Trwyddedau ystlumod ar gyfer arolygon a gwaith cadwraeth
Bydd arnoch angen trwydded os ydych chi’n bwriadu cynnal unrhyw fath o waith arolygu, ymchwil neu gadwraeth os ydych chi am:
- darfu ar ystlumod, eu dal neu afael ynddynt
- marcio ystlumod
- difrodi, addasu neu rwystro mynediad at fan magu neu orffwys
- tarfu ar ystlumod at ddiben ffotograffiaeth neu ffilmio
Gwneud cais ar gyfer trwydded arolygu
Os hoffech gyflwyno cais am drwydded arolygu ac os nad ydych wedi meddu ar un o'r blaen, bydd angen i chi ddangos bod gennych yr hyfforddiant a'r profiad angenrheidiol. Bydd angen i chi gyflwyno'ch trwydded a'ch profforma llyfr cofnodi hyfforddiant ynghyd â'ch ffurflen gais am drwydded arolwg a chadwraeth.
Ffurflen geirda
Os nad ydych wedi meddu ar drwydded berthnasol gennym o’r blaen, rhaid i’ch cais gynnwys ffurflen geirda.
Rhaid i'r canolwyr:
- allu rhoi sylwadau ar eu profiad o weithio gyda'r rhywogaethau perthnasol
- gallu defnyddio'r dulliau a'r offer a gynigir yn eich cais am drwydded
- bod yn gymwys eu hunain a rhaid eu bod wedi dal trwydded berthnasol o'r blaen
- bod â phrofiad o'ch gwaith am o leiaf un tymor arolwg
Dim ond un geirda y gallwn ei dderbyn gan y cwmni rydych chi'n gweithio iddo ar hyn o bryd. Efallai y byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr i wirio eu datganiadau.
Gwneud cais am drwydded ar gyfer prosiect ymchwil
Gallwn roi trwyddedau ar gyfer technegau marcio ac arolygu uwch, gan gynnwys:
- dal ystlumod gan ddefnyddio trapiau telyn a rhwydi
- defnyddio trapiau acwstig
- modrwyo
- gosod tagiau tracio â radio
Caiff trwyddedau eu dyrannu ar gyfer safleoedd penodol ac am gyfnod cyfyngedig. Mae trwyddedu'r technegau mwy ymosodol hyn yn gofyn am ddatganiad dull prosiect manwl a gwyddonol.
Os nad ydych wedi meddu ar drwydded o’r blaen ar gyfer y gweithgareddau, dulliau neu dechnegau y gofynnir amdanynt, bydd angen i chi ddangos prawf o hyfforddiant priodol a phrofiad sylweddol cyn y gellir rhoi trwydded. Gellir cofnodi profiad gan ddefnyddio ffurflen y llyfr cofnodi trwydded a hyfforddiant a ddylai naill ai gael ei chymeradwyo gan eich hyfforddwr neu ei chefnogi gan ganolwr priodol.
Gwneud cais am drwydded gwarchod man clwydo
Os ydych yn bwriadu cynnal unrhyw waith cadwraeth, fel addasu safleoedd clwydo, yn bennaf er budd ystlumod, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais y drwydded arolygu a chadwraeth.
Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth fanwl ar y gwaith arfaethedig, gan gynnwys:
- datganiad dull
- diagramau’n dangos yr holl addasiadau’n glir
- map lleoliad a/neu haenen GIS
- manylion canlyniadau’r arolwg sydd ar gael
- tystiolaeth i gefnogi diben y gwaith
- copïau o unrhyw ganiatâd neu gydsyniad sy’n gysylltiedig â’r cais
- unrhyw ohebiaeth berthnasol os yw’r gwaith yn digwydd o fewn neu’n agos at safle dynodedig
Tynnu lluniau o'r ystlumod a'u ffilmio
Rhaid i chi wneud cais am drwydded gan ddefnyddio ffurflen gais y drwydded arolygu a chadwraeth os ydych chi’n tarfu ar ystlumod neu’n mynd i mewn i fannau clwydo ystlumod i dynnu lluniau neu ffilmio ystlumod.
Rydym ond yn dyrannu trwyddedu lle mae angen amlwg i dynnu lluniau neu ffilmio.
Dim ond ffotograffwyr profiadol sy'n gallu dangos y gallant achosi ychydig o aflonyddu i'r ystlumod fydd yn cael derbyn trwydded.
Rhaid i ffotograffwyr neu wneuthurwyr ffilmiau proffesiynol enwi ymgynghorydd ystlumod neu weithiwr ystlumod gwirfoddol ar eu cais am drwydded. Bydd yr ymgynghorydd neu’r gweithiwr ystlumod yn eich cynghori ynghylch a oes gennych y profiad neu’r hyfforddiant angenrheidiol a’r dulliau priodol i’w defnyddio.
Nid yw'n angenrheidiol i ymgynghorwyr dynnu lluniau o ystlumod mewn clwydfannau i ddangos eu presenoldeb mewn adroddiadau arolygon.
Pan nad oes angen trwydded arnoch i dynnu lluniau o ystlumod
Nid oes angen trwydded i dynnu lluniau o ystlumod na'u ffilmio os nad yw'r ffotograffiaeth yn achosi unrhyw aflonyddwch ychwanegol, er enghraifft:
- dim ffotograffiaeth â fflach mewn clwydfannau pan fo ystlumod yn bresennol fel rhan o unrhyw arolwg trwyddedig ac os ydych yn defnyddio golau naturiol neu olau artiffisial lefel isel
- ffotograffiaeth â fflach mewn clwydfannau a mannau gaeafu os nad yw ystlumod yn bresennol
- ffotograffiaeth o ystlumod wedi'u dal mewn maglau yn ystod gwaith arolwg trwyddedu
- ffotograffiaeth â fflach o ystlumod unigol neu grwpiau ohonynt at ddibenion nodi. Lle mae'r arolygwr trwyddedu'n ystyried y bydd hyn yn achosi llai o aflonyddwch na thrin neu oleuo'r ystlumod am gyfnod hir
- tynnu lluniau o ystlumod neu eu ffilmio y tu allan i glwydfannau lle na ddefnyddir unrhyw olau ychwanegol, neu y defnyddir golau is-goch yn unig
Pwy all wneud cais am drwydded
Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig
Adnewyddu eich trwydded ac adrodd ar eich gweithgareddau
Os ydych chi eisiau adnewyddu eich trwydded neu adrodd ar y gweithgareddau ydych chi wedi’u gwneud o dan eich trwydded, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais adrodd ac adnewyddu’r drwydded arolygu.
Diwygio eich trwydded
Gallwch ofyn am ddiwygiadau i'ch trwydded gan ddefnyddio'r ffurflenni perthnasol.
Ffurflen gais i ddiwygio
Ffurflen newid trwyddedai
Ffurflen newid ecolegydd
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.