Gwirio a oes angen rhoi gwybod i ni am weithgaredd gwastraff

Gwiriwch a oes esemptiad ar gyfer eich gweithgaredd

Eithriadau ar gyfer gweithgareddau nad oes angen trwydded ar eu cyfer. Mae angen i chi gofrestru llawer o’r rhain gyda ni er mwyn i ni wybod amdanyn nhw.

Mae’r rhan fwyaf o eithriadau i’w cael am ddim.

Dysgwch sut i wirio’r rhestr esemptiadau gwastraff a sut i gofrestru esemptiad gyda ni.

Gwiriwch a allwch chi gael trwydded rheolau safonol

Trwyddedau safonol cyfres o reolau penodedig ar gyfer gweithgareddau cyffredin. Os ydych chi’n gallu bodloni’r gofynion mae gennych chi hawl i gael trwydded safonol.

Mae yna dâl penodol amdanyn nhw.

Gwneud cais am drwydded safonol ar gyfer gweithrediadau gwastraff.

Sut i wneud cais am drwydded arbennig

Trwyddedau pwrpasol mae’r rhain yn cael eu hysgrifennu’n benodol ar gyfer eich gweithgarwch chi.

Maen nhw’n cymryd mwy o amser i’w prosesu na thrwyddedau safonol felly’n tueddu i fod yn ddrutach.

Os na allwch fodloni’r gofynion am eithriadau neu drwydded safonol bydd angen i chi wneud cais am drwydded bwrpasol.

Cael cymorth gyda’ch cais

Rydym yn eich cynghori i gael trafodaeth cyn-ymgeisio gyda ni cyn paratoi a chyflwyno’ch cais. Dylai hyn eich helpu i gael y cais am drwydded yn iawn y tro cyntaf a thynnu sylw at unrhyw broblemau’n gynnar, gan arbed amser ac arian i chi yn y pen draw.

Yn y trafodaethau hyn gallwn roi cyngor i chi ar:

  • sut i baratoi eich cais
  • pa nodiadau canllaw sydd ar gael
  • pa fath o wybodaeth sydd angen i chi ei darparu er mwyn dangos i ni y bydd eich cynigion yn diogelu’r amgylchedd ac na fyddan nhw’n niweidio iechyd pobl

Gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio am drwydded amgylcheddol

Diweddarwyd ddiwethaf