Funky Furniture Hire (Properties) Limited - 11 eiddo yn Broad Oak Farm, Llyndir Lane, Rossett, Wrecsam LL12 0AU

Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Funky Furniture Hire (Properties) Limited.

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-026858
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Cryno
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: 11 eiddo yn at Broad Oak Farm, Llyndir Lane, Rossett, Wrecsam LL12 0AU
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SJ 36757 58581
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Rhagnant ddienw Pulford Brook
Math o elifiant: Elifiant triniaeth eilaidd
Cyfaint: 8.1 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus arlein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 19 Rhagfy 2024

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cardiff Cathays Park
Welsh Government Offices
Cathays Park
King Edward VII Avenue
Cardiff
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf