P B Gelatins - Uned A6 Ffordd Hafren, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 5SQ
Rydym wedi derbyn cais am drwydded i amrywio trwydded amgylcheddol gan gan P B Gelatins U.K. Ltd
Cais newydd i newid trwydded amgylcheddol dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-024288
Math o gyfleuster rheoledig: Gweithfa
Adran 6.8: Trin deunydd anifeiliaid a llysiau a diwydiannau bwyd - Rhan A (1)(c) Gwaredu neu ailgylchu carcasau anifeiliaid neu wastraff anifeiliaid, ac eithrio drwy eu rendro mewn peiriant llosgi gwastraff bach, mewn gweithfa sydd â’r gallu i drin mwy na 10 tunnell y dydd o garcasau anifeiliaid neu wastraff anifeiliaid neu'r ddau gyda'i gilydd.
Adran 5.4 Gwaredu, adennill neu gymysgedd o waredu ac adennill gwastraff amheryglus - Rhan A (1)(a)(ii) Gwaredu gwastraff amheryglus mewn cyfleuster â chapasiti o fwy na 50 tunnell y dydd drwy ddefnyddio triniaeth ffisego-gemegol.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Uned A6 Ffordd Hafren, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 5SQ
Mae’r Gweithredwr wedi gwneud cais i amrywio ei drwydded amgylcheddol (rhif trwydded EPR-DP3030ZC) i ychwanegu gweithfa newydd i drin elifion, trefniadau storio newydd a phwyntiau allyrru newydd ar gyfer awyru.
Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gallai hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 02 Rhagfyr 2024
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.