gywir ac wedi cyflwyno'r wybodaeth ategol angenrheidiol. Byddwn hefyd yn gwirio eich bod wedi cyflwyno'r ffi ymgeisio gywir. Os oes unrhyw beth ar goll, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Wedi hyn, rydym yn asesu eich cais ac yn penderfynu a ddylem gyflwyno caniatâd draenio tir neu beidio. Mae'n bosibl y bydd angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth yn ystod y broses hon er mwyn deall eich cynnig yn llwyr.

Pa mor hir y mae'n ei gymryd?

Byddwn yn derbyn neu'n gwrthod ceisiadau o fewn dau fis i dderbyn eich cais. Os na fyddwn yn eich hysbysu am benderfyniad eich ceisiadau, ystyrir eu bod wedi eu caniatáu.

Ein penderfyniad ar a ddylem dderbyn eich cais neu beidio

Wrth wneud ein penderfyniad, byddwn yn ystyried a yw eich gwaith arfaethedig yn debygol o effeithio ar berygl llifogydd, draenio tir a'r amgylchedd ehangach. Byddwn hefyd yn ystyried deddfwriaeth arall – er enghraifft, y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

Dylid nodi nad yw cael caniatâd yn cadarnhau'r canlynol:

  • bod eich cynigion wedi eu cynllunio'n gadarn
  • bod eich cynigion yn cydymffurfio â deddfwriaeth arall, megis deddfwriaeth iechyd a diogelwch
  • bod gennych ganiatâd i gyflawni gwaith ar dir neu afonydd nad ydynt yn eiddo i chi
  • Mae'n rhaid i chi gael caniatâd gan berchennog y tir a'r awdurdod perthnasol i gyflawni'r gwaith arfaethedig

Os caiff caniatâd ei wrthod

Os byddwn yn gwrthod rhoi caniatâd draenio tir, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi rhesymau dros ein penderfyniad ac i egluro sut gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

Apeliadau

Os caiff caniatâd ei wrthod a'ch bod chi'n credu ei fod wedi ei wrthod heb reswm digonol, neu fod caniatâd draenio tir wedi'i roi gydag amodau nad ydych chi'n credu sy'n briodol, mae gennych chi'r hawl i apelio. Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth am y broses apelio.

Diweddarwyd ddiwethaf