Penderfyniad Rheoleiddiol 114: gofynion data cynhyrchwyr â chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am ddeunydd pecynnu

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2026, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl, neu ei ddiwygio, cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol

Ni fydd CNC yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn os na fyddwch yn casglu ac yn adrodd ar ddata sy’n ymwneud â’r wlad gwerthu a gwastraff sefydliadol hunan-reoledig ar gyfer y cyfnodau penodol a nodir isod.

1. Cenedl gwerthu a data gwastraff sefydliadau hunan-reoledig 2024

Data a gasglwyd gan gynhyrchwyr o dan Reoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023, am y cyfnod 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2024.

I’w adrodd o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 erbyn 1 Ebrill 2025.

2. Cenedl gwerthu a data gwastraff sefydliadau hunan-reoledig 2025

Data a gasglwyd gan gynhyrchwyr o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 am y cyfnod 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2025.

I’w adrodd ar 1 Hydref 2025 a 1 Ebrill 2026, neu cyn y dyddiadau hynny.

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid nac yn dileu unrhyw un o'ch rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol penodol a nodir yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo wneud y canlynol:

  • peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y penderfyniad rheoleiddiol hwn, cysylltwch â ni.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf