Cofnodwch y gwastraff rydych chi'n ei dderbyn gan ddefnyddio’r gwasanaeth olrhain gwastraff digidol

Gallwch chi ddefnyddio gwasanaeth digidol GOV.UK i gofnodi'r gwastraff rydych chi'n ei dderbyn:

  • os oes gennych chi drwydded gennym ni i dderbyn gwastraff
  • os ydych chi’n ymgynghorydd neu'n asiant i sefydliad sydd â thrwydded gennym ni i dderbyn gwastraff

Pwy na all ddefnyddio'r gwasanaeth digidol

Ni chewch chi ddefnyddio gwasanaeth digidol GOV.UK: 

  • os dim ond eithriad gwastraff sydd gennych chi i dderbyn gwastraff
  • os ydych chi’n ganolfan ailgylchu gwastraff cartref

Rhaid i chi barhau i gofnodi’r gwastraff sy’n dod i law yn y ffordd arferol.

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf