Hysbysiad penderfyniad drafft: Duynie Ingredients Limited

Rhif y cais: PAN-025487
Math o gyfleuster rheoledig: Cynhyrchu cemegau organig – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, Atodlen 1 gweithfa, Rhan A (1)

(a) (ii) cyfansoddion organig yn cynnwys ocsigen (e.e. alcoholau, aldehydau, cetonau, asidau carbocsylig, esterau, etherau, perocsidau, ffenolau, epocsi resin) 

Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Ffordd Coed Aben, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, Clwyd, LL13 9UH

Mae hwn yn gais am drwydded bwrpasol newydd ar gyfer cynhyrchu cemegion organig.

Rydym yn bwriadu rhoi’r drwydded. Byddwn yn rhoi trwydded yn unig os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi ac os oes gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau’r drwydded. Bydd unrhyw drwydded y byddwn yn ei rhoi yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd dynol a’r amgylchedd.

Gwybodaeth a osodwyd ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer ymgynghori:

  • Trwydded ddrafft
  • Dogfen penderfyniad drafft

Gallwch weld y drwydded ddrafft a’r ddogfen penderfyniad drafft yn rhad ac am ddim, ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch wneud cais am gopi o’r wybodaeth gennym ni. Gallai hyn gymryd amser i’w brosesu a gall y byddwn yn codi ffi arnoch.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 26 Mawrth 2026.

E-bost: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Arweinydd Tîm Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol a Gweithfeydd
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Diweddarwyd ddiwethaf