Deeside Power (UK) Limited - Gorsaf Bŵer Glannau Dyfrdwy, Heol Weighbridge, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 2UL
Rydym wedi derbyn cais i amrywio trwydded amgylcheddol gan Deeside Power (UK) Limited
Cais am amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-028461
Math o gyfleuster rheoledig: Gweithfa - Adran 1.1: Gweithgareddau hylosgi - Rhan A (1)(a) Llosgi unrhyw danwydd mewn dyfais â mewnbwn thermol o 50 megawat neu fwy
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Gorsaf Bŵer Glannau Dyfrdwy, Heol Weighbridge, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 2UL
Mae'r cais hwn yn ychwanegu 11 o beiriannau cilyddol sy'n cael eu tanio gan nwy naturiol at y drwydded. Pwrpas y peiriannau yw cynhyrchu trydan i'w gyflenwi i'r Grid Cenedlaethol. Mewnbwn thermol graddedig net pob peiriant yw 9.91MW a'r mewnbwn thermol agregedig cyfunol yw 109MW. Bydd y peiriannau yn gweithredu am gyfartaledd o 1500 awr y flwyddyn fel cyfartaledd treigl pum mlynedd, gydag uchafswm o 2000 awr y flwyddyn mewn unrhyw un o'r pum mlynedd hynny. Bydd y peiriannau yn cael eu defnyddio i gynhyrchu trydan ar adegau pan fydd galw cynyddol ar y Grid Cenedlaethol am bŵer, neu pan fydd y cyflenwad pŵer yn llai i'r Grid.
Cantiateir i'r weithfa eisoes weithredu fel gorsaf bŵer tyrbin nwy cylch cyfun. Mae dau dyrbin nwy cylch cyfun yn y Weithfa. Fodd bynnag, maent wedi rhoi'r gorau i gynhyrchu trydan o danwydd ffosil ac wedi'u trosi'n gyfadferyddion cydamserol nad ydynt yn llosgi unrhyw danwydd ac yn darparu pŵer adweithiol i'r Grid Cenedlaethol. Os rhoddir caniatâd, bydd y tyrbinau nwy cylch cyfun, a'r dulliau rheoli cysylltiedig, yn cael eu tynnu o'r drwydded fel rhan o'r amrywiad hwn.
Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o’r weithfa arfaethedig, y deunyddiau, y sylweddau a’r ynni y bydd yn eu defnyddio ac yn eu cynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.
Gallwch weld dogfennau'r cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 07 Ionawr 2026
Ebost: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Mae'n rhaid i ni benderfynu a ydym am roi neu wrthod y cais. Os byddwn yn ei ganiatáu, mae'n rhaid i ni benderfynu pa amodau i'w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut rydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd.