Cynlluniau atal a lliniaru tân

Rhaid i chi ddilyn y canllaw hwn os ydych chi’n:

  • gwneud cais am drwydded amgylcheddol i storio gwastraff llosgadwy
  • meddu ar drwydded gydag amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi gael cynllun atal a lliniaru tân

Mae’r canllawiau yn disgrifio’r safonau atal tân y mae’n rhaid i chi eu dilyn wrth ysgrifennu cynllun safle-benodol. Fe’u hysgrifennwyd mewn cydweithrediad â’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn Nghymru (Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru).

Rhaid i chi allu gweithredu eich cynllun ar unrhyw adeg.

Rhaid i chi sicrhau bod yr holl fesurau atal a lliniaru tân a gymerwch yr un fath â’r safonau hyn, neu’n well na nhw. Rhaid i chi hefyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddio. 

Os dilynwch fesurau amgen i’r rhai a nodir yn y canllawiau hyn, rhaid i chi allu ein bodloni nad yw mwy o risg mewn perthynas â’r canlynol:

  • y tebygolrwydd o dân
  • effaith allyriadau yn ystod neu ar ôl tân ar y gymuned leol, seilwaith hanfodol a’r amgylchedd
  • yr adnoddau sydd eu hangen ar Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac ymatebwyr brys eraill yn ystod digwyddiad
  • costau glanhau ac adfer ar ôl y digwyddiad

Rhaid i chi gynnwys asesiadau manwl sy’n tynnu sylw at sut mae eich cynigion yn disgyn y tu allan i’n canllawiau, unrhyw risgiau cynyddol o wneud hynny, a pha fesurau a roddir ar waith i ddarparu lliniaru effeithiol.

Gallwch ddefnyddio canllawiau priodol eraill sy’n benodol i’r sector megis Fforwm Iechyd a Diogelwch y Diwydiant Gwastraff (WISH) – Gwastraff 28: Lleihau’r risg o dân mewn safleoedd rheoli gwastraff i’ch helpu i ysgrifennu eich cynllun.

1. Ar gyfer pwy mae’r canllaw hwn

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i bob gweithredwr sy’n storio unrhyw wastraff llosgadwy, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • papur neu gardbord
  • plastigau
  • gwastraff trefol
  • rwber – naturiol neu synthetig, gan gynnwys teiars cyfan, teiars wedi’u byrnu, teiars wedi’u torri’n stribedi mân, briwsion a ffeibr
  • pren a chyfansoddion pren, gan gynnwys estyllod, byrddau, paledi, cratiau, blawd llif, naddion a sglodion pren
  • tanwyddau gwastraff – gan gynnwys gweddillion gwastraff llosgadwy, tanwydd sy'n deillio o sbwriel a thanwydd solet wedi’i adfer
  • metelau sgrap, gan gynnwys cerbydau ar ddiwedd eu hoes
  • batris o mewn cerbydau ar ddiwedd eu hoes
  • batris lithiwm-ion
  • gwastraff darnio – o brosesu cerbydau ar ddiwedd eu hoes, plastigau a gwastraff metel o gyfleusterau adfer deunyddiau
  • pob cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff – gan gynnwys oergelloedd, cyfrifiaduron a setiau teledu sy'n cynnwys deunyddiau llosgadwy megis plastig
  • clytiau a thecstilau
  • compost a deunydd planhigion
  • cyfleusterau biomas
  • gwastraff llygryddion organig parhaus (POPs)

Maent yn berthnasol i weithredwyr o’r sectorau canlynol:

  • gwastraff nad yw’n beryglus
  • metelau gwastraff (safleoedd cerbydau ar ddiwedd eu hoes a metel sgrap)
  • cyfarpar trydanol ac electronig sy’n wastraff

Gall y canllawiau hyn fod yn berthnasol i weithredwyr yn y sectorau canlynol, ond efallai na fydd yn rhaid i chi gynnwys eich holl weithgareddau mewn unrhyw gynllun:

  • trin biowastraff (rhes agored, compostio mewn cynhwysydd a threulio anaerobig sych)
  • amaethyddiaeth (ffermio dwys yn unig)
  • llosgi 
  • hylosgi
  • papur a mwydion coed
  • sment calch a mwynau

Os ydych chi yn un o’r sectorau hyn, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth: customerhub@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

2. I bwy nad yw’r canllaw hwn yn berthnasol

Nid yw’r canllawiau hyn yn berthnasol i safleoedd tirlenwi.

Nid ydynt ychwaith yn berthnasol i storio glo, deunyddiau na gwastraff sydd:

  • yn fflamadwy (pwynt fflach o 60oC neu’n is)
  • yn hylifau neu nwyon llosgadwy
  • yn beryglus (ac eithrio unrhyw wastraff peryglus a restrir uchod)
  • yn sylweddau peryglus sy’n cael eu storio o dan y Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr

Nid yw silindrau nwy, aerosolau a hylifau llosgadwy wedi’u cynnwys yn y canllawiau hyn. Dylech eu hystyried yn eich cynllun hefyd, oherwydd y potensial sydd ganddyn nhw i achosi neu gynyddu effaith tân ar safle. Dysgwch fwy yn y canllawiau ar gyfer storio a thrin cistiau aerosol a gwastraff wedi’i becynnu’n debyg ar GOV.UK.

I gael cyngor ynghylch deunyddiau a gweithgareddau eraill, cysylltwch â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol, neu ni.

3. Pryd i anfon eich cynllun atom

Os ydych chi am weithredu o dan drwydded rheolau safonol, nid oes angen i chi gyflwyno cynllun gyda’ch cais. Fodd bynnag, rhaid i chi gael un ar waith sy’n cydymffurfio’n llawn â’r canllawiau cyn i chi ddechrau gweithredu, a bydd rhaid i chi dangos y cynllun hwn i ni. Drwy lofnodi’r datganiad yn eich cais, rydych chi’n cytuno i hyn. Os nad oes gennych gynllun ar waith, efallai y byddwn yn ystyried cymryd camau gorfodi.

Trwyddedau pwrpasol newydd

Os ydych chi’n gwneud cais am drwydded bwrpasol ac eisiau derbyn, storio a/neu drin unrhyw un o’r deunyddiau y mae’r canllawiau hyn yn berthnasol iddynt, rhaid i chi gyflwyno cynllun gyda’ch cais.

Amrywiadau trwydded pwrpasol

Bydd angen i chi gyflwyno cynllun ar gyfer y safle cyfan os yw eich newidiadau arfaethedig yn cynyddu’r risg o dân neu effeithiau posibl o dân. Mae enghreifftiau’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • gwneud cais i dderbyn deunydd llosgadwy newydd
  • cynnwys gweithgaredd newydd
  • cynyddu faint o ddeunyddiau llosgadwy sy’n cael eu storio ar unrhyw adeg yn benodol
  • newidiadau i seilwaith y safle, gan gynnwys draenio

Os yw eich cais i gynyddu’r gyfradd brosesu flynyddol heb gynyddu faint o ddeunyddiau sy’n cael eu storio ar unrhyw adeg, ni fydd gofyn i chi gyflwyno cynllun. Bydd angen i chi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig:

  • bod y cynnydd yn berthnasol i’r gyfradd brosesu flynyddol yn unig
  • na fydd lefelau presennol o storio deunyddiau llosgadwy y cyfeirir atynt yn y canllawiau yn cynyddu
  • bod y dulliau a ddefnyddir i reoli lefelau storio presennol (ar unrhyw derfynau amserol) yn bodloni’r safonau a nodir yn y canllawiau

Ni fyddwn yn gallu gwneud eich cais yn briodol heb y cadarnhad ysgrifenedig hwn.

4. Cynhyrchu eich cynllun

Ystyriwch bob adran o’r canllaw hwn wrth i chi ysgrifennu eich cynllun. Gall eich cais gael ei wrthod neu ei ohirio os nad yw’n bodloni’r safonau gofynnol.

Rhaid i’ch cynllun fod yn ddogfen ar wahân o fewn eich cynllun rheoli damweiniau. Rhaid iddo fod yn rhan o’ch system reoli ysgrifenedig.

Rhaid i bob aelod o staff a phob chontractwr sy’n gweithio ar y safle fod yn ymwybodol o gynnwys eich cynllun a’i ddeall. Rhaid iddyn nhw wybod sut i atal tân rhag digwydd a beth i’w wneud os bydd un yn digwydd. Rhaid i chi ddangos eich bod chi’n cael ymarfer yn rheolaidd i brofi pa mor dda mae eich cynllun yn gweithio.

Gwnewch eich cynllun ar gael yn electronig ac fel copi caled. Rhaid i weithwyr allu cael mynediad iddo ar unrhyw adeg. Mae llawer o safleoedd yn rhoi copi o’u cynllun mewn ‘blwch gwasanaethau brys’. Gellid lleoli hwn wrth fynedfa’r safle neu mewn lleoliad addas arall. Rhaid i’r Gwasanaeth Tân ac Achub a Cyfoeth Naturiol Cymru allu cael mynediad iddo yn ystod argyfwng.

5. Beth i’w gynnwys

Rhaid i’ch cynllun gynnwys gwybodaeth am eich gweithgareddau, cynlluniau a mapiau safle, a chysylltiadau ar gyfer derbynyddion sensitif gerllaw.

Gweithgareddau ar eich safle

Rhaid i’ch cynllun ddisgrifio’r canlynol:

  • faint a math y gwastraff y byddwch chi’n ei gael bob dydd a sut rydych chi’n ei reoli
  • cyfanswm y gwastraff a’r mathau a'r ffurfiau (er enghraifft, heb ei brosesu, wedi'i dorri'n stribedi mân, wedi'i naddu, wedi'i falu'n fân neu wedi'i fyrnu) rydych chi'n eu storio ar y safle ar unrhyw adeg benodol
  • sut y byddwch chi’n storio’r gwastraff
  • yr amser hwyaf y byddwch chi’n storio pob math o wastraff
  • ble byddwch chi’n storio pob math o wastraff
  • maint mwyaf unrhyw bentwr gwastraff, gan gynnwys yr hyd, y lled a’r uchder
  • y pellter gwahanu / brêc rhag tân lleiaf sy’n ofynnol rhwng yr holl bentyrrau gwastraff / gwastraff wedi’i fyrnu, a rhwng adeiladau a phentyrrau gwastraff / gwastraff wedi’i fyrnu
  • y technegau atal tân y byddwch yn eu defnyddio, gan gynnwys sut y byddwch yn rheoli mannau problemus (arwyddion o ymlosgi digymell posibl), gwaith monitro, adrodd a chofnodi, a chamau gweithredu
  • rolau a chyfrifoldebau os bydd tân yn digwydd ar eich safle
  • technegau y byddwch yn eu defnyddio i leihau’r risg o dân yn lledaenu o fewn y safle, neu o’r safle
  • sut y byddwch yn darparu mynediad diogel i’r safle i’r Gwasanaethau Tân ac Achub ac ymatebwyr brys eraill
  • yr holl gynhyrchion hylosgi ac allyriadau (i’r aer, y tir a’r dŵr) o’r tân a’r ymateb brys, gan gynnwys yr effaith ar y gymuned, seilwaith hanfodol a’r amgylchedd, a sut y byddant yn cael eu lleihau i’r lleiafswm

Cynlluniau a mapiau safle

Rhaid i’ch cynllun gynnwys cynllun(iau) safle wedi’u llunio i raddfa ddigon mawr i ddangos y canlynol:

  • cynllun adeiladau (gan gynnwys pwyntiau mynediad, allanfeydd tân a lleoliad cyfleustodau)
  • lleoliadau pwyntiau ynysu ar gyfer cyfleustodau
  • mannau lle mae deunyddiau peryglus yn cael eu storio neu eu prosesu (lleoliad silindrau nwy, cemegion, pentyrrau o ddeunyddiau llosgadwy, tanciau olew a thanwydd)
  • lleoliadau lle bydd pob math o wastraff yn cael ei storio a’i drin
  • pob pellter gwahanu
  • unrhyw waliau tân
  • lleoliad unrhyw wastraff llygryddion organig parhaus (POPs)
  • prif lwybrau mynediad ar gyfer cerbydau’r gwasanaeth tân – efallai y bydd angen cadarnhau gofynion mynediad a phwysau cerbydau gyda’ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol gan fod gwahanol fathau o gerbydau’n cael eu defnyddio
  • unrhyw bwyntiau mynediad amgen o amgylch perimedr y safle i gynorthwyo diffodd tân
  • lleoliad hydrantau a chyflenwadau dŵr
  • systemau draenio, draeniau dŵr budr a dŵr wyneb, a chyfeiriad eu llif a’u harllwysfeydd
  • cyfeiriad llif dŵr ffo o arwynebau’r safle
  • lleoliad gorchuddion draeniau ac unrhyw nodweddion rheoli llygredd fel falfiau cau draeniau a systemau cyfyngu dŵr tân
  • unrhyw gwrs dŵr, twll turio neu ffynnon sydd wedi’i lleoli o fewn y safle neu gerllaw
  • ardaloedd o dir hydraidd neu anhydraidd
  • ardaloedd o dir naturiol a heb ei gyffwrdd
  • unrhyw barthau lle mae perygl i ddŵr daear
  • lleoliad peiriannau, dillad amddiffynnol ac offer rheoli llygredd, a deunyddiau
  • lleoliad pecyn gwybodaeth argyfwng “oddi ar y safle” gyda chynllun safle
  • lleoliad yr ardal dan gwarantin
  • man ymgynnull i staff ac ymwelwyr â’r safle
  • rhosyn cwmpawd yn dangos y gogledd a chyfeiriad y prifwynt
  • lleoliad derbynyddion sensitif o fewn 1 km i’ch safle:

    • mae derbynyddion dynol yn cynnwys ysbytai, cartrefi nyrsio, ysgolion, ardaloedd preswyl, mannau gwaith, rhwydweithiau trafnidiaeth
    • mae derbynyddion amgylcheddol yn cynnwys parthau gwarchod ffynonellau, dyfroedd wyneb, mannau tynnu dŵr yfed, dŵr daear, pysgodfeydd a safleoedd gwarchodedig, gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd Ramsar

Rhaid i chi wybod sut i gysylltu â’r rhai sy’n gyfrifol am dderbynyddion sensitif, a pha gamau i’w cymryd os bydd tân.

6. Rheoli achosion cyffredin tanau

Rydym yn disgrifio rhai achosion cyffredin o dân a’r mesurau ataliol y gallwch eu cymryd i leihau’r risg ar eich safle. Yn dibynnu ar y gweithgareddau rydych chi’n eu gwneud, efallai na fydd rhai yn berthnasol, neu efallai y bydd eraill y mae angen i chi eu cynnwys yn eich cynllun. Eich cyfrifoldeb chi yw nodi pob risg bosibl a dangos sut y byddwch chi’n ei lliniaru.

Llosgi bwriadol neu fandaliaeth   

Mae angen i chi roi mesurau diogelwch digonol ar waith, fel ffensys diogelwch, larymau tresmaswyr a chamerâu teledu cylch cyfyng. Ystyriwch hefyd drefniadau ar gyfer y tu allan i oriau gwaith.

Ymwelwyr a chontractwyr

Dylid sicrhau bod pob ymwelydd yn dilyn y gweithdrefnau diogelwch ac atal tân cywir. Defnyddiwch arwyddion i atgyfnerthu negeseuon atal tân o amgylch y safle.

Ffynonellau tanio

Cadwch fflamau noeth, gwresogyddion gofod, ffwrneisi, llosgyddion a ffynonellau tanio eraill o leiaf chwe metr i ffwrdd o wastraff llosgadwy a fflamadwy.

Tywydd poeth

Yn ystod cyfnodau hir o dywydd poeth a sych, rhaid i chi gymryd camau i leihau twymo o’r pentyrrau gwastraff o’r tu allan, megis cysgodi gwastraff lle bo’n ymarferol, a lleihau amseroedd storio.

Peiriannau a phibellau gwacáu poeth

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud y canlynol:

  • cynnal gwyliadwriaeth dân neu wiriad gweledol yn rheolaidd yn ystod y diwrnod gwaith ac ar ddiwedd y dydd(bydd hyn yn eich helpu i ganfod arwyddion o dân a achosir gan lwch yn setlo ar bibellau gwacáu poeth a rhannau injan)
  • nodi yn eich cynllun pa mor rheolaidd yw’r cyfnodau hyn, eich dulliau ar gyfer cofnodi’r arolygiad, unrhyw gamau y byddwch yn eu cymryd, a’ch pryderon

Fel rhan o’ch gweithdrefnau diwedd dydd, rhaid i chi sicrhau bod pellteroedd gwahanu yn cael eu cadw rhwng y peiriannau a’r deunydd pan nad oes staff ar y safle.

Methiant peiriannau neu gyfarpar

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud y canlynol:

  • rhoi rhaglen gynnal a chadw ac archwilio ar waith ar gyfer peiriannau a chyfarpar sefydlog a symudol
  • gosod diffoddwyr tân, hidlwyr llwch a diffoddwyr gwreichion ar gerbydau, a, lle bo’n ymarferol, gosod rwber wedi’i dorri’n stribedi ar bob llwythwr bwced i atal gwreichion pan fydd y bwced yn dod i gysylltiad â llawr caled
  • cadw’r holl peiriannau symudol nad yw’n cael eu defnyddio i ffwrdd o wastraff llosgadwy

Deunyddiau ysmygu wedi’u bwrw o'r neilltu

Defnyddiwch bolisi dim ysmygu, neu dynodwch mannau ysmygu sy’n bellter diogel oddi wrth wastraff llosgadwy i atal tanio damweiniol.

Gwaith poeth, er enghraifft weldio neu dorri

Sicrhewch fod yr holl staff a chontractwyr yn dilyn arferion gwaith diogel, fel system drwydded i weithio, wrth gyflawni gwaith poeth. Dylid gweithredu gwyliadwriaeth dân am gyfnod addas ar ôl i waith poeth ddod i ben ac, yn benodol, ar ddiwedd diwrnod gwaith. Efallai fod gan eich cwmni yswiriant ofynion penodol ar gyfer gwyliadwriaeth dân.

Gwresogyddion diwydiannol

Lluniwch weithdrefnau ysgrifenedig sy’n nodi’r defnydd a’r gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar wresogyddion diwydiannol.

Ceblau trydanol wedi’u difrodi neu agored

Dylai trydanwr cymwys ardystio gwaith trydanol ar y safle yn llawn. Cynhwyswch waith cynnal a chadw rheolaidd yn eich system reoli.

Adweithiau rhwng gwastraff

Gwnewch yn siŵr bod gennych weithdrefnau ysgrifenedig o fewn eich system reoli ar gyfer gwiriadau derbyn gwastraff. Mae hyn er mwyn atal adweithiau rhwng gwastraff anghydnaws neu ansefydlog, gan gynnwys batris lithiwm. Rhaid i chi fod ag ardal dan gwarantin ar gael bob amser.

Batris

Fel rhan o’ch gweithdrefnau derbyn gwastraff, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud pob ymdrech i gael gwared ar unrhyw fath o uned fatri cyn iddi gael ei phrosesu. Gall tanau o fewn systemau prosesu gwastraff gael eu hachosi gan fatris yn mynd i mewn i beiriannau prosesu.

Rhaid i chi storio batris naill ai mewn cynwysyddion addas sy’n ddiogel rhag tywydd garw neu mewn cynwysyddion priodol dan orchudd. Os yw batris wedi’u difrodi, rhaid i chi eu hynysu oddi wrth fatris eraill.

Batris mewn cerbydau ar ddiwedd eu hoes (ELVs)

Gall batris sy’n cael eu gadael wedi’u cysylltu mewn cerbydau heb eu dadlygru achosi cylched fer a dechrau tân. Rhaid i chi ddatgysylltu neu dynnu batris o gerbydau heb eu dadlygru cyn gynted â phosibl ar ôl i chi eu derbyn.

Rhaid i safleoedd cerbydau ar ddiwedd eu hoes sy’n derbyn cerbydau trydan esbonio yn eu cynllun sut y byddant yn nodi ac yn rheoli’r risg o fatris lithiwm a lithiwm-ion (Li-ion).

Batris lithiwm a Li-ion

Rhaid i chi storio batris lithiwm a Li-ion o gerbydau trydan ar wahân i fatris eraill. Rhaid i chi eu storio mewn ffordd sy’n eu hatal rhag dod i gysylltiad ag unrhyw hylifau neu gael eu difrodi.

Rhowch unrhyw fatris lithiwm a Li-ion sydd wedi’u difrodi dan gwarantin a’u storio i ffwrdd o adeiladau a deunyddiau llosgadwy eraill. Rhaid i chi eu storio mewn cynhwysydd addas, cadarn sy’n ddiogel rhag tywydd garw ac sydd wedi’i lenwi â thywod neu ddeunydd anadweithiol tebyg.

Rhaid i chi sicrhau bod batris lithiwm a Li-ion nad ydynt wedi’u caniatáu neu sydd wedi’u difrodi yn cael eu symud o’r safle i’w gwaredu neu eu hailgylchu’n briodol cyn gynted â phosibl.

Llwythi poeth sydd wedi cael eu gadael ar y safle

Defnyddiwch ardal dan gwarantin addas i gadw llwythi poeth i ffwrdd o wastraff arall.

Croniad o wastraff llosgadwy rhydd, llwch a fflwff

Rhaid i’ch cynllun nodi pa mor rheolaidd y byddwch yn archwilio ac yn glanhau’r safle i atal gwastraff llosgadwy rhydd, llwch a fflwff rhag cronni o fewn adeiladau ac o amgylch y safle.

Metel crwydr

Gall metel crwydr (sgrap metelaidd dieisiau) a geir yn y llif gwastraff weithio’i ffordd i mewn i beiriannau symudol ac achosi ‘mannau poeth’ lleol. Gall hyn gynnwys gronynnau neu wrthrychau metelaidd fel nytiau, bolltau a sgriwiau, neu ddeunyddiau mân fel llwch neu naddion metelaidd. Ataliwch hyn trwy ddidoli ymlaen llaw a/neu echdynnu gan ddefnyddio gwahanydd magnet neu gerrynt trolif, yn enwedig pan fydd deunyddiau taniadwy neu ffrwydrol yn bresennol.

Silindrau wedi’u storio ar y safle

Storiwch silindrau’n gywir bob amser. Nodwch leoliadau storio ar gynllun eich safle.

Gollyngiadau olew a thanwydd

Mae angen i chi atal tanwyddau a hylifau llosgadwy rhag gollwng neu lusgo o amgylch y safle o’ch cerbydau a’ch cerbydau ar ddiwedd eu hoes eich hun cyn y broses ddadlygru.

Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau a ddefnyddir i amsugno hylifau llosgadwy yn cael eu gwaredu’n gywir er mwyn lleihau’r risg o’r posibilrwydd o dân.
 

7. Rheoli gwastraff

Rhaid i chi ddangos dull clir o gofnodi a rheoli’r gwaith o storio’r holl wastraff ar y safle. Rhaid i chi gael gweithdrefnau derbyn gwastraff cadarn i atal derbyn gwastraff heb awdurdod, neu wastraff nad oes gan eich safle’r gallu i’w storio na’i drin.

Dylech fod wedi sicrhau bod opsiynau rheoli gwastraff amgen ar gael rhag ofn bod eich safle yn cyrraedd y pwynt lle na all storio gwastraff yn ddiogel. Dylid ymgorffori hyn fel terfyn yn system reoli eich safle.

Ymlosgi digymell

Gall llawer o ddefnyddiau ymlosgi’n ddigymell o dan rai amodau. Mae’r risg yn gyffredinol yn cynyddu lle mae deunyddiau’n cael eu storio am gyfnodau hir, a lle mae maint y gronynnau’n fach.

Er mwyn helpu i atal ymlosgi rhag digwydd, mabwysiadwch yr egwyddorion atal tân canlynol:

  • lleihau ffactorau risg (mae hyn yn cynnwys cynnwys metel agored, cyfran y gwastraff wedi’i falu’n fân, cymysgu deunyddiau a gwres a gynhyrchir yn ystod y driniaeth)
  • lleihau meintiau pentyrrau – mae pentyrrau llai gyda gwahaniad priodol yn fwy diogel nag un pentwr mawr
  • diffinio’r amser storio hwyaf ar gyfer yr holl ddeunyddiau ar y safle, a dangos sut y bydd hyn yn cael ei fonitro a’i reoli
  • dangos cylchdro stoc da ar gyfer yr holl ddeunyddiau sy’n cael eu storio, a dangos sut mae hyn yn cael ei fonitro a’i weithredu’n ddyddiol
  • storio deunydd yn ei ffurf fwyaf cyn ei brosesu – er enghraifft, peidiwch â chynnal triniaethau paratoadol fel lleihau maint gwastraff gwyrdd nes eich bod yn bwriadu cynnal y broses drin
  • sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau wedi’u trin wedi oeri cyn eu storio
  • monitro a rheoli tymheredd o dan wyneb a chynnwys lleithder gyda dyfais thermol addas (stiliwr thermol / camera thermol) a sicrhau ei bod yn gallu cyrraedd pob rhan o bentwr
  • os ydych chi’n storio deunyddiau mewn lapio plastig, rhaid i chi ddangos protocol samplu a phrofi i sicrhau bod nifer cynrychioliadol o fyrnau (o leiaf 10%) yn cael eu hasesu yn ystod y gwaith monitro
  • troi pentyrrau’n rheolaidd
  • canfod a rheoli mannau poeth o fewn pentyrrau – mae stêm yn ddangosydd da o hunangynhesu
  • lleihau gwres allanol yn ystod tywydd poeth trwy gysgodi rhag golau haul uniongyrchol

Amseroedd storio

Rhaid defnyddio’r terfynau amser uchaf hyn i lywio eich proses rheoli stoc a chylchdroi:

  • Gwastraff heb ei dorri'n stribedi mân neu wastraff nad yw maint ei ronynnau wedi’i leihau – amser storio chwe mis
  • Gwastraff wedi’i fyrnu a’i gywasgu – amser storio chwe mis
  • Gwastraff wedi’i dorri'n stribedi mân a’i drin yn yr un modd (hynny yw, gwastraff y mae maint ei ronynnau wedi’i leihau) – amser storio tri mis
  • Mân bethau neu lwch hylosg a gwastraff o faint gronynnau bach iawn – amser storio un mis

Gall yr amseroedd storio hyn fod yn rhy hir ar gyfer rhai mathau o wastraff. Ystyriwch yn ofalus y risg o ymlosgi digymell a berir gan eich mathau o wastraff.

Os ydych chi’n storio unrhyw ddeunyddiau sydd mewn perygl o ymlosgi’n ddigymell am fwy na thri mis, rhaid i chi ddangos pa fesurau ychwanegol y byddwch chi’n eu cymryd, gan gynnwys gwaith monitro, i leihau’r risg. Rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth hon a’ch methodoleg fonitro yn eich cynllun.

Deunyddiau sydd mewn perygl o ymlosgi’n ddigymell os cânt eu storio am fwy na thri mis yw:

  • deunydd gwyrdd, compost a phren
  • papur a chynhyrchion papur
  • gwastraff cyffredinol cymysg, gan gynnwys gwastraff gweddilliol a thanwydd sy’n deillio o sbwriel (RDF)
  • teiars cyfan
  • deunyddiau llai neu wedi’u graddio, naill ai wedi’u storio neu wedi’u cymysgu
  • deunydd nad yw peryglon posibl wedi’u tynnu cyn ei bentyrru – er enghraifft, rhwd agored (a all gynhyrchu gwres)
  • deunyddiau wedi’u trin nad ydynt yn oer cyn eu storio (gall prosesau trin gynhyrchu gwres)

Efallai y bydd yn rhaid lleihau rhai o’r cyfnodau storio yn eich cynllun lle mae gofyniad arall i sicrhau cydymffurfedd â’ch trwydded. Gallai hyn fod oherwydd cynllun rheoli arogleuon neu fesurau rheoli plâu. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag unrhyw amodau trwydded a fydd yn cyfyngu ar eich amser storio hwyaf.

Maint y pentwr a phellteroedd gwahanu

Rhaid i chi gynnwys meintiau arfaethedig eich pentyrrau a’ch pellteroedd gwahanu arfaethedig yn eich cynllun.

Bydd hyd y pentwr yn amrywiol yn seiliedig ar y pellter gwahanu y gellir ei gyflawni ar unrhyw safle penodol, felly caniatewch hyblygrwydd i ystyried dimensiynau a chynllun y safle.

Bydd y pellter gwahanu yn dibynnu ar hyd y pentwr neu ei led ar bob pen.  Po hwyaf y pentwr, y mwyaf yw’r pellter gwahanu sydd ei angen. Wrth ystyried pellteroedd gwahanu yn seiliedig ar drosglwyddo gwres thermol, gallai wyneb llosgi fod ar yr ochr hir (hyd pentwr) neu’r ochr fer (lled pentwr), neu gallai hyd a lled fod yn gyfartal. Bydd angen ystyried y ddau.

​Rhaid i chi fabwysiadu’r egwyddorion canlynol:

  • Uchder mwyaf pentwr o 4 metr (neu uchafswm o bedwar belen o uchder, pa un bynnag sydd isaf) yn seiliedig ar ystyriaethau diffodd tân ymarferol a sefydlogrwydd. Dylid cymryd uchder pentwr fel y mesuriad hwyaf rhwng gwaelod y pentwr a’r brig. Os yw’r tir yn anwastad, efallai nad dyma’r pwynt uchaf.
  • Lled uchaf simnai o 20 metr (ar yr amod bod mynediad priodol ar gael i beiriannau o’r ddwy ochr – os nad oes, uchafswm o 10 metr) yn seiliedig ar ystyriaethau diffodd tân ymarferol.
  • Rheoli pob pentwr o ddeunyddiau a all ymlosgi’n ddigymell, a dangos rhagofalon ychwanegol addas os cânt eu storio am fwy na thri mis.
  • Bod â chyflenwadau dŵr digonol (neu ddulliau diffodd tân amgen) ar gael bob amser.
  • Rhaid sefydlu ardal glir o amgylch perimedr y safle. Gall hyn amrywio yn dibynnu ar gynllun eich safle a meintiau’r simneiau a ganiateir yn unol â’r pellteroedd gwahanu.
  • Galluogi mynediad hawdd i gerbydau brys o amgylch y safle cyfan.

Mae gwybodaeth am faint pentyrrau a phellteroedd gwahanu ar gyfer y math o wastraff rydych chi’n ei storio yng nghanllawiau WISH Gwastraff 28: Lleihau’r risg o dân mewn safleoedd rheoli gwastraff.

Os yw eich pentyrrau gwastraff yn sylweddol is na phedwar metr, gallech gyflogi peiriannydd tân cymwys i gyfrifo pellteroedd gwahanu pwrpasol ar gyfer eich safle. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd gwahaniaethau bach yn uchder y pentwr yn cael effaith sylweddol, a byddai angen i chi fod yn hyderus bod eich pentyrrau’n gyson o isel.

Mae lled pentwr o fwy na 10 metr (gyda mynediad o un ochr) yn dechrau lleihau effeithiolrwydd pibellau tân safonol wrth roi dŵr i ‘ganol’ tân. Bydd yn arwain at ‘chwistrellu’ dŵr yn yr awyr a gobeithio y bydd yn disgyn yn y lle iawn.

Gwirio pellteroedd gwahanu

I wirio'r isafswm pellter gwahanu sydd ei angen mae angen i chi wybod:

  • a yw eich math o wastraff yn gyffredinol neu'n blastig/rwber - mae gwastraff cyffredinol yn cynnwys gwastraff fel Tanwydd sy'n Deillio o Sbwriel (RDF), Tanwydd Solet wedi'i Adfer (SRF), pren a phapur
  • dull storio, megis pentyrrau rhydd neu fyrnau ac agosrwydd at adeiladau
  • hyd eich pentwr

Gallwch hefyd wirio hyd y pentwr os, er enghraifft, mae’r pellter gwahanu wedi'i gyfyngu gan faint y safle.

I wirio’r hyd uchaf y gall eich pentyrrau fod, mae angen i chi wybod:

  • a yw eich math o wastraff yn gyffredinol neu'n blastig/rwber - mae gwastraff cyffredinol yn cynnwys gwastraff fel Tanwydd sy'n Deillio o Sbwriel (RDF), Tanwydd Solet wedi'i Adfer (SRF), pren a phapur
  • dull storio, megis pentyrrau rhydd neu fyrnau ac agosrwydd at adeiladau
  • pellter gwahanu rhwng eich pentyrrau


Cynllun y pentyrrau gwastraff

Cynlluniwch eich cynllun storio yn seiliedig ar feintiau pentyrrau posibl a phellteroedd gwahanu priodol, yn ogystal â’ch dulliau a mathau o storio.

Byddai angen ystyried y canlynol:

  • Lleoliad ffynonellau tanio posibl ar eich safle
  • Lleoliad(au) adeiladau sydd wedi’u meddiannu a chyfarpar a pheiriannau gwerth ased uchel
  • Ni ddylai cynllun y pentyrrau beryglu llwybrau dianc a gwacáu o amgylch eich safle (ac o fewn adeiladau)
  • Lleoliad sylweddau fflamadwy a/neu beryglus a gedwir ar y safle, megis cewyll silindrau nwy, tanciau diesel, ardaloedd dan gwarantin a all gynnwys gwastraff nad yw’n cydymffurfio ac ati
  • Lleoliadau hydrantau tân ar y safle neu oddi ar y safle, cyflenwadau dŵr eraill a chyfarpar diffodd tân – rhaid i chi beidio â rhwystro mynediad at y rhain gyda’ch cynllun pentyrrau
  • Agosrwydd a lleoliad unrhyw seilwaith a allai gael ei effeithio gan dân, fel llinellau pŵer uwchben, prif ffyrdd a rheilffyrdd
  • Agosrwydd a lleoliad unrhyw adeiladau trydydd parti oddi ar y safle a allai gael eu heffeithio gan dân
  • Symiau a ganiateir o wastraff, a mathau o wastraff, a ganiateir ar y safle
  • Lleoliad ardal dan ‘gwarantin’, fel y bo’n briodol i fanylion y safle
  • Ymarferoldeb gweithredol, fel symud cerbydau a llwybrau dynodedig
  • Gofynion cylchdroi stoc, natur dymhorol y cyflenwad / yr allbwynt
  • Dylech hefyd ystyried y prifwynt, ble bydd dŵr tân yn llifo, a’r strategaeth diffodd tân a fydd yn cael ei defnyddio

Monitro a throi pentyrrau

  • Dylai’r cyfarpar rydych chi’n ei ddefnyddio i ganfod tymheredd a chynnwys lleithder allu gweithredu ar unrhyw ddyfnder ledled y pentwr. Os ydych chi’n bwriadu cael pentwr pedwar metr o ddyfnder, dylai eich cyfarpar monitro thermol allu gweithredu trwy ddyfnder y pentwr arfaethedig.
  • Dylech esbonio pa ddangosyddion y byddwch yn eu defnyddio mewn perthynas â thymheredd a chynnwys lleithder, a’r cynnydd mewn camau gweithredu mewn perthynas â’r dangosyddion hyn.
  • Bydd troi pentyrrau gwastraff, os oes angen yn dilyn monitro, yn sicrhau bod y deunydd yn aros yn oer a bod unrhyw gynhesu lleol yn cael ei wasgaru’n gyflym. Rhaid hyfforddi eich staff i ganfod a rheoli mannau poeth.
  • Wrth droi pentyrrau, dylech gael cyfarpar diffodd tân, megis pibellau dŵr, yn y fan a’r lle fel y gallwch ddelio â thân yn gyflymach os bydd un yn digwydd (nid yw diffoddwyr offer llaw yn debygol o fod yn ddigonol).

Nid yw’r adran hon yn berthnasol i resi compost yn ystod y broses gompostio.

Natur dymhorol a rheoli pentyrrau

Dylech ddangos bod eich dull o reoli pentyrrau gwastraff yn hyfyw a’ch bod yn gallu profi y canlynol:

Dylech ddarparu asesiad technegol sy’n dangos bod gennych hyder y bydd eich cynnig yn hyfyw o dan amodau marchnad y gellir eu rhagweld.

Os yw’r deunyddiau ar eich safle yn ddarostyngedig i amrywiad tymhorol o ran galw a/neu gyflenwad, dylech ddangos sut rydych chi’n bwriadu rheoli’r amrywiadau hyn. Dylech allu dangos sut y byddwch yn dilyn yr egwyddor “cyntaf i mewn, cyntaf allan” fel nad yw gwastraff yn cael ei storio am fwy na’r terfynau yn yr adran amseroedd storio.

Dylai’r holl faterion hyn, a’r cynlluniau wrth gefn a ddefnyddiwch i’w rheoli, fod yn eich system reoli ac yn cael eu rhoi ar waith cyn i weithrediadau ddechrau ar y safle.

Storio gwastraff wedi’i fyrnu

Os ydych chi’n storio gwastraff wedi’i fyrnu, rhaid i’ch cynllun ddangos sut rydych chi’n lleihau’r risg o dân yn digwydd o fewn y byrnau. Rydym yn argymell bod eich cynllun yn dangos y canlynol:

  • pa brotocol samplu a phrofi y byddwch chi’n ei ddefnyddio i sicrhau eich bod chi’n asesu nifer cynrychioliadol o fyrnau (o leiaf 10%) yn ystod y gwaith monitro
  • eich bod yn cael darlleniadau tymheredd cynrychioliadol o ganol y byrnau ac o fyrnau yng nghanol pob pentwr
  • eich bod chi’n troi’r byrnau i wneud yn siŵr bod y gwastraff yn aros yn oer

Os yw’n ymddangos bod gwastraff wedi’i fyrnu yn debygol o fynd y tu hwnt i’r terfynau amser storio, dylech ystyried torri’r byrnau a’u hailfyrnu i leihau’r risg o dân. Os ydych chi’n bwriadu gwneud hyn, rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth hon yn eich cynllun.

Cymerwch ofal wrth dorri byrnau neu droi gwastraff rhydd. Gall gwneud hynny ynddo’i hun achosi tân. Gall hunangynhesu fod yn digwydd o fewn pentwr, a thrwy agor y bwrn neu droi’r pentwr, efallai y byddwch yn cyflwyno digon o ocsigen i’r gwastraff i arwain at dân.

Wrth dorri byrnau a throi pentyrrau, dylech gael cyfarpar diffodd tân, megis pibellau dŵr, yn y fan a’r lle fel y gallwch ddelio â thân yn gyflymach os bydd un yn digwydd (nid yw diffoddwyr offer llaw yn debygol o fod yn ddigonol).

Gall pentyrrau sy’n fwy na phedwar bwrn o uchder ddod yn ansefydlog a chwympo, gan arwain at risg o anaf mewn sefyllfa lle mae tân a sefyllfa lle nad oes tân. Mae cwymp pentwr yn ystod tân yn peri’r risg o ledaenu’r tân ymhellach, yn ogystal â’r risg ddiangen a achosir i ddiffoddwyr tân a’u gallu i ymladd tân.

Gall gwastraff wedi’i fyrnu, pan gaiff ei storio, beri problem benodol o ran risgiau tân sy’n gysylltiedig â ffurfwedd y dull storio. Fel arfer, mae byrnau o wastraff yn cael eu pentyrru’n uniongyrchol ar ben ei gilydd. Gall hyn arwain at fylchau aer fertigol parhaus rhwng byrnau – gan greu i bob pwrpas ‘simneiau’ rhwng tyrau unigol o fyrnau. Os bydd tân yn digwydd, gall y simneiau hyn arwain at lif aer egnïol rhwng byrnau a hyrwyddo llosgi cyflymach a mwy egnïol. Gall cydblethu byrnau helpu i flocio’r simneiau hyn – gan drefnu byrnau yn yr un ffordd â briciau mewn wal, yn hytrach nag yn uniongyrchol ar ben ei gilydd. Dylech ystyried hyn ar gyfer plastigau/rwber wedi’u byrnu lle mae tymereddau llosgi yn uwch, gan y gall byrnau wedi’u plethu leihau tymheredd llosgi a pha mor egnïol y gall tân losgi.

Mae’r uchod yn tybio bod eich byrnau yn rhai ‘sgwâr’, fel sy’n nodweddiadol ar gyfer byrnau o bapur, plastig ac yn y blaen. Mae mathau eraill o fyrnwyr, fel y rhai a ddefnyddir i fyrnu a lapio tanwydd sy’n deillio o sbwriel a thanwydd tebyg sy’n deillio o wastraff. Gall byrnau a gynhyrchir gan gyfarpar o’r fath fod yn silindrog yn hytrach nag yn sgwâr. Mae byrnau silindrog yn cael eu pentyrru wedi’u plethu am resymau sefydlogrwydd, ac felly efallai y bydd unrhyw effaith simnai eisoes wedi’i lliniaru.

Amgáu pentyrrau gan ddefnyddio cilfannau a waliau tân

Gallwch leihau’r angen am bellteroedd gwahanu os ydych chi’n defnyddio cilfannau neu waliau tân rhwng pentyrrau storio gwastraff.

Rhaid i gilfachau a waliau tân fod o uchder, trwch ac adeiladwaith digonol i gynnig cyfnod gwrthsefyll tân o o leiaf 120 munud, er mwyn caniatáu i wastraff gael ei ynysu i atal tân rhag lledaenu a lleihau’r gwres ymbelydrol.

Gwiriwch fanyleb cynnyrch cilfannau a waliau tân i sicrhau bod safonau gwrthsefyll tân yn cael eu bodloni. Rhaid i’r dull gosod fod yn unol â gofynion y gwneuthurwr.

Dylech chi allu dangos y canlynol:

  • cylchdroi stoc yn llawn ac yn aml a sut y bydd hyn yn cael ei fonitro a’i gofnodi
  • amddiffyniad rhag y gwynt
  • sut rydych chi’n bwriadu gwirio tymheredd a chynnwys lleithder yr holl ddeunydd yn y gilfan fel bod cyfaint cyfan y pentwr yn cael gwiriadau cynrychioliadol
  • adeiladwaith y waliau o ran sut maen nhw’n cynnig rhwystr thermol ac yn galluogi oeri
  • sut y bydd capasiti stoc yn cael ei reoli (gan ddefnyddio’r cysyniad cyntaf i mewn, cyntaf allan)
  • sut y byddwch yn sicrhau bod deunyddiau’n cael eu gwahanu
  • atal ffaglau neu ddeunydd wedi’i gynnau rhag symud y tu allan i waliau’r gilfan
  • atal pontio ar draws neu o amgylch waliau
  • sut y bydd gofod ‘bwrdd rhydd’ o 1 metr ar frig ac ochrau’r waliau yn cael ei gadw’n ffisegol bob amser yn unol â’r canllawiau diweddaraf sydd ar gael
  • amlder a dull troi pentyrrau
  • sut y bydd yr ardal dan gwarantin yn cael ei defnyddio a sut y bydd deunyddiau’n cael eu symud yn ystod digwyddiad

Gwastraff wedi’i storio o fewn adeilad

Os ydych chi’n storio gwastraff mewn adeilad, dylech chi fabwysiadu’r egwyddorion cyffredinol canlynol ar gyfer atal tân a lliniaru tanau:

  • Sicrhewch fod meintiau pentyrrau gwastraff a’r pellteroedd gwahanu yn briodol i’r risg.
  • Gellir defnyddio’r offeryn pellter gwahanu fel man cychwyn ond nid yw’n ganllaw hollgynhwysfawr ar gyfer storio dan do.
  • Ystyriwch ddefnyddio waliau tân / bynceri.
  • Ystyriwch wahanu gwastraff sy’n cael ei storio dan do oddi wrth waliau adeiladau, peiriannau a chyfarpar arall o fewn adeiladau. Yn gyffredinol, mae tân mewn gwastraff sy’n cael ei storio dan do yn llawer mwy tebygol o ledaenu i adeiladau a pheiriannau nag y mae tân mewn gwastraff sy’n cael ei storio y tu allan. Mae’n debygol y bydd eich cwmni yswiriant yn rhoi mwy o bwyslais ar reoli tân mewn gwastraff sydd wedi’i storio dan do na gwastraff sydd wedi’i storio y tu allan. Ceisiwch gyngor gan eich cwmni yswiriant cyn gwaith gosod i sicrhau eich bod wedi bodloni unrhyw ofynion ar gyfer canfod tân a diffodd tân.
  • Os ydych chi’n storio gwastraff dan do mewn pentyrrau mawr, fel mewn warysau, yna rhaid i chi geisio cyngor cymwys ar y rhagofalon i’w cymryd. Bydd y rhain yn dibynnu ar y math o adeilad a ddefnyddir, y mathau o wastraff sy’n cael eu storio, a pha ragofalon tân sydd eisoes ar waith. Mae hwn yn faes arbenigol ac efallai na fydd y safonau cyffredinol a gymhwysir i warysau nwyddau yn briodol ar gyfer storio gwastraff dan do.
  • Os yw’r adeilad wedi’i gynhesu, a/neu os oes gennych loriau wedi’u cynhesu, ystyriwch y potensial i’r gwastraff hunangynhesu a sut i liniaru’r risg honno.
  • Rhaid i chi sicrhau bod pob ffordd o ddianc a’r holl allanfeydd tân, pwyntiau galw larwm a diffoddwyr tân yn cael eu cadw’n glir ac yn rhydd o wastraff bob amser.
  • Sicrhewch fod cyfarpar trydanol a gwresogyddion yn cael eu cadw’n rhydd o wastraff, gan gynnwys llwch a deunyddiau pecynnu.
  • Dylai ardaloedd storio gwastraff gael eu gwahanu gan ddefnyddio mesurau atal tân i ffwrdd o ardaloedd swyddfa.
  • Dylai fod gan ardaloedd storio gwastraff ryw fodd o glirio mwg o’r adeilad, fel ffenestri yn y to y gellir eu hagor neu ddrysau sy’n rholio ar agor, i gynorthwyo diffodd tân.

Gwastraff wedi’i storio mewn cynwysyddion

Os ydych chi’n storio gwastraff mewn cynwysyddion y gellir eu symud, yna nid yw meintiau pentyrrau a phellteroedd gwahanu uchaf yn berthnasol.

Os ydych chi’n storio gwastraff mewn cynwysyddion fel sgipiau, sgipiau gyrru i mewn ac allan, neu gynwysyddion cludo, rhaid i bob un fod yn hygyrch fel y gellir diffodd unrhyw dân y tu mewn iddo. Ni ddylid pentyrru cynwysyddion cludo a rhaid eu diogelu â chlo y tu allan i oriau gweithredu.

Os oes gennych dân, dylech allu symud cynwysyddion cyn gynted â phosibl mewn modd diogel i atal y tân rhag lledu. Dylech nodi yn eich cynllun y gweithdrefnau y byddwch yn eu rhoi ar waith i ganiatáu i hyn ddigwydd.

Storio cerbydau cyfan ar ddiwedd eu hoes (ELVs)

Rhaid i chi nodi sut y byddwch yn storio cerbydau ar ddiwedd eu hoes.

Dylai pob cerbyd fod yn hygyrch o un ochr o leiaf. Bydd hyn yn caniatáu diffodd tân a chael mynediad at unrhyw gerbydau sydd heb eu llosgi a’u symud i atal y tân rhag lledu. 

Bydd y rheolau hyn yn cyfyngu unrhyw res i ddyfnder o ddau gerbyd.

Os ydych chi’n storio cerbydau un ar ben y llall, neu ar raciau, dylech chi gyfyngu hyn i uchder o dri cherbyd fel y gall y pentwr aros yn sefydlog yn ystod tân.

Silindrau mewn cerbydau ar ddiwedd eu hoes

Fel rhan o’ch proses ddadlygru, rhaid i chi sicrhau bod unrhyw danciau LPG o fewn cerbydau wedi’u symud yn ddiogel.

Dysgwch fwy am gael gwared ar danciau LPG ar GOV.UK.

Ewch i ganllawiau ar gyfer safleoedd gwastraff ar gerbydau ar ddiwedd eu hoes.

Ewch i gael cyngor technegol i gyfleusterau trin awdurdodedig ar ddadlygru cerbydau ar ddiwedd eu hoes.

Os yw eich deunydd gwastraff yn cynnwys llygryddion organig parhaus

Gall llygryddion organig parhaus (POPs) gael effeithiau sylweddol ar iechyd pobl a’r amgylchedd. Maent yn ddarostyngedig i Reoliadau Llygryddion Organig Parhaus 2019, sy’n nodi’r driniaeth briodol ar gyfer eu hadfer a’u gwaredu. Dylech wahanu gwastraff llygryddion organig parhaus oddi wrth wastraff arall a’i storio ar wahân.

Rydych chi’n gyfrifol am wybod o dan eich dyletswydd gofal a yw eich deunydd gwastraff yn cynnwys llygryddion organig parhaus.

Os oes tân, rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Tân ac Achub bod gwastraff llygryddion organig parhaus ar y safle. Gall unrhyw weddillion o dân sy’n cynnwys gwastraff llygryddion organig parhaus gynnwys llygryddion organig parhaus ac felly bydd angen eu gwahanu a’u trin gan ddilyn y rheoliadau. Gallai hyn gynnwys dŵr diffodd tân.

Cynhyrchu compost

Ar gyfer gweithgareddau compostio, nid yw’r meintiau pentwr mwyaf yn berthnasol pan gaiff y gwastraff ei reoli a’i fonitro’n weithredol yn ystod y broses gompostio. Rhaid i wastraff sy’n cael ei storio cyn ac ar ôl compostio gweithredol ddilyn y meintiau pentyrrau mwyaf.

8. Canfod tân

Dylech sicrhau bod gennych weithdrefnau digonol ar waith i ganfod tân yn gynnar, ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, fel y gallwch leihau ei effaith. Dylech geisio cyngor cymwys ar y posibilrwydd o osod system canfod tân.

Dylai eich system ganfod fod yn gymesur â natur a graddfa’r gweithgareddau rheoli gwastraff rydych chi’n eu cynnal a’r risgiau cysylltiedig.

Gall systemau awtomataidd priodol gynnwys y canlynol:

  • synwyryddion mwg a gwres, gan gynnwys chwiliedyddion tymheredd
  • teledu cylch cyfyng â systemau canfod fflam gweledol
  • systemau canfod gwreichion, is-goch ac uwchfioled

Rhaid i’r gwaith dylunio, gosod a chynnal a chadw fod yn rhan o gynllun ardystio trydydd parti priodol ag achrediad Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS).

Mae gan lawer o yswirwyr ofynion penodol ar gyfer systemau larwm tân, canfod tân a llethu/diffodd tân. Os na fyddwch yn bodloni’r manylebau a’r gofynion hyn, efallai y bydd eich yswiriant yn annilys.

Siaradwch â’ch cwmni yswiriant i gytuno ar ffordd ymlaen a sefydlu cymeradwyaethau ar gyfer unrhyw osodiadau.​

9. Llethu tân

Os ydych chi’n storio gwastraff mewn adeilad, dylech chi geisio cyngor cymwys ar y posibilrwydd o osod system llethu tân. Dylai’r system hon fod yn gymesur â natur a graddfa’r gweithgareddau rheoli gwastraff rydych chi’n eu cynnal a’r risgiau cysylltiedig. Ystyriwch y gwahanol weithgareddau a gynhelir o fewn yr adeilad ac a allai gwahanol systemau fod yn briodol mewn gwahanol ardaloedd, neu ger cyfarpar penodol fel beltiau cludo a rhwygwyr.

Rhaid cadw deunyddiau o leiaf dri metr islaw lefel y chwistrellwyr neu’r ysgeintellau.

Wrth benderfynu pa fath o system i’w gosod, mae angen i chi ystyried y canlynol:

  • efallai na fydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn gallu mynd i mewn i’r adeilad yn ystod tân
  • efallai na fydd system llethu tân yn diffodd tân, er y gall atal tân rhag lledu ac yna caniatáu i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ymladd y tân yn effeithiol
  • rhaid i’r cyflenwad dŵr i system dân fod yn ddibynadwy ac yn ddigonol bob amser

Gall systemau llethu tân priodol gynnwys y canlynol:

  • chwistrellwyr
  • system ddylifo agor â llaw
  • systemau dylifo / chwistrellu dŵr
  • troli ewyn symudol
  • monitorau/canonau/llenni dŵr

Dylech sicrhau bod y gwaith dylunio, gosod a chynnal a chadw yn rhan o gynllun ardystio trydydd parti priodol ag achrediad Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS).

Mae gan lawer o yswirwyr ofynion penodol ar gyfer systemau larwm tân, canfod tân a llethu/diffodd tân. Os na fyddwch yn bodloni’r manylebau a gofynion hyn, efallai y bydd eich yswiriant yn annilys.

Gall rheoliadau cynllunio ac adeiladu fod yn berthnasol hefyd, yn dibynnu ar faint eich adeilad.

10. Strategaeth diffodd tân

Mae’n bwysig eich bod yn dylunio cynllun eich safle i ganiatáu ar gyfer diffodd tân gweithredol. Mae diffodd tân gweithredol yn golygu bod yr adnoddau ar gael ar y safle bob amser i ddiffodd tân. Bydd hyn yn helpu i ganiatáu diffodd tân o fewn yr amser byrraf posibl.

Nid yw diffodd tân gweithredol yn golygu bod yn rhaid i chi na’ch staff ymladd y tân. Ni ddylai neb roi ei hun mewn perygl drwy geisio diffodd tân.

Mae’r adnoddau sydd eu hangen yn cynnwys fel a ganlyn:

  • unrhyw beiriannau symudol trwm sydd gennych ar gael y gellir eu defnyddio i symud gwastraff o amgylch y safle – er enghraifft, llwythwyr, peiriannau tyrchu neu drinwyr deunyddiau. Rhaid i’r peiriannau fod yn addas ar gyfer y dasg trwy fod â chabiau cwbl gaeedig, a systemau hydrolig wedi’u diogelu rhag tân a gwres. Ystyriwch unrhyw risg ychwanegol os yw’r peiriannau’n cynnwys batri Li-ion.
  • defnyddio cludwyr dŵr cludadwy / bowserau
  • staff sydd wedi’u hyfforddi’n ddigonol ar gael
  • cyflenwad dŵr sydd ar gael
  • cyllid ar gael ar gyfer adnoddau ychwanegol os oes angen

Gellir defnyddio amrywiaeth o dechnegau diffodd tân gyda’i gilydd neu ar wahân i ddiffodd tân. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • rhoi dŵr i oeri deunydd heb ei losgi a pheryglon eraill
  • gwahanu deunydd heb ei losgi o’r tân gan ddefnyddio peiriannau trwm priodol
  • gwahanu deunydd sy’n llosgi oddi wrth y tân i’w ddiffodd gyda phibellau neu mewn pyllau neu danciau dŵr

Gall technegau diffodd tân hefyd gynnwys mygu’r tân gan ddefnyddio pridd, tywod, brics wedi’u malu a/neu raean, neu ganiatáu llosgi dan reolaeth. Dim ond os oes gennych ganiatâd gennym ni i wneud hynny y gallwch wneud hyn, a’ch bod yn cael gwared ar ddeunydd halogedig cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny.

Gall staff ar y safle ddefnyddio’r holl dechnegau hyn os ydynt wedi’u hyfforddi’n addas ac yn cael eu goruchwylio bob amser gan y Gwasanaeth Tân ac Achub. Fodd bynnag, rhaid i ddiogelu iechyd a diogelwch pobl ar y safle fod yn flaenoriaeth i chi.

I benderfynu pa un o’r opsiynau hyn, neu gyfuniadau o opsiynau, sy’n briodol, dylech ystyried y canlynol:

  • graddfa a natur y peryglon amgylcheddol, a’r gweithgareddau sy’n digwydd ar y safle
  • y risgiau a berir i bobl, yr amgylchedd ac eiddo
  • y math o ddeunyddiau rydych chi’n eu storio ar y safle, ar ba ffurf rydych chi’n eu storio, a’r amser sydd ei angen i ddiffodd tân sy’n ymwneud â nhw
  • y cyfleusterau cyfyngu dŵr tân sydd ar gael
  • topograffeg leol, amodau tywydd a senarios tân y gellid eu disgwyl yn rhesymol ar y safle

Camau i’w cymryd os bydd tân yn digwydd

Cynhwyswch gamau i’w cymryd os bydd tân yn digwydd fel a ganlyn:

  • lleihau faint o ddŵr tân sy’n rhedeg i ffwrdd – defnyddiwch systemau chwistrellu a niwl yn hytrach na jetiau
  • ailgylchu dŵr tân os nad yw’n beryglus ac os yw’n bosibl ei ailddefnyddio
  • rhoi dŵr i oeri deunydd heb ei losgi a pheryglon eraill, gan gymryd gofal i atal y dŵr hwn rhag achosi neu ychwanegu at lygredd dŵr a/neu gynyddu llygredd aer
  • gwahanu deunydd heb ei losgi o’r tân gan ddefnyddio peiriannau trwm addas
  • gwahanu deunydd sy’n llosgi oddi wrth y tân i’w ddiffodd gyda phibellau neu mewn pyllau neu danciau dŵr (bydd hyn yn lleihau faint o ddŵr tân a gynhyrchir)
  • defnyddio pridd, tywod, brics wedi’u malu a/neu raean (os yw mwg yn bygwth cymunedau lleol) i helpu i lethu’r tân, er dim ond pan fydd yr holl bethau canlynol yn berthnasol y gallwch wneud hyn:
    • bod y perygl i ddŵr daear yn isel
    • ei fod wedi’i gytuno fel rhan o strategaeth diffodd tân gan y Gwasanaeth Tân ac Achub a’i fod wedi’i gefnogi gan Cyfoeth Naturiol Cymru
    • caiff deunydd halogedig ei symud a’i waredu’n gyfreithlon cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny

11. Cyflenwadau dŵr

Rhaid i chi gael digon o gyflenwadau dŵr ar gael i’ch safle i gynnal gweithgareddau diffodd tân am o leiaf tair awr ac i reoli digwyddiad yn y senario waethaf posibl – er enghraifft, os yw’ch pentwr mwyaf ar dân.

I gyfrifo’r swm lleiaf o ddŵr sydd ei angen, defnyddiwch faint eich pentwr mwyaf mewn metrau ciwbig, wedi’i luosi â 1,200 litr. Rhaid i chi ddangos eich cyfrifiad ar gyfer y cyflenwad dŵr sydd ei angen a chadarnhau ffynhonnell y dŵr yn eich cynllun.

Yn dibynnu ar eich safle, gallai hyn fod yn ddŵr mewn tanciau storio neu lagwnau ar y safle, mynediad at hydrantau, neu gyflenwad dŵr o’r prif gyflenwad.

Ar safleoedd mwy, ac yn enwedig ar safleoedd lle mae ailbrosesu neu gynhyrchu pŵer yn digwydd, dylech ystyried darparu system hydrant tân breifat gyda’r cyflenwad dŵr angenrheidiol.

Gellir ystyried cyflenwadau dŵr amgen fel lagŵn ar y safle i ategu cyflenwad dŵr o danciau neu ddŵr o’r prif gyflenwad. Mae angen gallu cael mynediad at y cyflenwadau amgen hyn yn brydlon. Siaradwch â’r Gwasanaeth Tân ac Achub ynghylch a fyddai angen unrhyw gyfarpar ychwanegol, a pha mor hir y gallai ei gymryd i’w ddefnyddio, cyn gwneud unrhyw geisiadau am drwydded. Byddai defnyddio afonydd cyfagos yn amodol ar gytundeb rhyngom ni a’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Mae angen i gyflenwadau dŵr amgen fod yn ddibynadwy hefyd. Ystyriwch a ellir eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Gall dibynnu ar lagŵn sydd ond yn hanner llawn neu’n wag am ran o’r flwyddyn arwain at broblemau prinder dŵr. Mewn rhai achosion prin, gellir defnyddio ffynhonnau, ond rhaid i’w cynhwysydd a’u nodweddion ail-lenwi fod yn ddigonol.

Efallai y byddwch chi’n gallu lleihau faint o ddŵr sydd ei angen os oes gennych chi system sy’n caniatáu i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ailgylchredeg y dŵr maen nhw’n ei ddefnyddio (dŵr tân). Efallai y bydd angen i chi hidlo’r dŵr hwn a bydd angen addaswyr addas ar y Gwasanaeth Tân ac Achub hefyd i gysylltu â’ch system. Yn dibynnu ar y math neu fathau o wastraff rydych chi’n eu storio, efallai na fydd hi bob amser yn briodol nac yn ddiogel ailgylchredeg y dŵr.

Hydrantau

Gall y cyflenwad dŵr i hydrantau amrywio oherwydd yr amser o’r dydd a gofynion eraill arnynt. Mae hydrantau hefyd yn amrywio o ran maint a faint o ddŵr y gallant ei ddarparu. Rhaid i chi gadarnhau bod unrhyw hydrant yn hygyrch ac yn addas i’w ddefnyddio mewn argyfwng. Darparwch gadarnhad ysgrifenedig bod hyn wedi’i wirio gyda’ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol cyn gwneud cais am eich trwydded.

Dylai hydrantau tân:

  • gydymffurfio â Safon Brydeinig 750 neu gyfwerth
  • bod o fewn 100 metr i fynedfa’r safle

Ar safleoedd mwy, ac yn enwedig ar safleoedd lle mae ailbrosesu neu gynhyrchu pŵer yn digwydd, dylech ystyried darparu system hydrant tân breifat gyda’r cyflenwad dŵr angenrheidiol. Rhaid gwasanaethu a chynnal a chadw hydrantau preifat yn rheolaidd.

Tanciau dŵr

Ystyriwch faint y tanc y gall eich safle ei gynnwys cyn ei osod.

Rhaid i danciau fod yn hygyrch bob amser a rhaid iddynt gynnwys digon o ddŵr glân, heb ei halogi. Rhaid i chi sicrhau bod gennych y cysylltiad cywir i weithio gyda chyfarpar y Gwasanaeth Tân ac Achub. Dylid hyfforddi staff ar sut i gael mynediad at danc mewn argyfwng. Rhaid cynnal a chadw tanciau yn unol â chynllun cynnal a chadw.

Rhaid i chi gael gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod y dŵr yn ddiogel i’w ddefnyddio gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ac nad yw’n mynd yn llonydd ac o bosibl yn halogedig.

Mae manyleb Safonau Prydeinig BS 336:2010 ar gyfer cysylltiadau pibell dân a chyfarpar ategol a BS 8580:2019 ar gyfer asesiadau risg legionella yn berthnasol i ddefnyddio tanciau storio a rhaid i chi ddangos y gallwch fodloni’r gofynion.

Cyfrwng gwlychu neu ewyn

Gall y Gwasanaeth Tân ac Achub ddefnyddio ychwanegyn dŵr ar gyfer diffodd tân. Rhaid i chi siarad â’ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol os ydych chi am ddarparu meintiau ychwanegol i’w defnyddio ganddynt. Nid yw’n briodol i’w defnyddio ar bob math a ffurf o wastraff. Bydd dal disgwyl i chi gael cyflenwad digonol o ddŵr ar y safle i allu cymysgu’r ychwanegyn yn unol â manyleb y gwneuthurwr. Cynhwyswch fanylion am sut y byddwch yn storio a defnyddio’r ychwanegyn yn eich cynllun. Darparwch gofnod o unrhyw drafodaethau a gynhaliwyd.

Rhaid i unrhyw ewyn a ddefnyddir beidio â chynnwys asid perfflworooctanoig (PFOA) a chydymffurfio â’r Safonau Prydeinig perthnasol.

12. Rheoli dŵr ffo wrth ddiffodd tân

Rhaid i chi allu cyfyngu’r dŵr ffo o ddŵr tân er mwyn atal llygredd i’r amgylchedd. Rhaid i chi allu gweithredu mesurau arfaethedig o fewn amserlen realistig heb rwystro ymdrechion y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Bydd y cyfleusterau cyfyngu a’r cyfarpar llygredd sydd eu hangen arnoch yn dibynnu ar y canlynol:

  • maint eich safle
  • faint o wastraff rydych chi’n ei storio
  • eich strategaeth diffodd tân

Gall dogfen CIRIA Systemau cyfyngu ar gyfer atal llygredd (C736) eich helpu i nodi pa gyfleusterau a chyfarpar y gallai fod eu hangen ar gyfer eich safle.

Rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol ymarferol i leihau llygredd o ddŵr tân, gan gynnwys atal dŵr tân rhag mynd i mewn i’r canlynol:

  • dyfroedd wyneb – er enghraifft, afonydd, nentydd, aberoedd, llynnoedd, camlesi neu ddyfroedd arfordirol
  • y ddaear

Efallai y byddwch yn cyflawni trosedd os ydych yn caniatáu unrhyw ollyngiadau heb ganiatâd i ddŵr wyneb neu ddŵr daear, ac efallai y byddwn yn cymryd camau gorfodi.

Mae cyfleusterau cyfyngu eilaidd a thrydyddol ar gyfer dŵr tân yn cynnwys fel a ganlyn:

  • byndiau anhydraidd
  • lagwnau storio a chyfarpar cysylltiedig
  • falfiau cau
  • tanciau ynysu
  • ardaloedd wedi’u haddasu o’ch safle, megis maes parcio
  • cyfarpar rheoli llygredd, fel bwmau dŵr tân, a matiau draenio i rwystro draeniau neu ddargyfeirio dŵr tân

Rhaid i chi allu rhoi’r mesurau hyn ar waith ar unrhyw adeg.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu dargyfeirio dŵr tân i’ch carthffosydd lleol. Bydd angen cytundeb mewn egwyddor arnoch gan y cwmni carthffosiaeth cyn cynnwys y mesur hwn yn eich cynllun. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o gymeradwyaeth yn eich cynllun.

Efallai y bydd eich trwydded amgylcheddol yn caniatáu ichi storio gwastraff llosgadwy ar lawr caled yn hytrach nag arwyneb anhydraidd gyda draeniau wedi’u selio. Os felly, yn unol â Chanllawiau llorweddol H1: Asesu risg, rhaid i chi asesu effaith bosibl dŵr tân ar y canlynol:

  • y cyrff dŵr daear a dŵr wyneb lleol
  • unrhyw ffynnon, tarddell neu dwll turio o fewn 50 metr a ddefnyddir i gyflenwi dŵr i’w yfed gan bobl, gan gynnwys cyflenwadau dŵr preifat

13. Ardal dan gwarantin

Rhaid i chi nodi sut y byddwch chi’n defnyddio’ch ardal dan gwarantin os bydd tân. Rhaid i chi allu symud gwastraff iddi cyn gynted â phosibl. Gellir defnyddio ardal dan gwarantin fel ardal ddynodedig i osod gwastraff yr effeithiwyd arno gan dân er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddiffodd yn llwyr. Fel arall, gellir symud gwastraff heb ei losgi i’r ardal dan gwarantin i’w ynysu ac i’w atal rhag mynd ar dân. Yn y pen draw, y Gwasanaeth Tân ac Achub fydd yn penderfynu ar y defnydd gorau o’r ardal hon yn ystod digwyddiad a dylai’r ardal dan gwarantin allu bodloni’r ddau ofyniad.

Rhaid i chi nodi yn eich cynllun leoliad yr ardal dan gwarantin a chyfaint y gwastraff y gall ei ddal. Dylai’r ardal dan gwarantin fod o fewn yr ardal ffin a ganiateir ar gyfer y safle ac, yn ystod digwyddiad, dylai fod yn ddigon mawr i wneud y canlynol:

  • dal o leiaf 50% o gyfaint y pentwr mwyaf
  • cael pellter gwahanu o o leiaf chwe metr o amgylch y gwastraff dan gwarantin (gellir lleihau hyn os bydd bynceri/waliau concrit yn cael eu defnyddio)

Am resymau gweithredol, efallai yr hoffech gadw lleoliad yr ardal dan gwarantin yn hyblyg. Os felly, dylech nodi ar gynllun eich safle yr holl ardaloedd y gallech eu defnyddio.

Dylech chi bob amser gadw o leiaf un ardal dan gwarantin ddynodedig yn glir, oni bai ei bod yn cael ei defnyddio mewn achos o dân.

Os ydych chi’n defnyddio’ch ardal dan gwarantin i storio deunydd dros dro (er enghraifft, gwastraff nad yw dan drwydded), dylech chi sicrhau y gallwch chi gael gwared ar y gwastraff hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Os bydd tân, rhaid i chi gael gwared ar y gwastraff hwnnw ar unwaith. Dylai eich cynllun gynnwys manylion y weithdrefn y byddwch yn ei defnyddio i wneud hyn

14. Yn ystod digwyddiad

Os bydd digwyddiad ar y safle, rhaid i’r unigolyn cyfrifol neu aelod o staff allu mynychu i gynorthwyo’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Rhaid i’ch cynllun gynnwys mesurau wrth gefn sydd ar waith i ddelio â phroblemau yn ystod ac ar ôl tân. Er enghraifft:

  • dargyfeirio gwastraff sy’n dod mewn i safleoedd eraill yn ystod tân
  • cael cynllun ar gyfer sut y byddwch yn hysbysu’r rhai a allai gael eu heffeithio gan dân, fel trigolion a busnesau cyfagos
  • contractwyr y gellid eu defnyddio i gynorthwyo gyda pheiriannau ychwanegol ar gyfer technegau diffodd tân, cael gwared ar ddeunydd gwastraff, cyfyngu, a chael gwared ar ddŵr ffo dros dro
  • rhaid i unrhyw beiriannau neu gyfarpar a ddefnyddir yn ystod digwyddiad fod yn addas at y diben a chael eu gweithredu gan unigolyn cymwys addas

15. Ar ôl digwyddiad

Rhaid i chi nodi’r canlynol:

  • sut y byddwch chi’n clirio ac yn dihalogi’r safle
  • y camau y mae’n rhaid i chi eu cymryd cyn y gall y safle ddod yn weithredol eto

Ystyriwch unrhyw oblygiadau hirdymor posibl o ddigwyddiad a’r effaith y gallai ei chael os ydych chi am ildio’ch trwydded yn y dyfodol. Efallai y bydd angen i chi gyflwyno adroddiad cyflwr safle i ddangos sut mae’r safle wedi’i ddychwelyd i gyflwr boddhaol.

16. Adolygu a monitro eich cynllun

Mae’n hanfodol bod eich cynllun yn cael ei gadw’n gyfredol er mwyn sicrhau eich bod yn cynnal cydymffurfedd. Dylid ei drin fel dogfen waith fyw a’i hadolygu’n rheolaidd i adlewyrchu unrhyw newidiadau i’ch busnes.

Dylech sicrhau eich bod yn cael ymarfer yn rheolaidd i brofi pa mor dda y mae eich cynllun yn gweithio a gwneud yn siŵr bod staff yn deall eu cyfrifoldebau a pha gamau mae angen eu cymryd.

Rhaid i chi adolygu eich cynllun os ydych chi:

  • yn cael digwyddiad tân – yn dilyn unrhyw dân, mae’n hanfodol bod eich cynllun (a’ch mesurau rheoli tân cyffredinol) yn cael ei adolygu a’i wella yn ôl yr angen i fynd i’r afael ag unrhyw faterion neu bryderon
  • yn derbyn ffrydiau gwastraff llosgadwy ychwanegol ar y safle
  • yn derbyn cynnydd mewn cyfeintiau gwastraff
  • yn datblygu seilwaith y safle – er enghraifft, adeiladau newydd
  • yn gosod cyfarpar neu beiriannau newydd – er enghraifft, byrnwr, rhaw llwytho, llinell ddidoli neu ogr tro

Noder y gallai’r newidiadau hyn hefyd olygu bod angen i chi amrywio’ch trwydded, a rhaid gwneud hynny cyn newid y gweithrediadau hyn.

Mae meysydd y gallai fod angen eu diweddaru yn cynnwys:

  • hyfforddiant staff
  • monitro’r safle

Hyfforddiant staff

  • Hyfforddiant sefydlu i ddechreuwyr newydd
  • Ar adegau rheolaidd – cyrsiau gloywi, cyflwyniadau diogelwch, ymarferion a driliau ar y safle
  • Sicrhau bod yr angen am hyfforddiant yn cael ei fonitro a bod cofnodion hyfforddi yn cael eu cadw

Gwnewch yn siŵr bod eich cynllun ar gael a bod yr holl staff yn gwybod ble mae wedi’i gadw. Rhaid i staff gael hyfforddiant i’w galluogi i gyflawni’r gweithdrefnau a’r mesurau sydd wedi’u cynnwys yn eich cynllun yn gymwys.

Monitro’r safle

  • Fel rhan o weithrediadau eich safle, cynhaliwch archwiliadau safle cyn, yn ystod ac ar ôl shifftiau i sicrhau’r canlynol:
    • Nid oes unrhyw ffynonellau tanio hysbys
    • Mae’r holl cyfarpar yn gweithredu / wedi’i ddiffodd yn gywir
  • Sicrhewch fod pentyrrau gwastraff a phellteroedd gwahanu yn unol â’ch cynllun
  • Dylid monitro, rheoli a chofnodi tymheredd pentyrrau gwastraff
  • Dylid monitro a chofnodi pa mor hir mae gwastraff yn aros ar y safle
  • Sicrhewch fod peiriannau a chyfarpar yn cael eu gwasanaethu a’u cynnal a’u cadw’n ddigonol gan bersonél cymwys. Gwnewch yn siŵr bod gwiriadau dyddiol, wythnosol a misol yn cael eu cynnal a bod cofnodion yn cael eu cadw
  • Sicrhewch fod profion cyfnodol ar gyfarpar atal a lliniaru tân yn cael eu cynnal

 

17. Manylion cyswllt y Gwasanaeth Tân ac Achub

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Forest View
Llantrisant
CF72 8LX

Ffôn: 01443 232000
E-bost: firesafety@southwales-fire.gov.uk
https://www.decymru-tan.gov.uk/

 

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys y Gwasanaeth Tân, Lôn Pisgwydd
Caerfyrddin
SA31 1SP

Ffôn: 0370 6060699
E-bost: fpmp@mawwfire.gov.uk
https://www.mawwfire.gov.uk/cym/

 

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Ffordd Salesbury
Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JJ

Ffôn: 01745 535250
E-bost: Ardal y Gorllewin – Gwynedd.Mon@northwalesfire.gov.wales
Ardal y Dwyrain – Flintshire.Wrexham@northwalesfire.gov.wales
Ardal Ganolog – conwy.denbighshire@northwalesfire.gov.wales
https://www.tangogleddcymru.llyw.cymru/

Diweddarwyd ddiwethaf