David Hodby - Baskerville Hall Hotel, Clyro Court Clyro, HR3 5LE
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan David Hodby.
Cais newydd pwrpasol am drwydded amgylcheddol dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rhif y cais: PAN-032612
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith trin Carthion
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Baskerville Hall Hotel, Clyro Court Clyro, HR3 5LE
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SO 20869 42502
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: River Wye
Math o elifiant: Elifiant carthion triniedig
Cyfaint: 60 metr ciwbig y dydd
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 16 Gorffennaf 2026.
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.