TW & PA Leisure Ltd - Love2Stay Mid Wales, Moat Lane, Caersws, Gogledd Powys, SY17 5SB
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan TW & PA Leisure Ltd.
Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-032762
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Cryno
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Love2Stay Mid Wales, Moat Lane, Caersws, Gogledd Powys, SY17 5SB
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SO 03902 91016
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Rhagnant ddienw o Afon Hafren
Math o elifiant: Elifiant carthion triniedig
Cyfaint: 61 metr ciwbig y dydd
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 4 Awst 2026.
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Cardiff
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein datganiad cyfranogiad cyhoeddus.